Stori newyddion

Byddwch yn barod am Brexit: Cyngor i unigolion ac i fusnesau yng Nghymru

Defnyddiwch y dudalen hon i gael y canllawiau diweddaraf gan Lywodraeth y DU cyn i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
Text: Be ready for Brexit.

Byddwch yn barod am Brexit

Dewch o hyd i’r holl wybodaeth gyffredinol ddiweddaraf ar gov.uk/brexit

Paratoi ar gyfer Brexit os ydych chi’n byw yn y Deyrnas Unedig

Ymweld ag Ewrop

Yn cynnwys pasbortau, gyrru a theithio, anifeiliaid anwes a ffioedd defnyddio ffonau symudol.

Astudio yn yr UE

Yn cynnwys Erasmus+ a dewisiadau eraill ar gyfer astudio addysg uwch dramor

Anghydfodau cyfraith teulu yn yr UE

Yn cynnwys ysgariad ac anghydfodau ynghylch cyfrifoldeb rhiant a chynhaliaeth plant

Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn y Deyrnas Unedig

Os ydych chi’n un o ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir, gallwch chi a’ch teulu wneud cais i’r Cynllun Preswylio Sefydlog i Ddinasyddion yr UE er mwyn parhau i fyw yn y DU ar ôl 30 Mehefin 2021. Os bydd eich cais yn llwyddiannus byddwch naill ai’n cael statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog.

Darganfyddwch beth mae angen i chi ei wneud ac erbyn pryd.

Dinasyddion y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd

Ni fydd newid i’ch hawliau a’ch statws fel un o wladolion y DU yn byw yn yr UE tan ar ôl Brexit. Byddwch dal yn gallu gweithio, cael mynediad at ofal iechyd a chasglu eich pensiwn fel rydych yn ei wneud nawr.

Rhagor o wybodaeth am y camau y mae angen i chi eu cymryd gan ddibynnu ar y wlad rydych chi’n byw ynddi.

Busnesau

Paratowch eich busnes neu’ch sefydliad ar gyfer Brexit.

Bydd angen i chi ateb 7 cwestiwn i gael cyfarwyddyd am:

  • beth y mae angen i’ch busnes neu’ch sefydliad ei wneud i baratoi ar gyfer Brexit;
  • beth sy’n newid yn eich diwydiant; a
  • gwybodaeth am reolau a rheoliadau penodol.

Gallwch hefyd chwilio GOV.UK i gael gwybodaeth sydd wedi cael ei chyhoeddi hyd yma er mwyn i’ch busnes baratoi ar gyfer Brexit a chofrestru i gael negeseuon e-bost pan fydd gwybodaeth newydd yn cael ei chyhoeddi.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 Medi 2019 show all updates
  1. Updated narrative to include new links to information on gov.uk/brexit

  2. Added translation