Datganiad i'r wasg

Penodi Prif Weithredwr newydd i'r Gofrestrfa Tir

Heddiw (12 Mawrth 2015) penodwyd Graham Farrant yn Brif Weithredwr newydd y Gofrestrfa Tir.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd Mr Farrant yn cymryd awenau’r sefydliad sy’n llunio sylfaen y farchnad eiddo yng Nghymru a Lloegr ym mis Mehefin 2015. Bydd yn defnyddio ei sgiliau sylweddol a enillwyd dros 15 mlynedd ar lefel Prif Weithredwr mewn sefydliadau’r sector preifat a’r sector cyhoeddus i arwain y Gofrestrfa Tir trwy gamau nesaf ei thrawsnewidiad i fod yn sefydliad modern a digidol sy’n cynnig gwasanaeth o’r radd flaenaf i bawb sy’n prynu neu’n gwerthu tir ac eiddo.

Dywedodd y Gweinidog Busnes, Matthew Hancock:

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi penodiad Graham Farrant yn Brif Weithredwr nesaf y Gofrestrfa Tir. Bydd ei egni a’i brofiad o drawsnewid sefydliadau cymhleth yn sicrhau y bydd y Gofrestrfa Tir yn parhau i gyflwyno gwasanaeth o’r radd flaenaf wrth fanteisio hefyd ar fodel sy’n gynyddol ddigidol a fydd yn llywio effeithlonrwydd a rhwyddineb defnydd a ddisgwylir gan gwsmeriaid.

Dywedodd Mr Farrant:

Mae’n bleser gennyf ymgymryd â’r her a’r rôl hanfodol hon gyda’r Gofrestrfa Tir. Rwy’n edrych ymlaen at barhau â thraddodiad clodwiw’r Gofrestrfa o fod yn gonglfaen y mae’r diwydiant eiddo wedi’i adeiladu arno, wrth ei harwain trwy’r camau nesaf o’i thrawsnewidiad i fod yn sefydliad modern a digidol sy’n darparu gwasanaethau ardderchog i’w chwsmeriaid.

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae penodiad Graham Farrant yn dilyn cystadleuaeth agored a oruchwyliwyd gan Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil.
  2. Bydd Graham yn ymgymryd â’r swydd ym mis Mehefin. Mae’n disodli Ed Lester, a fydd yn rhoi’r gorau i fod yn Brif Weithredwr yn ddiweddarach y mis hwn. John Peaden fydd y Prif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir dros dro yn ystod y cyfnod hwn.
  3. Ar hyn o bryd mae Graham Farrant yn Brif Weithredwr Cyngor Thurrock ac yn ogystal, ymgymerodd yn ddiweddar â’r un rôl gyda Chyngor Brentwood. Yn y gorffennol diweddar, bu’n Brif Weithredwr dros dro ar gyfer Bwrdeistref Llundain Barking a Dagenham. Yn ogystal â’i amser yn y gwasanaeth cyhoeddus, treuliodd Graham gyfnod yn y sector preifat fel Prif Swyddog Gweithredol Leisure Connection Ltd.
  4. Sefydlwyd Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi ym 1862 i alluogi’r farchnad eiddo i weithredu’n llyfn. Mae’n cofrestru perchnogaeth tir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr a heddiw mae ganddi gofrestr o dros 23 miliwn o deitlau i dir rhydd-ddaliol a phrydlesol, sy’n cwmpasu dros dri chwarter y tir. Mae adeiladu a chynnal y gronfa ddata helaeth hon o wybodaeth eiddo yn ganolog i’w gwaith.
Cyhoeddwyd ar 12 March 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 April 2015 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.