Stori newyddion

Prif Weinidog Prydain yn Ymweld a Chymru cyn tanio Erthygl 50

Theresa May yn arwyddo Bargen Ddinesig Bae Dinas Abertawe

Prime Minister Theresa May and First Minister of Wales Carwyn Jones meeting at the Liberty Stadium in Swansea

Bydd Prif Weinidog Prydain yn ymweld â Chymru ddydd Llun (20 Mawrth) fel rhan o’r broses o ymgysylltu â’r gwledydd datganoledig cyn i Erthygl 50 gael ei thanio yn ddiweddarach y mis hwn.

Mewn cyfres o ymweliadau â gwahanol rannau o’r Deyrnas Unedig – gan gynnwys Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon – bydd y Prif Weinidog yn ymgysylltu ac yn gwrando ar bobl o bob cwr o Brydain wrth i ni baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd fel un Deyrnas Unedig.

Mae’r ymweliad yn digwydd yr un pryd ag y mae Abertawe yn arwyddo Bargen Ddinesig hanesyddol y disgwylir iddi greu dros 9,000 o swyddi a sbarduno buddsoddiad fydd yn werth bron i £1.3bn. Mae’r fargen rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, yn paratoi’r ffordd ar gyfer buddsoddiad seilwaith mawr yn rhanbarth Bae Dinas Abertawe, a fydd yn amrywio o ganolfannau ymchwil i “ranbarth digidol” newydd y glannau.

Yn ystod yr ymweliad, bydd y Prif Weinidog, ynghyd â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cwrdd â phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn ogystal â chynrychiolwyr gwahanol sectorau a busnesau.

Y prif bwynt trafod fydd sut y gall pob rhan o’r Deyrnas Unedig – gan gynnwys Cymru – wneud y gorau o’r cyfleoedd a gynigir gan Brexit. Mae marchnad allforio Cymru yn werth tua £12.3bn y flwyddyn – sy’n dangos na fu erioed well adeg i gwmnïau Cymreig allforio eu cynnyrch i wledydd tramor.

Mae Cymru eisoes yn allforio’n llwyddiannus – yn anfon adenydd awyrennau i’r byd, technoleg oeri i’r Dwyrain Canol a fformatau teledu i ddwsinau o wledydd.

Yn ôl Prif Weinidog Prydain, Theresa May:

O’m diwrnod cyntaf ar risiau Downing Street, rydw i wedi nodi’n glir fy mod yn benderfynol o gryfhau a chynnal yr Undeb gwerthfawr. Rydw i hefyd wedi nodi’n glir y byddaf yn gweithio er mwyn sicrhau bargen sy’n gweithio i’r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.

Rydw i eisiau i bob rhan o’r Deyrnas Unedig allu gwneud y gorau o’r cyfleoedd sydd o’n blaenau a sicrhau bod busnesau Cymru yn gallu elwa o’r fasnach fwyaf rhydd sy’n bosibl fel rhan o Brydain sy’n masnachu’n fyd-eang.

Mae gan brifysgolion Cymru eisoes enw arbennig o dda ar lefel ryngwladol. Maent yn denu myfyrwyr tramor ac yn arloesi â phrosiectau ymchwil yma a thros y môr.

Rydw i hefyd eisiau i Gymru fod ar y blaen ym maes gwyddoniaeth ac arloesi – fel y gwelwn â’r Fargen Ddinesig arbennig hon i Abertawe heddiw.

Mae’r fargen yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau bargen sydd o fudd i’r ddinas ac i Gymru gyfan.

Bydd Cynllun y Llywodraeth hon ar gyfer Prydain yn ceisio creu Teyrnas Unedig gryfach a thecach a gwell bargen i bobl gyffredin sy’n gweithio yng Nghymru ac ym Mhrydain.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae bargen Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn dangos beth y mae’n bosibl ei gyflawni pan mae’r llywodraeth a’r sector preifat yn dod at ei gilydd ac yn dod o hyd i atebion lleol a all ddod â budd parhaol i ardal.

Bydd y fargen ddinesig yn adeiladu ar gryfderau’r rhanbarth a’r cyfleoedd sydd ar gael, gan helpu Abertawe i gystadlu â rhai o ddinasoedd gorau’r byd drwy dechnoleg ddigidol gyffrous.

Mae hwn yn gyfle gwych i Abertawe ffynnu ac elwa o bartneriaethau agos sy’n canolbwyntio ar sicrhau enillion gwirioneddol i ardal leol.

Nodiadau i olygyddion

Mae prif elfennau dinas-ranbarth Bae Abertawe yn cynnwys:

  • Gwerth £1.3bn o gyllid yn cynnwys £115m gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig; £125.4m gan Lywodraeth Cymru; £396 miliwn gan fusnesau a’r gweddill yn dod o gyfraniadau gan yr ardal leol a phrifysgolion

  • Darpariaeth 100% i wasanaethau band-eang y genhedlaeth nesaf a meinciau arbrofi 5G

  • Partneriaeth gyda chwmni dur TATA er mwyn sefydlu canolfan arloesi a gwybodaeth ar gyfer dur, gan gynnwys pwyslais ar gynhyrchu dur di-garbon a chynaliadwyedd y diwydiant yn y dyfodol

  • Cyfleusterau newydd amrywiol er mwyn denu busnesau technegol a digidol i Ranbarth Digidol Dinas Abertawe a’r Glannau

Bargen Dinas Bae Abertawe 31-3-17

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email publiccorrespondence@cabinet-office.gsi.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.
Cyhoeddwyd ar 20 March 2017