Stori newyddion

Trawsgludwyr newydd a newidiadau i ffurflenni ID y Gofrestrfa Tir

Newidiwyd ein ffurflenni ID fel y gellir eu llenwi gan ddau grŵp o drawsgludwyr newydd eu hawdurdodi.

Mae Rheoliad CILEx, a alwyd yn Safonau Proffesiynol ILEX yn flaenorol, wedi dechrau awdurdodi unigolion a sefydliadau i ymgymryd â gweithgareddau offeryn neilltuedig o dan Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007.

Mae hyn yn golygu y bydd pobl sydd wedi’u hawdurdodi fel hyn yn ‘drawsgludwyr’ fel y’i diffinnir gan reol 217A o Reolau Cofrestru Tir 2003 ac felly byddant yn gallu cyflwyno ceisiadau’n uniongyrchol a dilysu hunaniaeth.

Gelwir y trawsgludwyr newydd eu hawdurdodi hyn naill ai yn Ymarferyddion Trawsgludo CILEx neu’n Ymarferyddion Trawsgludo Swyddogion Gweithredol Cyfreithiol Siartredig.

Ffurflenni ID y Gofrestrfa Tir

Cyhoeddwyd y fersiynau newydd o’n ffurflenni hunaniaeth (ffurflenni ID1 ac ID2) ar ddydd Mawrth 7 Ebrill.

Newidiwyd y ffurflenni i gynnwys dilysiad gan Ymarferyddion Trawsgludo CILEx ac Ymarferyddion Trawsgludo Swyddogion Gweithredol Cyfreithiol Siartredig.

Mae’r Gofrestrfa Tir wedi cytuno â Sefydliad Siartredig y Swyddogion Gweithredol Cyfreithiol (CILEx) y gall unrhyw Swyddogion Gweithredol Cyfreithiol Siartredig ddilysu hunaniaeth nawr hyd yn oed os nad ydynt yn drawsgludwyr. Ni fydd Swyddogion Gweithredol Cyfreithiol Siartredig nad ydynt yn drawsgludwyr yn gallu cyflwyno ceisiadau cofrestru’n uniongyrchol o hyd.

Yn ogystal, mae hefyd yn bosibl i swyddog yn lluoedd arfog y DU ddilysu hunaniaeth ar gyfer aelod o’r lluoedd arfog sy’n gweithredu tramor. Gwnaed y newid hwn oherwydd anawsterau penodol a wynebir gan bersonél y lluoedd wrth ddilysu hunaniaeth wrth wasanaethu tramor. Ni fydd gan swyddogion lluoedd arfog y DU bŵer cyffredinol i ddilysu hunaniaeth.

Ailgynlluniwyd Rhan B y ddwy ffurflen i’w gwneud yn fwy clir ac yn haws ei llenwi. Nawr ceir paneli ar wahân ar gyfer gwahanol gategorïau o ddilyswyr.

Yn ogystal, mae pob ffurflen yn datgan yn glir na ddylid llenwi’r ffurflen fwy na thri mis cyn cyflwyno’r cais i’r Gofrestrfa Tir ac y dylai’r ffotograff lliw fod ar bapur ffotograffig.

Gellir defnyddio hen fersiynau’r ffurflenni o hyd ar yr amod bod y dilysydd penodol yn un sydd wedi’i gynnwys gan y ffurflen a ddefnyddiwyd, na lenwyd y ffurflen fwy na thri mis cyn ei chyflwyno a bod y ffotograff ar bapur ffotograffig.

Mae Tystiolaeth hunaniaeth: trawsgludwyr (CY67) yn egluro ein gofynion hunaniaeth.

Cyhoeddwyd ar 7 April 2015