Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn dyfarnu £208 miliwn i brosiectau Ffyniant Bro yng Nghymru

Cyfanswm o 11 prosiect yn derbyn grantiau yn ail rownd y Gronfa Ffyniant Bro nodedig

  • Cyfanswm o 11 prosiect yn derbyn grantiau yn ail rownd y Gronfa Ffyniant Bro nodedig
  • Mae’r prosiectau’n cynnwys Crossrail Caerdydd, campws peirianneg ym Mlaenau Gwent, adfer Pafiliwn y Grand Porthcawl, a llwybrau beicio newydd drwy Ddyffryn Conwy
  • Bydd buddsoddi mewn ardaloedd sydd wedi’u hesgeuluso’n hanesyddol yn creu swyddi ac yn tyfu’r economi

Mae Crossrail Caerdydd, campws peirianneg newydd ym Mlaenau Gwent, a llwybrau beicio newydd drwy Ddyffryn Conwy, yn rhai o’r prosiectau lleol trawsnewidiol ledled Cymru sydd wedi cael cyfran o £2.1 biliwn o Gronfa Ffyniant Bro nodedig Llywodraeth y DU.

Bydd buddsoddiad mawr gan Lywodraeth y DU o fudd i bobl ledled Cymru drwy ledaenu cyfleoedd a dod â bywyd newydd i ardaloedd sydd wedi cael eu hesgeuluso’n hanesyddol.

Dyrannwyd mwy na £208 miliwn i gyfanswm o 11 o brosiectau yng Nghymru yn rownd dau Cronfa Ffyniant Bro. Bydd y prosiectau’n creu swyddi, yn sbarduno twf economaidd, yn helpu i adfer balchder pobl yn y mannau lle maent yn byw ac yn lledaenu cyfleoedd yn fwy cyfartal.

Bydd hyn yn hybu blaenoriaeth y Prif Weinidog i dyfu’r economi drwy godi’r gwastad a darparu’r sylfeini ar gyfer adeiladu dyfodol gwell mewn cymunedau ledled y DU. Drwy gydweithio, mae’r DU mewn sefyllfa well i fynd i’r afael gyda’n gilydd â’r heriau unigol sy’n wynebu pob rhanbarth a chenedl ledled y wlad.

Mae’r grantiau’n cynnwys £50 miliwn ar gyfer Crossrail Caerdydd, sy’n gyfartal â’r swm uchaf a ddyfarnwyd i brosiect yn y DU. Mae £9 miliwn hefyd yn mynd i gampws peirianneg newydd i 600 o fyfyrwyr ym Mlaenau Gwent ac £18.6 miliwn ar gyfer llwybr beicio newydd rhwng Cyffordd Llandudno a Betws-y-coed drwy Ddyffryn Conwy.

Bydd bron i £18 miliwn yn helpu i adnewyddu Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl, un o’r adeiladau mwyaf adnabyddus yn Ne Cymru, sydd wedi dirywio ar ôl blynyddoedd o waith adnewyddu tameidiog.

Dywedodd y Prif Weinidog Rishi Sunak:

Drwy fuddsoddiad mwy mewn ardaloedd lleol, gallwn dyfu’r economi, creu swyddi da a lledaenu cyfleoedd ym mhobman.

Dyna pam rydyn ni’n cefnogi nifer o brosiectau gyda chyllid trawsnewidiol newydd i godi’r gwastad mewn cymunedau lleol yng Nghymru.

“Drwy gyrraedd hyd yn oed mwy o rannau o’r wlad nag o’r blaen, byddwn yn creu dyfodol o optimistiaeth a balchder ym mywydau pobl a’r lleoedd maen nhw’n byw ynddynt.”

Dywedodd Michael Gove, yr Ysgrifennydd Ffyniant Bro:

Rydyn ni’n rhoi golau gwyrdd i dros gant o brosiectau trawsnewidiol ym mhob cwr o’r DU a fydd yn adfywio cymunedau sydd wedi cael eu hanwybyddu’n hanesyddol ond sy’n llawn potensial. 

Bydd y cyllid newydd hwn yn creu swyddi, yn sbarduno twf economaidd ac yn helpu i adfer balchder lleol. Rydyn ni’n cyflawni blaenoriaethau’r bobl, yn codi’r gwastad ledled y DU i sicrhau y gallwch chi fynd cyn belled ag y bydd eich doniau’n mynd â chi, dim ots o ble rydych chi’n dod.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies:

Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol iawn mewn prosiectau gwirioneddol arwyddocaol ledled Cymru. Rwy’n falch iawn o weld cynifer o geisiadau llwyddiannus o bob cwr o’r wlad am gynlluniau a fydd yn cael effaith am genedlaethau i ddod.

