Datganiad i'r wasg

Stephen Crabb: “Cymru yn parhau i elwa o'r adferiad economaidd”

Mae ffigurau swyddogol a gyhoeddwyd heddiw yn dangos fod cyfanswm nifer y bobl ddi-waith yng Nghymru wedi gostwng o 3,000 yn y chwarter diwethaf.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Picture of people walking

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae cyfanswm nifer y bobl ddi-waith yng Nghymru wedi gostwng o 27,000 – rhagor o dystiolaeth fod diweithdra’n parhau ar duedd tuag at i lawr yng Nghymru.

Mae diweithdra ymysg pobl ifanc yn dilyn y duedd hon, ac wedi gostwng o 300 ym mis Medi, a bron i draean dros y flwyddyn ddiwethaf. Hefyd, mae’r nifer o bobl sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yng Nghymru wedi gostwng o 1,100 – gostyngiad am y 19eg mis yn olynol yng Nghymru. Yn gyffredinol, mae cyflogaeth i lawr 12,000 yn y chwarter diwethaf.

Meddai Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r ffigurau hyn yn dystiolaeth bellach fod Cymru’n parhau i elwa o’r adferiad economaidd. Mae’n dangos bod ein hymrwymiad i greu rhagor o swyddi a pholisïau i geisio cael pobl i mewn i waith yn helpu pobl sy’n ceisio am waith yng Nghymru - ond mae’r amrywiad yn y raddfa cyflogaeth yn dangos pam fod rhaid i ni symud ymlaen gyda diwygio lles.

Bydd yr Uwchgynhadledd Buddsoddi a gynhelir fis nesaf yn arddangos Cymru fel lle delfrydol ar gyfer masnachu a buddsoddi, sy’n cefnogi ein cynllun economaidd hir dymor drwy helpu rhoi hwb i greu swyddi a thwf yng Nghymru.

Gweler yr ystadegau diweddaraf yma.

Cyhoeddwyd ar 15 October 2014