Publication

Atodiad 8: Cwestiynau Datganiad Blynyddol Elusennau 2023

Updated 8 March 2023

Cyfnod ariannol

Bydd gofyn i chi gadarnhau cyfnod ariannol eich elusen.

Os yw dyddiadau diwedd y cyfnod ariannol a ddangosir yn anghywir, gallwch eu newid trwy ddefnyddio’r wasanaeth Newid.

Incwm a gwariant

Nodwch incwm a gwariant eich elusen yn y cyfnod ariannol ar gyfer y datganiad blynyddol hwn yn y blychau.

Talgrychwch bob ffigur i’r bunt agosaf (peidiwch â nodi pwyntiau degol neu atalnodau).

Incwm

Contractau’r Llywodraeth

C. Sawl contract (ac eithrio cytundebau grant) gafodd eich elusen gan lywodraeth ganolog neu awdurdod lleol?

C. Beth oedd cyfanswm gwerth y contractau a dderbyniwyd gan lywodraeth ganolog neu awdurdod lleol yn ystod cyfnod ariannol y ffurflen hon?

Grantiau’r Llywodraeth

C. Sawl grant gafodd eich elusen gan lywodraeth ganolog neu awdurdod lleol yn ystod cyfnod ariannol y ffurflen hon?

C. Beth oedd cyfanswm gwerth y grantiau a dderbyniwyd gan lywodraeth ganolog neu awdurdod lleol yn ystod cyfnod ariannol y ffurflen hon?

Dadansoddiad Incwm

Elusennau gydag incwm gros o £500k neu lai yn y cyfnod ariannol ar gyfer y ffurflen hon

C. Beth oedd cyfanswm gwerth yr incwm a dderbyniwyd yn ystod cyfnod ariannol y ffurflen hon gan:

a. Rhoddion a chymynroddion

b. Gweithgareddau elusennol

c. Gweithgareddau masnachu eraill

ch. Buddsoddiadau

Talgrychwch bob ffigur i’r bunt agosaf (peidiwch â nodi pwyntiau degol neu atalnodau).

Rhoddion

Elusennau gydag incwm gros o fwy na £100,000 yn y cyfnod ariannol ar gyfer y ffurflen hon

C. Beth oedd gwerth rhodd gwerth uchaf unigol eich elusen a dderbyniwyd gan roddwr corfforaethol yn ystod cyfnod ariannol y ffurflen hon?

Talgrychwch bob ffigur i’r bunt agosaf (peidiwch â nodi pwyntiau degol neu atalnodau).

C. Beth oedd gwerth rhodd gwerth uchaf unigol eich elusen a dderbyniwyd gan unigolyn yn ystod cyfnod ariannol y ffurflen hon?

Talgrychwch bob ffigur i’r bunt agosaf (peidiwch â nodi pwyntiau degol neu atalnodau).

C. Beth oedd gwerth rhodd gwerth uchaf unigol eich elusen a dderbyniwyd gan barti cysylltiedig yn ystod cyfnod ariannol y ffurflen hon?

Talgrychwch bob ffigur i’r bunt agosaf (peidiwch â nodi pwyntiau degol neu atalnodau).

Gwariant

Gwneud grantiau

C. Ai gwneud grantiau yw’r brif ffordd mae eich elusen yn cyflawni ei phwrpasau?

C. Yn y cyfnod ariannol ar gyfer y ffurflen hon, pa ganran o gyfanswm y grantiau a roddwyd i:

a. Unigolion

b. Elusennau eraill

c. Sefydliadau eraill nad ydynt yn elusennau

Talgrychwch bob ffigur i’r bunt agosaf (peidiwch â nodi pwyntiau degol neu atalnodau).

C. A oes unrhyw rai o’r derbynwyr grant uchod yn bartïon cysylltiedig?

Taliadau ymddiriedolwyr

C. Heb gynnwys mân dreuliau, ar gyfer beth y talwyd unrhyw un o’r ymddiriedolwyr yn ystod cyfnod ariannol y ffurflen hon?

a. talu am fod yn ymddiriedolwr

b. talu am rôl o fewn unrhyw un o is-gwmnïau masnachu’r elusen neu sefydliadau cysylltiedig

c. talu am ddarparu nwyddau a/neu wasanaethau i’r elusen neu unrhyw un o’i his-gwmnïau masnachu neu sefydliadau cysylltiedig

ch. dim un o’r uchod

d. ymddiriedolwyr heb eu talu

C. A wnaeth unrhyw un o’r ymddiriedolwyr ymddiswyddo a dechrau cyflogaeth gyda’ch elusen yn ystod cyfnod ariannol y ffurflen hon?

