Gogledd Cymru i arloesi adweithyddion modiwlar bach cyntaf y DU
Ynys Môn ar fin cael miloedd o swyddi newydd wrth i'r Prif Weinidog gadarnhau y bydd Wylfa yn gartref i adweithyddion niwclear modiwlaidd bach cyntaf y DU.
- Dewis Wylfa ar Ynys Môn yn safle i ddarparu atomfa adweithydd modiwlar bach cyntaf y DU
- Y buddsoddiad diwydiannol mwyaf arwyddocaol yn y Gogledd ers cenhedlaeth, yn cefnogi 3,000 o swyddi da newydd yn yr economi leol
- Y llywodraeth yn parhau i gyflawni ‘oes aur’ niwclear, ar ôl blynyddoedd o wamalu ac oedi, fel rhan o ymgyrch uwch-bŵer ynni glân, a bydd hefyd yn nodi safleoedd newydd ar gyfer atomfeydd mawr posibl yn y dyfodol
Bydd cenhedlaeth o bobl ifanc ar Ynys Môn ac ar draws y Gogledd yn elwa o filoedd o swyddi newydd a biliynau o bunnoedd mewn buddsoddiad dros y degawd nesaf, wrth i’r Prif Weinidog gadarnhau heddiw fod Wylfa wedi’i dewis yn gartref i atomfa adweithydd modiwlar bach gyntaf y DU.
Bydd y Gogledd yn arwain y ffordd mewn “oes aur” niwclear, gan ddarparu’r adweithyddion niwclear modiwlar bach cyntaf erioed yn y DU sydd i’w hadeiladu gan y cwmni Great British Energy-Nuclear sy’n eiddo i’r cyhoedd ac, yn amodol ar y contract terfynol, i’w cynllunio gan Rolls-Royce SMR o Brydain – gan brofi y gall y DU barhau i adeiladu prosiectau mawr sy’n sefyll prawf amser.
Mae cadarnhau safle Wylfa yn unioni’r methiant blaenorol i ddod â phŵer niwclear newydd i’r Gogledd. Mae gan Wylfa waddol niwclear cryf sy’n dyddio’n ôl i’r 1960au. Disgwylir i’r prosiect cyntaf o’i fath gefnogi hyd at 3,000 o swyddi da yn y gymuned leol pan fydd y gwaith adeiladu yn ei anterth, wedi’i ategu gan biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad yn y seilwaith hyd at ganol y 2030au.
Mae’r buddsoddiad hwn o fwy na £2.5 biliwn yn adeiladu ar record y llywodraeth o fuddsoddi yn economi’r Gogledd, gan gynnwys Parth Buddsoddi i roi hwb i weithgynhyrchu uwch, Porthladd Rhydd Ynys Môn a gwaith uwchraddio hanfodol ar brif linell reilffordd y Gogledd.
Disgwylir i adweithyddion modiwlar bach cyntaf y DU – mân adweithyddion niwclear sy’n llai ac yn gyflymach i’w hadeiladu na rhai atomfeydd traddodiadol – ddarparu pŵer ar gyfer yr hyn sy’n cyfateb i ryw 3 miliwn o gartrefi fel rhan o genhadaeth uwch-bŵer ynni glân y llywodraeth, gan roi annibyniaeth ynni i’r DU a fydd yn pweru’r GIG, diogelwch cenedlaethol ac arloesedd Prydain.
Bydd yr SMRs yn cael eu cefnogi gan bobl Prydain trwy Great British Energy-Nuclear, gan roi cyfran i bobl Prydain mewn technoleg flaengar sydd â chyfleoedd allforio byd-eang ac sy’n adeiladu gallu sofran hanfodol i’r wlad.
Mae hyn yn rhan o’n strategaeth ddiwydiannol fodern, sy’n defnyddio holl ddulliau’r wladwriaeth i ennill mewn technolegau fel SMRs. Yn yr Adolygiad Gwariant,
cadarnhaodd y llywodraeth fuddsoddiad mawr yn Sizewell C, a fydd yn darparu pŵer ar gyfer 6 miliwn o gartrefi a 10,000 o swyddi, yn ogystal â thros £2.5 biliwn o gyllid ar gyfer rhaglen SMR gyntaf y wlad.
Mae’r llywodraeth yn gweithio’n agos gyda’r Unol Daleithiau ar ynni niwclear ac yn ddiweddar cytunodd ar gytundeb mawr rhwng y rheoleiddwyr i’w gwneud hi’n gyflymach i gwmnïau adeiladu gorsafoedd pŵer niwclear newydd yn y ddwy wlad, ochr yn ochr â chytundebau masnachol mawr fel X-Energy a chynlluniau Centrica i adeiladu hyd at 12 adweithydd modiwlar datblygedig yn Hartlepool.
