Stori newyddion

Taliadau a ffioedd am wasanaethau a ddarperir gan APHA

Mae adolygiad ar y gweill o’r ffioedd presennol y mae APHA yn eu codi am wasanaethau statudol

Cows in a field

Yn 2018, ymrwymodd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) i weithio tuag at adennill costau llawn am y gwasanaethau statudol a ddarperir ganddi. O ganlyniad, mae APHA yn cynnal adolygiad o’r ffioedd presennol a godir ganddi. Drwy gwblhau’r gwaith hwn, bydd modd adennill mwy o gostau a lleihau’r pwysau ar arian cyhoeddus.

Newidiadau Arfaethedig i Ffioedd

Yn dilyn dadansoddiad manwl, mae APHA a Thimau Cyllid Defra wedi diwygio’r rhestr ffioedd ar gyfer dau o’r gwasanaethau y gellir codi tâl amdanynt ar hyn o bryd, sef Gorchmynion Crynoadau Anifeiliaid a Chynllun Cymeradwyo Diheintyddion Defra (cynllun cymeradwyo a weinyddir ar ran y tair gweinyddiaeth ym Mhrydain Fawr), gan ddilyn yr egwyddorion adennill costau a nodir yng nghanllawiau Managing Public Money (Yn Saesneg).

Darperir manylion y newidiadau i ffioedd yn y Rhestr Ffioedd

Mae disgwyl i’r newidiadau hyn ddod i rym o 1 Rhagfyr 2022 a byddant yn gymwys i ffioedd a godir o dan gynllun diheintyddion cymeradwy’r Llywodraeth ac i unrhyw un sy’n gwneud cais am drwydded Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid er mwyn trefnu crynhoad da byw yn Lloegr. Gall y dyddiad uchod newid, felly ewch i GOV.UK i gadarnhau’r dyddiad gweithredu.

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn ymrwymedig i newid ffioedd yn unol ag APHA hefyd ac maent yn gweithio’n agos i gyflwyno deddfwriaeth ar yr un pryd.

Mae APHA hefyd yn bwriadu adolygu’r ffioedd a godir am y gwasanaethau canlynol:

  • Rheolaethau Bridio Artiffisial
  • Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid
  • Safleoedd Rheoli Ffiniau
  • Y Confensiwn ar y Fasnach mewn Rhywogaethau Mewn Perygl (CITES)
  • Cynllun Iechyd Dofednod
  • Rhaglen Reoli Genedlaethol Salmonela

Rhestr-Ffioedd

Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid

Rhestrau Ffioedd am drwyddedu crynoadau anifeiliaid penodol. Mae’r tabl yn dangos y ffioedd arfaethedig er mwyn Adennill Costau Llawn (i’w cyflwyno yn 2023) o gymharu â’r ffioedd presennol.

Gweithgaredd Ffioedd Presennol Ffioedd er mwyn Adennill Costau Llawn
Marchnad - Cais - Ymweliad Sylfaenol £256.00 £379.00
Marchnad - Cais - gydag Ymweliad Ychwanegol £414.00 £685.00
Marchnad - Ailgymeradwyo - Ymweliad Sylfaenol £217.00 £340.00
Marchnad - Ailgymeradwyo - gydag Ymweliad Ychwanegol £342.00 £486.00
Marchnad - Ymweliad Ychwanegol yn Ystod y Flwyddyn - 1 Ymweliad £173.00 £318.00
Sioe - Ceisiadau - Ymweliad Sylfaenol £114.00 £236.00
Sioe - Ceisiadau - Ymweliad Mwy â Sioe £245.00 £408.00
Sioe - Ailgymeradwyo - Dim Ymweliad £91.00 £168.00
Sioe - Ailgeisiadau - gydag Ymweliad – RISG ISEL £110.00 £171.00
Sioe - Ailgeisiadau - gydag Ymweliad – RISG GANOLIG/UCHEL £157.00 £229.00
Amser Swyddog Milfeddygol Ychwanegol (fesul 15 munud) heb gynnwys teithio £16.00 £22.00
Amser Teithio Swyddog Milfeddygol (fesul 15 munud) £21.00 £22.00

Rhestrau Ffioedd yn dangos effaith cynnydd graddol mewn ffioedd dros ddwy flynedd, gan Adennill Costau Llawn yn 2023. Caiff y ffioedd eu cynyddu 50% o gyfanswm y cynnydd yn ystod y 12 mis cyntaf cyn symud i Adennill Costau Llawn.

Gweithgaredd Dyddiad dod i rym Deuddeg mis yn dilyn y dyddiad dod i rym
Marchnad - Cais - Ymweliad Sylfaenol £318.00 £379.00
Marchnad - Cais - gydag Ymweliad Ychwanegol £550.00 £685.00
Marchnad - Ailgymeradwyo - Ymweliad Sylfaenol £279.00 £340.00
Marchnad - Ailgymeradwyo - gydag Ymweliad Ychwanegol £414.00 £486.00
Marchnad - Ymweliad Ychwanegol yn Ystod y Flwyddyn - 1 Ymweliad £246.00 £318.00
Sioe - Ceisiadau - Ymweliad Sylfaenol £175.00 £236.00
Sioe - Ceisiadau - Ymweliad Mwy â Sioe £327.00 £408.00
Sioe - Ailgymeradwyo - Dim Ymweliad £130.00 £168.00
Sioe - Ailgeisiadau - gydag Ymweliad – RISG ISEL £141.00 £171.00
Sioe - Ailgeisiadau - gydag Ymweliad – RISG GANOLIG/UCHEL £193.00 £229.00
Amser Swyddog Milfeddygol Ychwanegol (fesul 15 munud) heb gynnwys teithio £22.00 £22.00
Amser Teithio Swyddog Milfeddygol (fesul 15 munud) £22.00 £22.00