Gweithgareddau y tu allan i’r Deyrnas Unedig

Incwm a dderbyniwyd o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig

C. A dderbyniodd eich elusen incwm o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig yn ystod cyfnod ariannol y ffurflen hon?

Os byddwch yn ateb ‘Do’, cyflwynir tabl o wledydd i chi. Dewiswch y gwledydd y derbyniodd eich elusen incwm ohonynt neu dewiswch ‘Anhysbys’.

Yna atebwch y cwestiynau canlynol.

C. Ar gyfer pob gwlad, beth oedd gwerth yr incwm a dderbyniwyd oddi wrth:

a. Llywodraethau neu gyrff lled-lywodraeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig (gan gynnwys yr Undeb Ewropeaidd)

b. Elusennau, sefydliadau anllywodraethol neu ddielw y tu allan i’r Deyrnas Unedig

c. Cwmnïau preifat y tu allan i’r Deyrnas Unedig

ch. Rhoddwyr unigol sy’n byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig

d. Anhysbys

Talgrychwch bob ffigur i’r £100 agosaf (peidiwch â nodi pwyntiau degol neu atalnodau).

C. Sut cafodd eich elusen incwm o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig yng nghyfnod ariannol y ffurflen hon? (Ticiwch bob un sy’n gymwys)

a. Systemau Trosglwyddo Gwerth Anffurfiol (IVTS)

b. Busnesau Gwasanaeth Arian (MSBs)

c. Busnesau sydd wedi cael eu hawdurdodi i ddarparu ‘Gwasanaethau talu’

ch. Cludwyr arian parod

d. Arian cyfred cripto

dd. Arall

Cyflawni gweithgareddau elusennol y tu allan i’r Deyrnas Unedig

C. A gyflawnodd eich elusen weithgareddau elusennol y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn ystod cyfnod ariannol y ffurflen hon?

Os byddwch yn ateb ‘Do’, cyflwynir tabl o wledydd i chi. Dewiswch y gwledydd y mae eich elusen wedi darparu gweithgareddau elusennol ynddynt (gan gynnwys trwy bartneriaid neu drydydd partïon) neu dewiswch anhysbys.

C. Oes gan eich elusen gytundebau ysgrifenedig ffurfiol gydag unrhyw bartneriaid sy’n darparu gweithgareddau elusennol ar ei ran y tu allan i’r Deyrnas Unedig?

Gwariant y tu allan i’r Deyrnas Unedig

C. A wariodd eich elusen arian y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn ystod cyfnod ariannol y ffurflen hon?

Os byddwch yn ateb ‘Do’, cyflwynir tabl o wledydd i chi. Dewiswch y gwledydd y gwariodd eich elusen arian ynddynt (gan gynnwys drwy bartneriaid neu drydydd partïon) a chofnodwch gyfanswm y gwariant fesul gwlad i’r £100 agosaf

C. Faint o arian a anfonodd eich elusen i gyd y tu allan i’r Deyrnas Unedig gan ddefnyddio dull heblaw’r system fancio a reoleiddir yng nghyfnod ariannol y ffurflen hon?

Talgrychwch bob ffigur i’r £100 agosaf (peidiwch â nodi pwyntiau degol neu atalnodau).

C. Sut cafodd arian ei drosglwyddo y tu allan i’r Deyrnas Unedig gan eich elusen yn ystod cyfnod ariannol y ffurflen hon? (Ticiwch bob un sy’n gymwys)

a. Systemau Trosglwyddo Gwerth Anffurfiol (IVTS)

b. Busnesau Gwasanaeth Arian (MSBs)

c. Busnesau sydd wedi cael eu hawdurdodi i ddarparu ‘Gwasanaethau talu’

ch. Cludwyr arian parod

d. Arian cyfred cripto

dd. Arall

Is-gwmnïau masnachu

C. Oes gan eich elusen unrhyw is-gwmnïau masnachu?

Os byddwch yn ateb ‘Oes’, gofynnir i chi:

C. Oes unrhyw un o is-gwmnïau masnachu eich elusen wedi cael eu diddymu yn ystod cyfnod ariannol y ffurflen hon?

C. Faint o ymddiriedolwyr eich elusen sydd hefyd yn gyfarwyddwyr yr is-gwmni masnachu neu’r is-gwmnïau masnachu ar ddyddiad y ffurflen hon?