Dywedodd y Prif Weinidog:
Ar un adeg roedd Prydain yn arweinydd byd-eang ym maes ynni niwclear, ond mae blynyddoedd o esgeulustod a diffyg gweithredu yn golygu bod lleoedd fel Môn wedi cael eu siomi a’u gadael ar ôl.
Heddiw, mae hynny’n newid. Rydyn ni’n defnyddio’r holl offer yn ein harfogaeth – torri biwrocratiaeth, newid deddfau cynllunio, a chefnogi twf – i gyflawni SMR cyntaf y wlad yng Ngogledd Cymru.
Mae’r llywodraeth yma nid yn unig yn gwrth-droi dirywiad, mae’n darparu miloedd o swyddi sy’n addas i’r dyfodol, yn sbarduno biliynau mewn buddsoddiadau, ac yn darparu biliau ynni rhatach yn y tymor hir.
Dyma adnewyddu cenedlaethol ar waith: wedi’i bweru gan dalent Prydain, wedi’i bweru gan ynni niwclear, ac wedi’i bweru gan lywodraeth sy’n cyflawni pethau ar ran pobl sy’n gweithio.
Dywedodd Canghellor y Trysorlys, Rachel Reeves:
Bydd yr adfywiad niwclear yma yn Ynys Môn yn tanio economi Cymru, gan nodi dechrau cyfnod newydd ym maes arloesi a diogelwch ynni Prydain.
Bydd Wylfa yn adfywio cymunedau lleol, yn denu buddsoddiad mawr ac yn agor cyfleoedd cyffrous i bobl ifanc – gan greu hyfforddiant a phrentisiaethau o’r radd flaenaf yng Ngogledd Cymru ar gyfer y genhedlaeth nesaf o beirianwyr, technegwyr ac arloeswyr.
Ochr yn ochr â chyhoeddi’r safle, er mwyn mynd ar drywydd yr opsiwn o brosiect adweithydd ar raddfa fawr arall heblaw’r gosodiadau presennol yn Hinkley Point C a Sizewell C a gadarnhawyd yn ddiweddar, mae’r llywodraeth yn cyhoeddi bod Great British Energy-Nuclear wedi cael y dasg o nodi safleoedd addas a allai o bosibl gynnal prosiect o’r fath. Bydd GBE-N yn adrodd yn ôl erbyn Hydref 2026 ar safleoedd posibl i lywio penderfyniadau yn y dyfodol yn yr Adolygiad Gwariant nesaf a’r tu hwnt. Mae’r Ysgrifennydd Ynni wedi gofyn i hyn gynnwys safleoedd ledled y Deyrnas Unedig gan gynnwys yr Alban.
Byddai unrhyw brosiect arall ar raddfa fawr, gan ddibynnu ar benderfyniadau polisi yn y dyfodol, yn debyg o ran graddfa i brosiectau Hinkley Point C neu Sizewell C, gyda’r potensial i bweru 6 miliwn o gartrefi. Ochr yn ochr ag SMRs a phrosiectau niwclear uwch eraill, gallai hyn gyflawni rhagor o genhadaeth y llywodraeth o wneud Prydain yn uwch-bŵer ynni glân, gan roi hwb i ddiogelwch ynni’r wlad, sicrhau’r genhedlaeth nesaf o swyddi da, medrus a diogelu talwyr biliau.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni Ed Miliband:
Mae’r buddsoddiad nodedig yma yn profi y gall Prydain barhau i adeiladu prosiectau mawr sy’n sefyll prawf amser.
Bydd cenhedlaeth o bobl ifanc ledled Gogledd Cymru yn elwa o’r swyddi da, bydd cartrefi ledled Prydain yn cael pŵer glân a byddwn ni’n cymryd cam mawr ymlaen tuag at gyflawni’n huchelgais o greu rhwydwaith o adweithyddion modiwlar bach ledled y DU.
