Stori newyddion

Llywodraeth y DU yn dangos ei chefnogaeth i ddiwydiannau hanfodol De Cymru

Ysgrifennydd Cymru a'r Gweinidog Busnes yn gweld sut mae buddsoddiad sylweddol yn y sector amddiffyn yn cefnogi diwydiant gweithgynhyrchu Cymru ac yn helpu i greu swyddi.

Scout

Bu Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb a’r Gweinidog Busnes Anna Soubry yn ymweld â General Dynamics yn Ne Cymru heddiw (2 Medi) i weld sut mae arloesedd yn denu buddsoddiad i’r rhanbarth. Buont hefyd yn ymweld â’r cwmnïau dur Tata a Celsa i drafod yr heriau mae’r diwydiant yn eu hwynebu a sut y gall Llywodraeth y DU ei gefnogi.

Yn General Dynamics ym Merthyr, gwelsant sut mae’r cerbydau ymladd arfog arloesol, y Scout, yn cael eu rhoi at ei gilydd. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog fod General Dynamics wedi ennill contract cefnogaeth ar gyfer Cerbydau Arbenigol Scout. Ynghyd â chontract £3.5 biliwn y llynedd i gynhyrchu 589 o gerbydau arfog, mae’r cwmni’n creu 250 o swyddi yn y cyfleuster newydd ym Merthyr Tudful.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol, Stephen Crabb:

Mae’r buddsoddiad sylweddol a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog yn gynharach eleni yn enghraifft glir o benderfyniad y Llywodraeth hon i ail-gydbwyso’r economi a chryfhau pob rhan o’r DU. “Diolch i gwmnïau fel General Dynamics sy’n cynhyrchu offer cyfathrebu diogel blaengar a cherbydau arfog o’r radd flaenaf, bydd Cymru yn parhau i gymryd rhan hollbwysig yn y gwaith o gadw milwyr Prydain yn ddiogel.

Mae enw da cynyddol Cymru yn harneisio arloesedd a chynhyrchu cynnyrch o’r radd flaenaf hefyd yn dangos pam mae ein gwlad yn lle mor wych i gyflawni busnes.

Meddai’r Gweinidog Busnes, Anna Soubry:

Mae General Dynamics UK yn un o lwyddiannau mawr de Cymru. Mae’r cwmni wedi bod yn llwyddiannus gyda’r Cerbyd Arbenigol Scout ac mae’n buddsoddi’n barhaus mewn arloesedd, ymchwil a syniadau newydd fel eu bod yn gallu datblygu cynnyrch y dyfodol – cynnyrch a allai esgor ar gyfleoedd twf newydd a swyddi i Gymru.

Mae Cymru yn ganolbwynt pwysig o ran gweithgynhyrchu medrus a byddwn yn parhau i’w chefnogi fel rhan o’n hymdrech i ddod â chydbwysedd i’r economi.

Ymwelodd Stephen Crabb ac Anna Soubry hefyd â chyfleuster EDGE y cwmni lle maent yn gweithio’n agos gyda busnesau bach a’r byd academaidd, gan ddarparu arbenigedd ac offer i helpu i ddatblygu cynnyrch arloesol ar gyfer prosiectau amddiffyn.

Mewn cyfarfodydd preifat gyda Tata Steel a Celsa Steel, buont yn trafod yr amodau yn y farchnad ar hyn o bryd a’r heriau sy’n wynebu’r sector.

Dywedodd Stephen Crabb:

Mae’r diwydiant dur yn rhan hanfodol o’r sector gweithgynhyrchu yn Ne Cymru ac mae’n bwysig iawn i lawer o gymunedau lleol. Ond, rydym yn ymwybodol iawn o’r heriau sylweddol sy’n wynebu’r diwydiant.

Rydym yn gwneud popeth posib i gefnogi pob rhan o’r diwydiant gweithgynhyrchu, gan gynnwys y diwydiant dur. Drwy gefnogi diwydiannau ynni-ddwys a hyrwyddo’r DU fel partner gwych ar gyfer masnach a buddsoddiad, gallwn sicrhau y bydd ein cynllun hirdymor yn parhau i gryfhau’r economi ddeinamig yn Ne Cymru.

Meddai’r Gweinidog Busnes, Anna Soubry:

Roedd yn bwysig iawn i fi ddod yma heddiw i siarad yn uniongyrchol â’r gweithwyr dur yng Nghymru er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r heriau a wynebant a’u cynlluniau i’r dyfodol.

Mae’r diwydiant dur yn wynebu amodau economaidd byd eang anodd iawn, ond mae fy adran yn darparu pob cymorth posib a byddwn yn parhau i weithio’n agos â’r sector.

Cyhoeddwyd ar 2 September 2015