Consultation outcome

Ymddygiad sy'n rheoli neu'n gofodi: Fframwaith canllawiau statudol (accessible)

Updated 27 July 2023

Applies to England and Wales

Crynodeb Gweithredol

Mae’rcanllawiau statudol hyn yn cael eu cyhoeddi o dan adran 77 Deddf Troseddau Difrifol 2015 (Deddf 2015). Rhaid i unrhyw bersonau neu asiantaeth sy’n ymchwilio i droseddau mewn perthynas ag ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi o dan adran 76 Deddf 2015 eu hystyried. Mae’r canllawiau hyn yn bennaf ar gyfer cyrff statudol ac anstatudol sy’n gweithio gyda dioddefwyr, cyflawnwyr a gwasanaethau comisiynu, gan gynnwys yr heddlu, cyfiawnder troseddol ac asiantaethau eraill.

Mae’r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth am ymddygiad reoli neu orfodi, i gynorthwyo’r heddlu, cyfiawnder troseddol ac asiantaethau eraill i nodi, dangos tystiolaeth, cyhuddo, erlyn a chollfarnu’r drosedd. Mae’r canllawiau hyn hefyd yn rhoi gwybodaeth am sut i leihau’r risg o niwed i’r dioddefwr a’i deulu; yn darparu cymorth i’r dioddefwr a’i deulu, gan gynnwys sut y gall asiantaethau a gwasanaethau cymorth eraill gynorthwyo; a rheoli’r cyflawnwr.

Mae ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi yn fath o gam-drin domestig. Bwriedir i’r canllawiau hyn gael eu darllen ochr yn ochr â’r Canllawiau Statudol ar Gam-drin Domestig, Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 a Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru am Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (strategaeth newydd i’w chyhoeddi yn 2022). Mae’r Llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi Strategaeth newydd ar gyfer Mynd i’r Afael â Thrais yn Erbyn Menywod a Merched (VAWG) sy’n dilyn Cynllun Mynd i’r Afael â Cham-drin Domestigadogfencefnogi dioddefwyr troseddau dynion a ystyriwyd yn drais yn erbyn menywod a merched. Mae’r rhain yn atodol I Ddatganiad Cenedlaethol o Ddisgwyliadau diwygiedig, sy’n rhoi canllawiau clir a chyson i ardaloedd lleol ar sut i gomisiynu gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr o bob math o drais yn erbyn menywod a merched.

Dylai gweithwyr proffesiynol fod yn ymwybodol bod ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi yn batrwm o ymddygiad, sy’n aml yn cwmpasu amrywiaeth o ymddygiadau camdriniol fel cam-drin corfforol, rhywiol ac economaidd.

Mae’r canllawiau hyn yn adlewyrchu cynnwys y Canllawiau Statudol drafft am Gam-drin Domestig er mwyn sicrhau bod y ddwy ddogfen yn cyd-fynd. Daeth ymgynghoriad ar y Canllawiau Statudol drafft am Gam-drin Domestig i ben ym Medi 2021 a chyhoeddir y fersiwn derfynol yn 2022. Bydd unrhyw newidiadau pellach a wneir i’r Canllawiau Statudol am Gam-drin Domestig ar ôl y cyfnod ymgynghori hefyd yn cael eu hadlewyrchu yn fersiwn derfynol y canllawiau hyn.

Mae Adran 1 yn nodi statws a phwrpas y canllawiau hyn. Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o’r drosedd ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi a rhagor o fanylion am nodau’r canllaw hwn a’r gynulleidfa ar ei gyfer.

Mae Adran 2 yn rhoi rhagor o fanylion am yr hyn sydd gyfystyr ag ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi, canllawiau ar sut i nodi a dangos tystiolaeth o’r drosedd, gan gynnwys cynnal asesiadau risg priodol; trosolwg o dactegau cyflawnwyr; gwybodaeth am lle nad yw’r drosedd yn gymwys ac ystyriaethau ar gyfer troseddau eraill.

Mae adran 3 a 4 yn rhoi manylion am yr amddiffyniadlle mae’r diffynnydd yn credu ei fod/ei bod yn gweithredu er budd y dioddefwr, cosbau troseddol a gorchmynion amddiffyn ar gyfer y drosedd ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi.

Mae Adran 5 yn amlinellu pwysigrwydd ymateb amlasiantaethol a sut y gall gwasanaethau cymorth a gwasanaethau eraill gynorthwyo’r dioddefwr a’i deulu a rheoli’r cyflawnwr.

Mae Adran 6 yn darparu gwybodaeth am niwed cysylltiedig, troseddau ac is-setiau eraill o gam-drin domestig.

Mae Adran 7 yn nodi ystyriaethau cysyltiedig allweddol, sut y gall dioddefwyr fod yn destun ymddygiad camdriniol luosog rheolaidd oherwydd eu nodweddion gwahanol a sut y gall hyn fod yn rhwystr i gael mynediad i wasanaethau a chymorth, yn enwedig os nad ydynt wedi’u cynllunio’n ddigonol i ddiwallu eu hanghenion.

Ceir rhestr o acronymau y canllawiau hyn yn Atodiad G.

Adran 1 – Diben y canllawiau hyn

Rhagair

1.Cyflwynodd Adran 76 Deddf Troseddau Difrifol 2015 (Deddf 2015) drosedd o ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi mewn perthynas agos neu deuluol. Daethpwyd â’r drosedd i rym i gydnabod effaith ddifrifol ymddygiad o’r fath; ymddygiad sy’n aml yn cynnwys cam-drin economaidd, emosiynol a seicolegol, yn ogystal â bygythiadau, p’un a yw trais corfforol a rhywiol, a cham-drin wedi digwydd ai peidio. Daethpwyd â’r drosedd i rym hefyd i osgoi cael bwlch deddfwriaethol pan oedd y math hwn o ymddygiad yn digwydd rhwng partneriaid agos ond roedd yn anodd ei erlyn fel aflonyddu (oherwydd gallai fod ar gyfer cyn-bartneriaid neu aelodau o’r teulu). Mae’r drosedd yn cario uchafswm cosb o bum mlynedd o garchar.

2.Roedd y drosedd o ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodiyn flaenorol ond yn dal ymddygiad rhwng partneriaid agos presennol, p’un a oeddent yn cyd-fyw ai peidio, a chynbartneriaid neu aelodau o’r teulu sy’n byw gyda’i gilydd. Roedd hyn yn golygu na ellid erlyn cam-drin gan gyn bartner neu aelod o’r teulu, lle nad oedd y dioddefwr a’r cyflawnwr yn byw gyda’i gilydd mwyach, am ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi. O’r herwydd, pan adroddwyd, roedd diffyg eglurder yn aml ynghylch pa drosedd i’w chymhwyso, ac roedd ymddygiad rheoli neu orfodi yn aml yn cael ei gyhuddo a’i erlyn gan ddefnyddio troseddau eraill, megis stelcian neu aflonyddu (fel cwrs o ymddygiad sy’n digwydd ar ddau achlysur neu fwy).

3.Diwygiodd adran 68 Deddf Cam-drin Domestig 2021 (Deddf 2021) y diffiniad o “wedi’i gysylltu yn bersonol’’ yn adran 76 Deddf 2015. Roedd hyn yn dileu’r gofyniad “byw gyda’i gilydd”, sy’n golygu y bydd y drosedd o reoli neu orfodi yn berthnasol i bartneriaid, cyn bartneriaid neu aelodau o’r teulu, p’un a yw’r dioddefwr a’r cyflawnwr yn byw gyda’i gilydd ai peidio. Felly, nid yw’n bellach yn ofynnol i bartneriaid agos, cyn bartneriaid neu aelodau o’r teulu fyw gydai’i gilydd, er mwyn cael eu hystyried yn “wedi’i gysylltu yn bersonol”.

4.Mae’r newid hwn i’r gyfraith wedi’i wneud gan ein bod yn gwybod nad yw ymddygiad rheoli neu orfodi yn dod i ben pan ddaw perthynas i ben, a gall yn aml ddwysáu a gwaethygu ar ôl gwahanu. Cyn ymestyn y drosedd, roedd yr heddlu, sefydliadau cam-drin domestig ac erlynwyr yn aml yn codi pryderon nad oedd yn glir pryd mae perthynas wedi dod i ben, gan fod perthnasoedd lle mae ymddygiad rheoli neu orfodi yn bresennol, yn aml yn dod i ben ond wedyn yn ailddechrau dros gyfnod o amser. Gall dioddefwyr gael eu gorfodi gan y cyflawnwr i ddychwelyd i’r berthynas, gallant deimlo bod angen iddynt fod yn y berthynas o reidrwydd (e.e. oherwydd anghenion tai, dibyniaeth ariannol, diffyg cefnogaeth y tu allan i’r berthynas) [footnote 1]neu gallant deimlo bod aros yn y berthynas yn fwy diogel, gan fod gwahanu yn ffactor risg sylweddol mewn achosion o gam-drin domestig.[footnote 2]Mae hyn yn aml yn cyflwyno heriau i’r heddlu ac erlynwyr o ran casglu tystiolaeth i adeiladu achos naill ai ar ymddygiad rheoli a gorfodi neu stelcian.

Mae dileu’r gofyniad i gyn bartneriaid neu aelodau o’r teulu barhau i fod yn”byw gyda’i gilydd” yn ceisio mynd i’r afael â’r materion hyn.

5.Bydd y diwygiad i’r drosedd ymddygiad rheoli neu orfodi yn dod i rym yn ddiweddarach eleni. Mae’r canllawiau statudol hyn wedi’u diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau a wnaed i’r drosedd, mesurauehangach o fewn Deddf 2021 a’r Canllawiau Statudol Cam-drin Domestig cysylltiedig, yn ogystal â chanllawiau a deunydd hyfforddi perthnasol eraill ar gyfer asiantaethau rheng flaen.

6.Ceir diffiniad statudol o gam-drin domestig yn Adran 1(3)(c) Deddf 2021 sy’n cynnwys amrywiaeth o ymddygiadau camdriniol, gan gynnwys ymddygiad rheoli neu orfodi. Mae Adran 2 Deddf 2021 yn diffinio’r term “wedi’i gysylltu yn bersonol” at ddibenion y meini prawf perthynas yn adran 1(2)(a) Deddf 2021. Trowch at Atodiad B am y diffiniad statudol llawn o gam-drin domestig, y diffiniad cyfreithiol o “wedi’i gysylltu yn bersonol” a diwygiad Deddf 2021 i’r drosedd ymddygiad rheoli neu orfodi.

7.Yn y canllaw hwn, cyfeirir at “A” fel cyflawnwr y gamdriniaeth a “B” fel dioddefwr y gamdriniaeth. Defnyddir y term ‘dioddefwr’ yn y ddogfen hon i ddynodi rhywun sydd wedi dioddef cam-drin domestig. Fel y nodir yn adran 3 Deddf 2021, mae ‘dioddefwr’ yn cynnwys plant (o dan 18 oed) sydd wedi gweld, clywed neu ddioddef cam-drin domestig ac sy’n perthyn i naill ai’r dioddefwr sy’n oedolyn neu’r cyflawnwr. Dylid nodi nad yw pawb sydd wedi profi neu yn profi cam-drin domestig yn dewis disgrifio’u hunain fel ‘dioddefwr’ ac efallai y byddai’n well ganddynt derm arall, er enghraifft ‘goroeswr’. Rydym yn cydnabod y ddau derm, ond yn y ddogfen hon, rydym wedi defnyddio iaith Deddf 2021, sef ‘dioddefwr’.

8.Mae pob enw a ddefnyddir yn yr astudiaethau achos o fewn y canllaw hwn wedi eu newid i amddiffyn hunaniaethau.

Diffiniad o ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi

9.Mae’r drosedd ymddygiad sy’n rheoli neu orfodi ond yn berthnasol lle:

  • Mae’r dioddefwr a’r cyflawnwr wedi’u cysylltu yn bersonol ar yr adeg mae’r ymddygiad yn digwydd;

  • Rhaid i’r ymddygiad fod wedi cael effaith ddifrifol ar y dioddefwr, sy’n golygu ei fod wedi achosi i’r dioddefwr ofni y bydd trais yn cael ei ddefnyddio yn eu herbyn ar ddau achlysur neu fwy, neu ei fod wedi cael effaith andwyol sylweddol ar fywyd bob dydd y dioddefwr; ac

  • Mae’r ymddygiad yn digwydddro ar ôl tro neu’n barhaus.

  • Mae’n rhaid bod y cyflawnwr wedi gwybod y byddai ei ymddygiad yn cael effaith ddifrifol ar y dioddefwr, neu mae’n rhaid bod yr ymddygiad wedi bod o’r fath lle “dylai fod wedi gwybod” y byddai’n cael yr effaith honno.

10.Dylid ymdrin ag ymddygiad rheoli neu orfodi fel rhan o weithdrefnau diogelu ac amddiffyn y cyhoedd a dylai gweithwyr proffesiynol fod yn ymwybodol o effaith yr ymddygiad hwn ar ddioddefwyr, gan gynnwys ar blant a phobl ifanc.

Gweler Atodiad A am y drosedd lawn o ymddygiad rheoli neu orfodi a’r awdurdod cyfreithiol ar gyfer y canllawiau statudol hyn.

Amcanion y canllawiau

11.Bwriad y canllawiau hyn yw darparu:

  • Gwybodaeth glir am yr hyn sy’n gyfystyr ag ymddygiad rheoli neu orfodi a sut i adnabod y drosedd. Diben y canllawiau hyn yw i gefnogi asiantaethau i ddeall ymddygiad rheoli neu orfodi a sut i adnabod y drosedd, gan gynnwys y mathau o ymddygiadau sydd o fewn ystod y drosedd, a’r effaith y gall yr ymddygiadau hyn ei chael ar ddioddefwyr, gan gynnwys ar blant a phobl ifanc.

  • Canllawiau i’r heddlu ac asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill ar amgylchiadau lle bydd y drosedd yn gymwys a lle y gellid ystyried troseddau eraill. Gall fod canfyddiad bod ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi yn drosedd ‘gymhleth’ ac felly’n anodd ei nodi a’i hymchwilio. Fodd bynnag, mae data’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn dangos, ers i Ddeddf 2015 ddod i rym, fod cynnydd cyson wedi bod mewn achosion sy’n cael eu cyhuddo. Cyhoeddir y canllawiau hyn i helpu cyfiawnder troseddol ac asiantaethau eraill i nodi a dangos tystiolaeth oymddygiad rheoli neu orfodi; ac wrth gyhuddo, erlyn a chollfarnu cyflawnwyr y drosedd.

  • Canllawiau i’r heddlu ac asiantaethau cyfiawnder troseddol ar y gwahanol fathau o dystiolaeth a all fod o gymorth wrth nodi, rhoi tystiolaeth a chyhuddo trosedd, a sut y dylai hyn gefnogi erlyniadau a dedfrydu. Nid yw ymddygiad rheoli neu orfodi yn ymwneud ag un digwyddiad – mae’n batrwm ymddygiad bwriadol sy’n digwydd dros amser, er mwyn i un unigolyn arfer pŵer, rheolaeth neu orfodaeth dros unigolyn arall. Wrth ymateb i alwad neu adroddiad, mae’n bwysig i swyddogion yr heddlu edrych y tu hwnt i’r adroddiad neu alwad y maent yn ymateb iddo, iystyried y cyd-destun ehangach, a chynnal ymholiadau ynghylch patrymau posibl o ymddygiad rheoli neu orfodi a mathau eraill o gam-drin sy’n cael eu cyflawni.