Dyma genhadaeth ynni glân y llywodraeth ar waith – sbarduno sofraniaeth a digonedd ynni er mwyn cymryd rheolaeth o’n hynni yn ôl.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan:
Dyma’r foment y mae Ynys Môn a Chymru gyfan wedi bod yn aros amdani. Mae ynni niwclear newydd yn gam i’r dyfodol gyda swyddi diogel ac ynni diogel wedi’u gwarantu ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Rydyn ni wedi bod wrth ar bob cyfle yn pwyso’r achos dros fanteision anhygoel Wylfa fel safle ac rwy’n croesawu’n fawr y penderfyniad mawr yma i fuddsoddi yn y Gogledd-orllewin. Mae Cymru unwaith eto yn arwain y ffordd.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:
Dyma newyddion enfawr – un o’r buddsoddiadau cyhoeddus mwyaf yn hanes Cymru a fydd yn dod â miloedd o swyddi o ansawdd uchel i’r economi leol.
Fe ddwedson ni y bydden ni’n cyflawni ynni niwclear newydd lle mae llywodraethau eraill wedi gwamalu ac wedi oedi ac fe ddwedson ni y bydden ni’n cyflawni twf a ffyniant ledled Cymru. Heddiw rydyn ni wrthi’n gwneud hynny.
Mae hyn yn dod ar ôl i’r llywodraeth gyhoeddi y bydd 400,000 o swyddi ychwanegol ym maes ynni glân erbyn 2030, gan gynnwys 15,000 o swyddi ychwanegol yng Nghymru, gyda galw yn arbennig am 31 o alwedigaethau sydd â blaenoriaeth megis plymwyr, trydanwyr a weldwyr. Bydd GBE-N yn dechrau gweithio ar y safle yn 2026. Bydd y prosiect cychwynnol ar gyfer 3 uned SMR, ond asesiad Great British Energy-Nuclear yw y gallai’r safle o bosibl gynnal hyd at 8 adweithydd bach. Yr uchelgais yw i adweithyddion modiwlar bach Wylfa gyflenwi pŵer i’r grid o ganol y 2030au ymlaen.
Mae gan adweithyddion modiwlar bach botensial cryf ar gyfer allforio hefyd, ar ôl i’r DU a Tsiecia lofnodi cytundeb i gydweithredu ar ynni niwclear sifil. Daw hyn ar ôl i Rolls-Royce SMR a chwmni cyhoeddus mwyaf Tsiecia, ČEZ, gytuno y llynedd i bartneru ar SMRs, gyda ČEZ yn prynu cyfran o 20%.
Great British Energy-Nuclear hefyd yw perchennog safle niwclear Oldbury yn Swydd Gaerloyw. Fel safle sydd wedi cynnal gorsaf bŵer niwclear o’r blaen, mae gan hwn hefyd botensial mawr ar gyfer ynni niwclear newydd, gan gynnwys y potensial i gefnogi’r prosiectau dan arweiniad preifat sy’n cael eu datblygu gan y diwydiant niwclear.
Ychwanegodd Simon Bowen, Cadeirydd Great British Energy-Nuclear:
Mae hon yn foment hanesyddol i’r DU, ac mae’n gam pwysig arall wrth wireddu potensial Prydain wrth arwain y ffordd ar ynni niwclear.
Bydd yr SMRs cyntaf yma yn Wylfa yn gosod y sylfaen ar gyfer dull datblygu niwclear sy’n seiliedig ar fflyd, gan gryfhau annibyniaeth ynni’r DU a dod â buddsoddiad hirdymor i’r economi leol.
Mae gan Wylfa hanes balch o ragoriaeth mewn ynni niwclear, ac rydyn ni’n gyffrous i adeiladu ar y sylfaen honno i ddarparu swyddi, hyfforddiant ac ynni carbon isel ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Dywedodd Chris Cholerton, Prif Weithredwr Rolls-Royce SMR:
Mae’n anrhydedd inni gael y cyfle i sefydlu ein rhaglen fflyd yn y DU gyda thair uned gychwynnol ar safle Wylfa. Y cyhoeddiad heddiw yw’r cam cyntaf yn yr hyn a fydd yn ymrwymiad 100 mlynedd i ynni glân, arloesi a phartneriaeth gymunedol yn Wylfa.
Mae hwn yn gyfle aruthrol nid yn unig i Ogledd Cymru ond i’r wlad gyfan, wrth inni sefydlu cadwyn gyflenwi barhaol a fydd yn fodd i ddefnyddio’n fflyd yn y DU a rhaglen allforio fawr, gan ddechrau yn Tsiecia.
Byddwn ni’n darparu pŵer niwclear yn wahanol iawn trwy ddefnyddio modiwleiddio a lefel uchel o adeiladu mewn ffatri, gan leihau’r effaith ar bobl leol yn sgil darparu seilwaith. Rydyn ni’n gyffrous i fod yn gweithio gyda’r gymuned leol i greu swyddi a thwf.
