Stori newyddion

Adolygiad o Ffioedd a Thaliadau APHA Diweddariad 2022/2023

Mae adolygiad ar y gweill o’r ffioedd presennol y mae APHA yn eu codi am wasanaethau statudol

Ym mis Awst, gwnaethom gyhoeddi bod APHA yn ymrwymedig i weithio tuag at adennill costau llawn am y gwasanaethau statudol mae’n eu darparu a bod adolygiad o’r holl ffioedd yn cael ei gynnal.

Newidiadau Arfaethedig i Ffioedd

Mae’r adolygiad bellach wedi’i gynnal ar gyfer 5 cynllun arall ac mae APHA a Thîm Cyllid Defra wedi diwygio rhestrau’r ffioedd ar gyfer y gwasanaethau taladwy canlynol:

  • Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid
  • Rheolaethau Bridio Artiffisial
  • Safleoedd Rheoli Ffiniau
  • Cynllun Iechyd Dofednod
  • Rhaglen Reoli Genedlaethol Salmonela (NCP).

Mae manylion am y newidiadau newydd i ffioedd ar gael yn Atodiad 1 isod. Caiff mwyafrif y ffioedd eu cynyddu’n raddol.

Mae disgwyl i’r newidiadau hyn ddod i rym o 1 Gorffennaf 2023 ymlaen yn Lloegr. Gall y dyddiad uchod newid, felly ewch i GOV.UK i weld newidiadau i’r dyddiad gweithredu.

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn ymrwymedig i newid ffioedd yn unol ag APHA hefyd ac maent yn gweithio’n agos i gyflwyno deddfwriaeth ar yr un pryd.

Mae’r ffioedd ar gyfer y Confensiwn ar y Fasnach mewn Rhywogaethau Mewn Perygl (CITES) yn parhau i gael eu hadolygu.

Rhestr-Ffioedd

Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid

Ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr sefydliad neu safle ar gyfer cais am gymeradwyaeth neu gymeradwyaeth amodol o dan Erthygla 20 o Reoliad Rheolaethau Swyddogol

Gweithgaredd Ffioedd Presennol Ffioedd Graddol o 01/07/23 i 30/06/24 Ffioedd o 01/07/24
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i safle ac oddi yno at ddiben cwblhau’r gweithgareddau a nodir yn y Tabl hwn a Thabl 2 £21 £22 £22
Amser a dreuliwyd gan swyddog a gyflogir gan yr Ysgrifennydd Gwladol (heblaw swyddog milfeddygol) yn teithio i safle ac oddi yno at ddiben cwblhau’r gweithgareddau a nodir yn y Tabl hwn a Thabl 2 £14 £12 £12
Ystyried cais i gymeradwyo safle toddi sy’n cynnwys ymweliad o’r safle o hyd at 60 munud £1785 £2134.50 £2484
Ystyried cais i gymeradwyo sefydliad neu safle sy’n trawsffurfio sgîl-gynhyrchion anifeiliaid a/neu gynhyrchion anifeiliaid i mewn i gompost sy’n cynnwys ymweliad o’r safle o hyd at 60 munud £951 £1147 £1343
Ystyried cais i gymeradwyo sefydliad neu safle sy’n trawsffurfio sgîl-gynhyrchion anifeiliaid a/neu gynhyrchion anifeiliaid i mewn i fio-nwy sy’n cynnwys ymweliad o’r safle o hyd at 60 munud £951 £1147 £1343
Ystyried cais i gymeradwyo sefydliad neu safle sy’n ymdrin â sgîl-gynhyrchion anifeiliaid ar ôl eu casglu, drwy weithrediadau megis didoli, torri, oeri, rhewi, halltu, tynnu crwyn neu dynnu deunydd sy’n peri risg, sy’n cynnwys ymweliad o’r safle o hyd at 60 munud £485 £586 £687
Ystyried cais i gymeradwyo sefydliad neu safle sy’n storio sgîl-gynhyrchion anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid sy’n cynnwys ymweliad o’r safle o hyd at 60 munud £485 £586 £687
Ystyried cais i gymeradwyo safle llosgydd sy’n cynnwys ymweliad o’r safle o hyd at 60 munud £395 £476 £557
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol at ddiben cwblhau’r gweithgareddau a nodir yn y Tabl hwn ar ôl 60 munud cyntaf yr ymweliad o’r safle i asesu ei addasrwydd am gymeradwyaeth £395 £476 £557
Amser a dreuliwyd gan swyddog a gyflogir gan yr Ysgrifennydd Gwladol (heblaw swyddog milfeddygol) at ddiben gweinyddu ymweliadau ychwanegol a gweithgareddau cysylltiedig £6 bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir £11 bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir £11 bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
Ffi weinyddol ychwanegol ar gyfer cynhyrchu anfonebau ar gyfer ymweliadau ychwanegol a gweithgareddau cysylltiedig £13 bob anfoneb £21 bob anfoneb £21 bob anfoneb

