Stori newyddion

Darparu gwasanaeth i siaradwyr Cymraeg

Mynediad rhwydd at wasanaethau GLlTEM i siaradwyr Cymraeg

Image of Welsh flag

Mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru (ynghyd â’r Saesneg) ac mae’n cael ei gwarchod gan ddeddfwriaeth. Yn rhinwedd ein rôl yn gweinyddu’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr, mae cyfrifoldeb arnom i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Nid dim ond siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg mae hyn yn ei olygu, ond cefnogi diwylliant Cymru hefyd. Rydym yn cyflawni gwaith arloesol ar gyfer y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn y cyswllt hwn, gwaith sy’n cael ei arwain gan Uned yr Iaith Gymraeg yng Nghaernarfon.

Meddai Susan Acland-Hood, Prif Weithredwr GLlTEM:

Rydyn ni’n deall yn glir bod cyfrifoldeb arnom i ddarparu gwasanaethau Cymraeg o safon uchel a bod gan siaradwyr Cymraeg hawl i ddisgwyl y gwasanaethau hynny a chael mynediad atynt yn rhwydd. Nid yw hwn yn fater i lysoedd a thribiwnlysoedd yng Nghymru yn unig, ond i dimau ledled Cymru a Lloegr sy’n darparu gwasanaeth cenedlaethol hefyd. Rydyn ni wedi gwneud llawer o waith i gefnogi hyn ac mae llawer mwy i’w wneud. Rydw i am i siaradwyr Cymraeg fod yn hyderus yn defnyddio ein gwasanaethau ac fe hoffwn eu sicrhau, os byddant yn gwneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg, na fydd unrhyw wahaniaeth o ran ansawdd y gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu na’u profiad o gael mynediad teg a chyfartal at gyfiawnder.

Meddai Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg:

Mae gan bobl Cymru bellach hawl i ddefnyddio’u Cymraeg gyda sefydliadau cyhoeddus, ac mae’r Gwasanaeth Llysoedd yn un o’r sefydliadau hynny. O ran eu cryfderau, mae’r gwaith maent wedi ei wneud yn cynnwys y Gymraeg o’r dechrau wrth ddigideiddio gwasanaethau yn arfer dda yr ydym wedi ei rhannu gyda sefydliadau eraill. Maent hefyd wedi gwneud gwaith da yn codi ymwybyddiaeth am y Gymraeg yn fewnol a chyfrif Cymraeg Twitter bywiog, sy’n annog defnydd o’u gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg

Pum peth rydyn ni’n ei wneud i gefnogi’r iaith Gymraeg

  1. Rydym wedi adolygu ac ailgyhoeddi ein Cynllun Iaith Gymraeg dolen i’r ddogfen newydd ar ôl iddi gael ei chyhoeddi. Mae hwn yn nodi egwyddorion clir o ran trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.

  2. Mae modd cael mynediad at nifer o’n gwasanaethau ar-lein drwy gyfrwng y Gymraeg eisoes, gan gynnwys:

  3. Mae gennym ni amryw o linellau ffôn pwrpasol y gall pobl eu defnyddio i gael mynediad at gymorth ac arweiniad yn y Gymraeg. Bydd unrhyw un sy’n ffonio’r rhain yn cael siarad â rhywun Cymraeg yn syth, heb orfod siarad yn Saesneg yn gyntaf na gorfod dewis y Gymraeg fel opsiwn eilaidd. Mae’r llinell ffôn bwrpasol yma yn rhoi’r Gymraeg yn gyntaf.

  4. Gellir ddefnyddio’r Gymraeg yn y llys neu mewn gwrandawiadau yn y tribiwnlys. Os byddwch yn gofyn am gael siarad Cymraeg yn eich achos, ni fydd hyn yn gohirio’r achos nac yn cael unrhyw effaith ar yr achos na’i ganlyniad.

  5. Byddwn yn darparu ein gwasanaethau llys diwygiedig yn Gymraeg hefyd. Drwy ein rhaglen i ddiwygio’r llysoedd, rydym yn datblygu ystod ehangach o wasanaethau ar-lein. Yn 2018, fe wnaethom lansio nifer o’r rhain, gan gynnwys gwasanaethau ysgariad, profiant, a hawliadau arian sifil ar-lein. Mae gwaith ar y gweill i gyfieithu’r rhain i’r Gymraeg er mwyn galluogi pobl i ddewis cyflawni prosesau ar-lein drwy gyfrwng y Gymraeg o ddechrau’r broses.

Chwalu mythau am yr iaith Gymraeg

Meddai Hywel Hughes, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg GLlTEM:

Mae cyfiawnder, yn y pen draw, yn seiliedig ar gyfathrebu ac mae’n hanfodol bwysig bod siaradwyr Cymraeg yn gallu cael mynediad at gyfiawnder drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn cymryd ein rhwymedigaethau o dan y Cynllun Iaith Gymraeg o ddifrif, ond rydym wedi gweld bod nifer o fythau am yr iaith Gymraeg o gwmpas ac rydym yn awyddus i chwalu’r rheini.

Mae gan y Gymraeg statws gwahanol i ieithoedd (tramor) eraill

Mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru (ynghyd â’r Saesneg) ac mae’n cael ei gwarchod gan ddeddfwriaeth. Mae gan bobl Gymraeg sy’n defnyddio gwasanaethau GLlTEM hawl i ddefnyddio’r iaith Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn ei gwneud yn ofynnol bod sefydliadau’r sector gyhoeddus yn cyhoeddi Cynlluniau Iaith Gymraeg ac fe sefydlwyd rôl Comisiynydd y Gymraeg yn sgil Mesur y Gymraeg 2011. Fe wnaeth hyn gadarnhau statws y Gymraeg yng Nghymru a phennu set o safonau y mae’n rhaid eu dilyn.

Mae’r Gymraeg yn iaith fyw

O’r (oddeutu) 6,000 o ieithoedd sy’n y byd, dim ond tua 60 ohonynt (1%) sydd â dros hanner miliwn o siaradwyr. Mae’r Gymraeg yn un o’r rheini. Mae nifer y bobl sy’n deall rhywfaint o Gymraeg yn cynyddu ac erbyn 2050, mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Mae siaradwyr Cymraeg neu bobl ddwyieithog yn siarad Saesneg da

Os ydych chi’n ddwyieithog, rydych chi fel arfer yn gryfach mewn un iaith na’r llall (gelwir hon yn famiaith fel arfer). Mae siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf yn gallu cyfathrebu’n well gan ddefnyddio eu mamiaith. Mae siarad Cymraeg yn hawl – sydd hefyd yn adlewyrchu hunaniaeth a diwylliant – ac mae’n ymwneud â chyfathrebu yn eich dewis iaith.

Mae galw cyfyngedig am wasanaethau Cymraeg

Mae ymchwil a phrofiad yn profi y bydd gwasanaeth Cymraeg yn cael ei ddefnyddio os yw’n cael ei gynnig. Yn hanesyddol, nid oes gwasanaethau Cymraeg wedi bod ar gael, neu nid ydynt wedi bod yn weledol neu’n hygyrch. Mae ein Huned Iaith Gymraeg yn cael 50 o alwadau drwy gyfrwng y Gymraeg bob mis ar gyfartaledd.

Neges Dydd Gŵyl Dewi

Cyhoeddwyd ar 1 March 2019