Datganiad i'r wasg

Y Prif Weinidog: Bydd fy llywodraeth Un Genedl yn cau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Cyfraniad menywod at adfywiad economaidd Cymru "yn cael ei werthfawrogi bob gafael"

  • Bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol o gymorth i gau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau

  • Bydd yn ofynnol i bob cwmni sydd â mwy na 250 o weithwyr cyflogedig gyhoeddi eu bwlch cyflog

  • Mae ffigurau newydd yn dangos bod cwmnïau FTSE 100 wedi cyrraedd y targed o sicrhau bod 25% o aelodau’r bwrdd yn fenywod

Heddiw (Dydd Mawrth 14 Gorffennaf), bydd y Prif Weinidog yn nodi ei uchelgais i “roi terfyn ar y bwlch mewn cyflogau rhwng y rhywiau o fewn cenhedlaeth”.

Erbyn hyn mae mwy o fusnesau sy’n cael eu harwain gan fenywod nag erioed o’r blaen, y nifer uchaf erioed o fenywod mewn gwaith, ac mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar ei lefel isaf erioed.

Yng Nghymru, mae 667,000 o fenywod mewn swyddi cyflogedig - cynnydd o 34,000 er mis Mai 2010.

Ond bydd y Prif Weinidog yn dweud bod rhagor i’w wneud.

Bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol newydd, sy’n dechrau fis Ebrill nesaf ar £7.20 ac a fydd yn cyrraedd dros £9 erbyn 2020, yn helpu menywod yn bennaf - sy’n tueddu i fod mewn swyddi sy’n talu llai - a bydd yn helpu i gau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Roedd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn rhan o Gyllideb lle nododd y Llywodraeth yn glir ei hymrwymiad i ail-gydbwyso’r economi drwy symud o economi sy’n drymlwythog o ran lles a threthi i fod yn gymdeithas â llai o bwysau o ran lles a threthi, ond gyda chyflogau uwch.

Heddiw, mae’r Llywodraeth yn cyhoeddi rhagor o gamau i fynd i’r afael â’r bwlch rhwng y rhywiau.

  • Bydd gofyn i bob cwmni sydd â mwy na 250 o weithwyr gyhoeddi’r gwahaniaeth rhwng cyflog cyfartalog eu gweithwyr gwrywaidd a benywaidd.

  • Bydd ymgynghoriad, a lansiwyd heddiw, yn edrych ar y manylion ynghylch sut bydd y rheoliadau newydd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn cael eu cynllunio, gan gynnwys pa wybodaeth fydd yn cael ei chyhoeddi, ymhle y gwneir hynny a phryd bydd hynny’n digwydd. Bydd hefyd yn ceisio barn ar beth arall y gellir ei wneud i annog merched i ystyried y rhychwant ehangaf o yrfaoedd, cefnogi rhieni sy’n dychwelyd i’r gwaith a helpu menywod o bob oed i gyrraedd eu llawn botensial a chael y sicrwydd o swydd sy’n talu’n dda.

Daw hyn wrth i 100 cwmni FTSE y Deyrnas Unedig gyrraedd targed yr Arglwydd Davies o 25 y cant o swyddi ar lefel bwrdd yn cael ei llenwi gan ferched - targed a osodwyd yn 2011.

Mewn darn yn y Times heddiw, dywedodd y Prif Weinidog:

Heddiw rwy’n cyhoeddi cam mawr iawn: byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i bob un cwmni sydd â 250 neu fwy o weithwyr gyhoeddi’r bwlch rhwng enillion cyfartalog menywod ac enillion cyfartalog dynion. Bydd hynny’n bwrw goleuni ar yr anghysondebau ac yn creu’r pwysau sydd ei angen arnom ar gyfer newid, a chynyddu cyflogau menywod.

Mae hyn yn mynd yn ôl at yr hyn a gyhoeddom yn y Gyllideb yr wythnos diwethaf. Ein nod yw adfer cydbwysedd ein heconomi yn sylfaenol, gan drawsnewid Prydain o fod yn economi sy’n drymlwythog o ran lles a threthi i fod yn gymdeithas â llai o bwysau o ran lles a threthi, ond gyda chyflogau uwch. Rydym eisiau i bawb gael cyflogau uwch. Dyna pam y cyhoeddodd y Canghellor y Cyflog Byw Cenedlaethol, sy’n dechrau fis Ebrill nesaf ar £7.20 ac a fydd yn cyrraedd dros £9 erbyn 2020. Bydd hyn yn helpu menywod yn bennaf, sy’n tueddu i fod mewn swyddi cyflog is. Bydd yn helpu i gau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Ond mae angen i ni fynd ymhellach, a dyna pam mae cyflwyno archwiliadau cyflog rhwng y ddau ryw mor bwysig.

Tryloywder, sgiliau, cynrychiolaeth, gofal plant fforddiadwy - gall y pethau hyn roi terfyn ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn cenhedlaeth. Dyna fy nod.