Ffi sy’n daladwy gan weithredwr sefydliad neu safle ar gyfer ymweliadau archwilio safle a gwblheir o dan Erthygl 20 Rheoliad Rheolaethau Swyddogol

Gweithgaredd Ffioedd Presennol Ffioedd Graddol o 01/07/23 i 30/06/24 Ffioedd o 01/07/24
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol a gyflogir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at ddiben ymweliad archwilio safle sy’n para’n hirach na 30 munud £16 £22 £22
Amser a dreuliwyd gan swyddog a gyflogir gan yr Ysgrifennydd Gwladol (heblaw swyddog milfeddygol) at ddiben ymweliad archwilio safle sy’n para’n hirach na 30 munud £8 bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir £12 bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir £12 bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
Amser a dreuliwyd yn trefnu ymweliad archwilio safle ac ymdrin ag unrhyw gamau gweithredu sy’n codi o’r ymweliad gan swyddog yr Ysgrifennydd Gwladol (heblaw swyddog milfeddygol) £6 bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir £11 bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir £11 bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
Ffioedd ar gyfer cwblhau 30 munud cyntaf ymweliad archwilio safle lle mae cynnal naill ai archwiliad blynyddol neu archwiliad bob dwy flynedd o sefydliad neu safle cymeradwy neu gofrestredig yn ofynnol o dan Reoliad Rheolaethau Swyddogol £157 bob ymweliad £188 bob ymweliad £219 bob ymweliad
Ffi flynyddol ar gyfer cwblhau 30 munud cyntaf o bob un o’r pedwar ymweliad archwilio safle i archwilio sefydliad neu safle cymeradwy neu gofrestredig lle mae archwiliadau chwarterol yn ofynnol o dan Reoliad Rheolaethau Swyddogol £561 y flwyddyn £752 y flwyddyn £876 y flwyddyn
Ffi ar gyfer cwblhau 30 munud cyntaf o bob un o’r deuddeg ymweliad archwilio safle i archwilio sefydliad neu safle cymeradwy neu gofrestredig lle mae archwiliadau misol yn ofynnol o dan Reoliad Rheolaethau Swyddogol £1658 y flwyddyn £2256 y flwyddyn £2628 y flwyddyn