Lleoliadau

Cyfeiriadau elusen

Bydd yr elusen yn cael cyfeiriad cyhoeddus wedi’i dynnu o’r Gofrestr Elusennau a gofynnir iddi

C. A yw’r manylion cyfeiriad cyhoeddus a ddangosir ar y Gofrestr Elusennau, yn gywir?

Os yw’r elusen yn nodi na: rhowch gyfeiriad cyhoeddus eich elusen

C. Ai hwn yw’r un cyfeiriad y mae’r elusen yn ei ddefnyddio â phencadlys gweinyddol yr elusen?

Os yw’r elusen yn nodi na: rhowch gyfeiriad pencadlys gweinyddol eich elusen

Eiddo

C. Oedd unrhyw un o eiddo eich elusen yn cael ei ddal gan ymddiriedolwyr daliannol neu ymddiriedolwyr gwarchod ar ran yr elusen (ac eithrio’r Ceidwad Swyddogol) yn ystod cyfnod ariannol y ffurflen hon?

Strwythurau

C. Ydy eich elusen yn rhan o strwythur grŵp ehangach gyda rhiant gorff ac is-gyrff?

a. ydy, mae’r elusen yn rhiant gorff

b. ydy, mae’r elusen yn gorff atodol

c. na, nid yw’r elusen yn rhan o strwythur grŵp ehangach

ch. anhysbys

C. Heblaw am ymddiriedolwyr, oes gan eich elusen aelodau sydd â hawl i bleidleisio o dan ddogfennau llywodraethu’r elusen?

Gweithwyr a gwirfoddolwyr

Gweithwyr

C. Ar ddiwedd cyfnod ariannol y ffurflen hon, faint o:

a. Bobl a gyflogwyd yn barhaol gan eich elusen

b. Bobl ar gontractau cyfnod penodol oedd gyda’ch elusen

c. Bobl hunangyflogedig oedd yn gweithio i’ch elusen

C. Faint o’r bobl uchod sy’n gweithio ar ran eich elusen y tu allan i’r Deyrnas Unedig?

C. Beth oedd y cyfanswm a wariwyd ar gyflogres gweithwyr yn ystod cyfnod ariannol y ffurflen hon?

Talgrychwch bob ffigur i’r bunt agosaf (peidiwch â nodi pwyntiau degol neu atalnodau).

C. Oedd unrhyw un o weithwyr eich elusen wedi derbyn cyfanswm buddion cyflogaeth o £60,000 neu fwy yn ystod cyfnod ariannol y ffurflen flynyddol hon?

Os byddwch yn ateb ‘Oedd’, gofynnir i chi:

Nodwch nifer y gweithwyr ar gyfer pob un o’r bandiau cyflog canlynol:

a. £60,000 i £70,000

b. £70,001 i £80,000

c. £80,001 i £90,000

ch. £90,001 i £100,000

d. £100,001 i £110,000

dd. £110,001 i £120,000

e. £120,001 i £130,000

f. £130,001 i £140,000

ff. £140,001 i £150,000

g. £150,001 i £200,000

ng. £200,001 i £250,000

h. £250,001 i £300,000

i. £300,001 i £350,000

l. £350,001 i £400,000

ll. £400,001 i £450,000

m. £450,001 i £500,000

n. Mwy na £500,000

C. Beth oedd gwerth cyfanswm buddion gweithwyr (gan gynnwys cyflog) a ddarparwyd gan eich elusen i’w gweithiwr cyflogedig uchaf yn ystod cyfnod ariannol y ffurflen hon?

Talgrychwch bob ffigur i’r bunt agosaf (peidiwch â nodi pwyntiau degol neu atalnodau)

Gwirfoddolwyr

C. Ac eithrio ymddiriedolwyr, rhowch amcangyfrif o nifer y gwirfoddolwyr a gyflawnodd weithgareddau elusennol ar ran eich elusen yn y Deyrnas Unedig yn ystod cyfnod ariannol y ffurflen hon?