  • Gwybodaeth am leihau risg i’r dioddefwr, gan gynnwys defnyddio gorchmynion amddiffyn; cefnogi’r dioddefwr; ac ymateb i ymddygiad y cyflawnwr. Mae ymateb amlasiantaethol yn hanfodol ar gyfer nodi a chefnogi dioddefwyr a’u teuluoedd yn gynnar ac wrth ymateb i’r cyflawnwr. Mae gwaith aml-asiantaethol yn galluogi gweithwyr proffesiynol i gael gwell dealltwriaeth o holl risigau ac anghenion y dioddefwyr, gan gynnwys plant a phobl ifanc, a’r cyflawnwr (ac unrhyw aelodau eraill o’r teulu ac unigolion cysylltiedig), ac i weithio ar y cyd i ymateb i’r risgiau hyn heb aros i’r cam-drin ddwysáu.

Cynulleidfa

12.Mae’r canllawiau hyn yn ymestyn i Loegr ac i faterion a gadwyd yn ôl yng Nghymru. Rhaid i unrhyw bersonau neu asiantaeth sy’n defnyddio’r canllawiau hyn fod hefyd yn gyfarwydd â’r Canllawiau Statudol Cam-drin Domestig. Dylai asiantaethau Cymru neu gyrff datganoledig sy’n cyflawni swyddogaethau a gedwir i Lywodraeth y DU (plismona a materion cyfiawnder troseddol, sifil a theuluol) gyfeirio at y canllawiau hyn, i’w darllen ochr yn ochr â deddfwriaeth a strategaethau perthnasol.

13.Mae’r drosedd o ymddygiad rheoli neu orfodi yn berthnasol yng Nghymru a Lloegr ond dylid nodi bod gan y Senedd allu deddfwriaethol i ddeddfu ar gyfer Cymru yn y maes hwn. Felly, dylai cyrff datganoledig a sefydliadau lleol yng Nghymru gyfeirio at ddeddfwriaeth berthnasol Cymru, mewn perthynas â materion datganoledig - fel y Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 a’r Strategaeth Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV), a chanllawiau cysylltiedig, y cyfeirir atynt yn y ddogfen hon. Byddem yn disgwyl i sefydliadau sydd wedi, a’r rhai sydd heb, eu datganoli barhau i gyd-weithio er mwyn gweithredu Deddf 2021, lle bo hynny yn berthnasol ac yn briodol.

14.Mae’r canllawiau hyn wedi’u hanelu’n bennaf at asiantaethau’r heddlu a chyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr sy’n ymwneud ag ymchwilio i ymddygiad troseddol. Fodd bynnag, mae’r wybodaeth a geir yn y canllaw hwn yn berthnasol hefyd i sefydliadau ac asiantaethau yng Nghymru a Lloegr sydd yn gweithio gyda dioddefwyr (gan gynnwys plant) neu gyflawnwyr cam-drin domestig, ac i’r sawl sydd yn ymdrin â chanlyniadau eraill cam-drin domestig, megis sefydliadau cyllidol. Efallai y bydd gan rai o’r sefydliadau hyn ddyletswyddau statudol i ddiogelu dioddefwyr cam-drin domestig, gan gynnwys mewn perthynas â deddfwriaeth Cymru. Nid yw’r rhestr ganlynol yn hollgynhwysfawr:

  • Awdurdodau lleol Cymru a Lloegr

  • Heddluoedd a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu

  • Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS)

  • Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (Cafcass) a Cafcass Cymru

  • Gwasanaethau cymorth arbenigol ar gam-drin domestig a thrais arall yn erbyn menywod a merched

  • Timau tai a digartrefedd lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig

  • Lleoliadau blynyddoedd cynnar, gofal plant, ysgolion, colegau ac addysg uwch

  • Darparwyr gofal cymdeithasol plant

  • Darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion

  • GIG Lloegr a Gwella’r GIG (o 2022, GIG Lloegr)

  • Grwpiau Comisiynu Clinigol (o 2022, Systemau Gofal Integredig)

  • Ymddiriedolaethau’r GIG ac Ymddiriedolaethau Sefydledig GIG

  • Cyflogwyr

  • Gwasanaethau Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi

  • Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi

  • Canolfan Byd Gwaith

  • Gwasanaethau ariannol (banciau, cymdeithasau adeiladu ac ati)

  • Grwpiau cymunedol a ffydd.

Adran 2 – Ymateb cyfiawnder troseddol

Y drosedd o ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi

15.Mae’r drosedd o ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi yn nodi:

Cyflawnir trosedd gan A os:

  • Yw’n ymddygiad dro ar ôl tro neu’n barhaus tuag at berson arall, B, sy’n rheoli neu’n gorfodi;

  • Ar adeg yr ymddygiad, mae A a B wedi’u cysylltu yn bersonol;

  • Mae’r ymddygiad yn cael effaith ddifrifol ar B; ac

  • Mae A yn gwybod neu y dylai wybod y bydd yr ymddygiad yn cael effaith ddifrifol ar B.

16.Mae Adran 68 Deddf Cam-drin Domestig 2021 (Deddf 2021), wedi diwygio Adran 76 Deddf Troseddau Difrifol 2015 (Deddf 2015)(trosedd o ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi mewn perthynas agos neu deuluol) fel a ganlyn:

“(6) Mae A a B wedi eu “cysylltu’n bersonol” os oes unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn gymwys—

(a) maent yn, neu wedi bod, yn briod â’i gilydd;

(b) maent yn, neu wedi bod, yn bartneriaid sifil i’w gilydd;

(c) maent wedi cytuno i briodi ei gilydd (p’un a yw’r cytundeb wedi dod i ben ai peidio);

(ch) maent wedi ymrwymo i gytundeb partneriaeth sifil (p’un a yw’r cytundeb wedi dod i ben ai peidio);

(d) maent, neu maent wedi bod, mewn perthynas bersonol agos â’i gilydd;

(dd) mae gan bob un ohonynt, neu bu adeg pan fu gan bob un ohonynt, berthynas rhieni ar gyfer yr un plentyn (gweler is-adran (6A));

(e) maent yn perthyn i’w gilydd.[footnote 3]

(6A) At ddibenion is-adran (6)(dd) mae gan berson berthynas rhiant

perthynas mewn perthynas â phlentyn os—

(a) yw’r person yn rhiant y plentyn, neu

(b) os oes gan y person gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

Bydd y diwygiad hwn i’r drosedd ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi, i ddileu’r gofyniad “byw gyda’i gilydd’’ ar gyfer cyn bartneriaid ac aelodau o’r teulu, yn dod i rym yn ddiweddarach eleni.

17.Mae dwy ffordd y gellir profi bod ymddygiad A yn cael ‘effaith ddifrifol’ ar B:

  • Os yw’n achosi i B ofni, ar ddau achlysur neu fwy, y bydd trais yn cael ei ddefnyddio yn eu herbyn – adran 76 (4)(a); neu

  • Os yw’n achosi braw neu drallod i B sy’n cael effaith andwyol sylweddol ar eu bywyd dydd i ddydd – adran 76 (4) (b).”

Lle mae’r drosedd yn berthnasol

18.Mae’r drosedd yn ceisio cipio patrymau o gam-drin sy’n digwydd dros gyfnod hir o amser, neu sy’n achosi ofn trais ar ddau achlysur neu fwy, sy’n galluogi unigolyn i roi pŵer, rheolaeth neu orfodaeth dros unigolyn arall.

Wrth ymchwilio i ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi, rhaid bodloni’r holl feini prawf canlynol i’r drosedd fod yn gymwys:

  • Rhaid i’r ymddygiad rheoli neu orfodi ddigwydd “dro ar ôl tro’’ (ar ddau achlysur neu fwy) neu ‘’yn barhaus” (dro ar ôl tro). Ni fyddai ymddygiad a arddangosir ar un achlysur yn unig yn gyfystyr ag ymddygiad ailadroddus neu barhaus a bydd llysoedd yn chwilio am dystiolaeth o ymddygiad sydd wedi digwydd ar ddau achlysur neu fwy, neu batrwm o ymddygiad a sefydlwyd dros gyfnod o amser. Rhaid casglu cymaint o dystiolaeth â phosibl felly i ddangos bod yr ymddygiad wedi digwydd ar ddau achlysur neu fwy, ei fod yn ailadroddus neu’n barhaus ei natur. Mae datganiad dioddefwr, a ddylai gynnwys effaith yr ymddygiad ar y dioddefwr, yn allweddol i’r gwaith hwn o gasglu tystiolaeth.

Nid yw Deddf 2015 yn pennu amserlen rhwng digwyddiadau mynych o ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi, felly, nid oes rhaid i’r cam-drin ddigwydd yn syth bin o reidrwydd. Fodd bynnag, lle mae cam-drin yn digwydd ar ddau achlysur ond dros gyfnod hir (10 mlynedd ar wahân er enghraifft), mae’n annhebygol y bydd hyn yn cael ei ystyried yn ymddygiad sydd wedi digwydd yn ailadroddus neu’n barhaus.

  • Mae’n rhaid bod y patrwm ymddygiad wedi cael “effaith ddifrifol” ar y dioddefwr. Mae hyn yn golygu bod y cyflawnwr wedi achosi i’r dioddefwr NAILL AI ofni y bydd traisyn cael ei ddefnyddio yn eu herbyn ar ddau achlysur neu fwy, A/NEU wedi achosi braw neu ofid difrifol sydd wedi cael effaith andwyol sylweddol ar fywyd bob dyddy dioddefwr.

Mae’n bwysig nodi y byddai ymddygiad y cyflawnwr, yr ystyrir ei fod yn cael yn cael “effaith ddifrifol” ar y dioddefwr hefyd yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, achosion lle mae’r dioddefwr yn destun trais corfforol mynych a/neu reolaidd, ymosodiad rhywiol, gorfodaeth, cam-drin neu fygwth gweithredoedd o’r fath. Gall y math hwn o ymddygiad ailadroddus yn unig achosi rhai o’r effeithiau niweidiol a amlinellir uchod.

Wrth fynychu galwad am ymosodiad corfforol neu ymosodiad arall, mae’n bwysig, felly, i swyddogion yr heddlu ac ymatebwyr rheng flaen edrych y tu hwnt i’r hyn y gellir ei gyflwnyo iddynt yn y fan a’r lle ac ystyried y gallai fod patrwm o ymddygiad rheoli neu orfodi a mathau eraill o gam-drin yn cael eu cyflawni.

Dylid nodi hefyd nad yw’r drosedd yn datgan bod yn rhaid i’r dioddefwr ofni trais gan y cyflawnwr yn unig. Er enghraifft, efallai y bydd y dioddefwr yn ofni bod y cyflawnwr wedi gofyn i berson arall gyflawni trais yn eu herbyn.

  • Rhaid i’r ymddygiad fod o’r fath lle mae’r cyflawnwr yn gwybod neu “dylai wybod” y bydd yn cael effaith ddifrifol ar y dioddefwr. Mae “dylai wybod” yn golygu’r hyn y byddai person rhesymol sydd â’r un wybodaeth yn ei feddiant yn gwybod.

  • Mae’n rhaid i’r troseddwr a’r dioddefwr fod â chysylltiad personol pan ddigwyddodd y cam-drin. Gweler Atodiad B am ddiffiniad Deddf 2021 o “wedi cysylltu’n bersonol’’.

Mathau o ymddygiad

19.Mae ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi yn rhannu elfennau cyffredinol â throseddau eraill megis herwgipio, stelcian ac aflonyddu, gan gynnwys y ffeithiau ei fod yn barhaus a bod ei gyfllawnyr yn defnyddio dulliau amrywiol i frifo, bychanu, brawychu, ecsbloetio, ynysu, a dominyddu eu dioddefwyr[footnote 4].

20.Nid yw ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi yn ymwneud ag un digwyddiad neu weithred o gam-drin, mae’n ymddygiad bwriadol sy’n digwydd ar ddau achlysur neu fwy, neu sy’n digwydd dros amser, er mwyn i un unigolyn darfer pŵer, rheolaeth neu orfodaeth dros un arall.

21.Mae’r cyflawnwr yn gyfrifol am ddewis cyflawni’r ymddygiadau hyn ac mae’n atebol amdanynt. Er y cydnabyddir y gall dynion ddioddef y drosedd, mae ymddygiad rheoli neu orfodi yn effeithio’n anghymesur ar fenywod[footnote 5].

22.Mae ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi yn aml yn rhan o batrwm ehangach o gam-drin a gyflawnir ochr yn ochr â mathau eraill sy’n aml yn fyw amlwg, megis ymosodiad corfforol neu rywiol. Wrth ymateb i adroddiad am fath arall mwy amlwg o gam-drin, megis ymosodiad corfforol, mae’n bwysig ystyried y gall ymddygiad rheoli neu orfodi hefyd fod yn rhan o’r cam-drin.

23.Er bod adran 76 Deddf 2015 yn nodi’r meini prawf y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i’r drosedd ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi fod yn gymwys, mae’n hefyd yn bwysig bod yn ymwybodol y gall mathau penodol o ymddygiad sy’n gyfystyr ag ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi amlygu eu hunain mewn mathau eraill o niwed a cahm-drin, gan gynnwys cam-drin economaidd, aflonyddu neu stelcio (gweler adran 6).

24.Bydd gwahaniaethu rhwng ymddygiad sy’n rheoli neu orfodi a mathau eraill o gam-drin, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud ag ymddygiad tebyg fel stelcian, hefyd yn ffactor pwysig wrth benderfynu pa drosedd i ymchwilio iddi ac er mwyn adeiladu achos a chymhwyso’r cyhuddiad priodol (gweler ystyried troseddau eraill yn yr adran hon).

25.Wrth nodi ymddygiad sy sy’n rheoli neu’n gorfodi, mae’n bwysig ystyried y cyd-destun y mae’r ymddygiad yn digwydd ynddo, yn arbennig:

  • Hanes a statws y berthynas rhwng y dioddefwr a’r cyflawnwr;

  • Rhesymau’r cyflawnwr (cyfeiriwch hefyd at dactegau cyflawnwyr yn yr adran hon); a’r

  • Niwed neu’r risg o niwed, ac effaith y niwed hwn ar y dioddefwr (gweler hefyd mathau o dystiolaeth yn yr adran hon, Rhestr Wirio Ymateb Cyntaf Proffesiynol Awdurdodedig (APP) a Rhestr Wirio Casglu Tystiolaeth Cyd-gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) a Gwasanaeth Erlyn y Goron)

26.Mae’r rhestr ganlynol yn amlinellu ymddygiadau sydd o fewn yr ystod o ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi. Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr.

