Datganiad i'r wasg

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2016 - Neges gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Stephen Crabb: "Rhaid cymryd camau pendant i helpu i sicrhau cydraddoldeb rhwng y ddau ryw"

Mae’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod heddiw; diwrnod o ddathlu ar draws y byd, dathlu llwyddiannau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol menywod yn y gorffennol, heddiw ac yn y dyfodol.

Y thema eleni yw Addewid Cydraddoldeb - cymryd camau pendant i helpu i sicrhau cydraddoldeb rhwng y ddau ryw yn gyflymach.

Does dim digon wedi cael ei wneud i helpu menywod i gyflawni eu potensial yn llawn am yn rhy hir o lawer. Ac mae hynny’n rhywbeth rydyn ni, fel llywodraeth, yn gweithio’n galed ar roi sylw iddo. Dydy hyn ddim yn golygu gwario mwy o arian yn unig; mae’n golygu gwneud pethau’n wahanol - yn y llywodraeth, mewn byd busnes ac mewn cymdeithas.

Mae Llywodraeth y DU yn benderfynol o wneud popeth o fewn ei gallu i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod gartref a thramor, drwy gyflwyno deddfau newydd, llym i warchod menywod rhag trais domestig, priodi dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu benywod.

O safbwynt busnes, rydyn ni hefyd yn chwalu rhwystrau. Mae ffigurau’n dangos bod mwy o fenywod nag erioed yn gweithio yng Nghymru nawr. Mae tua 669,000 o fenywod yn gweithio yng Nghymru nawr - cynnydd o 36,000 ers mis Mai 2010, sy’n cyfrif am 46% o’r holl weithwyr ar draws y wlad. Roedd y bwlch rhwng cyflogau menywod a dynion yng Nghymru wedi gostwng y llynedd hefyd, o 16% yn 2014 i 14.6% yn 2015. Yn y Deyrnas Unedig, nid oes yr un bwrdd sy’n cynnwys dynion yn unig yn y FTSE 100 ac mae’r bwlch rhwng cyflogau dynion a menywod ar ei isaf ers dechrau cofnodi.

Mae’r llywodraeth hon o blaid pawb sy’n gweithio; mae’n credu mewn cefnogi dyheadau’r rhai sydd eisiau datblygu eu hunain. Y wobr am wneud hynny fydd economi gryfach a mwy o gyfleoedd i’r genhedlaeth hon o fenywod a’r genhedlaeth nesaf hefyd.

Ond rydyn ni i gyd yn gwybod bod mwy i’w wneud.

Mae trefnwyr Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yng Nghymru wedi paratoi rhaglen drawiadol o ralïau, cyngherddau, gweithdai, cynadleddau a pherfformiadau er mwyn cyfleu’r neges bod angen gweithredu a chodi ymwybyddiaeth o hyd er mwyn sicrhau cydraddoldeb i fenywod ym mhob agwedd ar fywyd, a chynnal y cydraddoldeb hwnnw, er bod agweddau gwledydd datblygedig wedi newid yn aruthrol.

Astudiaeth achos

Abi Carter yw sylfaenydd Forensic Resources Ltd - cwmni ymgynghorwyr gwyddoniaeth fforensig yng Nghaerdydd sy’n darparu gwasanaethau tyst arbenigol i dimau cyfreithiol a chwmnïau yswiriant ledled y Deyrnas Unedig.

Meddai Ms Carter:

Weithiau mae menywod yn petruso cyn neidio i mewn i fyd busnes ac entrepreneuriaeth.

Os yw menywod am fod yn ddigon dewr i wneud hynny, mae’n hanfodol eu bod yn cael yr un gefnogaeth, cymeradwyaeth a phosibiliadau â’u cymheiriaid gwryw. Mae’n gyfrifoldeb ar bawb ohonom i rymuso menywod i lwyddo yn y gweithle, gan roi iddynt y gefnogaeth angenrheidiol i wneud hynny, fel y gallwn harneisio’r cyfoeth o ddoniau y gallant eu cyflwyno i fyd busnes.

Cyhoeddwyd ar 8 March 2016