Llywodraethu

C. Pa un o’r polisïau a’r gweithdrefnau canlynol oedd gan eich elusen ar ddiwedd cyfnod ariannol y ffurflen hon? (Ticiwch bob un sy’n gymwys)

a. Polisi a gweithdrefnau rheolaethau ariannol mewnol elusennau

b. Diogelu polisïau a gweithdrefnau

c. Polisi a gweithdrefnau cronfeydd ariannol

ch. Polisi a gweithdrefnau cwyno

d. Polisi a gweithdrefnau adrodd am ddigwyddiadau difrifol

dd. Polisi a gweithdrefnau cronfeydd ariannol elusennau

e. Polisi a gweithdrefnau rheoli risg mewnol

f. Polisi a gweithdrefnau treuliau ymddiriedolwyr

ff. Polisi a gweithdrefnau gwrthdaro buddiannau ymddiriedolwyr

g. Polisi a gweithdrefnau buddsoddi cronfeydd elusen

ng. h. Polisi a gweithdrefnau ymgyrchoedd a gweithgaredd gwleidyddol

i. Polisi a gweithdrefnau bwlio ac aflonyddu

l. Polisi a gweithdrefnau cyfryngau cymdeithasol

ll. Cynnwys siaradwyr allanol mewn digwyddiadau elusennol polisi a gweithdrefnau

Diogelu a risg

Diogelu

C. Ydy’ch elusen wedi darparu gwasanaethau i blant a/neu oedolion sy’n wynebu risg yn ystod cyfnod ariannol y ffurflen dreth?

C. Ac eithrio Gwiriadau DBS Sylfaenol, a yw eich elusen wedi cael y lefel ofynnol o wiriadau DBS ar gyfer pob rôl sy’n gymwys ar eu cyfer yn ystod cyfnod ariannol y ffurflen hon? (Ticiwch bob un sy’n gymwys)

a. Ydy, mae’r holl wiriadau DBS Safonol gofynnol wedi’u sicrhau

Ydy, mae’r holl wiriadau DBS Manwl gofynnol wedi’u sicrhau

c. Ydy, mae’r holl wiriadau DBS Manwl gofynnol gyda Rhestr(au) Gwahardd wedi’u sicrhau

ch. Nid oes angen gwiriadau DBS ac eithrio gwiriadau DBS Sylfaenol

Digwyddiadau Difrifol

Elusennau gydag incwm gros o fwy na £25,000 yn y cyfnod ariannol ar gyfer y ffurflen hon

C. A yw eich elusen wedi adrodd am bob Digwyddiad Difrifol (gan gynnwys unrhyw ddigwyddiadau hanesyddol) y daeth yr elusen yn ymwybodol ohonynt yn ystod cyfnod ariannol y ffurflen hon?

a. Ydy

b. Nac ydy

c. Nid oedd unrhyw ddigwyddiadau difrifol i’w hadrodd

Risg ac effaith allanol

C. Ydy’r digwyddiad wedi cael effaith ar eich elusen yn ystod cyfnod ariannol y ffurflen hon? Ticiwch yr holl opsiynau sy’n berthnasol.

Effaith gadarnhaol wedi’i hamcangyfrif ar neu gynnydd mewn:

a. Rhoddion

b. Incwm arall – grantiau

c. Incwm arall – contractau

ch. Incwm arall - buddsoddiad

d. Gwariant ar weithgareddau elusennol

dd. Gwariant ar gostau cyffredinol

e. Nifer y gwirfoddolwyr

f. Nifer y gweithwyr

ff. Nifer yr ymddiriedolwyr

g. Gweithgareddau codi arian

ng. Y gallu i ddarparu gwasanaethau

h. Cyfanswm galw am wasanaeth

Effaith negyddol amcangyfrifedig ar:

a. Rhoddion

b. Incwm arall – grantiau

c. Incwm arall – contractau

ch. Incwm arall - buddsoddiad

d. Gwariant ar weithgareddau elusennol

dd. Gwariant ar gostau cyffredinol

e. Nifer y gwirfoddolwyr

f. Nifer y gweithwyr

ff. Nifer yr ymddiriedolwyr

g. Gweithgareddau codi arian

ng. Y gallu i ddarparu gwasanaethau

h. Cyfanswm galw am wasanaeth