  • Trais corfforol, a bygythiadau o drais corfforol;

  • Ymosodiad rhywiol, gorfodaeth neu gam-drin, a bygythiadau o ymosodiad rhywiol;

  • Cam-drin emosiynol a seicolegol;

  • Cam-drin sy’n ymwneud â ffydd;

  • Difrïo geiriol;

  • Cam-drin economaidd (e.e. dyled wedi’i gorfodi, rheoli gwariant/cyfrifon banc/buddsoddiadau/morgeisi/taliadau budd-daliadau);

  • Rheoli neu fonitro bywyd ac ymddygiad bob dydd y dioddefwr, er enghraifft eu gwneud yn atebol am eu hamser, gan bennu’r hyn y gallant ei wisgo, beth a phryd y gallant fwyta, pryd a ble y gallant gysgu, pwy y maent yn cyfarfod neu’n siarad â hwy, lle gallant weithio, cyfyngu ar fynediad i hyfforddiant/datblygiad ac ati;

  • Rheoli a monitro mynediad y dioddefwr i gyfryngau a dyfeisiau cymdeithasol (e.e. cyfyngu a gwirio’r defnydd o ffonau, angen gwybod cyfrineiriau ar gyfer pob cyfrif cyfryngau cymdeithasol, olrhain lleoliadau ar ddyfeisiau);

  • Gweithrediadau gorfodi neurymiberswadio’rdioddefwr i wneud rhywbeth y maent ynanfodlonei wneud;

  • Bygythiadau i ddatgelu gwybodaeth sensitif (e.e. gweithgarwch rhywiol, cyfeiriadedd rhywiol a/neu hunaniaeth o ran rhywedd), neu wneud honiadau ffug i aelodau o’r teulu, ffrindiau, cydweithwyr yn y gwaith, y gymuned neu eraill, gan gynnwys drwy luniau neu’r rhyngrwyd;

  • Atal y dioddefwr rhag dysgu iaith neu wneud ffrindiau y tu allan i’w gefndir ethnig/neu ddiwylliannol;

  • Dychryn a bygythiadau i ddatgelu statws iechyd neu nam ar deulu, ffrindiau, cydweithwyr yn y gwaith a’r gymuned ehangach – yn enwedig lle gallai hyn fod â stigma yn y gymuned;

  • Defnyddio statws iechyd y dioddefwr i ysgogi ofn a chyfyngu ar eu rhyddid i symud;

  • Defnyddio statws mewnfudo i fygwth y dioddefwr;

  • Bygythiadau o gael eu rhoi mewn sefydliad yn erbyn ewyllys y dioddefwr, e.e. cartref gofal, cyfleuster byw â chymorth, cyfleuster iechyd meddwl, ac ati (yn enwedig ar gyfer dioddefwyr anabl neu hen);

  • Creu a gorfodi rheolau a rheoliadau y disgwylir i’r dioddefwr eu dilyn;

  • Tanseilio’r dioddefwr yn fwriadol;

  • Ynysu’r dioddefwr rhag teulu, ffrindiau, cydweithwyr a gweithwyr proffesiynol a all fod yn ceisio eu cefnogi, atal negeseuon neu alwadau ffôn;

  • Gwrthod dehongli, a/neu atal rhag cael mynediad at gyfathrebu;

  • Atal y dioddefwr rhag cymryd meddyginiaeth, neu gael gafael ar offer meddygol neu eu gor-gyfryngu, neu atal y dioddefwr rhag cael gofal iechyd neu ofal cymdeithasol (yn arbennig o berthnasol i ddioddefwyr ag anableddau neu gyflyrau iechyd hirdymor);

  • Gorfodi atgenhedlu, gan gynnwys cyfyngu ar fynediad dioddefwr i reoli genedigaeth; gwrthod defnyddio dull rheoli genedigaeth; gorfodi dioddefwr i gael erthyliad, i gael ei ffrwythloni (IVF) neu weithdrefn arall; neu wrthod mynediad i weithdrefn o’r fath;

  • Defnyddio sylweddau fel alcohol neu gyffuriau i reoli dioddefwr drwy ddibyniaeth, neu reoli eu mynediad i sylweddau;

  • Defnyddio plant i reoli’r dioddefwr, e.e. bygwth mynd â’r plant i ffwrdd, bygwth niweidio’r plant

  • Defnyddio anifeiliaid anwes i reoli neu orfodi dioddefwr, e.e. niweidio, neu fygwth niweidio neu roi anifeiliaid anwes i ffwrdd;

  • Defnyddio gweithle’r dioddefwr i’w rheoli, e.e. gwrthod gadael iddynt fynd i’r gwaith, pennu ble maent yn gweithio, troi i fyny yn y gwaith ac ati; ac

  • Atal gweithgareddau hamdden arferol fel gwirfoddoli, ymuno â chlybiau a grwpiau lleol, timau chwaraeon, gweithgarwch sifil/elusennol, ac ati.

Gweler hefyd adran 7 yn y canllawiau hyn am ragor o fanylion am niwed, troseddau a mathau eraill o gam-drin domestig.

Adnabod y drosedd

27.Wrth weithio gyda dioddefwyr cam-drin domestig, mae’n bwysig bod yn ymwybodol nad oes dioddefwyr “nodweddiadol”. Er y gallai rhai grwpiau fod mewn mwy o berygl o brofi cam-drin domestig, gall unrhyw un gael ei effeithio. Dylid cymryd gofal i osgoi gwneud rhagdybiaethau ystrydebol ynghylch cam-drin domestig. Beth bynnag fo’i ryw, mae cam-drin domestig yn digwydd ymhlith pobl o bob ethnigrwydd, rhywioldeb, oedran, anabledd, crefydd neu gred, statws mewnfudo neu gefndir economaidd-gymdeithasol.

Gall cam-drin domestig ddigwydd rhwng aelodau o’r teulu yn ogystal â rhwng partneriaid agos neu gyn bartneriaid.[footnote 6] Wrth weithio gyda dioddefwyr cam-drin domestig, mae’n hefyd yn bwysig dangos chwilfrydedd proffesiynol ac osgoi gwneud rhagdybiaethau a allai arwain at golli cyfleoedd i gefnogi ac amddiffyn dioddefwyr.[footnote 7]

Edrych y tu hwnt i un digwyddiad a nodi patrymau ymddygiad

28.Wrth ymateb i alwad allan, mae’n bwysig i swyddogion heddlu ddefnyddio chwilfrydedd proffesiynol ac edrych y tu hwnt i’r hyn y gellir ei gyflwyno iddynt yn y lleoliad, er mwyn nodi unrhyw batrymau ymddygiad. Dylai swyddogion yr heddlu bob amser ystyried y cyd-destun ehangach ac y gallai fod elfennau eraill o ymddygiad y cyflawnwr, neu fathau eraill o gam-drin yn cael eu cyflawni, a allai fod gyfystyr ag ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi.

29.Er enghraifft gall galwad fod mewn ymateb i adroddiad o drais corfforol neu ymosodiad rhywiol i ddechrau, ond gall ymddygiad sy’n rheoli neu orfodi fod yn digwydd hefyd. Mewn amgylchiadau o’r fath, gallai’r cyflawnwr hefyd defnyddio’r cof am yr ymosodiad fel sail bellach ar gyfer rheolaeth a gorfodaeth.

30.Weithiau, gall swyddogion yr heddlu ystyried ymchwilio i droseddau y maent yn fwy cyfarwydd â hwy neu rhai sy’n haws iddynt ymchwilio, yn enwedig os byddant yn canolbwyntio ar un digwyddiad. Gall hyn arwain at golli ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi. Mae ymchwil wedi dangos bod swyddogion yr heddlu yn brofiadol wrth ymateb i ‘ddigwyddiadau’ o gam-drin domestig, yn enwedig trais corfforol, yn hytrach na phatrwm o ymddygiad cam-drin.[footnote 8] Canfu astudiaeth fod dioddefwyr yn ymgysylltu’n gyffredin â’r heddlu i adrodd am ymosodiad (yn hytrach nag ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi), gyda llawer o achosion wedi’u canfod fel gwir niwed corfforol (ABH), hyd yn oed pan oedd ymddygiad rheoli neu orfodi yn bresennol yn y mwyafrif o’r achosion.[footnote 9]

31.Mae’n hanfodol felly, wrth ymateb i adroddiad, megis trais corfforol neu fygythiad o drais corfforol, bod swyddogion heddlu’n holi am elfennau neu batrymau eraill o ymddygiad y cyflawnwr sy’n sail i’r digwyddiad a arweiniodd at alwad gan yr heddlu, a mathau eraill o gam-drin a allai hefyd fod yn cael eu cyflawni, a allai fod gyfystyr ag ymddygiad rheoli neu orfodi. Er enghraifft, gall galwadau dro ar ôl tro i’r heddlu ddangos patrwm ymddygiad gan y cyflawnwr. Fodd bynnag, gall ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi wedi’i hen sefydlu cyn rhoi gwybod amdano.

32.Mewn llawer o achosion, gallai ymddygiad y cyflawnwr ymddangos yn ddiniwed - yn enwedig os caiff ei ystyried ar wahân i ymddygiadau ehangach - ac efallai na fydd y dioddefwr yn ymwybodol, neu’n barod i gydnabod, eu bod yn cael eu cam-drin. Bydd ystyried effaith gynyddol unrhyw ymddygiad, yn enwedig lle mae hyn yn cynnwys rheoli a gorfodi o fewn y berthynas, yn hanfodol.

Bydd y dull hwn yn cefnogi unrhyw erlynydd i asesu’n effeithiol a oes patrwm ymddygiad yn bodoli ac a yw’r ymddygiad hwn yn gyfystyr ag ofni y bydd trais yn cael ei gyflawni; neu wedi achosi braw neu drallod difrifol i’r dioddefwr, a bod hyn wedi cael effaith andwyol sylweddol ar eu gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.[footnote 10]

33.Lle mae gweithredoedd eraill o gam-drin, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, drais corfforol, ymosodiad rhywiol, gorfodaeth, cam-drin, neu fygythiadau o weithredoedd o’r fath, yn cael eu nodi, gallai ymddygiad o’r fath yn yr un modd gael effaith (effaith andwyol) ar weithgaredd dyddiol y dioddefwr, a byddai hefyd yn gwarantu mynd ar drywydd achos a allai fod yn gyfystyr ag ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi. Er y gellir cyhuddo o ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi heb bresennoldeb trais corfforol neu ymosodiad rhywiol, dylai swyddogion heddlu bob amser ystyried mynd ar drywydd achosion lle nodir trais o’r math hwn, heb ddibynnu ar yr ystod ehangach o ymddygiadau gorfodi nad ydynt yn rhai treisgar yn gorfforol.

34.Dylid nodi nad yw tystiolaeth o ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi yn gofyn am ddau alwad allan gan yr heddlu i brofi bod y drosedd wedi digwydd. Dylai swyddogion yr heddlu hefyd fod yn ymwybodol, mewn achosion o gam-drin domestig, lle nad oes digon o dystiolaeth i gyhuddo o ymosodiad corfforol, y gallai fod digon o dystiolaeth i gyhuddo am y drosedd o ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi.

35.Bydd y diwygiad i’r drosedd ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi, i ddileu’r gofyniad “byw gyda’n gilydd’’ ar gyfer cyn bartneriaid ac aelodau o’r teulu, yn dod i rym yn ddiweddarach eleni ac ni fydd yn cael effaith ôl-weithredol. Mae hyn yn golygu na ellir dwyn cyhuddiadau mewn perthynas â cham-drin ar ôl gwahanu cyn y dyddiad y daw’r drosedd ddiwygiedig i rym. Os nad ydych yn siŵr a yw’r newid i’r drosedd ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi yn berthnasol mewn achos penodol, yn y lle cyntaf, siaradwch â swyddog heddlu arbenigol Cam-drin Domestig. Gall yr heddlu geisio Cyngor Ymchwilio Cynnar pellach gan y CPS.[footnote 11]

36.Mae’r astudiaeth achos isod yn enghraifft o gyhuddiadau’n cael eu dwyn am nifer o droseddau gan gynnwys y drosedd o ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi.

Astudiaeth Achos – Becky

Roedd Becky a Simon wedi bod mewn perthynas am bedwar mis pan wnaeth Simon ei slapio ar draws yr wyneb am y tro cyntaf. Ar ôl yr ymosodiad cyntaf hwn, cynyddodd y cam-drin yn gyflym a dwysáu dros y misoedd nesaf, gan gynnwys stampio arni, a chicio Becky, gan achosi anafiadau a adawodd greithiau a difrod parhaol i’w chlyw.

Cafodd pob trosedd ar wahân i’r un gyntaf ei chyflawni tra bod Simon ar fechnïaeth yr heddlu am yr ymosodiad cyntaf yn erbyn Becky.

Drwy gydol y cyfnod hwn, cynyddodd Simon reolaeth hefyd dros fywyd bob dydd Becky; byddai hefyd yn anfon testunau difrïol a thringar at Becky, ac yn ei ffonio yn barhaus pan oedd allan, i wirio ble oedd hi. Pan geisiodd Becky sefyll i fyny i Simon, byddai’n galw enwau cywilyddus arni, yn cymryd ei ffôn, ei chardiau banc a’i allweddi am gyfnodau o amser, gan gyfyngu ar ei hannibyniaeth.

Dechreuodd Simon ffonio’r Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd, gyda honiadau ffug am Becky, gan honni nad oedd hi byth gartref ac nad oedd hi’n gallu gofalu am eu plentyn. Defnyddiodd Simon yr honiadau ffug hyn hefyd i geisio troi rhieni a brodyr a chwiorydd Becky yn ei herbyn.

Pan adawodd Becky Simon yn y pen draw, parhaodd y digwyddiadau a’r honiadau hyn, yn ogystal ag ymddygiad camdriniol Simon tuag at Becky drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Ar ôl wythnosau o anwybyddu negeseuon Simon, daeth i gartref newydd Becky ac ymosododd arni’n gorfforol. Pan gymerodd swyddogion yr heddlu ddatganiad gan Becky, gwnaethon nhw holi am yr amrywiaeth o ddigwyddiadau blaenorol a gofyn am yr effaith a gafodd ymddygiad Simon ar ei bywyd bob dydd. Datgelodd Becky ragor o fanylion am lefel y rheolaeth gan gynnwys teimlo’n anniogel yn gadael y tŷ, angen bod mewn cysylltiad cyson â Simon, gorfod cael caniatâd i siopa a ddim yn cael siarad â theulu neu ffrindiau.

Cafodd Simon ei gyhuddo am nifer o droseddau, gan gynnwys ymosodiad cyffredin, Gwir Niwed Corfforol (ABH), ceisio Niwed Corfforol Difrifol (GBH), aflonyddu ac ymddygiad rheoli neu orfodi.

Cynnal asesiadau risg priodol

37.Efallai na fydd dioddefwyr ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodiyn ymwybodol, neu’n barod i gydnabod bod y gamdriniaeth y maent wedi’i chael yn flaenorol neu’n ei phrofi ar hyn o bryd, yn rhan o batrwm o ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi. At hynny, efallai na fydd dioddefwyr ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi yn ymwybodol bod ymddygiad o’r fath yn drosedd. Mae’n bwysig, felly, bod y drosedd yn cael ei hystyried gan yr heddlu ac awdurdodau eraill wrth gynnal unrhyw ymchwiliad

38.Bydd dilyn dull trylwyr ar yr ymweliad cyntaf â’r dioddefwr yn hanfodol wrth gefnogi swyddogion yr heddlu i ddatgelu tystiolaeth mewn perthynas â’r drosedd ac adeiladu achos. Bydd cynnal ymchwiliad diogel gyda’r dioddefwr a chynnal asesiad risg priodol yn hollbwysig wrth ymchwilio i unrhyw ddigwyddiad posibl o’r drosedd er mwyn casglu tystiolaeth o unrhyw batrwm o gam-drin, yn hytrach nag un digwyddiad yn unig.

