Datganiad i'r wasg

Wythnos ar ôl i drethdalwyr Hunanasesiad gyflwyno’u Ffurflenni Treth

Mae’n rhaid i fwy na 3.5 miliwn o gwsmeriaid gyflwyno’u Ffurflenni Treth a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus ar gyfer blwyddyn dreth 2017 i 2018 erbyn y dyddiad cau, sef 31 Ionawr 2019.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
Image of ducks with caption 'Do it by 31 Jan'.

Don't let your tax return peck away at you - do it by 31 January/Peidiwch â gadael i’ch Ffurflen Dreth eich pigo – cyflwynwch hi erbyn 31 Ionawr.

Mae gan fwy na 3.5 miliwn o gwsmeriaid wythnos ar ôl i gyflwyno’u Ffurflenni Treth Hunanasesiad a thalu unrhyw dreth sydd arnynt, yn ôl cyngor Cyllid a Thollau EM (CThEM).

Y dyddiad cau i gyflwyno Ffurflen Dreth ar-lein ar gyfer 2017/18 yw 11.59pm ar 31 Ionawr, a’r llynedd gwnaeth dros 93% o gwsmeriaid gyflwyno eu Ffurflenni Treth erbyn y dyddiad hwnnw.

Mae 25,000 yn fwy o gwsmeriaid eisoes wedi cyflwyno’u Hunanasesiad o’i chymharu â’r adeg hon y llynedd. Mae CThEM yn atgoffa cwsmeriaid y byddant yn cael dirwy o £100 os caiff eu Ffurflenni Treth eu cyflwyno’n hwyr - hyd yn oed os nad oes arnyn nhw unrhyw dreth. Po fwyaf yr oedi po fwyaf y bydd gennych i’w dalu.

Meddai’r Ysgrifennydd Ariannol i’r Trysorlys, Mel Stride:

Bydd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad yma cyn pen dim. Er hynny, mae dal i fod amser i’r 3.5 miliwn o gwsmeriaid sydd heb gyflwyno’u Ffurflenni Treth wneud hynny erbyn 31 Ionawr. Gyda dim ond saith diwrnod i fynd tan y dyddiad cau, mae’n bwysig bod cwsmeriaid yn cael eu hatgoffa o’r dyddiad cau er mwyn osgoi talu cosbau.

Dywedodd Angela MacDonald, Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid CThEM:

Rydym yn annog pawb sy’n cyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad i’w cyflwyno erbyn 31 Ionawr, ac mae cymorth ar gael bob cam o’r ffordd. Gall trethdalwyr ddefnyddio gwasanaethau, gweminarau a fideos CThEM, y llinell gymorth, sgwrs dros y we neu ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol. Rydym wrth law i gynnig cymorth a chyngor i’ch helpu i lenwi a chyflwyno’ch Ffurflen Dreth.

Os yw cwsmeriaid yn meddwl na fyddant yn gallu cyflwyno’r Ffurflen Dreth erbyn 31 Ionawr, cysylltwch â CThEM. Mae help ar gael ar wefan GOV.UK, gan Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM ar 0300 200 1900, neu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Rhagor o wybodaeth

Crynodeb o ffeithiau ynghylch Hunanasesiad:

  • 11,564,363 - cyfanswm y Ffurflenni Treth Hunanasesiad sydd i’w cyflwyno
  • erbyn 22 Ionawr 2019, roedd 8,063,550 o Ffurflenni Treth wedi dod i law (70%)
  • erbyn 23 Ionawr 2019, roedd 3,500,813 o Ffurflenni Treth ar ôl i’w cyflwyno (o’i chymharu â’r 3,524,798 erbyn 23 Ionawr 2018 oedd ar ôl i’w cyflwyno)
  • erbyn 22 Ionawr 2019, roedd 7,359,607 o Ffurflenni Treth wedi’u cyflwyno ar-lein (91% o’r cyfanswm sydd wedi’u cyflwyno)
  • mae 703,943 o Ffurflenni Treth wedi’u cyflwyno ar bapur (9% o’r cyfanswm sydd wedi’u cyflwyno)

Y cosbau ar gyfer Ffurflenni Treth hwyr yw:

  • cosb benodol gychwynnol o £100, sy’n gymwys hyd yn oed os nad oes treth i’w thalu, neu os yw’r dreth sy’n ddyledus yn cael ei thalu mewn pryd
  • ar ôl 3 mis, cosbau ychwanegol o £10 y dydd, hyd at uchafswm o £900
  • ar ôl 6 mis, cosb bellach o 5% o’r dreth sy’n ddyledus neu £300, p’un bynnag o’r rhain sydd fwyaf
  • ar ôl 12 mis, cosb bellach o 5% neu £300, p’un bynnag o’r rhain sydd fwyaf

Mae yna gosbau ychwanegol am dalu’n hwyr hefyd sef 5% o’r dreth sydd heb ei thalu ar ôl 30 diwrnod, 6 mis a 12 mis.

Mae treth yn cael ei didynnu’n awtomatig o gyflogau, pensiynau neu gynilion y rhan fwyaf o drethdalwyr yn y DU. Ond, mae’n rhaid i Ffurflen Dreth Hunanasesiad gael ei llenwi bob blwyddyn gan bobl neu fusnesau sydd ddim yn cael treth wedi’i didynnu’n awtomatig, neu sydd o bosibl wedi ennill incwm ychwanegol heb ei drethu.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 Ionawr 2019 show all updates
  1. Added Welsh language translation.

  2. First published.