Datganiad i'r wasg

Prif weinidog yn cynnal derbyniad yn Stryd Downing i Ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi

Bydd y Prif Weinidog Theresa May yn cynnal derbyniad yn Stryd Downing i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ac yn dymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus i bawb.

Welsh flag flying over 10 Downing Street

Mae Prif Weinidog Theresa May yn cynnal derbyniad i ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi yn Stryd Downing heddiw, bydd y Prif Weinidog yn croesawu gwesteion o fyd busnes, y cyfryngau, chwaraeon, twristiaeth a’r sector elusennol.

Bydd nifer o gwmnïau yn arddangos eu cynnyrch yn y digwyddiad yn cynnwys wisgi Cymreig, cwrw a gwin, yn ogystal â chaws o Eryri a chacennau cri. Bydd hefyd perfformiad gan Gôr Heol y March.

Dywedodd y Prif Weinidog Theresa May;

Rwy’n falch o fod yn dathlu Dydd Gŵyl Ddewi gyda derbyniad yn Stryd Downing.

Mae ein Hundeb gwerthfawr wrth wraidd popeth mae fy Llywodraeth yn ei wneud, a dyna pam roedd Cymru yn un o’r llefydd cyntaf i mi ymweld ar ôl cael fy ethol yn Brif Weinidog.

Ac, heddiw, tra bo baner Cymru yn hedfan ochr yn ochr â baner yr Undeb dros Stryd Downing, cawn ein hatgoffa o’r rhan enfawr mae Cymru wedi chwarae yn ein hanes a’r rôl hanfodol y bydd yn ei chwarae yn ffyniant y DU yn y dyfodol.

Rwy’n dymuno Dydd Gŵyl Ddewi hapus iawn i chi.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Heddiw, mae gennym gyfle gwych i ddathlu ein diwrnod cenedlaethol ymhlith y bobl sy’n gadael marc annileadwy yn eu cymunedau, eu gwlad, ac ar draws y byd.

O’r milwyr dewr sy’n gwasanaethu ein gwlad i ffigurau gwych ym myd y celfyddydau, busnes, diwylliant a chwaraeon, dyma’r bobl sy’n helpu sicrhau fod dyfodol Cymru mor ogoneddus â’i hanes cyfoethog a disglair.

Yr wyf yn anfon fy nymuniadau cynhesaf i bawb sy’n dathlu Dydd Gŵyl Ddewi yn eu cartrefi ac o amgylch y byd.

Cyhoeddwyd ar 1 March 2017