39.Fel rhan o unrhyw asesiad risg, rhaid hefyd sicrhau diogelu plant. Mae gan yr heddlu ddyletswydd i amddiffyn plant rhag niwed ac ymhob ymchwiliad dylid cadw yr egwyddor mai lles y plentyn sydd bwysicaf.[footnote 12] Am fwy o wybodaeth am gyfrifoldebau diogelu, gan gynnwys ar gyfer plant a gwaith amlasiantaethol, cyfeiriwch at bennod 4 o’r Canllawiau Statudol Cam-drin Domestig a Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Plant (2018). Dylai’r heddlu hefyd gyfeirio at eu protocolau perthnasol ar gyfer diogelu oedolion a phlant.

40.Mae Canllawiau’r Coleg Plismona ar gyd-destun a deinameg cam-drin domestig yn datgan bod “rhaid i swyddogion allu adnabod ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi gan y gall fod yn arwydd rhybudd/risg o drais yn y dyfodol tuag at y dioddefwr. Er y gall yr ymddygiad ymddangos yn lefel isel, dylai unrhyw ymddygiad neu batrwm o ymddygiad sy’n awgrymu bod rheolaeth neu orfodaeth yn cael ei harfer ar ddioddefwr, rhaid trin hyn o ddifrif ac ymchwilio iddo i benderfynu a oes trosedd wedi’i chyflawni o dan adran 76 Deddf 2015. Gall ymddygiad sy’n rheoli neu rhywun arall hefyd gynnwys neu gael ei gyflawni ar y cyd ag ystod o droseddau eraill”.

41.Mae’n bwysig bod patrymau ehangach o ymddygiad a/neu droseddu yn cael eu hystyried, gan gynnwys cyd-destun ehangach y berthynas. Yn hytrach na dim ond yn gofyn ‘beth ddigwyddodd’ i ysgogi’r alwad benodol i’r heddlu, dylai swyddogion heddlu ofyn cwestiynau penodol i nodi a yw ymddygiad sy’n rheoli neu orfodi yn cael ei gyflawni.

Gallai enghreifftiau o gwestiynau gynnwys:

  • A yw’r dioddefwr yn ddarostyngedig i reolau;

  • Os yw’r dioddefwr yn cael rhan mewn gwneud penderfyniadau;

  • Os yw bywyd bob dydd y dioddefwr yn cael ei reoli neu ei fonitro gan y cyflawnwr;

  • Pa effaith mae’r ymddygiad yn ei gael ar eu bywyd bob dydd;

  • Beth sy’n normal o fewn y berthynas, gyda’r cyn-bartner neu aelod o’r teulu;

  • Beth sy’n eu poeni o fewn yn y berthynas neu o’r cyn-bartner neu aelod o’r teulu;

  • Os yw’r dioddefwr yn destun bygythiadau;

  • Os yw’r dioddefwr yn cael ei atal rhag gweld rhai aelodau o’r teulu neu ffrindiau;

  • Os yw’r dioddefwr yn destun mathau eraill o ymddygiad camdriniol megis trais corfforol neu ymosodiad rhywiol.

42.Mae’n hefyd yn bwysig holi am ymddygiad y cyflawnwr yn y gorffennol, gan efallai nad yw’r dioddefwr yn sylweddoli bod y rhain hefyd yn rhan o batrwm o gam-drin. Mae llawer o ddioddefwyr yn cael eu cam-drin am gyfnod hir neu’n mynd drwy ‘gamau’ rheolaeth neu orfodaeth cyn adrodd i’r heddlu.[footnote 13] Gall magu ymddiriedaeth helpu i gael datgeliad ac efallai y bydd yn briodol ar gyfer teilwra’r ymateb i’r dioddefwr.

43.Mae’n bwysig rhoi’r lle a’r amser i’r dioddefwr brosesu’r hyn sydd wedi digwydd iddynt, i ffwrdd oddi wrth y cyflawnwr. Gall hyn hefyd wneud i’r dioddefwr deimlo’n fwy diogel ac yn fwy cyfforddus wrth ddarparu datgeliad pellach am y cam-drin, hyd yn oed yn ddiweddarach mewn ymchwiliad. Mae hefyd yn bwysig ystyried darparu gwybodaeth am wasanaethau cymorth. Mae canllawiau’r Coleg Plismona ar weithio gyda dioddefwyr a thystionyn rhoi arweiniad i swyddogion “ gydnabod anghenion a phryderon unigol tystion a’u trin ag urddas a pharch”.[footnote 14] Cyfeiriwch hefyd at Adran 5 am fanylion pellach at sut y gall cymorth a gwasanaethau eraill fod o gymorth.

“Pan ddaeth yr heddlu - roedd wedi bod yn swnllyd, yn dreisgar, yn ymosodol, yn malu pethau ac yn fy nharo. Erbyn i’r heddlu gyrraedd – yr hyn bydden nhw wedi’i gyfarfod yw fi – yn ofnus iawn, yn llawn panig, yn emosiynol iawn, crynedig iawn – tŷ wedi’i falu, heb wneud llawer o synnwyr ac ef yn ŵr hynod fonheddig, wedi’i addysgu’n wych, yn dawel, ac yn dweud nad oedd erioed wedi gosod llaw arnaf.” [footnote 15]

Data Grŵp Ffocws HMIC, 2014

44.Wrth fynychu galwadau allan, mae’n bwysig bod yn sensitif i ymateb y bobl y rhoddir sylw iddynt. Gall cyflawnwr ymddangos yn dawel a phwyllog tra gallai dioddefwr ymddangos yn ofidus neu’n ymosodol. Dylai swyddogion sy’n ymateb ganolbwyntio ar les y dioddefwr a diogelu, yn ogystal â thechnegau dad-ddwysáu, gan gynnwys drwy ymwybyddiaeth emosiynol, gwrando gweithredol a chyfathrebu llafar a di-eiriau, [footnote 16]er mwyn helpu i leddfu dioddefwyr a allai gael eu trawmateiddio o ganlyniad i’r hyn y maent wedi’i brofi.

45.Ym mhob achos o gam-drin domestig, os yw’r drylliau yn cael eu dal gan y cyflawnwr neu yn y cartref, dylid hysbysu Tîm Trwyddedu Drylliau Saethu lleol yr heddlu fel y gellir ystyried dirymu unrhyw drwydded sydd gan y cyflawnwr. Mae’n hefyd yn bwysig o ran lliniaru risg a chudd-wybodaeth i sicrhau bod swyddogion sy’n mynychu galwadau yn y dyfodol yn meddu ar y wybodaeth hon. Cyhoeddwyd Canllawiau Statudol Trwyddedu Drylliau Saethu ar gyfer yr heddlu ym mis Hydref 2021 ac mae’n cynnwys rhagor o wybodaeth am drwyddedu drylliau mewn achosion sy’n ymwneud â cham-drin domestig.

I gael rhagor o offer cymorth ar gyfer swyddogion heddlu yng Nghymru a Lloegr, cyfeiriwch at Ymateb Cyntaf Canllawiau’r Coleg Plismona (digwyddiad cam-drin domestig), Rhestr Wirio Casglu Tystiolaeth NPCC a’r CPS ar y cyd a Rhaglen Hyfforddi Materion Cam-drin Domestig.

Mathau o dystiolaeth

46.Gall fod canfyddiad bod ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi yn drosedd ‘gymhleth’, sydd â throthwy tystiolaeth uchel i gyhuddo ac erlyn yn llwyddiannus. Mae ymchwil ar ymateb yr heddlu i ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi wedi dangos bod y tebygolrwydd o arestio mewn achosion o’r fath wedi’i ddylanwadu gan y tebygolrwydd o erlyniad yn digwydd, a ddylanwadwyd hefyd gan ganfyddiadau bod ymddygiad rheoli neu orfodi yn ‘anodd ei brofi’.[footnote 17]

47.Bydd casglu tystiolaeth effeithiol yn hanfodol i achos yr erlyniad, yn enwedig pan fo’r dioddefwr yn penderfynu tynnu’n ôl o’r achos. Dylai ymchwilwyr gyfeirio at y Rhestr Wirio Casglu Tystiolaeth yr NPCC a’r CPS ar y cyd.

48.Mae archwilio pob trywydd ymholi posibl i gasglu tystiolaeth ar raddau llawn ymddygiad cyflawnwr a chael disgrifiad manwl o’r ymddygiad hwn yn hollbwysig– mae datganiad dioddefwr yn allweddol i’r gwaith casglu tystiolaeth hwn. Maecymryd cyfrif cynhwysfawr o’r hyn a ddigwyddodd i’r dioddefwr, yn ogystal ag ymddygiad y cyflawnwr yn fwy cyffredinol, yn hanfodol i adeiladu achos.

49.Mae’n hanfodol bod y datganiad hwn yn dal yr effaith ar y dioddefwr, yn hytrach na disgrifiad yn unig o’r ymddygiadau sy’n bresennol. Gall swyddogion yr heddlu helpu i sicrhau bod yr effaith gyffredinol yn cael ei hadlewyrchu’n briodol drwy ofyn y cwestiynau cywir yn gynnar. Mewn rhai achosion, os yw dioddefwr yn darparu tystiolaeth yn y llys nad yw wedi’i chynnwys yn y datganiad cychwynnol, gall fod yn niweidiol i’w hachos.

50.Mae datganiadau tystion hefyd yn bwysig i gefnogi’r gwaith o gasglu tystiolaeth. Er enghraifft, efallai y bydd teulu a ffrindiau’r dioddefwr yn gallu rhoi tystiolaeth am effaith ymddygiad y cyflawnwr, megis ynysu’r dioddefwr oddi wrthynt.

51.Fodd bynnag, nid datganiad yw’r unig dystiolaeth y gellir ei defnyddio i gefnogi achos. Mae enghreifftiau eraill o dystiolaeth y gellid eu defnyddio yn ogystal â datganiad dioddefwr neu dyst yn cynnwys:

  • Cofnodion ffôn (tra’n sicrhau amhariad cyfyngedig, os o gwbl, i’r dioddefwr ac nad yw’n peryglu niwed pellach);

  • Negeseuon testun (tra’n sicrhau amhariad cyfyngedig, os o gwbl, i’r dioddefwr ac nad yw’n peryglu niwed pellach);

  • Tystiolaeth o gam-drin dros y rhyngrwyd, technoleg ddigidol a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol;

  • Copïau o e-byst;

  • Ffotograffau o anafiadau megis: anafiadau amddiffynnol i flaen y fraich, cydio cudd yn rhan uchaf y fraich, cleisio croen y pen, clystyrau o wallt ar goll;

  • tapiau 999 neu drawsgrifiadau;

  • Teledu Cylch Cyfyng;

  • ffilmiau fideo wedi’i gwisgo ar y corff;

  • Ffordd o fyw a chartref gan gynnwys tystiolaeth ffotograffig yn y lleoliad – e.e. y pethau y maen nhw fel arfer yn eu gwneud, ble maen hw’n byw, gyda phwy maen nhw’n rhyngweithio, sut maen nhw’n yn gwario eu harian

  • Cofnodion rhyngweithio â gwasanaethau megis gwasanaethau cymorth (hyd yn oed os yw rhannau o’r cofnodion hynny’n ymwneud â digwyddiadau a ddigwyddodd cyn i’r drosedd newydd ddod i rym; mae’n bosibl o hyd, mewn rhai amgylchiadau, y gellir dibynnu ar eu cynnwys o hyd, fel tystiolaeth);

  • Cofnodion meddygol;

  • Cofnodion banc i ddangos rheolaeth ariannol;

  • Bygythiadau blaenorol i blant neu aelodau eraill o’r teulu;

  • Dyddiadur a gedwir gan y dioddefwr;

  • Tystiolaeth o arwahanrwydd megis diffyg cyswllt rhwng teulu a ffrindiau, dioddefwr yn tynnu’n ôl o weithgareddau megis clybiau, cyflawnwr yn mynd gyda’r dioddefwr i apwyntiadau meddygol;

  • Dyfeisiau olrhain GPS wedi’u gosod ar ffonau symudol, tabledi, cerbydau ac ati;

  • Lle mae gan y cyflawnwr gyfrifoldeb gofal, gallai’r cynllun gofal fod yn ddefnyddiol gan ei fod yn manylu ar ba arian y dylid ei ddefnyddio – e.e. gofalu am blentyn, gofalu am riant neu frawd neu chwaer.

Sylwch nad yw hon yn rhestr gyflawn.

52.Mae ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi yn batrwm parhaus o droseddu yn hytrach na digwyddiadau unigol ar wahân. Mae hyn yn golygu, er ei bod yn bosibl nad oes digon o dystiolaeth i gyhuddo’r drosedd pan gaiff ei hadrodd yn wreiddiol, wrth i amser fynd rhagddo ac i’r ymddygiad barhau, gellir casglu mwy o dystiolaeth. Mae canllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron yn nodi, hyd yn oed lle nad oes digon o dystiolaeth i gyhuddo achos penodol, y dylai erlynwyr ofyn i swyddogion heddlu gynghori’r dioddefwr i gymryd camau i gasglu cofnodion i gefnogi unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol. Gall hyn gynnwys:

  • Dyddiadur o ddigwyddiadau (yn ddelfrydol mewn llyfr wedi’i rwymo, a/neu drwy gadw cofnod electronig i gofnodi dyddiadau/amserau) yn nodi bod risgiau posibl i’r dioddefwr pe bai’r cyflawnwr yn darganfod hyn;

  • Nodi yn ddiogel manylion tystion a allai fod wedi arsylwi neu glywed y digwyddiadau hyn;

  • Cadw negeseuon neu gofnodi galwadau a wneir gan y cyflawnwr;

  • Gellir defnyddio apiau ffonau symudol i gasglu a storio tystiolaeth o gam-drin domestig;

  • Siarad yn ddiogel â chymdogion, cydweithwyr, teulu, ffrindiau neu wasanaethau cymorth arbenigol.

Ceir enghreifftiau pellach o dystiolaeth hefyd yn adran Datblygiad Ymchwiliol Arfer Proffesiynol Awdurdodedig ar gyfer Cam-drin Domestig y Coleg Plismona.

53.Fodd bynnag, cyn gofyn i ddioddefwr gasglu cofnodion, dylai swyddogion heddlu fod yn ymwybodol, os yw dioddefwr yn dal i fyw gyda’r cyflawnwr neu’n parhau i fod mewn cysylltiad uniongyrchol neu anuniongyrchol â’r cyflawnwr, neu deulu neu ffrindiau’r cyflawnwr, y gallai cadw cofnodion o’r fath roi’r dioddefwr mewn perygl pellach pe bai’r cyflawnwr yn cael gwybod am gadw cofnodion y dioddefwr. Dylai swyddogion heddlu hefyd fod yn ymwybodol y gall y cyflawnwr hefyd fod yn ymwybodol y gall yr heddlu ddibynnu ar dystiolaeth o’r fath ac y gallai ei gwneud yn amhosibl i’r dioddefwr gadw cofnodion o’r fath.

