Gwirio sut i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn 5 Hydref 2025 os oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn flaenorol ac nid ydych wedi anfon un o’r blaen.

Dechreuodd y flwyddyn dreth flaenorol ar 6 Ebrill 2024 a daeth i ben ar 5 Ebrill 2025.

Gallwch roi gwybod i CThEF drwy gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.

Os byddwch yn rhoi gwybod i CThEF ar ôl 5 Hydref 2025, gallech gael cosb.

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os ydych wedi cofrestru o’r blaen

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad  o’r blaen, ond ni wnaethoch anfon Ffurflen Dreth y llynedd, bydd yn rhaid i chi gofrestru eto er mwyn ailactifadu eich cyfrif.

Os ydych yn aros am Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb gan CThEF.

Cyn i chi ddechrau

Dylech wirio a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth cyn cofrestru.

Dechrau nawr