Datganiad i'r wasg

Wnaeth fy mharot ddinistrio fy nhystysgrif gofrestru cerbyd ymhlith y rhesymau mwyaf anarferol a rannwyd wrth gael un newydd

Y rhesymau mwyaf anarferol y mae pobl wedi rhannu â DVLA am angen tystysgrif gofrestru cerbyd (V5CW) yn lle un arall.

Mae’r rhesymau “Nid oeddwn i’n canolbwyntio a rhwygais i hi”, “roedd hi ym mhoced fy nhrwser a golchwyd yn y peiriant golchi” ac “wnaeth fy mharot ei dinistrio” ymhlith y rhai mwyaf anarferol y mae pobl wedi rhannu â DVLA am angen tystysgrif gofrestru cerbyd (V5CW) yn lle un arall.

Lansiodd DVLA wasanaeth ar-lein i gael V5CW amnewid ym mis Medi 2020 a hwn yw’r ffordd gyflymaf i amnewid y ddogfen. Gall modurwyr archebu un newydd ni waeth y rheswm ac ers y lansiad mae’r gwasanaeth wedi cael ei ddefnyddio mwy na 300,000 o weithiau (tua 5,800 yr wythnos).

Mae’r rhesymau anarferol eraill a rannwyd â DVLA yn cynnwys:

Wnaeth fy mhlentyn ei defnyddio i roi clawr ar ei lyfr ysgol.

Gadawais i hi mewn gwesty yn Anialwch y Gobi wrth yrru ar draws Asia yn ystod fy mlwyddyn i ffwrdd.

Prynodd rywun gar imi am fy mhen-blwydd – wnaethon nhw lapio’r allweddi yn y V5CW a rhwygais i hi i’w hagor heb yn wybod.

Wnaeth y ci ei bwyta hi.

Chwythodd y tu allan i’r ffenest a phan es i chwilio amdani, roedd hi wedi mynd.

Aeth fy ŵyr â hi i chwarae y tu allan a’i chladdu yn y mwd.

Dywedodd Julie Lennard, Prif Weithredwr DVLA:

Mae ein gwasanaeth ar-lein i gael V5CW amnewid yn gyflym ac yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn golygu y bydd cwsmeriaid yn derbyn eu tystysgrif gofrestru cerbyd newydd o fewn yr wythnos.

Felly p’un ai eich bod wedi colli eich V5CW, ei bod yn cael ei threulio gan eich anifail anwes neu fod eich plant wedi’i defnyddio ar gyfer celfyddyd a chrefft - y ffordd gyflymaf i gael un newydd yw ar GOV.UK.

Nodiadau i olygyddion:

Dylai modurwyr sydd angen gwneud cais am V5CW amnewid fynd ar-lein.

Mae defnyddio’r gwasanaeth ar-lein i gael V5CW amnewid yn lle un sydd ar goll neu wedi’i difrodi yn llawer cyflymach a bydd modurwyr yn cael un newydd o fewn 5 diwrnod gwaith - efallai y bydd yn rhaid i fodurwyr sy’n gwneud cais trwy’r post aros hyd at 6 wythnos.

Mae’n costio £25 am lyfr log newydd p’un ai a ydych yn mynd ar-lein neu’n gwneud cais trwy’r post.

Dilynodd y gwasanaeth i gael V5CW yn lle un sydd ar goll neu wedi’i difetha y gwasanaeth newid cyfeiriad ar lyfr log cerbyd, a lansiwyd ym mis Mehefin, sydd wedi cael ei ddefnyddio mwy na 1.6 miliwn o weithiau.

Gwasanaethau ar-lein DVLA yw’r ffordd gyflymaf, hawsaf ac, yn aml, rataf i ddelio â DVLA. Gall modurwyr ddefnyddio gwasanaethau ar-lein DVLA i roi gwybod i DVLA pan fyddant yn gwerthu neu brynu cerbyd, newid y cyfeiriad ar eu trwydded yrru neu adnewyddu eu trwydded yrru.

Swyddfa'r wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe

SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 29 September 2021