54.Dylai asiantaethau, gan gynnwys yr heddlu, ystyried ffyrdd y gall y dioddefwr gadw cofnodion yn ddiogel o’r hyn sy’n digwydd iddo. Gallai hyn gynnwys: cadw negeseuon testun neu eu hanfon at ffrind i’w cadw’n ddiogel, tynnu lluniau sgrin o e-bost a negeseuon cyfryngau cymdeithasol, a chadw dyddiadur. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio mai gwaith yr heddlu yw adeiladu achos ar ran y dioddefwr, ac nid rôl y dioddefwr i adeiladu achos ar ran yr heddlu. Gall gwasanaethau cymorth cam-drin domestig arbenigol, fel yr amlinellir yn Atodiad G, gefnogi dioddefwyr a gweithwyr proffesiynol gyda chyngor ymarferol ar sut i gofnodi a chadw tystiolaeth yn ddiogel.

55.Bydd adran 8 Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 yn berthnasol ar gyfer ymchwiliadau i’r drosedd o ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi, fel y diwygiwyd gan adran 68 Deddf 2021. Mae hyn yn galluogi’r heddlu i wneud cais am warantau chwilio i gael mynediad at ddeunyddiau sy’n debygol o fod o werth sylweddol i’r ymchwiliad lle maent yn darparu tystiolaeth berthnasol. I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at becyn cymorth y Coleg Plismona ar gyfer ymchwiliadau ariannol.

56.Mae’r CPS angen tystiolaeth ddigonol i awdurdodi unrhyw gyhuddiad Fodd bynnag, hyd yn oed os na ellir awdurdodi cyhuddiad,mae mesurau amddiffynnol y gall yr heddlu eu cynghori ar gynnwys mesurau diogelwch yn y cartref a gorchmynion amddiffynnol. Gellir canfod rhagor o wybodaeth am y gorchmynion hyn yn Adran 4 y canllawiau hyn.

57.Weithiau, bydd dioddefwyr yn gofyn i’r heddlu beidio â bwrw ymlaen â’r achos ac yn datgan nad ydynt yn dymuno rhoi tystiolaeth mwyach. Gall dioddefwyr dynnu’n ôl o erlyniad am lawer o resymau ac ni ddylid gwneud unrhyw ragdybiaethau pan fydd hyn yn digwydd. Nid yw ychwaith yn golygu na ddylid cymryd unrhyw gamau pellach. Mae Canllawiau Cyfreithiol Cam-drin Domestig y CPS yn nodi y dylai’r heddlu ddarparu datganiad i’r erlynydd yn dilyn cyswllt â’r achwynydd (y dioddefwr yn yr achos) i esbonio’r rhesymau pam y tynnwyd yr honiad/ /cymorth yn ôl. Heb hyn, ni ellir gwneud penderfyniad gwybodus am y camau nesaf i’w cymryd. Gydag unrhyw achos ac unrhyw reswm a roddwyd, mae’n bwysig bod erlynwyr yn canfod pam mae achwynydd wedi tynnu ei honiad yn ôl neu wedi tynnu ei gefnogaeth yn ôl o’r achos a’r risgiau a’r effeithiau a achosir i unrhyw blant a/neu unrhyw ddibynyddion, cyn penderfynu pa gamau i’w cymryd.

58.Gall adroddiad swyddog yr heddlu ddatgelu’r angen i ystyried a ddylid dwyn cyhuddiadau pellach, er enghraifft, bygwth tystion, aflonyddu neu stelcio, neu a dorrwyd amodau mechnïaeth y cyflawnwr. Lle nad yw adroddiad yr achwynydd o’r honiad yn ei ddatganiad tynnu’n ôl yr un peth, neu os nad yw’n gyson â’i ddatganiad cynharach, mae’n bosibl bod yr achwynydd wedi bod dan bwysau i newid ei adroddiad. O dan yr amgylchiadau hyn, dylid gofyn i’r heddlu ymchwilio i newidiadau ac, a oes angen ymchwiliad pellach i’r amgylchiadau.

59.Gall fod llawer o resymau posibl pam na fydd dioddefwr cam-drin domestig yn cefnogi achos mwyach. Gallant gynnwys:

  • ofn cyflawni trosddau eraill, neu risg o niwed pellach (yn bersonol, ond hefyd trwy dechnoleg);

  • ofn dod wyneb yn wyneb â’r cyflawnwr yn y llys;

  • pwysau gan y cyflawnwr, teulu neu gymdeithion y cyflawnwr;

  • ofn ôl-effeithiau a all ddilyn gan aelodau o’r teulu neu gyfoedion y cyflawnwr, neu aelodau gang lle mae naill ai’r dioddefwr, y cyflawnwr neu’r ddau yn gysylltiedig â gang;

  • dymuniad i gael cymodi â’r cyflawnwr, os nad yw eisoes wedi’i gymodi, neu ddymuniad i ddychwelyd i’r teulu, os yw wedi ymddieithrio;

  • nid yw’r dioddefwr bellach mewn perthynas â’r cyflawnwr neu nid yw am ail-fyw’r digwyddiad;

  • ofn y bydd plant yn cael eu symud a’u rhoi mewn gofal, neu ddim eisiau cael eu gweld yn ‘anodd’ os yw plant neu ddibynyddion eraill yn gysylltiedig;

  • ofn yr effaith ar blant, neu ddibynyddion eraill, neu ôl-effeithiau ariannol (fel derbyn rhai mathau o gynhaliaeth plant, lwfansau treth neu gymorth ariannol drwy fudd-daliadau) pe bai’r cyflawnwr yn cael dedfryd o garchar;

  • gall parhau ag erlyniad achosi i’r dioddefwr deimlo ei fod yn gyfrifol am y cyflawnwr yn cael cofnod troseddol; yr effaith ar eu swydd a chyllid y teulu;

  • cywilydd wrth adrodd am y gŵyn (o ganlyniad i gefndir cymdeithasol y dioddefwr neu’r cyflawnwr, neu er enghraifft, mewn achosion o gam-drin plant i rieni);

  • ofn efallai na fyddant yn cael eu credu ac yn ofni bod y system cyfiawnder troseddol yn rhagfarnllyd tuag at y cyflawnw r.[footnote 18]

Nid yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr

Cyfeiriwch at Atodiad E am ragor o enghreifftiau o resymau dros ddiddymiad a thynnu’n ôlgan ddioddefwyr. I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch hefyd at Ganllawiau Cyfreithiol y CPS ar Gam-drin Domestig y CPS ar dynnu’n ôl a diddymiad. Dylai erlynwyr hefyd gyfeirio at adran Canllawiau Cyfreithiol arOsgoi troseddoli achwynydd am gyngor pellach.

60.Gall dioddefwyr elwa o gael cofnod o’u tystiolaeth i’w galluogi i roi eu tystiolaeth orau yn y llys. I nodi, mae Deddf 2021 yn darparu y bydd pob dioddefwr cam-drin domestig yn awtomatig yn gymwys i gael cymorth wrth gymryd rhan neu roi tystiolaeth mewn achosion teuluol, sifil neu droseddol. Gallai hyn eu galluogi, er enghraifft, i roi eu tystiolaeth o’r tu ôl i sgrin neu drwy gyswllt fideo.

Tactegau cyflawnwyr

61.Nid oes byth unrhyw gyfiawnhad dros gyflawni cam-drin domestig ac er y gallai’r cyflawnwr ac eraill feio’r dioddefwr am achos eu hymddygiad, nid bai’r dioddefwr mo hynny. Er nad yw rhai cyflawnwyr yn cydnabod bod eu hymddygiad yn gyfystyr â cham-drin domestig, mae’r holl gyflawnwyr yn gyfrifol am eu hymddygiad a dylid eu dal yn atebol. .

62.Mae llawer o resymau pam y gallai unigolyn ddod yn gyflawnwr cam-drin domestig. Gall y rhain gynnwys: awydd i ddefnyddio pŵer a rheolaeth dros rywun; casineb at wragedd; hunan-barch isel; neu ymddygiad a ddysgwyd ac a ailadroddwyd o ganlyniad i brofi camdriniaeth yn ystod plentyndod (er y dylid nodi nad yw’r rhan fwyaf o blant sy’n cael eu cam-drin yn ystod plentyndod yn mynd ymlaen i fod yn gyflawnwyr).

63.Dengys tystiolaeth hefyd fod gan fwy na thraean o ddefnyddwyr gwasanaeth un rhaglen cyflawnwyr[footnote 19] anghenion cyflogaeth, hyfforddiant neu addysgol, bod gan ychydig dros chwarter ohonynt anghenion iechyd meddwl, bod tua chwarter ohonynt wedi camddefnyddio alcohol, ac roedd gan ychydig o dan chwarter ohonynt anghenion tai, gyda rhai defnyddwyr gwasanaeth ag anghenion ar draws sawl categori.[footnote 20]

Gan na allwn benderfynu’n llawn mewn llawer o achosion pam fod unigolyn yn dod yn gyflawnwr, mae dealltwriaeth gyfyngedig o hyd o sut a pham y mae unigolion yn ymddwyn yn gamdriniol.

64.Gall cyflawnwr drin eu dioddefwr neu’r rhai hynny o’u cwmpas i wneud eu camdriniaeth yn anweladwy, hyd yn oed i’w dioddefwyr. Gall cyflawnwyr fod yn arbennig o glyfar wrth drin gweithwyr proffesiynol, asiantaethau a systemau a gallant ddefnyddio ystod o dactegau i gadw mewn cysylltiad â’r dioddefwr a’i reoli. Gall cyflawnwyr hefyd geisio lleihau honiadau, normaleiddio’r ymddygiad ac ymwadu neu danseilio cofnod neu hygrededd y dioddefwr. Gall y rhain gynnwys:

Bygythiadau a brawychu

  • Defnyddio bygythiadau er mwyn trin y dioddefwr - e.e. trwy ddweud wrth y dioddefwr na fydd yr heddlu neu asiantaethau eraill yn eu credu, y byddant yn hysbysu’r gwasanaethau cymdeithasol, y bydd eu plant yn cael eu cymryd i ffwrdd;

  • Bygwth tynnu gofal neu beidio ag ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu lle mae’r dioddefwr yn ddibynnol ar hyn, bygwth y dioddefwr ynghylch tynnu meddyginiaethau yn ôl;

  • Dweud wrth y didoddefwr na fydd yn cael ei gredu oherwydd bod ganddynt broblemau iechyd meddwl, anawsterau dysgu neu anableddau, neu broblemau gyda chamddefnyddio sylweddau;

Trin

  • Gwneud honiadau ffug neu annifyr yn erbyn dioddefwyr ac argyhoeddi gweithwyr proffesiynol bod eu tactegau rheoli er diogelwch y dioddefwr ei hun a/neu er diogelwch eu plant. Dylai’r heddlu archwilio a yw hyn wedi bod yn nodwedd mewn perthnasoedd blaenorol drwy drafod gyda’r dioddefwr neu gael mynediad at alwadau’r heddlu neu gofnodion troseddol perthnasol a gedwir am y cyflawnwr[footnote 21]. Mae Canllawiau’r Coleg Plismona ar Arestio a dulliau gweithredu cadarnhaol eraill yn nodi “gallai cyflawnwr ystrywgar fod yn ceisio tynnu’r heddlu i mewn i gydgynllwynio â’i reolaeth orfodol o’r dioddefwr; rhaid i swyddogion heddlu osgoi chwarae yn nwylo’r prif gyflawnwr ac ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael wrth wneud y penderfyniad i arestio”;

  • Bygwth ‘allan’ y dioddefwr fel ffurf o reolaeth orfodol, dweud wrth y dioddefwr na fydd yn cael eu credu goherwydd ei fod yn uniaethu fel lesbiaidd, hoyw, deurywiol a/neu draws, neu drin gwybodaeth y dioddefwr o ba gymorth sydd ar gael i bobl LHDT a defnyddio mythau a stereoteipiau ynghylch cam-drin domestig LHDT i wneud i weithwyr proffesiynol gredu nad yw cam-drin rhwng cyplau o’r un rhyw yn bodoli;

  • Cuddio cydymffurfiaeth – e.e. gyda gorchymyn llys;

  • Chwarae gwahanol weithwyr proffesiynol yn erbyn ei gilydd;

  • Trin statws mewnfudo’r dioddefwr fel ffurf o reolaeth orfodol, gan gynnwys atal ID, pasbortau a fisas rhag ddioddefwyr, dweud celwydd am eu statws, gadael i fisa dioddefwr ddod i ben yn bwrpasol neu fethu â gweithredu ar ddyletswyddau nawdd ar gyfer mewnfudo;

  • Gwneud bygythiadau o hunanladdiad fel dull o reoli’r dioddefwr, yn enwedig i’w hatal rhag gadael.[footnote 22] Mae ymchwil yn amlygu cysylltiad rhwng dynladdiad domestig a syniadaeth hunanladdol cyflawnwyr, hunan-niweidio a bygythiadau o hunanladdiad. Dengys dadansoddiad ôl-weithredol a gyflwynir mewn llenyddiaeth academaidd fod cyflawnwyr dynladdiadau domestig o leiaf dair gwaith yn fwy tebygol na mathau eraill o gyflawnwyr o fod â thueddiadau hunanladdol.[footnote 23]

  • Defnyddio plant fel ffurf o reolaeth neu orfodaeth – e.e. mynediad, megis torri protocolau trosglwyddo, ceisio dylanwadu ar deimladau plant tuag at gyn-bartner (dioddefwr).

Camfanteisio

  • Camfanteisio ar anghenion cymorth cyfathrebu’r dioddefwyr neu newid gwybodaeth y dioddefwr am ba gymorth sydd ar gael a gwneud i weithwyr proffesiynol gredu nad oes gan y dioddefwr y gallu i adrodd yn gywir neu nad yw adroddiadau’n gredadwy oherwydd anhawster cyfathrebu;

  • Camfanteisio ar ddehongliadau o grefydd neu gred i gynnal rheolaeth dros ddioddefwr a pharhau â’r niwed;

  • Targedu pobl a allai fod yn agored i niwed (efallai y bydd tystiolaeth o hyn o berthnasoedd blaenorol);

Tanseilio

  • Ceisio drysu neu ymyrryd ag ymchwiliad yr heddlu, gan gynnwys ceisio tanseilio datganiadau’r dioddefwr, drwy honni eu bod yn sâl yn feddyliol;

  • Ceisio rheoli arian y dioddefwr, y gallu i gael gafael ar arian neu gael incwm;

  • Defnyddio’r llysoedd i barhau â’r cam-drin, e.e. peidio â mynd i’r llys ar y dyddiad a drefnwyd, anfon llythyron cyfreithiol mynych a diangen a gwneud bygythiadau ynghylch cyswllt;

  • Colli neu ganslo apwyntiadau;

Ceir rhagor o wybodaeth am dactegau cyflawnwyr ym Mhennod 3 y Canllawiau Statudol Cam-drin Domestig.

