Bydd y Fargen Werdd yn gwella effeithiolrwydd ynni cartrefi Cymru
Mae Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb AS, yn annog pobl yng Nghymru i fanteisio ar gynllun newydd gan Lywodraeth y DU sy’n cyflwyno ffordd…

Mae Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb AS, yn annog pobl yng Nghymru i fanteisio ar gynllun newydd gan Lywodraeth y DU sy’n cyflwyno ffordd newydd i gartrefi a busnesau dalu am welliannau i effeithiolrwydd ynni adeiladau.
Mae’r ‘Fargen Werdd’ - sy’n cael ei lansio gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd heddiw, yn rhoi cyfle i bobl dalu am welliannau i effeithiolrwydd ynni eu cartrefi a fydd yn arwain at arbedion ar eu biliau ynni.
Bydd cartrefi yng Nghymru sy’n defnyddio’r Fargen Werdd i wneud gwelliannau i gartrefi er mwyn arwain at arbed ynni hefyd yn gymwys am gannoedd o bunnau yn ol drwy Gynllun Arian yn ol y Fargen Werdd. Po fwyaf o waith y bydd preswylwyr yn penderfynu ei wneud, po fwyaf o arian y gallent ei gael gyda phecynnau, o bosibl, sy’n werth dros £1,000.
Wrth groesawu’r cynllun, dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb:
“Gyda theuluoedd a busnesau ledled Cymru’n wynebu costau tanwydd ac ynni’n codi, bydd lansio’r Fargen Werdd yn rhoi cyfle i bobl gael mwy o hyblygrwydd o ran y ffordd y maen nhw’n talu am welliannau i adeiladau er mwyn arbed ynni.
“Bydd y gwelliannau y gallan nhw eu cyflawni drwy’r Fargen Werdd - insiwleiddio neu systemau gwresogi newydd - yn rhoi cyfle i berchnogion tai drawsnewid eu cartrefi, ac yn bwysicaf oll, lleihau eu biliau ynni.
“Mae busnesau a diwydiant hefyd wedi croesawu’r cynllun a fydd yn arwain at swyddi iddyn nhw a chyfle iddyn nhw dyfu o ganlyniad i’r dasg o ddiweddaru stoc tai Prydain.”
Nodiadau i Olygyddion:
Ffigurau’r Fargen Werdd:
• Mae 45 gwahanol fathau o welliannau ar gael drwy’r Fargen Werdd ar hyn o bryd, yn helpu pobl i gynhesu eu cartrefi a thalu am rai neu’r holl welliannau dros amser drwy eu biliau trydan.
• Mae £125 miliwn ar gael drwy’r Cynllun Arian yn ol, a gyllidir gan y Llywodraeth
• gallai 8 miliwn o gartrefi elwa o insiwleiddio waliau solet
• gallai 4 miliwn o gartrefi elwa o insiwleiddio waliau ceudod
• disgwylir y bydd 60,000 o swyddi’n cael eu cefnogi yn y sector insiwleiddio yn unig erbyn 2015 - yn codi o 26,000 yn 2011
• £3.5 miliwn o gyllid ar gyfer hyfforddi mewn sgiliau allweddol y Fargen Werdd
• gellid arbed £270 y flwyddyn petai tŷ par a thair ystafell wely yn insiwleiddio waliau solet yn unig
• mae 38% o gyfanswm gollyngiadau nwyon tŷ gwydr y DU yn dod o adeiladau sy’n gollwng
I gael rhagor o wybodaeth am y Fargen Werdd, ewch i wefan Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd:
https://www.gov.uk/government/news/hate-rising-energy-costs-green-deal-with-it