Publication

Atodiad 3: Rhestr termau Ffurflen Flynyddol 2023

Updated 8 March 2023

Applies to England and Wales

Term Diffiniad neu ystyr
Oedolion mewn perygl Unrhyw berson sy’n 18 oed neu hŷn sydd:

• ag anghenion gofal a chymorth (pe bai’r awdurdod lleol yn diwallu unrhyw un o’r anghenion hynny neu peidio); ac
• Yn profi, neu mewn perygl o dderbyn, camdriniaeth neu esgeulustod; ac
• O ganlyniad i’r anghenion gofal a chymorth hynny, ni all amddiffyn eu hun rhag y risg o gamdriniaeth o esgeulustod, na’r profiad o hynny

Gall fod gan oedolyn sy’n wynebu risg salwch sy’n effeithio ar iechyd meddwl neu gorfforol, anabledd dysgu, dioddef o broblemau cyffuriau neu alcohol neu fod yn fregus.
Cysylltiedig Wedi’i gysylltu’n swyddogol neu’n gysylltiedig ag elusen gofrestredig arall
Sefydliad cysylltiedig Busnesau ble mae ymddiriedolwr neu aelod o deulu ymddiriedolwr yn dal o leiaf 20% o’r hawliau cyfranddaliadau neu hawliau pleidleisio.
Parti Cysylltiedig Yn fras, mae’r term hyn yn golygu teulu, perthnasau neu bartneriaid busnes ymddiriedolwr, yn ogystal â busnesau ble mae gan ymddiriedolwr fuddiant ynddynt trwy berchnogaeth neu ddylanwad. Mae’r term yn cynnwys priod neu bartner sifil ymddiriedolwr, plant, brodyr a chwiorydd, wyrion, a neiniau a theidiau, yn ogystal â busnesau lle mae ymddiriedolwr neu aelod o’r teulu yn dal o leiaf 20% o’r hawliau cyfranddaliadau neu hawliau pleidleisio.
Os yw elusen yn talu parti cysylltiedig am nwyddau a/neu wasanaethau, neu’n gwaredu tir i barti cysylltiedig, mae Deddf Elusennau 2011 yn diffinio beth yw parti cysylltiedig yn a.188 (ar gyfer nwyddau a/neu wasanaethau) ac a.118 (ar gyfer gwarediadau tir).
Consortiwm Grŵp ffurfiol neu anffurfiol o elusennau sy’n cyd-gweithio i gefnogi eu dibenion.
Cyfrannydd Corfforaethol Corffolaeth masnachol sy’n rhoi i elusen
Ymddiriedolwyr Ceidwaid Mae ymddiriedolwr gwarchod yn gorfforaeth a benodwyd gan elusen anghorfforedig i ddal eiddo ar gyfer elusen. Rhaid i ymddiriedolwyr gwarchod weithredu ar gyfarwyddiadau cyfreithlon ymddiriedolwyr elusen.
Gwiriad DBS Mae gwiriad DBS yn wiriad y gall cyflogwyr wneud ar gofnod troseddol rhywun sy’n gwneud cais am rôl. Darperir gwiriadau DBS gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Cronfeydd Dynodedig Er bod rhwymedigaeth gyfreithiol ar ymddiriedolwyr i ddefnyddio cronfeydd yr elusen yn y modd a nodir yn y ddogfen lywodraethol, gallant ddewis i ddynodi neu i ‘glustnodi’ rhai o gronfeydd yr elusen at ddiben arbennig o fewn amcanion yr elusen. Gelwir y cronfeydd hyn yn ‘gronfeydd dynodedig’.
Tir Dynodedig Mae hwn yn dir y mae’n rhaid ei ddefnyddio yn unig at ddiben neu ddibenion arbennig eich elusen yn unol â dogfen lywodraethol eich elusen neu’r dogfennau sy’n esbonio sut mae’n rhaid defnyddio’r tir. Er enghraifft, maes hamdden, neu adeilad y mae’n rhaid ei ddefnyddio ar gyfer ysgol. Weithiau gelwir yn ‘gynhysgaeth parhaol’ neu ‘dir specie’.
Wedi diddymu Gall elusen ddiddymu is-gwmni masnachu os yw’r is-gwmni yn segur, nid yw’n masnachu rhagor, neu os nad yw’r ymddiriedolwyr yn ystyried bod gweithredu’r is-gwmni masnachu er lles gorau’r elusen. Gall is-gwmni masnachu gael ei ddiddymu drwy wneud cais i Dŷ’r Cwmnïau er mwyn cael ei ddileu o’r gofrestr a’i ddiddymu, neu caiff y cofrestrydd ddileu is-gwmni masnachu o’r gofrestr.
Cyflogedig vs o dan gontract ‘Gweithiwr yw rhywun sy’n gweithio o dan gontract cyflogaeth.
Mae contractwr yn hunangyflogedig.
Ffederaleiddio Strwythur trefniadol gydag un corff canolog sy’n cysylltu grŵp o sefydliadau ble mae pob un ohonynt yn cadw rhywfaint o ymreolaeth fewnol. Er enghraifft, mae’r elusen Mind yn rhwydwaith sydd wedi’i ffederaleiddio.
Cytundeb ysgrifenedig ffurfiol Mae’r Comisiwn Elusennau yn cynghori ei bod yn arfer da i elusen i sicrhau bod cytundeb ysgrifenedig gydag unrhyw bartneriaid tramor. Bydd hyn fel arfer ar ffurf contract cyfreithiol rhwymol yn nodi natur y berthynas a’r rolau a’r cyfrifoldebau priodol. Mae canllawiau pellach ar gytundebau ysgrifenedig gyda phartneriaid tramor a chytundeb templed ar gael yma.
Dogfen Lywodraethu Mae dogfen lywodraethol elusen yn ddogfen gyfreithiol sy’n pennu dibenion yr elusen a sut mae’r elusen yn cael ei rhedeg. Fel arfer mae ar ffurf cyfansoddiad, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu, neu erthyglau cymdeithasu neu ewyllys.
Ymddiriedolwyr Daliadol Mae ymddiriedolwyr daliadol yn unigolion a benodir gan elusennau anghorfforedig i ddal eiddo ar gyfer elusen. Rhaid i ymddiriedolwyr daliadol weithredu ar gyfarwyddiadau cyfreithlon yr ymddiriedolwyr elusen ac yn unol ag unrhyw ddarpariaethau yn y ddogfen lywodraethol.
Cynnal Mae gwefan yn cael ei chynnal yn lleoliad y gweinydd sy’n storio ffeiliau’r wefan.
Cyfrannydd unigol Unigolyn sy’n cyfrannu at elusen
Aelodau Mae gan bob elusen ymddiriedolwyr elusen, ac mae gan rai elusennau aelodau elusen hefyd. Os oes aelodau gan elusen, bydd eu rôl yn cael ei ddiffinio yn nogfen lywodraethol yr elusen. Gall fod gan aelodau’r hawl i bleidleisio i benodi ymddiriedolwyr neu hawliau eraill sy’n ymwneud â llywodraethu elusennau.
Incwm Un Ffrwd Cyflenwad rheolaidd o arian o un ffynhonnell. Er enghraifft:

