Canlyniad yr ymgynghoriad

Y Comisiwn Elusennau: diwygiadau i'r Ffurflen Flynyddol 2023-25

Applies to England and Wales

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben

Llwytho'r canlyniad llawn i lawr

Manylion am y canlyniad

Yn seiliedig ar adborth yr ymgynghoriad, rydym wedi penderfynu bwrw ymlaen â newidiadau i’r Datganiad Blynyddol. Mae adborth yr ymgynghoriad wedi ein galluogi i wneud diwygiadau sylweddol i gwestiynau terfynol y Datganiad Blynyddol. I grynhoi, y prif newidiadau yw:

  • na fyddwn yn cyflwyno 5 o’r cwestiynau a gynigir yn yr ymgynghoriad

  • y byddwn yn diwygio geiriad 13 cwestiwn i wella eu heglurder, ac mewn rhai achosion yn lleihau’r casglu data neu’r mewnbwn sydd ei angen

  • y byddwn yn creu trothwyon incwm ar gyfer 4 o’r cwestiynau newydd rydym yn eu cyflwyno, er mwyn sicrhau bod y baich rheoleiddio ar yr elusennau lleiaf yn gymesur

  • y byddwn yn dileu 6 chwestiwn yn 2024 lle rydym wedi nodi ei fod yn hanfodol casglu’r data yn AR23, ond bod dulliau amgen wedi cael eu nodi i gasglu data tebyg yn y tymor hir. Byddwn yn parhau i asesu’r cyfle i ddileu cwestiynau pellach lle bod datblygiadau arall yn caniatáu

  • y byddwn wedi adolygu’r holl nodiadau esboniadol a’r eirfa ar gyfer y cwestiynau presennol a newydd er mwyn hyrwyddo cysondeb ac eglurder

Mae Atodiad 8 yn cynnwys rhestr lawn o gwestiynau diwygiedig y Datganiad Blynyddol a fydd yn cael eu nodi yn Rheoliadau Elusennau (Datganiad Blynyddol) 2022] (https://www.gov.uk/government/publications/charity-commission-annual-returns-regulations-2022) a ddaw i rym ar 1 Ionawr 2023.

Bydd y newidiadau i’r Datganiad Blynyddol yn gymwys i flynyddoedd ariannol elusennau sy’n dod i ben ar neu ar ôl 1 Ionawr 2023. Yn gynnar yn 2023 bydd canllaw i’r set newydd o gwestiynau yn cael ei ryddhau i roi manylion ychwanegol am yr hyn rydym yn ei ofyn, pam rydym yn ei ofyn a sut y bydd y data a gasglwn o fudd i’r sector. Bydd y gwasanaeth digidol diwygiedig y bydd elusennau yn ei ddefnyddio i gyflwyno eu Datganiad Blynyddol yn cael ei ryddhau yn ddiweddarach yn 2023.

Manylion am yr adborth a gafwyd

Gwnaethom dderbyn 456 o ymatebion. Darparodd 52% (262) o ymatebwyr adborth ar ran elusen gyda 37% (155) pellach wedi’i dderbyn gan ymddiriedolwyr yn rhannu eu barn personol. Y prif is-grwpiau eraill oedd:

  • person arall sy’n ymwneud â’r sector elusennol (e.e., cynghorydd proffesiynol)

  • sefydliad cynrychioliadol y sector elusennol neu gorff mantell

  • aelod o’r cyhoedd

Roedd yr ymatebion yn gyffredinol yn cefnogi bwriadau’r Comisiwn i adolygu’r Datganiad Blynyddol. Roedd y mwyafrif yn teimlo bod y cwestiynau a gynigiwyd wedi’u cyfiawnhau gyda’r nodau hyn mewn golwg. Roedd y rhan fwyaf yn deall pam y byddai’r Comisiwn yn casglu’r data roeddem yn ei gynnig a beth y byddem yn ei wneud ag ef. Roedd rhai eithriadau i hyn, yn enwedig ar gyfer elusennau llai. Roedd y rhain naill ai’n ymwneud â chymesuredd cyffredinol (h.y. yr amser a gymerwyd i ymateb i’r nifer cynyddol o gwestiynau), neu ansicrwydd ynghylch pa ddata yr oeddem ei eisiau oherwydd pryderon yn ymwneud â strwythur, geiriad neu gymhwysedd penodol y cwestiynau i amgylchiadau pob ymatebydd. Roedd yr adborth hwn yn ein galluogi i nodi ble a sut y gellid gwella’r cynigion, a gweithredwyd arno yn unol â’r adran Canlyniadau uchod.