Bydd y cyllid hwn yn adfywio canol trefi ac adeiladau hanesyddol, yn creu llwybrau beicio a cherdded newydd drwy rannau o’n cefn gwlad prydferthaf, yn gwella cyfleusterau i ymwelwyr, yn darparu atebion trafnidiaeth i Gaerdydd ac yn cyfrannu at y cyfleoedd iechyd a swyddi i bobl yn yr ardaloedd dan sylw yn y dyfodol.

Rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddilyn hynt y prosiectau hyn wrth iddynt ein helpu i gyflawni ein huchelgais o godi’r gwastad yn y DU a thyfu economi Cymru.

Dyma’r prosiectau y dyfarnwyd grantiau Cronfa Ffyniant Bro iddynt yng Nghymru heddiw:

  • £50 miliwn ar gyfer Crossrail Caerdydd. Bydd hyn yn helpu i ddarparu llinell newydd rhwng Bae Caerdydd a Gorsaf Caerdydd Canolog, gan ei gwneud yn haws i filoedd o bobl deithio rhwng y gorsafoedd hyn bob dydd.
  • Bydd llwybr beicio diogel ac uniongyrchol yn cael ei greu rhwng Cyffordd Llandudno a Betws-y-coed drwy Ddyffryn Conwy gyda grant o £18.6 miliwn. Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys mesurau i liniaru yn erbyn llifogydd.
  • Bydd £17.8 miliwn i adfer ystâd hanesyddol yng Nghwm Nedd ac i adeiladu llwybrau cerdded a beicio newydd.
  • Mae £17 miliwn ar gael i adeiladu llwybrau cerdded a beicio newydd i ddod â phobl yn nes at ei gilydd yng Nghaergybi a galluogi ymwelwyr a phobl leol i grwydro safleoedd trawiadol Eglwys Sant Cybi a’r gaer Rufeinig.
  • £18 miliwn i drawsnewid Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl, un o’r adeiladau mwyaf adnabyddus yn Ne Cymru, sydd wedi dirywio ar ôl blynyddoedd o waith adnewyddu tameidiog.
  • Ym Mlaenau Gwent, bydd campws peirianneg newydd ar gyfer 600 o bobl ifanc yn cael ei adeiladu gan ddefnyddio cyllid o £9 miliwn. Bydd yn cynnig rhaglen helaeth o brentisiaethau a lleoliadau mewn diwydiannau yn yr ardal i’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr.
  • Bydd £20 miliwn yn adfer ac yn adfywio tri safle treftadaeth diwydiannol yng Nghwm Tawe Isaf. Mae hyn yn cynnwys Gwaith Copr y Morfa a fydd yn creu siopau, bwytai a marchnadoedd newydd, a gwaith uwchraddio sylweddol i Amgueddfa Abertawe.
  • Bydd prosiect gwerth £7.6 miliwn Hwb Diwylliannol Pont-y-pŵl yn Nhorfaen yn trawsnewid adeiladau sydd wedi adfeilio’n ganolfan ddiwylliannol ffyniannus gyda bwyty newydd i roi hwb i’r economi gyda’r nos.
  • Adeiladu canolfan hamdden o’r radd flaenaf yng Nghaerffili gydag £20 miliwn, a fydd yn cynnwys campfa a phwll nofio newydd.
  • Yng Ngwynedd, bydd £18.8 miliwn yn uwchraddio llwybrau cerdded a beicio ar gyfer Amgueddfa Lechi Cymru a chanolfan gelfyddydau Neuadd Ogwen.
  • Bydd Sir Ddinbych yn cael £11 miliwn i adfer yr henebion hanesyddol yn Rhuthun, gan gynnwys Eglwys Sant Pedr a sgwâr y dref.

Mae’r buddsoddiad sylweddol a gyhoeddwyd heddiw yn dilyn y dyraniad o £1.7 biliwn i 105 o brosiectau yn rownd un y Gronfa Ffyniant Bro yn 2021– gan olygu bod cyfanswm o £3.8 miliwn wedi’i ddyrannu o’r gronfa hyd yma.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi cadarnhau y bydd rownd arall o Gronfa Ffyniant Bro, a fydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i godi’r gwastad mewn lleoedd ledled y DU.

Diwedd

Heddiw, bydd Llywodraeth y DU hefyd yn lansio map rhyngweithiol ar-lein er mwyn i bobl allu gweld pa brosiectau sy’n derbyn buddsoddiad o Gronfa Ffyniant Bro yn eu hardal. Bydd ar gael yn https://levellingup.campaign.gov.uk/

Cyhoeddwyd ar 19 January 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 January 2023 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.