Dywedodd Sue Ferns, Uwch Ddirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol Prospect:
Gall y dadeni niwclear ddod ag ynni glân, dibynadwy a swyddi da, diogel i bob cornel o’r DU ac mae’n dda bod y llywodraeth yn bwrw ymlaen â’r rhaglen SMRs a fydd yn chwarae rhan hanfodol yn nyfodol ein cymysgedd ynni.
Mae gan Wylfa orffennol niwclear balch a dyfodol niwclear disglair ac mae mewn sefyllfa unigryw i chwarae rôl strategol allweddol yn y genhadaeth i ddod yn uwch-bŵer ynni glân.
Gall ynni niwclear gefnogi miloedd o swyddi â chyflog da a chynnal economïau lleol, a’r cyhoeddiad hwn yw tudalen gyntaf y bennod nesaf ar gyfer Ynys Ynni Cymru.
Dywedodd Tom Greatrex, Prif Weithredwr Cymdeithas y Diwydiant Niwclear:
Mae dod ag ynni niwclear yn ôl i Wylfa yn foment hanesyddol i Gymru ac i ddyfodol ynni glân y DU. Mae adfywiad Wylfa yn cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ddarparu pŵer glân, dibynadwy am ddegawdau i ddod, creu miloedd o swyddi medrus, denu buddsoddiad mawr, ac adfywio treftadaeth ddiwydiannol falch Gogledd Cymru.
Gyda Great British Energy-Nuclear a Rolls-Royce SMR yn arwain y ffordd, bydd y prosiect yn dod â buddion economaidd a chymdeithasol parhaol i’r cymunedau sydd wedi bod wrth wraidd ein stori ynni ers amser maith. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r llywodraeth, partneriaid lleol a’r diwydiant i wneud dychweliad Wylfa yn llwyddiant parhaol.
Dywedodd Ben Martin, Rheolwr Polisi yn Siambrau Masnach Prydain:
Mae ynni niwclear yn hanfodol i gefnogi cyflenwad ynni’r DU, pweru cartrefi a busnesau, cryfhau diogelwch ynni a darparu cefnogaeth hanfodol i ynni adnewyddadwy. Mae ehangu’r sector niwclear hefyd yn cynnig cyfleoedd arwyddocaol i gefnogi datblygiad sgiliau a busnesau bach a chanolig ar draws ei gadwyn gyflenwi.
Bydd y newyddion bod Wylfa wedi’i dewis yn gartref i adweithydd modiwlar bach cyntaf y DU yn dod â buddsoddiad a miloedd o swyddi i Ogledd Cymru a’r tu hwnt, gan gefnogi twf economaidd ehangach.
Dywedodd Sarah Bailey, Prif Swyddog Gweithredol Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru:
Mae’r cyhoeddiad y bydd Wylfa ar Ynys Môn yn gartref i adweithydd modiwlar bach cyntaf y DU yn eiliad drawsnewidiol i Ogledd Cymru.
Mae’r prosiect yma yn cynrychioli nid yn unig fuddsoddiad enfawr mewn ynni glân, diogel ond hefyd yn ffyniant hirdymor ein rhanbarth.
Bydd miloedd o swyddi medrus, biliynau mewn buddsoddiad mewn seilwaith, a’r cyfle i sefydlu Gogledd Cymru ymhellach fel canolbwynt ar gyfer arloesi carbon isel yn creu sgil-effeithiau ar draws ein cymuned fusnes am ddegawdau i ddod.
Nodiadau i olygyddion
Great British Energy-Nuclear yw corff cyflenwi niwclear llywodraeth y DU.
Cyhoeddwyd ym mis Mehefin mai Rolls-Royce SMR oedd y cynigydd a ffafriwyd gan Great British Energy-Nuclear i bartneru ag ef i adeiladu adweithyddion modiwlar bach cyntaf y DU, yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol y llywodraeth a llofnodi contract, a ddisgwylir yn ddiweddarach eleni.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y llywodraeth newid mawr yn y rheolau cynllunio i ganiatáu i brosiectau niwclear newydd gan gynnwys SMRs gael eu hadeiladu mewn amryw o safleoedd ledled Cymru a Lloegr.
Yn dilyn cystadleuaeth deg ac agored, mae Simon Bowen wedi’i benodi’n Gadeirydd Great British Energy-Nuclear, yn dilyn ei gyfnod fel Cadeirydd dros dro ers 2023. Mae’r penodiad hwn yn gam allweddol wrth i’r sefydliad symud i gam cyflawni nesaf y rhaglen SMR, y bydd Simon yn ei oruchwylio.