Rheolaethau Bridio Artiffisial - Semen Buchol: Ffioedd

Ffioedd sy’n daladwy gan ymgeiswyr a gweithredwyr o dan Reoliadau 2007

Gweithgaredd Ffioedd Presennol Ffioedd Graddol o 01/07/23 i 30/06/24 Ffioedd o 01/07/24
Amser a dreulir gan swyddog milfeddygol yn cynnal y gweithgareddau a nodir yn y tabl hwn (yn ychwanegol at bob un o’r ffioedd a nodir isod) - mae’r ffioedd am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir £16 £22 £22
Amser a dreulir gan swyddog milfeddygol yn teithio i safle ac oddi yno at ddiben y gweithgareddau a nodir isod – mae’r ffioedd am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 6 gwaith y ffi £21 £22 £22
Ystyried cais am gymeradwyaeth o dan reoliadau 7 a 10 o Reoliadau 2007 ar gyfer defnydd mewn canolfan gasglu ddomestig neu ar safle didrwydded £20 £27 £33
Ystyried cais o dan reoliad 7 o Reoliadau 2007 i gymeradwyo anifail buchol i’w ddefnyddio mewn canolfan gasglu drwyddedig £26 £35 £44
Ystyried cais am drwydded i weithredu canolfan gwarantîn drwyddedig o dan reoliad 4 o Reoliadau 2007 £29 £39 £48
Ystyried cais am drwydded i weithredu canolfan gasglu drwyddedig o dan reoliad 4 o Reoliadau 2007 £27 £37 £46
Cynnal archwiliad o ganolfan semen buchol o dan reoliad 40 o Reoliadau 2007 £17 £23 £28
Archwiliad rheolaidd o anifeiliaid buchol cymeradwy ar gyfer defnydd domestig £23 £31 £38
Archwiliad rheolaidd o anifeiliaid buchol cymeradwy i’w masnachu i aelod Wladwriaeth £23 £31 £38

Rheolaethau Bridio Artiffisial - Semen Moch: Ffioedd

Ffioedd sy’n daladwy o dan Reoliadau 1964 a Rheoliadau 1992

Gweithgaredd Ffioedd Presennol Ffioedd Graddol o 01/07/23 i 30/06/24 Ffioedd o 01/07/24
Amser a dreulir gan swyddog milfeddygol yn cynnal y gweithgareddau a nodir yn y tabl hwn (yn ychwanegol at bob un o’r ffioedd a nodir isod) - mae’r ffioedd am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir £16 £22 £22
Amser a dreulir gan swyddog milfeddygol yn teithio i safle ac oddi yno at ddiben y gweithgareddau a nodir isod – mae’r ffioedd am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 6 gwaith y ffi £21 £22 £22

Cais i gymeradwyo baedd i ddarparu semen at ddiben ffrwythloni artiffisial

Gweithgaredd Ffioedd Presennol Ffioedd Graddol o 01/07/23 i 30/06/24 Ffioedd o 01/07/24
Ystyried cais i gymeradwyo baedd o dan reoliad 2(1) o Reoliadau 1964 at ddiben casglu semen - fesul baedd £31 £42 £53

Profi baedd yn rheolaidd

Gweithgaredd Ffioedd Presennol Ffioedd Graddol o 01/07/23 i 30/06/24 Ffioedd o 01/07/24
Profi baeddod yn rheolaidd adeg ffrwythloni artiffisial - fesul baedd £23 £31 £38

Gweithredu canolfan ffrwythloni artiffisial

Gweithgaredd Ffioedd Presennol Ffioedd Graddol o 01/07/23 i 30/06/24 Ffioedd o 01/07/24
Ystyried cais gan weithredwr am drwydded neu gymeradwyaeth ar gyfer canolfan ffrwythloni artiffisial £27 £37 £46
Ystyried cais i gymeradwyo newid safle trwyddedig (yn unol ag amodau sydd ynghlwm wrth y drwydded) £25 £34 £42
Archwiliad rheolaidd o ganolfan ffrwythloni artiffisial £17 £23 £28

Rheolaethau Bridio Artiffisial – Embryonau Buchol (casglu, cynhyrchu a throsglwyddo) : Ffioedd