65.Mae Canllawiau Cyfreithiol Cam-drin Domestig y CPS yn nodi ‘’Mae’n bosibl y cyflwynir adroddiadau anghyson o’r digwyddiad i erlynwyr yn aml, gyda phob parti’n honni mai nhw yw’r diodefwr. Gall y troseddwr wneud gwrth-honiad o gam-drin, neu ddadlau eu bod wedi gweithredu mewn hunanamddiffyniad, gan ei gwneud yn anodd nodi a gwahaniaethu rhwng y prif ddioddefwr a’r prif gyflawnwr. Dylai’r heddlu archwilio natur y berthynas rhwng yr unigolion; cyd-destun y troseddu, gan gynnwys unrhyw alwadau blaenorol, honiadau a/neu euogfarnau yn ymwneud â’r unigolion; ac, a oes unrhyw ffactorau eraill ar waith a allai effeithio ar honiad, megis achosion sifil neu deuluol.’’[footnote 24]

Gweler tabl 1 o’r Pecyn Cymorth CPS ar gyfer Erlyn ar Achosion Trais yn Erbyn Menywod a Merched sy’n Cynnwys Dioddefwr Agored i Niwed ar asesu hygrededd a deall tactegau cyflawnwyr.

66.Os ydych yn ansicr a yw’r drosedd ymddygiad sy’n rheoli neu’n gofodi yn berthnasol mewn achos penodol, siaradwch â’r CPS.[footnote 25] Os oes angen cyngor arnoch ynghylch ymddygiad sy’n rheoli neu orfodi neu gam-drin domestig yn fwy cyffredinol, gallwch hefyd siarad â darparwr gwasanaeth arbenigol neu Gynghorydd Trais Domestig Annibynnol (IDVA). Os yw’r cyngor ar achos penodol, bydd angen caniatâd y dioddefwr arnoch cyn ceiso’r cyngor hwnnw. Am arweiniad pellach ar gyhuddo, gweler Cyhuddo (Canllawiau’r Cyfarwyddwr) - chweched argraffiad, Rhagfyr 2020.[footnote 26]

Potensial i fynd ymlaen ag erlyniad heb dystiolaeth fyw y dioddefwr [erlyniadau a arweinir gan dystiolaeth]

67.Mae canllawiau cyfreithiol y CPS yn cadarnhau y dylai’r strategaeth erlyn, o’r cychwyn cyntaf, ystyried y posibilrwydd o fynd ymlaen heb gefnogaeth y dioddefwr. Yn yr achosion hyn, dylid ystyried y dystiolaeth yn yr achos ac a oes digon i fwrw ymlaen heb dystiolaeth fyw y dioddefwr. Dylai erlynwyr ystyried:

  • Defnyddio tystiolaeth heblaw tystiolaeth y dioddefwr gan gynnwys cyfaddefiadau mewn cyfweliad, teledu cylch cyfyng, tapiau 999, fideo a wisgir ar y corff, tystiolaeth cyfryngau cymdeithasol neu dystion eraill;

  • Res gestae - datganiadau a wneir gan y dioddefwr neu dyst i drydydd parti, yn ystod neu’n fuan ar ôl yr amser y cyflawnwyd y drosedd, sydd mor uniongyrchol gysylltiedig â’r digwyddiadau fel ei bod yn annhebygol eu bod wedi’u hystumio neu eu creu – gall fod yn dderbyniol fel achlust;

  • Achlust arall - defnyddio Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 i dderbyn datganiad dioddefwr absennol fel tystiolaeth os oes tystiolaeth bod y dioddefwr mewn ofn neu os yw gwneud hynny er budd cyfiawnder.

68.O dan y Cod Dioddefwyr, rhaid i’r heddlu gynnig cyfle i ddioddefwr cam-drin domestig wneud datganiad personol dioddefwr (VPS), hyd yn oed os nad ydynt wedi rhoi unrhyw ddatganiad tyst arall.

Cyfeiriwch hefyd atArfer Proffesiynol Awdurdodedig (APP) y Coleg Plismona ar Ymchwilio i Gam-drin Domestig.

Dylai Swyddogion Heddlu a Phrif Swyddogion gyfeirio at’God Ymarfer y Lluoedd Arfog ar gyfer Dioddefwyr Troseddau’.

Ystyried troseddau eraill

69.Bydd cudd-wybodaeth a chadw cofnodion da yn bwysig o ran sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei chofnodi a’i chadw mewn perthynas â chwrs ymddygiad. Mae hyn yn cynnwys adroddiadau a wnaed gan y dioddefwr. Os datgelir troseddau hanesyddol, dylid eu logio yn unol â Safonau Cenedlaethol Cofnodi Troseddau a’u nodi’n briodol fel cam-drin domestig.

70.Mae’n bosibl hefyd y y bydd modd cyhuddo am droseddau lluosog. Er enghraifft, gallai person gael ei gyhuddo o ymosod neu dreisio cyffredin ac ymddygiad rheoli neu orfodi. Bydd y CPS yn gallu rhoi cyngor ar ba gyfuniad o gyhuddiadau sydd fwyaf priodol, ond mae’n bwysig cofio nad yw presenoldeb ymddygiad rheoli neu orfodi yn golygu nad oes unrhyw drosedd arall wedi’i chyflawni neu na ellir ei chyhuddo.

71.Dim ond yn y llys ynadon[footnote 27] y gellir gwrando ar “droseddau diannod” megis ymosodiad cyffredin, ac ar hyn o bryd mae terfyn amser o chwe mis (ar ôl i’r drosedd ddigwydd) i erlyn[footnote 28]. Felly, mae’n bwysig ystyried y cyd-destun ehangach ynghylch ymosodiad, neu droseddau diannod perthnasol eraill, ac a allai hyn fod yn rhan o batrwm ehangach o gam-drin a allai hefyd gynnwys ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi. Dylid nodi hefyd nad yw’r drosedd ymddygiad sy’n rheoli a gorfodi yn ddarostyngedig i derfynau amser erlyn gan ei bod yn drosedd “naill ffordd”[footnote 29], y gellir ei chlywed naill ai mewn llys ynadon neu Lys y Goron.

72.Nid yw trosedd sy’n rheoli neu orfodi yn cael effaith ôl-weithredol. Mae hyn yn golygu na ellir dwyn cyhuddiadau mewn perthynas ag ymddygiad(au) a ddigwyddodd cyn y dyddiad y daeth y drosedd i rym. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd ymddygiad a ddigwyddodd cyn gweithredu’r drosedd yn dal i gael ei ddyfynnu fel tystiolaeth o gymeriad drwg a dylid trosglwyddo unrhyw dystiolaeth sy’n ymwneud ag ef i’r CPS[footnote 30] a all ystyried gwneud cais i’r llys. Bydd y diwygiad i’r drosedd o ymddygiad sy’n rheoli neu gorfodi, i ddileu’r gofyniad “byw gyda’n gilydd” ar gyfer cyn-bartneriaid ac aelodau o’r teulu, yn dod i rym yn ddiweddarach eleni ac ni fydd yn cael effaith ôl-weithredol.

73.Efallai y bydd achosion lle gallai fod yn briodol ystyried cyhuddiad am y drosedd o stelcian yn hytrach nag ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi. Ar hyn o bryd mae’r Llywodraeth, y CPS a’r heddlu yn gweithio ar ddatblygu cyngor ac arweiniad clir a chyson ar ba bryd i ystyried cyhuddiad am y drosedd o stelcian. Bydd y cyngor hwn yn cael ei gynnwys yn fersiwn terfynol y canllawiau hyn yn ddiweddarach eleni.

Dogfennau pellach i gyfeirio atynt:

Lle nad yw’r drosedd yn berthnasol

74.Mae amgylchiadau lle gallai gweithredoedd o ymddygiad rheoli neu orfodi fod wedi digwydd, ond nid yw’n bosibl i’r drosedd gael ei chyhudd. Ni fyddai’r drosedd yn berthnasol lle:

  • Nid oedd gan y dioddefwr a’r cyflawnwr “gysylltiad personol” ar yr adeg y digwyddodd yr ymddygiad (gweler Atodiad B am ddiffiniad llawn o “gysylltiad personol’’). Mewn amgylchiadau o’r fath, dylid ystyried a oes modd dangos tystiolaeth o ymddygiad gyda’r bwriad o ddwyn cyhuddiadau o dan ddeddfwriaeth aflonyddu neu stelcian presennol.. Os oes bygythiadau o drais ond os nad oes gan y dioddefwr a’r cyflawnwr gysylltiad personol, dylid ystyried troseddau eraill megis Bygythiadau i Ladd[footnote 31] neu Ymosodiad Cyffredin, lle mae’r cyflawnwr yn “ddi-hid yn achosi i rywun arall ddioddef neu ddal trais anghyfreithlon uniongyrchol’.[footnote 32]

  • Mae’r ymddygiad dan sylw yn cael ei gyflawni yn erbyn plentyn o dan 16 oed gan rywun 16 oed neu hŷn sydd â chyfrifoldeb am y plentyn hwnnw (gweler is-adran (3)). Mae hyn oherwydd bod y gyfraith droseddol, yn enwedig y drosedd creulondeb/esgeulustod o blant yn adran 1 Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933[footnote 33], eisoes yn ymdrin ag ymddygiad o’r fath – gan ei gwneud yn drosedd achosi dioddefaint emosiynol neu seicolegol i blentyn, gan gynnwys drwy ddod i gysylltiad â cham-drin domestig. Dylid nodi hefyd bod adran 3 Deddf 2021 yn cydnabod y gall cam-drin domestig effeithio ar blentyn sy’n gweld, yn clywed neu’n profi effeithiau’r cam-drin ac mae’n trin plant o’r fath fel dioddefwyr cam-drin domestig yn eu rhinwedd eu hunain, lle maent yn perthyn i’r dioddefwr neu’r cyflawnwr.

  • Nid yw’r ymddygiad yn digwydd dro ar ôl tro nac yn barhaus, er enghraifft, roedd yn ymddygiad untro mewn gwirionedd.

  • Nid yw’r ymddygiad yn cael “effaith ddifrifol” ar y dioddefwr fel y’i diffinnir gan y gyfraith. Bydd yr ymddygiad yn cael “effaith ddifrifol” os: yw’n peri i’r dioddefwr ofni, ar ddau achlysur neu fwy, y bydd trais yn cael ei ddefnyddio yn ei erbyn – adran 76 (4)(a); neu os yw’n achosi braw neu drallod difrifol i’r dioddefwr sy’n cael effaith andwyol sylweddol ar ei weithgareddau o ddydd i ddydd – adran 76 (4) (b). Mae canllawiau’r CPS yn nodi y gallai’r canlynol fod yn enghreifftiau o effaith ddifrifol ar y dioddefwr:

    • Atal neu newid y ffordd y mae rhywun yn cymdeithasu

    • Dirywiad iechyd corfforol neu feddyliol

    • Newid yn y drefn arferol gartref gan gynnwys y rhai sy’n gysylltiedig ag amser bwyd neu waith tŷ

    • Rhoi mesurau ar waith gartref i ddiogelu eu hunain neu eu plant

    • Newidiadau i batrymau gwaith, statws cyflogaeth neu lwybrau at waith

Gallai enghreifftiau eraill o effaith ddifrifol gynnwys:

  • Cael ei fonitro gan y cyflawnwr a bod angen adrodd yn ôl iddo

  • Annibyniaeth ariannol gyfyngedig, e.e: gwrthod cael mynediad i arian, cael ei atal rhag gweithio, cyflawnwr yn tanseilio cyflogaeth, gwrthod cael mynediad i gyfrifon banc ar y cyd, dyled wedi’i gorfodi

  • Bod yn amddifad o fynediad at feddyginiaeth, defnydd ffôn a rhyngrwyd

  • Teimlo na teulu neu ffrindiau ymweld

  • Dod yn ynysig yn gymdeithasol

  • Ddim yn cael penderfynu beth y gallant ac na allant ei wisgo

Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr.

Adran 3 – Yr amddiffyniad

75.Mae is-adrannau (8) i (10) o Adran 76 Deddf Troseddau Difrifol 2015 yn darparu ar gyfer amddiffyniad pan fo’r diffynnydd yn credu ei fod yn gweithredu er lles gorau’r dioddefwr.

Nid yw’r amddiffyniad a amlinellir uchod ar gael i’r rhai sydd wedi achosi i berson arall ofni y gellid defnyddio trais yn eu herbyn.

76.Er mwyn gallu dibynnu ar yr amddiffyniad, mae angen i’r diffynnydd ddangos iddynt gredu eu bod yn gweithredu er lles pennaf y dioddefwr a bod eu gweithredoedd yn rhesymol o dan yr amgylchiadau. Ni fyddai diffynnydd yn gallu dibynnu ar yr amddiffyniad lle nad oedd person â mynediad at yr un wybodaeth yn credu bod ei ymddygiad yn rhesymol, hyd yn oed os yw’r diffynnydd wedi credu’n wirioneddol ei fod. Er enghraifft, nid yw’n fater syml o A yn dweud, “Rwy’n credu ei fod er lles pennaf B”. Mae elfen wrthrychol i’r amddiffyniad sy’n caniatáu i lys ynadon neu reithgor yn Llys y Goron wrthod yr amddiffyniad a gyflwynir pan fyddant yn canfod bod ymddygiad y diffynnydd yn afresymol.

Adran 4 – Cosbau troseddol a gorchmynion amddiffyn

77.Mae ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi yn drosedd ddifrifol ac mae ganddi gosb uchaf o bum mlynedd o garchar a/neu ddirwy anghyfyngedig.

78.Mae’r Cyngor Dedfrydu annibynnol, sy’n datblygu canllawiau dedfrydu ar gyfer llysoedd, wedi cyhoeddi canllaw ar ymddygiad sy’n rheoli neu orfodi sydd i’w weld yma. Roedd hwn yn darparu arweiniad ar y ffactorau y mae’n rhaid i’r llys eu hystyried a allai effeithio ar y ddedfryd ac mae’n nodi lefelau gwahanol o ddedfryd, o fewn y gosb uchaf, yn seiliedig ar y niwed a achoswyd i’r dioddefwr a beiusrwydd y troseddwr

79.Mae nifer o fesurau troseddol a sifil i dargedu cyflawnwyr ymddygiad sy’n rheoli neu orfodi ac i amddiffyn dioddefwyr a’u teuluoedd. Mae ymateb aml-asiantaeth hefyd yn allweddol i amddiffyn a chefnogi’r dioddefwr a’i deulu yn gynnar, gan gynnwys plant a phobl ifanc, yn ogystal â rheoli’r cyflawnwr.

80.Gall gorchmynion atal gael eu gwneud o dan Ddeddf Gwarchod rhag Aflonyddu 1997 gan lys i amddiffyn dioddefwr, dioddefwyr neu unrhyw berson arall rhag ymddygiad sy’n gyfystyr ag aflonyddu neu stelcian. Er enghraifft, gellir eu defnyddio pan fydd rhywun wedi’i ddyfarnu’n euog neu hyd yn oed yn ddieuog o drosedd o’r fath, a gellir hyd yn oed eu gorfodi pan fydd y cyflawnwr yn cael dedfryd o garchar (gan gydnabod y gall aflonyddu ddigwydd o’r carchar neu ar ôl ei ryddhau).

81.Yn gyffredinol, mae gorchmynion atal yn gwahardd person rhag cysylltu â dioddefwyr ac yn gosod cyfyngiadau arnynt rhag gwneud unrhyw beth a ddisgrifir yn y gorchymyn. Er enghraifft, gall gorchymyn atal wahardd person rhag dod o fewn pellter penodol i gartref y dioddefwr. Ystyrir bod person sy’n ddarostyngedig i orchymyn o’r fath ac sy’n torri ei delerau heb esgus rhesymol yn torri’r gorchymyn, sy’n drosedd a gellir ei gosbi â chosb uchaf o bum mlynedd o garchar.

