Datganiad i'r wasg

Pedair tref yng Nghymru i rannu £80 miliwn i wella dyfodol hirdymor

Bydd Merthyr Tudful, Cwmbrân, Y Barri, a dinas fwyaf newydd Cymru, Wrecsam, yn derbyn £20 miliwn yr un gan Lywodraeth y DU.

Aerial view of Barry

Mae tair tref yng Nghymru, ynghyd â Wrecsam, a gafodd statws dinas yn ddiweddar, wedi cael eu henwi gan y Prif Weinidog fel rhan o fuddsoddiad ffyniant bro gwerth £1.1 biliwn, sy’n cael ei ddarparu i 55 o drefi ledled y DU. 

Bydd Merthyr Tudful, Cwmbrân, Wrecsam a’r Barri i gyd yn cael £20 miliwn gan Lywodraeth y DU fel rhan o gynllun buddsoddi hirdymor ar gyfer trefi sydd wedi cael eu hanwybyddu a’u cymryd yn ganiataol. 

Bydd yr arian yn cael ei ddarparu’n uniongyrchol gan Lywodraeth y DU i’r awdurdod lleol perthnasol. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid lleol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i wneud yn siŵr bod y cyllid yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol.  

O dan y dull gweithredu newydd, bydd pobl leol yn cael eu rhoi wrth y llyw, ac yn cael yr adnoddau i newid dyfodol hirdymor eu tref. Byddant yn:   

  • Cael cronfa ddeng mlynedd ar ffurf gwaddol i’w gwario ar flaenoriaethau pobl leol, megis adfywio’r stryd fawr a chanol y dref yn lleol, neu sicrhau diogelwch y cyhoedd.    

  • Sefydlu Bwrdd Tref i ddod ag arweinwyr cymunedol, cyflogwyr ac awdurdodau lleol at ei gilydd i gyflawni’r Cynllun Hirdymor ar gyfer eu tref a’i gyflwyno fel testun ymgynghoriad i bobl leol.   

Mae dros hanner poblogaeth y DU yn byw mewn trefi, ond mae stryd fawr hanner gwag, dirywiad yng nghanol y dref ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn niweidiol i drefi ym mhob rhan o’r DU. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn nodi newid mewn agwedd sy’n golygu na fydd pobl yn teimlo bod eu tref yn cael ei hanwybyddu mwyach, gan y bydd cymunedau’n cael eu grymuso i fod yn gyfrifol am reoli eu dyfodol a gwneud penderfyniadau hirdymor er budd pobl leol.   

Mae’r cynllun hwn yn adeiladu ar genhadaeth ganolog Llywodraeth y DU i sicrhau ffyniant bro yn y DU drwy roi mwy o bŵer ac arian yn nwylo’r bobl sy’n adnabod eu hardaloedd orau, er mwyn creu dyfodol gwell i’w cymuned, gan greu mentrau pwrpasol a fydd yn sbarduno’r gwaith adfywio sydd ei angen.    

Dywedodd Rishi Sunak, y Prif Weinidog:

Mae trefi’n gartrefi i’r rhan fwyaf ohonom, ac mewn trefi y mae’r rhan fwyaf ohonom yn gweithio. Ond mae gwleidyddion bob amser wedi cymryd trefi’n ganiataol ac wedi canolbwyntio ar ddinasoedd.  

Canlyniad hynny yw bod y stryd fawr yn hanner gwag, bod canolfannau siopa wedi mynd â’u pen iddynt, a bod ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn trefi, sy’n niweidiol i’w ffyniant ac yn llesteirio cyfleoedd pobl. Heb ddull gweithredu newydd, dim ond gwaethygu a wnaiff y problemau hyn.  

Mae hynny’n newid heddiw. Mae ein Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi yn rhoi cyllid yn nwylo pobl leol i fuddsoddi yn unol â’u blaenoriaethau, dros y tymor hir. Dyna sut rydyn ni’n sicrhau ffyniant bro.” 

 Dywedodd Michael Gove, yr Ysgrifennydd Ffyniant Bro:    

Rydyn ni’n gwybod bod gwerthoedd gwaith caled ac undod, synnwyr cyffredin a phwrpas cyffredin, ymdrech a gwladgarwch tawel wedi goroesi yn ein trefi ar hyd y cenedlaethau. Ond, ers gormod o amser, mae gormod o’n trefi gwych yma ym Mhrydain wedi cael eu hesgeuluso ac nid ydynt wedi cael eu gwerthfawrogi ddigon.  