Ffioedd sy’n daladwy o dan Reoliadau 1995

Gweithgaredd Ffioedd Presennol Ffioedd Graddol o 01/07/23 i 30/06/24 Ffioedd o 01/07/24
Amser a dreulir gan swyddog milfeddygol yn cynnal y gweithgareddau a nodir yn y tabl hwn (yn ychwanegol at bob un o’r ffioedd a nodir isod) - mae’r ffioedd am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir £16 £22 £22
Amser a dreulir gan swyddog milfeddygol yn teithio i safle ac oddi yno at ddiben y gweithgareddau a nodir isod – mae’r ffioedd am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 6 gwaith y ffi £21 £22 £22
Cais i gymeradwyo tîm trosglwyddo embryonau: domestig, neu at ddefnydd masnachu i aelod Wladwriaeth neu ar storfa fferm £28 £38 £47
Cais i gymeradwyo tîm casglu neu gynhyrchu embryonau heb archwilio labordy £28 £38 £47
Cais i gymeradwyo tîm casglu neu gynhyrchu embryonau lle yr archwilir labordy £28 £38 £47
Cais i ail-gymeradwyo labordy neu storfa yn dilyn unrhyw newidiadau £9 £34 £42
Cymeradwyo storfa neu labordy tîm embryonau ychwanegol, llai na 8 km i ffwrdd, yr un diwrnod £9 £13 £16
Cymeradwyo storfa neu labordy tîm embryonau ychwanegol, mwy na 8 km i ffwrdd £25 £13 £16
Cynnal archwiliad rheolaidd o dimau a safleoedd ychwanegol £4 £6 £7
Cynnal archwiliad rheolaidd o dimau a safleoedd £17 £23 £28

Safleoedd Rheoli Ffiniau - Gwirio llwythi o anifeiliaid byw o drydydd gwledydd mewn mannau rheoli ar y ffin: ffioedd

Ffioedd am archwilio llwythi o anifeiliaid o drydydd gwledydd a gwirio dogfennaeth fewnforio mewn safleoedd archwilio ar y ffin yn unol â rheoliad 15 o Reoliadau 2011

Archwilio’r math o anifail a gwirio dogfennau Ffioedd Presennol Ffioedd (£) o 01/07/23
Dofednod ac adar hela bach £65 £53
Dofednod - wyau rheolaidd a gaiff eu mewnforio £38 £53
Ratidau £65 £53
Adar caeth £64 £61
Pysgod byw, anifeiliaid dyfrol £32 £48
Gwenyn £32 £40
Cwningod £29 £44
Cnofilod £29 £44
Pryfed eraill, infertebratau £26 £40
Ymlusgiaid £26 £48
Anifeiliaid anwes heb ddatganiad gyda nhw £57 £63
Ceffylau £62 £79
Anifeiliaid fferm, gan gynnwys gwartheg, defaid, geifr, camelidau, moch a baeddod gwyllt £146 £190
Anifeiliaid nas cwmpesir gan unrhyw gategori arall £55 £50
Gwirio dogfennau trawslwytho £52 £79

Ffioedd ychwanegol ar gyfer archwiliadau a gwiriadau penodol

Cyfnod y cwblhawyd yr archwiliadau a’r gwiriad Ffioedd Presennol Ffioedd (£) o 01/07/23
Archwiliad a gwiriad y tu allan i oriau £140 £261
Archwiliad neu wiriad yn ystod y penwythnos neu wyliau’r banc £185 £346
Amser a dreulir gan swyddog milfeddygol yn teithio i safle ac oddi yno £16 £16

Ffioedd ar gyfer archwiliadau a gwiriadau ychwanegol oherwydd diffyg cydymffurfiaeth neu fesurau rheoli ychwanegol

Unigolyn sy’n cwblhau’r archwiliadau a’r gwiriadau ychwanegol Ffioedd Presennol Ffioedd o 01/07/23
Y tu allan i oriau ychwanegol GYDA’R NOS - 1/4 awr Uwch-arolygydd Milfeddygol £17 £21
Y tu allan i oriau ychwanegol AR Y PENWYTHNOS - 1/4 awr Uwch-arolygydd Milfeddygol £23 £28
Oriau Safonol Ychwanegol - 1/4 awr Uwch-arolygydd Milfeddygol £11 £14
Amser a dreulir gan swyddog milfeddygol yn teithio i safle ac oddi yno £16 £16