82.Gall yr heddlu hefyd wneud cais i’r llys ynadon am Orchymyn Diogelu rhag Stelcio (SPO) o dan Ddeddf Diogelu Stelcio 2019 i amddiffyn rhywun rhag risg sy’n gysylltiedig â stelcian. Gellir defnyddio SPOs ar gyfer unrhyw fath o stelcian, waeth beth fo’r berthynas rhwng y dioddefwr a’r cyflanwr. Gall SPOs gynnwys gwaharddiadau ar ymddygiad y cyflawnwr (megis peidio â chysylltu â dioddefwr) a/neu ofynion cadarnhaol (megis mynychu rhaglen i fynd i’r afael â’u hymddygiad stelcian). Mae torri telerau SPO heb esgus rhesymol yn drosedd, gydag uchafswm cosb o bum mlynedd o garchar.

83.Cyflwynodd Deddf Cam-drin Domestig 2021 Hysbysiad Diogelu Cam-drin Domestig sifil newydd (DAPN) i ddarparu amddiffyniad ar unwaith yn dilyn digwyddiad cam-drin domestig, a Gorchymyn Diogelu Cam-drin Domestig (DAPO) sifil newydd i ddarparu amddiffyniad hyblyg, tymor hwy i ddioddefwyr rhag pob ffurf o gam-drin domestig. Byddai DAPN yn cael ei gyhoeddi gan yr heddlu a gallai, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol i gyflawnwr adael cartref y dioddefwr am gyfnod cychwynnol o hyd at 48 awr.

O fewn y cyfnod o 48 awr, rhaid i’r heddlu wneud cais i’r llys ynadon am DAPO. Bydd DAPOs hefyd ar gael yn y llysoedd teuluol, sifil a throseddol, a gallai ceisiadau gael eu gwneud gan ddioddefwyr, yr heddlu, unrhyw drydydd parti penodedig fel y nodir mewn rheoliadau, ac unrhyw barti arall sy’n cael caniatâd y llys i wneud cais. Bydd llysoedd troseddol, teuluol a sifil hefyd yn cael eu galluogi i wneud DAPO yn ystod achosion llys parhaus, nad oes rhaid iddynt fod yn gysylltiedig â cham-drin domestig. Bydd DAPNs/DAPOs yn cael eu treialu mewn ardaloedd dethol yng Nghymru a Lloegr yn gynnar yn 2023, cyn eu cyflwyno’n genedlaethol yn 2025 pan fyddant yn disodli’r Hysbysiadau Diogelu Trais Domestig a Gorchmynion Diogelu Trais Domestig yn genedlaethol.

84.Bydd DAPOs yn gallu gosod gwaharddiadau a gofynion cadarnhaol ar gyflawnwyr. Gallai gwaharddiadau gynnwys cyfyngu’r cyflawnwr rhag dod o fewn pellter penodol i gartref y dioddefwr a/neu unrhyw fangre benodol arall, megis gweithle’r dioddefwr. Byddai gofynion cadarnhaol yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyflawnwr gymryd camau megis mynychu rhaglen newid ymddygiad, rhaglen camddefnyddio alcohol neu sylweddau neu asesiad iechyd meddwl. Gallent hefyd orfodi monitro electronig (‘tagio’) er mwyn monitro cydymffurfiaeth â gofynion penodol eraill, a gofynion hysbysu gorfodol o enw a chyfeiriad ar y person sy’n destun y gorchymyn.

85.Bydd llysoedd yn gallu amrywio’r gofynion a osodir mewn ymateb i newidiadau yn ymddygiad y cyflawnwr a’r risg y maent yn ei pheri. Hefyd, ni fydd gan y DAPO isafswm neu uchafswm hyd, gan ganiatáu i ddioddefwyr gael yr amddiffyniad sydd ei angen arnynt cyhyd ag y bo angen.

86.Bydd torri DAPO yn drosedd, gydag uchafswm cosb o hyd at bum mlynedd o garchar, neu ddirwy, neu’r ddau. Byddwn hefyd yn cadw’r llwybr dirmyg llys ar gyfer ddioddefwyr sy’n dymuno dilyn achos o dorri amodau yn y llysoedd sifil.

Gweler canllawiau’r Cyngor Dedfrydu sy’n nodi’r egwyddorion sy’n berthnasol i ddedfrydu achosion sy’n ymwneud â cham-drin domestig: https://www.sentencingcouncil.org.uk/publications/item/overarching-principles-domestic-abuse-definitive-guideline/

Adran 5 – Ymateb aml-asiantaeth

Sut y gall gwasanaethau cymorth eich helpu

87.Gall gwasanaethau cymorth helpu i gefnogi’r dioddefwr i ymgysylltu â’r broses cyfiawnder troseddol. Gall darparu cymorth arbenigol helpu i atal y dioddefwr rhag tynnu’n ôl o achos ac mae hefyd yn cefnogi casglu tystiolaeth, er enghraifft, trwy ddarparu cofnodion gwasanaeth ac achos, a chofnodion cyswllt a wneir gyda llinellau cymorth.

88.Dylai’r heddlu ddilyn eu protocolau a’u canllawiau lleol gan gynnwys gweithdrefnau asesu risg a chyfeirio at wasanaethau cymorth arbenigol gan gynnwys cynadleddau asesu risg aml-asiantaeth (MARACs), llinellau cymorth ac Eiriolwyr Trais Domestig Annibynnol (IDVAs) lle bo angen. Gall IDVAs hefyd gefnogi dioddefwr trwy gydol y broses cyfiawnder troseddol. Gall hyn gynnwys:

  • Cysylltu â’r heddlu ar ran y dioddefwr;

  • Sicrhau bod y dioddefwr yn cael gwybod am bob cam o’r broses erlyn;

  • Gweithio gydag erlynwyr i gefnogi’r dioddefwr;

  • Cysylltu â gwasanaethau gofal tystion yn y llys i sicrhau eu bod yn ymwybodol o unrhyw anghenion dioddefwyr ac i benderfynu pa gymorth y gallant ei gynnig;

  • Rhoi gwybod i’r dioddefwr pa fesurau arbennig sydd ar gael megis sgriniau, cyswllt fideo a mynedfeydd ar wahân; a

  • Mynychu’r llys gyda’r dioddefwr am gymorth emosiynol.

89.Gall dioddefwyr mewn perthynas gamdriniol ei chael hi’n anodd dod â’r berthynas i ben a gall fod diffyg dealltwriaeth gyhoeddus a phroffesiynol ynglyn â pham nad yw dioddefwyr “dim ond yn gadael”, a all greu stigma pellach ynghylch y cam-drin y maent yn ei brofi a bod yn rhwystr i ddioddefwyr gael mynediad at gymorth effeithiol.[footnote 34] Gall dioddefwyr hefyd ofyn i’r heddlu beidio â bwrw ymlaen ymhellach ag erlyniad achos a thynnu eu cefnogaeth yn ôl o’r broses.[footnote 35] Cynhyrchodd yr Athro Liz Kelly broses chwe cham sy’n darparu fframwaith i helpu i ddeall pam y gall pobl aros mewn perthynas gamdriniol neu ddangos amharodrwydd i’w adrodd.[footnote 36] Gall y fframwaith hwn helpu ymarferwyr i ddeall sut y gall y dioddefwr weld ei sefyllfa ac amlinellu’r chwe cham canlynol:

  • Rheoli’r sefyllfa. Mae’r dioddefwr wedi dechrau profi cam-drin, maen nwh’n ymateb i ddechrau drwy addasu eu hymddygiad a chwilio am ffyrdd o’i reoli eu hunain.

  • Afluniad o bersbectif/realiti. Mae ceisio rheoli’r gamdriniaeth yn effeithio ar fywyd dydd i ddydd y dioddefwr. Maent yn profi mwy o bryder ac yn canolbwyntio ar addasu ymddygiad i dawelu’r cyflawnwr. Mae’r dioddefwr yn mabwysiadu safbwynt y camdriniwr ac yn dechrau beio ei hun.

Gall hyn hefyd fod yn “gaslighting”, math o gam-drin seicolegol lle mae’r cyflawnwr yn trin y dioddefwr a all wneud iddynt amau eu hunain, eu hatgofion a’u barn, gan arwain at effaith ddinistriol ar eu hiechyd meddwl a’u lles.[footnote 37]

  • Diffinio cam-drin. Mae’r dioddefwr yn dod yn ymwybodol bod y berthynas yn gamdriniol.

  • Ail-asesu’r berthynas. Mae’r dioddefwr yn ailystyried gwahanol agweddau ar y berthynas ac yn meddwl am ei opsiynau pe bai’n aros neu’n gadael

  • Dod â’r berthynas i ben. Mae’r dioddefwr yn gadael y berthynas. Gall gymryd sawl ymgais a gallant ddychwelyd i’r berthynas. Mae potensial i ddioddefwyr weithio drwy’r camau sawl gwaith.

  • Rhoi diwedd ar y trais. Nid yw’r dioddefwr sy’n dod â’r berthynas i ben bob amser yn sicrhau bod y cam-drin yn dod i ben. Mae’n bwysig bod yn ymwybodol y gallai hyn, mewn gwirionedd, eu rhoi mewn mwy o berygl o ymosodiad difrifol, a hyd yn oed ymosodiad angheuol.[footnote 38] Felly mae angen rheolaeth risg briodol.

90.Mae cymorth arbenigol ar gael hefyd i helpu cyflawnwyr i newid eu hymddygiad. Gellir cael gwybodaeth gan Respect neu raglenni lleol eraill. Dylid ond ar y cyd â chynghorwyr arbenigol ac yn dilyn asesiad risg priodol y dylid atgyfeirio neu hunan-atgyfeirio i raglen cyflawnwr.

Gweler Atodiad F am wasanaethau cymorth i gyflawnwyr a chyfeiriwch at bennod 6 Canllawiau Statudol ar Gam-drin Domestig am rhagor o wybodaeth am raglenni cyflawnwyr.

Sut y gall gwasanaethau ac asiantaethau eraill gynorthwyo

91.Mae amrywiaeth o asiantaethau a gwasanaethau cymorth a allai fod â gwybodaeth a allai ddarparu tystiolaeth berthnasol a fyddai’n helpu i adeiladu achos. Er enghraifft: cofnodion meddygol, nodiadau achos o wasanaethau eraill megis iechyd meddwl, gwasanaethau cyffuriau ac alcohol, gwasanaethau ariannol neu’r system cyfiawnder teuluol. Gall tystiolaeth gyd-destunol hefyd fod ar gael hefyd gan y gwasanaethau tai, er enghraifft cofnodion o ddifrod i eiddo megis tyllau mewn waliau neu gwynion gan denantiaid eraill[footnote 39].

92.Mae’n bwysig cofio bod adran 3 o Ddeddf 2021 yn cydnabod plant fel dioddefwyr cam-drin domestig yn eu rhinwedd eu hunain os ydynt yn gweld, yn clywed neu’n profi effeithiau’r gamdriniaeth, ac yn perthyn i’r dioddefwr neu’r cyflawnwr. Gall yr heddlu, ochr yn ochr ag asiantaethau eraill, chwarae rhan bwysig wrth nodi plant sydd angen cymorth ac amddiffyniad o ganlyniad i gam-drin domestig, a all gynnwys ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi, a sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

93.Mewn perthynas â phlant a phobl ifanc (hyd at 18 oed), mae’r ddogfen ganllaw statudol, Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Plant (2018) yn nodi’r hyn y mae angen i weithwyr proffesiynol a sefydliadau ei wneud, yn unigol ac mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill, i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Mae Deddf Plant a Gwaith Cymdeithasol 2017 yn gosod dyletswydd gyfartal a rennir ar y tri phartner diogelu, (prif weithredwr yr awdurdod lleol, swyddog atebol grŵp comisiynu clinigol a phrif swyddog yr heddlu) i wneud trefniadau i gydweithio, a gyda phartneriaid eraill yn lleol, i ddiogelu a hyrwyddo lles pob plentyn yn eu hardal.

94.Yng Nghymru, mae cyfrifoldebau diogelu statudol wedi’u nodi yn y canllawiau Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl, Cyfrol 5: Ymdrin ag achosion unigol i amddiffyn plant sy’n wynebu risg a Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl, Cyfrol 6: Ymdrin ag achosion unigol i amddiffyn oedolion sy’n wynebu risg. Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn helpu ymarferwyr i gymhwyso Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a chanllawiau statudol, ar draws asiantaethau.[footnote 40]

I gael rhagor o wybodaeth am gyfrifoldebau diogelu, gan gynnwys ar gyfer plant a gwaith aml-asiantaeth, cyfeiriwch at bennod 4 Canllawiau Statudol Cam-drin Domestig. Dylai’r heddlu hefyd gyfeirio at eu protocolau lleol ar gyfer diogelu oedolion a phlant.

Adran 6 – Niwed cysylltiedig, troseddau ac is-setiau eraill o gam-drin domestig

Aflonyddu neu stelcian

95.Mae’n bwysig deall y gwahaniaethau rhwng y troseddau o ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi ag aflonyddu neu stelcian. Yn debyg i ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi, mae aflonyddu neu stelcian yn cynnwys cwrs o ymddygiad neu batrwm ymddygiad sy’n achosi braw neu drallod i rywun, neu ofn trais.

96.Mae’r troseddau o aflonyddu a stelcain wedi’u nodi yn Neddf Diogelu rhag Aflonyddu 1997 (Deddf 1997) yn adrannau 2, 2A, 4 and 4A:

  • Adran 2 (aflonyddu) mae’r diffynnydd yn dilyn cwrs o ymddygiad, sy’n gyfystyr ag aflonyddu ar rywun arall ac y mae’r diffynnydd yn gwybod, neu y dylai wybod, sy’n gyfystyr ag aflonyddu. Mae’r drosedd yn berthnasol pan fydd ymddygiad o’r fath yn cael ei dargedu at unigolyn ar ddau achlysur neu fwy neu lle mae’r aflonyddu wedi’i dargedu at ddau neu fwy o bobl o leiaf unwaith, er enghraifft aflonyddu ar grŵp o bobl anabl.

  • Mae Adran 2A (stelcian) yn ymwneud ag aflonyddu ar un person arall fwy nag unwaith, lle mae’r gweithredoedd a’r hepgoriadau dan sylw yn gysylltiedig â stelcian.

    • Nid yw stelcian wedi’i ddiffinio, ond mae adran 2A yn darparu rhestr nad yw’n gynhwysfawr o enghreifftiau o weithredoedd a hepgoriadau a allai, yn eu cyd-destun, awgrymu stelcian, megis dilyn rhywun, cysylltu â nhw neu geisio gwneud hynny, neu fonitro eu defnydd o gyfathrebiadau rhyngrwyd, e-bost neu gyfathrebiadau electronig eraill.
  • Adran 4 (rhoi ofn trais ar bobl) bod y diffynnydd yn dilyn cwrs o ymddygiad sy’n gyfystyr ag aflonyddu sy’n achosi i berson ofni, ar o leiaf ddau achlysur, y bydd trais yn cael ei ddefnyddio yn eu herbyn ac y mae’r diffynnydd yn gwybod, neu y dylai wybod, y byddai ei ymddygiad yn cael yr effaith hon.