Ymgynghoriad gwreiddiol

Crynodeb

Ymgynghoriad ar ein hymagwedd at y Ffurflen Flynyddol (AR) a chyfres o gwestiynau newydd arfaethedig. Byddai hyn yn gymwys i flynyddoedd ariannol elusennau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2023.

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg o
to

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rydym yn ymgynghori ar ddull newydd o ymdrin â’r AF ac ar ddiweddaru’r cwestiynau a ofynnwn i elusennau yn yr AB.

Rydym wedi datblygu cwestiynau newydd a fyddai’n darparu data ychwanegol, gan ein galluogi i reoleiddio elusennau yn fwy effeithiol. Ni allwn gael y data hwn rhywle arall. Byddai’r rhan fwyaf o’r cwestiynau a gynigir yma yn cael eu gofyn bob blwyddyn. Fodd bynnag, rydym yn ymgynghori ar hyblygrwydd y Comisiwn i gynnwys neu hepgor rhai cwestiynau yn yr AB ym mhob blwyddyn benodol, yn seiliedig ar y rhesymeg a nodir yn yr ymgynghoriad hwn.

Rydym yn ceisio sicrhau bod y baich cyffredinol ar elusennau yn gymesur ac rydym wedi gwrthbwyso effaith y cwestiynau newydd drwy ddileu cwestiynau diangen a symleiddio’r cwestiynau hynny yr ydym yn eu cadw lle bod modd, er mwyn eu gwneud yn gliriach ac yn haws i gwblhau.

Rydyn ni eisiau gwybod os ydych:

  • yn cytuno bod y set o gwestiynau a gynigir yn berthnasol ac yn gymesur, gan ystyried ein dyletswyddau, ein hamcanion a’n swyddogaethau statudol
  • yn hyderus y byddai elusennau o bob math a maint yn gallu deall yr holl gwestiynau a gynigir, a choladu’r data cywir

Bydd newidiadau yn gymwys i flynyddoedd ariannol elusennau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2023.

Cwmpas

Mae hyn yn berthnasol i elusennau cofrestredig yn Lloegr ac yng Nghymru sydd ag incwm o fwy na £10,000 a phob Sefydliad Elusennol Corfforedig (CIOs).

Nid yw’r ymgynghoriad hwn yn berthnasol i enillion blynyddol a baratoir gan elusen gofrestredig sy’n gronfa fuddsoddi gyffredin neu’n CAIF (cronfa fuddsoddi awdurdodedig elusen). Nid yw’n ofynnol i elusen gofrestredig sy’n gronfa adnau gyffredin a sefydlwyd gan gynllun adnau cyffredin a wnaed neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi’i gwneud o dan adran 100 o Ddeddf Elusennau 2011 baratoi adroddiad flynyddol.

Gan bwy rydyn ni eisiau clywed?

Byddem yn croesawu ymatebion gan y cyhoedd; elusennau, eu hymddiriedolwyr a chyrff cynrychioliadol; llunwyr polisi; a chyllidwyr.

Sut i ymateb

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn dod i ben ar 1 Medi 2022.

Ymatebwch trwy ein hofferyn ar-lein.

Os oes angen i chi ychwanegu rhagor o fanylion neu ddeunydd at eich ymatebion, anfonwch ef drwy e-bost i ARconsultation@charitycommission.gov.uk.

Dogfennau

Tabl E: Cyfrifiadau ar gyfer Asesiad Effaith Rheoleiddiol

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch usability@charitycommission.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.
Cyhoeddwyd ar 9 June 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 March 2023 + show all updates
  1. Fersiwn Gymraeg o'r ymateb i'r ymgynghoriad wedi'i gyhoeddi.

  2. First published.