Cynllun Cymeradwyo Diheintyddion Defra

Rhestrau Ffioedd am drwyddedu crynoadau anifeiliaid penodol. Mae’r tabl yn dangos y ffioedd arfaethedig er mwyn Adennill Costau Llawn (i’w cyflwyno yn 2023) o gymharu â’r ffioedd presennol.

Cais Blynyddol neu Newydd EFfi bresennol Ffi er mwyn Adennill Costau Llawn
Ffi flynyddol i wneuthurwyr sydd â chynnyrch cymeradwy £375 £590
Ffi am gais i gael cymeradwyaeth newydd £1,000 £1,399
Pwrpas EFfi bresennol Ffi er mwyn Adennill Costau Llawn
Defnyddio mewn perthynas â chlefydau dofednod (os caiff un gyfradd wanhau ei nodi gan y person sy’n gwneud cais am gymeradwyo’r diheintydd) £1,040 £3,778
Defnyddio mewn perthynas â chlefydau dofednod (os caiff tair cyfradd wanhau eu nodi gan y person sy’n gwneud cais am gymeradwyo’r diheintydd) £1,400 £4,172
Defnyddio mewn perthynas â thwbercwlosis (os caiff un gyfradd wanhau ei nodi gan y person sy’n gwneud cais am gymeradwyo’r diheintydd) £1,300 £1,666
Defnyddio mewn perthynas â thwbercwlosis (os caiff tair cyfradd wanhau eu nodi gan y person sy’n gwneud cais am gymeradwyo’r diheintydd) £1,620 £2,050
Defnyddio mewn perthynas â chlwy’r traed a’r genau £1,920 £3,166
Defnyddio mewn perthynas â chlefyd pothellog y moch £1,920 £3,166
Defnyddio mewn perthynas â phob achos arall lle mae gofyniad deddfwriaethol i ddefnyddio diheintydd cymeradwy (os caiff un gyfradd wanhau ei nodi gan y person sy’n gwneud cais am gymeradwyo’r diheintydd) £715 £1,032
Defnyddio mewn perthynas â phob achos arall lle mae gofyniad deddfwriaethol i ddefnyddio diheintydd cymeradwy (os caiff tair cyfradd wanhau eu nodi gan y person sy’n gwneud cais am gymeradwyo’r diheintydd) £815 £1,131

Rhestrau Ffioedd yn dangos effaith cynnydd graddol mewn ffioedd dros ddwy flynedd, gan Adennill Costau Llawn yn 2023. Caiff y ffioedd eu cynyddu 50% o gyfanswm y cynnydd yn ystod y 12 mis cyntaf cyn symud i Adennill Costau Llawn.

Cais Blynyddol neu Newydd Dyddiad dod i rym Deuddeg mis yn dilyn y dyddiad dod i rym
Ffi flynyddol i wneuthurwyr sydd â chynnyrch cymeradwy £482 £590
Ffi am gais i gael cymeradwyaeth newydd £1,199 £1,399
Pwrpas Dyddiad dod i rym Deuddeg mis yn dilyn y dyddiad dod i rym
Defnyddio mewn perthynas â chlefydau dofednod (os caiff un gyfradd wanhau ei nodi gan y person sy’n gwneud cais am gymeradwyo’r diheintydd) £2,409 £3,778
Defnyddio mewn perthynas â chlefydau dofednod (os caiff tair cyfradd wanhau eu nodi gan y person sy’n gwneud cais am gymeradwyo’r diheintydd) £2,786 £4,172
Defnyddio mewn perthynas â thwbercwlosis (os caiff un gyfradd wanhau ei nodi gan y person sy’n gwneud cais am gymeradwyo’r diheintydd) £1,483 £1,666
Defnyddio mewn perthynas â thwbercwlosis (os caiff tair cyfradd wanhau eu nodi gan y person sy’n gwneud cais am gymeradwyo’r diheintydd) £1,835 £2,050
Defnyddio mewn perthynas â chlwy’r traed a’r genau £2,543 £3,166
Defnyddio mewn perthynas â chlefyd pothellog y moch £2,543 £3,166
Defnyddio mewn perthynas â phob achos arall lle mae gofyniad deddfwriaethol i ddefnyddio diheintydd cymeradwy (os caiff un gyfradd wanhau ei nodi gan y person sy’n gwneud cais am gymeradwyo’r diheintydd) £874 £1,032
Defnyddio mewn perthynas â phob achos arall lle mae gofyniad deddfwriaethol i ddefnyddio diheintydd cymeradwy (os caiff tair cyfradd wanhau eu nodi gan y person sy’n gwneud cais am gymeradwyo’r diheintydd) £973 £1,131

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost i APHAChargingEnquiries@apha.gov.uk.

Cyhoeddwyd ar 18 August 2022