• grant Awdurdod Lleol
• grant gan un corffolaeth fel Cronfa Dreftadaeth y Loteri
• incwm rhent o eiddo mae’r elusen yn berchen arno
Ceidwad Swyddogol Mae’r Ceidwad Swyddogol yn gorfforaeth a grëwyd gan statud er mwyn dal tir ar ran elusennau. Mewn gwirionedd maent yn aelod o staff y Comisiwn Elusennau a benodir i’r rôl hon.
Partner Tramor Sefydliad neu endid sydd wedi’i leoli y tu allan i’r DU sy’n darparu nwyddau a/neu wasanaethau y tu allan i’r DU ar ran elusen.
Aelod Rhanbarthol Elusen ar wahân sydd gyda’i bwrdd ymddiriedolwyr ei hun a sy’n gysylltiedig ag elusen genedlaethol.
Cronfeydd Cyfyngedig Cronfeydd cyfyngedig yw cronfeydd sy’n amodol ar ymddiriedolaethau penodol sy’n dod o fewn dibenion ehangach yr elusen.
Gall cronfeydd cyfyngedig fod yn gronfeydd incwm cyfyngedig, sy’n cael eu gwario yn ôl disgresiwn yr ymddiriedolwyr er mwyn hyrwyddo agwedd arbennig ar ddibenion yr elusen, neu gallant fod yn gronfeydd gwaddol, lle mae’n rhaid i’r asedau gael eu buddsoddi, neu eu cadw at ddefnydd gwirioneddol, yn hytrach na gwario.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan: Codi arian i elusennau: canllaw i ddyletswyddau ymddiriedolwyr (CC20) - GOV.UK (www.gov.uk)
Is-gwmni Masnachu Cwmni sy’n eiddo i un neu fwy o elusennau a sefydlwyd i fasnachu ac sy’n cael ei reoli ganddynt. Diben is-gwmni masnachu fel arfer yw cynhyrchu incwm ar gyfer ei uwch elusen, er enghraifft siop goffi mewn amgueddfa.
Ymddiriedaeth Mae ymddiriedolaeth yn berthynas gyfreithiol lle mae asedau’n cael eu rhoi o dan reolaeth un neu fwy o ymddiriedolwyr er budd un neu fwy o fuddiolwyr, neu at un neu fwy o ddibenion penodedig.
Corff ymbarél Sefydliad canolog, cydlynu sy’n cynrychioli grŵp o elusennau annibynnol maint-llai.