Cynllun Iechyd Dofednod : Ffioedd

Ffioedd am gofrestru a chymeradwyo sefydliad at ddibenion cynllun iechyd dofednod

Gweithgaredd Ffioedd Presennol Ffioedd Graddol o 01/07/23 i 30/06/24 Ffioedd o 01/07/24
Amser a dreulir gan swyddog milfeddygol yn cynnal y gweithgareddau a nodir yn y Tabl hwn (yn y tabl hwn, y “ffi amser”) (yn ychwanegol at y ffioedd a nodir isod oni nodir fel arall yng ngholofn 2) - am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir £16 £22 £22
Amser a dreulir gan swyddog milfeddygol yn teithio i safleoedd aelod o’r cynllun iechyd dofednod ac oddi yno (“aelod o’r cynllun’ yn y tabl hwn) at ddiben y gweithgareddau isod – am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at 6 uned £21 £22 £22
Cofrestriad blynyddol fel aelod o’r cynllun £55 £82 £108
Cymeradwyaeth blwyddyn gyntaf o haid neu ddeorfa, neu haid a deorfa gyfunol aelod o’r cynllun ar un safle lle y cynhelir yr archwiliad gan swyddog milfeddygol £27 £49 £71
Ailgymeradwyaeth flynyddol o haid neu ddeorfa, neu haid a deorfa gyfunol aelod o’r cynllun ar un safle, lle y cynhelir yr archwiliad gan swyddog milfeddygol £56 £62 £67
Ailgymeradwyaeth safle ychwanegol o haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun, lle mae aelod o’r cynllun yn gwneud cais am nifer o safleoedd ar yr un pryd, a lle y cynhelir yr archwiliad gan swyddog milfeddygol £31 £35 £39
Ailgymeradwyaeth flynyddol o haid neu ddeorfa, neu haid a deorfa gyfunol aelod o’r cynllun ar un safle, lle y cynhelir yr archwiliad gan filfeddyg nad yw’n swyddog milfeddygol – nid yw’r ffi amser yn gymwys £54 £61 £67
Ailgymeradwyaeth safle ychwanegol lle mae aelod o’r cynllun yn gwneud cais am nifer o safleoedd ar yr un pryd, a lle y cynhelir yr archwiliad gan filfeddyg nad yw’n swyddog milfeddygol - nid yw’r ffi amser yn gymwys £29 £34 £39

Ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy mewn perthynas â chymeradwyaeth at ddiben y cynllun iechyd dofednod

Gweithgaredd Ffioedd Presennol Ffioedd Graddol o 01/07/23 i 30/06/24 Ffioedd o 01/07/24
Prosesu cais am gymeradwyaeth labordy gychwynnol neu adnewyddiad bob dwy flynedd o gymeradwyaeth labordy £73 £86 £86
Prawf medrusrwydd mewn perthynas â bacterioleg Salmonela (clefyd y cywennod, galinarwm ac arisone) – fesul prawf £131 £158 £158
Prawf medrusrwydd mewn perthynas â seroleg Salmonela (clefyd y cywennod, galinarwm) – fesul prawf £321 £310 £310
Prawf medrusrwydd mewn perthynas â seroleg ieir Mycoplasma (galisepticwm) – fesul prawf £321 £310 £310
Prawf medrusrwydd mewn perthynas â meithriniadau Mycoplasma (galisepticwm a meleagridis) fesul prawf £281 £280 £280
Prawf medrusrwydd mewn perthynas â seroleg tyrcwn Mycoplasma (galisepticwm a meleagridis) - fesul prawf £336 £310 £310

Rhaglen Reoli Genedlaethol Salmonela (NCP): Ffioedd

Ffioedd sy’n daladwy gan yr unigolyn sy’n gyfrifol am y daliad ieir neu dyrcwn y caiff sampl swyddogol eu cymryd, eu prosesu a’u harchwilio ohono at ddibenion Rheoliad (CE) Rhif 2160/2003

