Croeso i bawb i ddiwrnod 'Cwrdd â'r Lluoedd Arfog' yng Nghaerdydd y Sul hwn
Y Dydd Sul hwn (7 Medi), yn dilyn Uwchgynhadledd NATO, gwahoddir y cyhoedd yng Nghymru i ddigwyddiad 'Cwrdd â'r Lluoedd Arfog' ym Mae Caerdydd.
Type-45 Destroyer HMS Duncan arriving in Cardiff Bay
Bydd digwyddiadau’r dydd yn gyfle i glywed am yr hyn y mae’r Lluoedd Arfog yn ei wneud, a gweld rhai o’r offer a ddefnyddir yn ei dyletswyddau. Bydd ‘na gyfle i archwilio llongau sy’n cynnwys y llong ryfel Type-45, un o longau mwyaf datblygedig y Llynges, dringo waliau’r fyddin, archwilio tanciau a chopïau o awyrennau’r RAF a mwynhau bandiau milwrol.
Bydd diwrnod ‘Cwrdd â’r Lluoedd Arfog’ yn rhedeg o 11yb tan 6yh.
Bydd ymwelwyr yn gallu:
- Ymweld â chwech o longau’r Llynges (o’r DU, Ffrainc, Latfia, Lithwania, yr Iseldiroedd a Norwy) sydd wedi’u angori yng Nghaerdydd yr wythnos hon
- Astudio cit milwrol y Fyddin - tanciau a cherbydau eraill - a rhoi cynnig ar eu waliau dringo a chwrs her
- Mwynhau awyrennau replica y Llu Awyr
- Gwrando ar bum band milwrol yn chwarae mewn lleoliadau hyd a lled Bae Caerdydd
Mae Llywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd a Swyddfa Cymru yn cefnogi digwyddiadau’r dydd.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb:
Mae Uwchgynhadledd NATO a’r bygythiadau difrifol iawn y mae wedi ystyried wedi’n hatgoffa o’n dyled enfawr i’n Lluoedd Arfog.
Mae diwrnod ‘Cwrdd â’r Lluoedd Arfog’ yn gyfle i ni, fel y cyhoedd, i ddod ynghyd, dangos ein cefnogaeth a dysgu mwy am yr hyn y mae’n ei olygu i fod ar y llinellau blaen.
Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn i fynychu’r digwyddiad ac rwy’n edrych ymlaen at dalu teyrnged bersonol i rai o’r dynion a’r menywod hynny sy’n rhoi eu hunain mewn perygl o ddydd o ddydd i’n cadw ni’n ddiogel.
Croesawodd y Prif Weinidog Carwyn Jones AC y digwyddiad hefyd, gan ddweud:
Fel llywodraeth, rydym yn falch o gefnogi digwyddiad ddydd Sul sy’n anrhydeddu gwaith caled ac aberth ein Lluoedd Arfog.
Yn dod yn syth ar ôl Uwchgynhadledd NATO, mae’n gyfle i’r cyhoedd ddysgu mwy am eu gwaith a gweithrediad bob-dydd y rheiny sy’n gwasanaethu ein gwlad.
Byddaf yn mynychu’r digwyddiad i roi fy nghefnogaeth bersonol a phwysleisio ein hymrwymiad i gefnogi pawb o Gymru sydd ynghlwm â’r Lluoedd Arfog, bo hynny yn y gorffennol neu’r presennol.
Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd Phil Bale:
Mae hwn yn gyfle gwych i arddangos Caerdydd ac, yn dilyn y gofynion diogelwch llym sydd eu hangen ar gyfer yr Uwchgynhadledd, mae’n bwysig bod trigolion Caerdydd ac ymwelwyr yn cael y cyfle i gwrdd ag aelodau o’r Lluoedd Arfog a chael golwg o gwmpas y cychod a’r offer maent yn eu defnyddio wrth eu gwaith. Mae hwn yn gyfle unigryw ac rwy’n gobeithio y bydd y diwrnod yn cael ei fwynhau gan bawb.
Rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru 2014 neu dilynwch gyfrif Twitter swyddogol yr uwchgynhadledd @NATOWales