Mae’r Llywodraeth hon yn darparu rhaglen eang o gymorth i fenywod yn y gweithle, gan gyflwyno 30 awr o ofal plant am ddim, 20.6 miliwn o weithwyr cyflogedig bellach yn gallu elwa ar weithio’n hyblyg, a’r gwasanaeth gyrfaoedd newydd yn rhoi busnesau ar y blaen ac yn dangos i ferched ysgol nad oes yr un proffesiwn allan o’u cyrraedd.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Yng Nghymru, mae gennym rai o’r doniau busnes benywaidd gorau a mwyaf disglair. Ar bob lefel ac ym mhob rôl, mae angen iddynt wybod bod eu cyfraniadau at yr adferiad economaidd yng Nghymru yn cael eu gwerthfawrogi. Mae cyhoeddiad heddiw yn adeiladu ar bolisïau fel y Cyflog Byw Cenedlaethol a chynlluniau fel y Rhaglen Waith sy’n brwydro yn erbyn y rhwystrau sy’n dal menywod yn ôl rhag llwyddo ym myd gwaith.

Mae’r llywodraeth hon o blaid pawb sy’n gweithio; rydym yn credu mewn cefnogi dyheadau’r rhai sydd eisiau datblygu eu hunain. Y wobr am wneud hynny fydd economi gryfach a mwy o gyfleoedd i’r genhedlaeth hon o fenywod a’r genhedlaeth nesaf hefyd.

Yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, cynyddodd nifer y menywod hunangyflogedig yng Nghymru 2,000, fel bod y ffigur yn 58,000 erbyn hyn.

Abi Carter yw sylfaenydd Forensic Resources Ltd - cwmni ymgynghorwyr gwyddoniaeth fforensig yng Nghaerdydd sy’n darparu gwasanaethau tyst arbenigol i dimau cyfreithiol a chwmnïau yswiriant ledled y Deyrnas Unedig.

Meddai Ms Carter:

Weithiau mae menywod yn petruso cyn neidio i mewn i fyd busnes ac entrepreneuriaeth. Os yw menywod am fod yn ddigon dewr i wneud hynny, mae’n hanfodol eu bod yn cael yr un gefnogaeth, cymeradwyaeth a phosibiliadau â’u cymheiriaid gwryw. Mae’n gyfrifoldeb ar bawb ohonom i rymuso menywod i lwyddo yn y gweithle, gan roi iddynt y gefnogaeth angenrheidiol i wneud hynny, fel y gallwn harneisio’r cyfoeth o ddoniau y gallant eu cyflwyno i fyd busnes.

Nodiadau i olygyddion:

  • Mae dadansoddiad gan y Trysorlys o effaith cyhoeddiad y Llywodraeth am y cyflog byw cenedlaethol newydd yng Nghyllideb yr wythnos diwethaf yn dangos y disgwylir y bydd 65 y cant o’r rhai a fydd ar eu hennill yn ferched.

  • Y bwlch cyflog cyffredinol rhwng y rhywiau yn achos yr holl weithwyr (19.1%) yw’r isaf ers i gofnodion ddechrau. Mae’n dangos bod menyw, ar gyfartaledd, yn ennill tua 80c am bob £1 a enillwyd gan ddyn.

  • Bydd y rheoliadau arfaethedig yn gweithredu Adran 78 Deddf Cydraddoldeb 2010 - mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr ym Mhrydain Fawr sydd ag o leiaf 250 o weithwyr cyflogedig gyhoeddi gwybodaeth am y cyflog y mae eu gweithwyr gwryw a benyw yn ei gael. Rydym yn bwriadu cyflwyno hyn yn ystod hanner cyntaf 2016, a bydd yr ymgynghoriad yn archwilio pa mor gyflym y gellir gorfodi’r rheoliadau.

  • Yn 2011, gosododd yr Arglwydd Davies o Abersoch y targed o gael 25 y cant o fenywod ar fyrddau ar ôl cael cais gan y Llywodraeth i edrych ar sut i fynd i’r afael â’r diffyg merched ar fyrddau cwmnïau FTSE. Erbyn hyn nid oes byrddau sydd â dynion yn unig o gymharu’r sefyllfa â 2011.

  • Bydd yr Arglwydd Davies yn awr yn gweithio ag arbenigwyr yn y diwydiant i ddysgu o brofiadau’r pedair blynedd diwethaf, ac yn gwneud cyfres o argymhellion ar sut gall busnesau barhau i wella amrywiaeth o safbwynt y rhywiau.

Menywod ac economi Cymru

  • Mae 667,000 o fenywod yn gweithio yng Nghymru - cynnydd o 34,000 er mis Mai 2010
  • Merched yw 47.7% o’r holl weithwyr cyflogedig yng Nghymru erbyn hyn
  • Mae 33% o reolwyr neu uwch swyddogion yng Nghymru yn fenywod
  • Yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, cynyddodd nifer y menywod hunangyflogedig 2,000, fel bod y ffigur yn 58,000 erbyn hyn
Cyhoeddwyd ar 14 July 2015