Gweithgaredd Ffioedd Presennol Ffioedd Graddol o 01/07/23 i 30/06/24 Ffioedd o 01/07/24
Amser a dreulir yn cael sampl rheoli swyddogol i’w harchwilio mewn labordy (y “ffi amser” yn y tabl hwn) (yn ychwanegol at y ffioedd a nodir isod, oni nodir fel arall yng ngholofn 2) – fesul chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir £9 £12 £12
Amser a dreulir gan swyddog iechyd anifeiliaid yn teithio i safleoedd ac oddi yno at ddiben y gweithgareddau isod - fesul chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir, hyd at 6 uned £14 £12 £12
Cymryd sampl rheoli swyddogol oddi wrth haid o ieir dodwy £32 £41 £49
Cymryd sampl rheoli swyddogol oddi wrth haid o ieir neu dyrcwn magu £52 £68 £83
Cymryd sampl rheoli swyddogol oddi wrth haid o frwyliaid, neu haid o dyrcwn pesgi £72 £95 £117
Archwilio sampl rheoli swyddogol mewn labordy - fesul sampl a brofir (nid yw’r ffi amser yn gymwys) £14 £18 £21

Ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy mewn perthynas â chymeradwyaeth o dan Erthygl 12 Rheoliad (CE) Rhif 2160/2003

Gweithgaredd Ffioedd Presennol Ffioedd Graddol o 01/07/23 i 30/06/24 Ffioedd o 01/07/24
Prosesu cais am gymeradwyaeth labordy gychwynnol neu adnewyddiad bob dwy flynedd o gymeradwyaeth labordy £73 £86 £86
Cynnal archwiliadau a phrosesau sicrhau ansawdd yn seiliedig ar nifer y profion y cymeradwyir y labordy ar eu cyfer - un, dau, tri a phedwar prawf £350 £688 £1,025
Cynnal archwiliadau a phrosesau sicrhau ansawdd yn seiliedig ar nifer y profion y cymeradwyir y labordy ar eu cyfer - un, dau, tri a phedwar prawf £361 £688 £1,025
Cynnal archwiliadau a phrosesau sicrhau ansawdd yn seiliedig ar nifer y profion y cymeradwyir y labordy ar eu cyfer - un, dau, tri a phedwar prawf £372 £688 £1,025
Cynnal archwiliadau a phrosesau sicrhau ansawdd yn seiliedig ar nifer y profion y cymeradwyir y labordy ar eu cyfer - un, dau, tri a phedwar prawf £384 £688 £1,025

Ffioedd sy’n daladwy gan yr unigolyn sy’n gyfrifol am heidiau o ddofednod am gynnal profion o dan bwynt 4(b) o Ran D o Atodiad II i Reoliad (CE) Rhif. 2160/2003

Gweithgaredd Ffioedd Presennol Ffioedd Graddol o 01/07/23 i 30/06/24 Ffioedd o 01/07/24
Cynnal profion ar saith sampl o lwch a charthion a gymerwyd o bob haid £99 £123 £146
Cynnal gwaith samplu a phrofi bacteriolegol o goluddion ac wyffosydd 300 o adar o bob haid £2,470 £3,203 £3,936
Cynnal gwaith samplu a phrofi bacteriolegol o blisgyn a chynnwys 4,000 o wyau o bob haid £3,080 £3,517 £3,954

Rhagor o wybodaeth

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost i APHAChargingEnquiries@apha.gov.uk mailbox.

Cyhoeddwyd ar 10 March 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 June 2023 + show all updates
  1. ABP - Consideration of an application for approval of an establishment or plant manufacturing pet food that includes a site visit of up to 60 minutes fees updated.

  2. Updates made to the Border Control charges

  3. Minor changes to fees listed for Artificial Breeding Controls: Bovine Embryo (Collection, production and transfer)

  4. First published.