Rydyn ni’n unioni hyn drwy ein Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi, gyda dros £1bn o gyllid ffyniant bro yn gefn iddo.   

Bydd hyn yn grymuso cymunedau ym mhob rhan o’r DU i adennill rheolaeth o’u dyfodol, gan wneud penderfyniadau hirdymor er budd pobl leol. Bydd yn golygu mwy o swyddi, mwy o gyfleoedd, a dyfodol gwell i’n trefi a’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ynddynt.” 

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: 

Mae Merthyr Tudful, Cwmbrân, Wrecsam a’r Barri i gyd yn llefydd gwych a byddant yn elwa’n fawr o’r buddsoddiad sylweddol hwn yn eu dyfodol. 

Rydyn ni’n falch o gefnogi pobl i gymryd yr awenau yn eu hardaloedd lleol. Mae ffyniant bro wrth galon dyheadau Llywodraeth y DU a bydd cymunedau ar hyd a lled Cymru yn cael eu trawsnewid dros y blynyddoedd nesaf wrth i ni fuddsoddi ynddynt.”  

Mae ‘Ein Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi’, a gyhoeddwyd heddiw (1 Hydref), wedi’i ddylunio’n ofalus i ategu’r rhaglen ffyniant bro ehangach. Bydd yn gweithio ochr yn ochr â chyllid ar gyfer prosiectau penodol ledled y DU, ein cymorth wedi’i dargedu ar gyfer y mannau sydd ei angen fwyaf drwy Bartneriaethau Ffyniant Bro, a mentrau sy’n cefnogi twf economaidd mewn rhanbarthau dinesig ehangach fel parthau buddsoddi.     

Bydd y Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau trefi ddatblygu eu cynllun hirdymor eu hunain ar gyfer eu tref, gyda chyllid dros 10 mlynedd, mewn modd sy’n cyd-fynd â’r materion y mae ymchwil yn dangos bod ar bobl eu heisiau fwyaf, fel:  

  • Gwella trafnidiaeth a chysylltiadau i wneud teithio’n haws i breswylwyr, a chynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref er mwyn hybu cyfleoedd i fusnesau bach a chreu swyddi.     

  • Mynd i’r afael â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol i gadw preswylwyr yn ddiogel a denu ymwelwyr drwy fesurau diogelwch gwell a phlismona mannau problemus    

  • Gwella canol y dref i wneud y stryd fawr yn fwy deniadol a hygyrch, gan gynnwys ail-bwrpasu siopau gwag ar gyfer tai newydd, creu mwy o fannau gwyrdd, glanhau strydoedd neu gynnal diwrnodau marchnad   

Bydd pobl leol wrth galon penderfyniadau, drwy fod yn aelodau uniongyrchol o Fwrdd Trefi newydd – a fydd yn cynnwys grwpiau cymunedol, ASau, busnesau, sefydliadau diwylliannol a chwaraeon, asiantaethau sector cyhoeddus ac awdurdodau lleol ar gyfer pob tref – a thrwy ofyniad i gynnwys pobl leol yn y cynllun hirdymor ar gyfer pob tref. 

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi ‘Tasglu Trefi’ newydd, sy’n eistedd yn yr Adran Ffyniant Bro ac yn adrodd yn uniongyrchol i’r Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Ffyniant Bro. Bydd hyn yn helpu byrddau trefi i ddatblygu eu cynlluniau, ac yn eu cynghori ar y ffordd orau o fanteisio ar bolisïau’r llywodraeth, datgloi buddsoddiad preifat a dyngarol, a gweithio gyda chymunedau.

Bydd ‘Tasglu Trefi a’r Stryd Fawr’ newydd hefyd yn cael ei sefydlu, gan adeiladu ar lwyddiant y fersiwn bresennol, a fydd yn rhoi cymorth pwrpasol ac ymarferol i bob tref ddethol.   

Dyrannwyd cyllid i drefi yn unol â’r Mynegai Anghenion Ffyniant Bro sy’n ystyried metrigau yn ymwneud â sgiliau, cyflog, cynhyrchiant ac iechyd, yn ogystal â’r Mynegai Amddifadedd Lluosog i sicrhau bod cyllid yn mynd yn uniongyrchol i’r trefi a fydd yn elwa fwyaf, heb gystadlaethau newydd na rhwystrau diangen. Cyhoeddir nodyn methodoleg llawn.

Cyhoeddwyd ar 3 October 2023