  • Mae Adran 4A (stelcian sy’n cynnwys ofn trais neu ddychryn neu drallod difrifol) yn ymwneud ag adran 2A ymddygiad stelcian sydd naill ai’n achosi i rywun ofni, ar o leiaf ddau achlysur, y bydd trais yn cael ei ddefnyddio yn eu herbyn, neu sy’n achosi braw neu drallod difrifol iddynt sydd ag effiath effaith sylweddol ar eu gweithgareddau arferol.

97.Er nad oes diffiniad statudol o aflonyddu, deellir yn gyffredinol ei fod yn ymwneud ag ymddygiad amhriodol, gormesol ac afresymol sydd wedi’i dargedu at unigolyn ac sydd wedi’i gynllunio i ddychryn, achosi trallod neu godi ofn arnynt. Gall yr ymddygiad fod yn eiriol neu’n ddieiriau ac nid oes rhaid iddo fod yr un math o weithred bob tro. Er enghraifft, gallai cyflawnwr ddefnyddio amrywiaeth o ffyrdd i aflonyddu ar rywun fel anfon negeseuon testun neu e-byst bygythiol, gwneud galwadau ffôn camdriniol, difrodi eiddo neu roi gwybod ar gam i’r heddlu pan nad ydynt wedi gwneud dim o’i le.

98.Nid oes angen cysylltiad personol i i stelcian, sy’n wahaniaeth allweddol o ran ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi a mathau eraill o gam-drin domestig. Mae’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) hefyd wedi mabwysiadu’r disgrifiad canlynol, sy’n ymddangos yng nghanllawiau statudol y Llywodraeth ar Orchmynion Amddiffyn rhag Stelcio:

Mae stelcian yn “batrwm o ymddygiad annymunol, obsesiynol sy’n ymwthiol. Gall gynnwys aflonyddu sy’n gyfystyr â stelcian neu stelcian sy’n achosi ofn trais neu ddychryn neu drallod difrifol i’r dioddefwr.’’[footnote 41]

99.Am arweiniad pellach ynghylch aflonyddu a stelcio, cyfeiriwch at y canlynol:

100.Er mwyn diogelu dioddefwyr rhag cam-drin pellach, dylai swyddogion fod yn ymwybodol o’r canllawiau uchod i sicrhau bod y camau priodol yn cael eu cymryd wrth ystyried a yw achos yn un o ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi a/neu aflonyddu neu’n stelcian.

Dynladdiad domestig a hunanladdiad

101.Mae ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi yn ffactor risg mewn dynladdiadau domestig, yn enwedig ar gyfer menywod sy’n dioddef o ddynladdiad partner agos [footnote 42] ac yn rhagflaenydd arwyddocaol ar gyfer hunanladdiadau.[footnote 43] Lle mae hunanladdiad wedi digwydd, dylai’r heddlu ac erlynwyr ystyried a allai ymddygiad rheoli neu orfodi’r cyflawnwr fod yn gyfystyr â Deddf Dynladdiad Anghyfreithlon.[footnote 44]

102.Canfu adolygiad Prosiect Dynladdiad Domestig 2020-2021[footnote 45] o lenyddiaeth a thystiolaeth fod ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi yn ffactor risg sylweddol mewn dynladdiad partner agos a hunanladdiadau a amheuir gan dioddefwyr lle mae hanes o gam-drin domestig.[footnote 46] Canfu’r adolygiad fod 28% o’r rhai a ddrwgdybir yn hysbys i’r heddlu am ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi, ac roedd yn un o’r pum ffactor risg mwyaf cyffredin.[footnote 47]

103.Nododd y prosiect hefyd, mewn llawer o achosion o ddynladdiadau partner agos, fod ymddygiad rheoli neu orfodi gan y sawl a ddrwgdybir tuag at ddioddefwr yn bresennol yn gryf.[footnote 48] Nododd hefyd fod proffiliau risg tebyg iawn i hunanladdiad a amheuir gan ddioddefwyr a dynladdiad partner agos. Mae hanes o gam-drin domestig, tagu nad yw’n angheuol ac ymdrechion i wahanu i gyd yn arwyddion o ymddygiad sy’n rheoli a gorfodi ac maent yn ffactorau risg ar gyfer dynladdiad partner agos ac amheuaeth o hunanladdiad fel dioddefwyr. Mae hyn yn awgrymu y gallai achosion o gam-drin domestig risg uchel, a nodweddir yn aml gan reolaeth neu orfodaeth, ddod i ben yn yr un modd naill ai mewn dynladdiad neu hunanladdiad diodefwr a amheuir.

104.Argymhellodd adroddiad y prosiect y dylai pob asiantaeth sy’n ymwneud ag unrhyw broses MARAC ystyried y risg o hunanladdiad dioddefwyr yn dilyn cam-drin domestig ochr yn ochr â’r risg o ddynladdiad, lle mae ffactorau risg yn dynodi ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi – gan gynnwys hanes o dagu heb fod yn angheuol ac ymdrechion i wahanu – yn bresennol.[footnote 49]

105.O’r ymchwil hwn, gallwn ddod i gasgliad allweddol y gall nodi ac erlyn ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi liniaru ymhellach yn erbyn yr ystod o ffactorau risg a all arwain at niwed a throseddau eraill, megis hunanladdiad a dynladdiad.

106.Mae cydberthynas glir hefyd rhwng ymddygiad stelcian a’r risg o niwed difrifol neu farwolaeth. Dangosodd astudiaeth ymchwil a oedd yn ymdrin â 358 o achosion o ddynladdiad (dioddefwr benywaidd a chyflawnwr gwrywaidd) yn y DU yn y blynyddoedd 2012, 2013 a 2014, y cofnodwyd ymddygiadau stelcian mewn 94% o’r achosion hyn, a chofnodwyd rheolaeth a gorfodaeth mewn 92% o’r achosion hyn.[footnote 50]

107.Am arweiniad pellach ar y ffactorau risg cysylltiedig hyn, cyfeiriwch at yGorchmynion Amddiffyn rhag Stelcio: Canllawiau Statudol i’r Heddlu.

Is-setiau eraill o gam-drin domestig

108.Gall ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi fod yn nodwedd amlwg o fathau eraill o gam-drin. Rhestrir rhai enghreifftiau isod ond ceir rhagor o fanylion ym Mhennod 2 y Canllawiau Statudol ar Gam-drin Domestig.

Cam-drin corfforol

109.Mae cam-drin corfforol, ymddygiad treisgar neu fygythiol, yn aml yn ffurfio rhan o ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi. Gall hyn gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i:

  • Cael, neu fygwth cael eich cicio, eich pwnio, pinsio, gwthio, llusgo, slapio, crafu, tagu a chnoi.

  • Defnyddio, neu fygwth defnyddio, ‘arfau’, megis cyllyll a haearn;

  • Cael eich llosgi,sgaldio, gwenwyno, neu geisio’ch boddi;

  • Gwrthrychau’n cael eu taflu at neu i gyfeiriad y dioddefwr;

  • Trais neu fygythiadau yn erbyn aelodau o’r teulu, ffrindiau a/neu anifeiliaid anwes;

  • Peri niwed drwy ddifrodi neu atal mynediad i offer neu gymorthion meddygol - e.e. efallai byddai pobl Fyddar yn cael eu hatal rhag cyfathrebu mewn iaith arwyddion neu gael eu hoffer clywed wedi’u tynnu; a

  • Niweidio rhywun wrth gyflawni dyletswyddau ‘gofalu’, sy’n aml yn cael eu cyflawni gan berthnasau. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i ddioddefwyr anabl a gall gynnwys bwydo drwy rym, gor-feddyginiaeth, tynnu meddyginiaeth neu wrthod mynediad i ofal meddygol.

Ymosodiad rhywiol, gorfodaeth a cham-drin

110.Gall ymosodiad rhywiol a cham-drin fod yn nodweddion amlwg o ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi. Gall cyflawnwyr ddefnyddio ymosodiad neu gamdriniaeth rywiol, neu fygythiadau o ymosodiad rhywiol neu gamdriniaeth rywiol i reoli a gorfodi dioddefwr. Gall hyn gynnwys:

  • Treisio;

  • Cael eu gorfodi i gael rhyw neu weithgareddau rhywiol, gan gynnwys gyda phobl eraill;

  • Cael eu gorfodi i gymryd rhan mewn gweithredoedd rhywiol oherwydd bygythiadau i eraill, gan gynnwys plant;;

  • Cyswllt neu ofynion rhywiol digroeso;

  • Treisio ‘cywirol’ (yr arfer o dreisio rhywun gyda’r nod o’i ‘wella’ o fod yn LHDT);

  • Cael eu gadael yn agored, yn fwriadol, i HIV neu heintiau a drosglwyddir yn rhywiol;

  • Cael eu pwyso neu eu twyllo i gael rhyw anniogel, gan gynnwys twyllo ynghylch y defnydd o atal cenhedlu;

  • Ymwneud dan orfodaeth â chreu neu wylio pornograffi; a

  • Brifo dioddefwr yn ystod rhyw, gan gynnwys tagu nad yw’n angheuol.

111.Gall dioddefwyr hefyd fod yn destun gorfodaeth atgenhedlol, a all gynnwys: cyfyngu mynediad partner i atal cenhedlu; gwrthod defnyddio dull atal cenhedlu; twyllo ynghylch y defnydd o atal cenhedlu gan gynnwys gwneud honiadau ffug am y defnydd o atal cenhedlu; mynnu bod partner yn cael erthyliad, IVF neu weithdrefn gysylltiedig arall, neu wrthod mynediad i weithdrefnau fel y rhain.

112.Mae cysylltiadau hefyd rhwng cam-drin rhywiol a chamfanteisio rhywiol, gan gynnwys puteindra gorfodol. Gall cyflawnwyr orfodi dioddefwr i gyfnewid rhyw am gyffuriau, alcohol neu arian, neu gyflawni trosedd megis dwyn, i dalu, er enghraifft, am gyffuriau neu alcohol y cyflawnwr.

113.Gall “rhyw garw”, gan gynnwys gweithredoedd sadomasocistaidd, gynnwys achosi poen neu drais, wedi’i ffugio neu fel arall, gyda’r nod o roi boddhad rhywiol i’r partïon dan sylw. Gall y math hwn o weithgaredd gwmpasu ystod eang o ymddygiadau ac, er y gall ddigwydd yn breifat a bod yn gydsyniol, mae adran 71 o Ddeddf 2021 yn nodi bod achosi niwed difrifol, sy’n arwain at niwed corfforol gwirioneddol (ABH) neu niwed corfforol arall neu farwoaleth, yn golygu y bydd y person sy’n gyfrifol am yr anafiadau hynny yn agored i erlyniad troseddol, ni waeth a roddwyd caniatâd gan y sawl a gafodd yr anafiadau ai peidio.

114.Gall tagu nad yw’n angheuol hefyd fod yn rhan o gam-drin rhywiol. Mae Deddf Cam-drin Domestig 2021 (Deddf 2021) yn mynd i’r afael â hyn drwy ddiwygio Deddf Troseddau Difrifol 2015 (Deddf 2015) i gyflwyno dwy adran newydd – adrannau 75A a 75B – sy’n creu trosedd newydd a phenodol o dagu a mygu, a fydd yn gymwys yng Nghymru a Lloegr. Bydd y drosedd yn gymwys i unrhyw achos lle mae person yn tagu neu’n mygu person arall yn fwriadol a bydd yn berthnasol yn gyffredinol. Mae hyn yn golygu y gall fod yn berthnasol i bob achos lle mae person yn tagu neu yn mygu person arall yn fwriadol, gan gynnwys yr achosion hynny lle mae’r drosedd yn digwydd mewn cyd-destun cam-drin domestig.

115.Bydd y drosedd o dagu a mygu yn cwmpasu amrywiaeth o ymddygiadau, gan gynnwys tagu, ond bydd hefyd yn cwmpasu mygu a dulliau eraill a ddefnyddir gan berson sy’n effeithio ar allu dioddefwr i anadlu. Fel sy’n wir ar hyn o bryd o dan y gyfraith ar gyfer troseddau ymosod eraill, bydd y drosedd hon hefyd yn cynnwys amddiffyniad a nodir yn adran 75A (2) Deddf 2015. Fodd bynnag, ni fydd yr amddiffyniad hwnnw’n gymwys pan fo’r dioddefwr yn dioddef niwed difrifol (niwed corfforol gwirioneddol (ABH)) neu anaf difrifol arall, a lle’r oedd y diffynnydd wedi bwriadu achosi’r niwed hwnnw neu’n ddi-hid ynghylch achosi niwed, ni waeth a oedd y dioddefwr yn cydsynio i’r gweithredoedd a arweiniodd at y niwed difrifol ai peidio.

Cam-drin geiriol

116.Mae enghreifftiau o gam-drin geiriol yn cynnwys:

  • Bloeddio a gweiddi dro ar ôl tro;

  • Cywilyddio llafar naill ai yn breifat neu mewn cwmni;

  • Bod yn destun chwerthin ac yn destun hwyl;

  • Sarhad a bygythiadau; a

  • Gwatwar rhywun am eu hanabledd, hunaniaeth o ran rhywedd, cred grefyddol neu ffydd, cyfeiriadedd rhywiol, ymddangosiad corfforol ac ati.

Am arweiniad pellach ar gam-drin emosiynol neu seicolegol, cyfeiriwch hefyd at Bennod 2 Canllawiau Statudol Cam-drin Domestig.

Cam-drin economaidd

117.Mae Deddf 2021 yn cynnwys cam-drin economaidd fel math o gam-drin domestig (gweler Atodiad B am ddiffiniad llawn).

118.Gall cam-drin economaidd [footnote 51] hefyd fod yn ffurf o ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi, lle mae’n digwydd dro ar ôl dro neu’n barhaus. Gall wneud unigolyn yn ddibynnol yn economaidd ar y cyflawnwr, a/neu greu ansefydlogrwydd economaidd, gan ei gwneud yn fwy anodd iddynt ddianc a chael mynediad i ddiogelwch. Gall hyn arwain at unigolyn yn aros gyda’r camdriniwr ac yn cael ei gam-drin yn fwy a’i niwed o ganlyniad.[footnote 52] Mae’n bwysig bod yn ymwybodol y gall cam-drin economaidd ddigwydd neu barhau ar ôl i’r dioddefwr wahanu oddi wrth y camdriniwr. Gellir ymchwilio i’r patrwm ymddygiad hwn (yn ddiweddarach eleni) o dan y drosedd ymddygiad rheoli neu orfodi ddiwygiedig.

119.Efallai na fydd dioddefwyr cam-drin economaidd yn cydnabod eu bod yn cael eu cam-drin a/neu efallai nad ydynt yn sylweddoli y gallai cam-drin o’r fath fod yn drosedd. Er enghraifft, efallai na fydd rhywun sydd wedi ymrwymo i drefniadau cyllid a rennir gyda phartner yn sylweddoli bod y partner yn defnyddio’r trefniant i reoli, pennu neu gamddefnyddio sut y caiff yr arian hwn ei wario.

Felly, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r amrywiaeth o ffyrdd y gall cyflawnwr geisio cam-drin ei ddioddefwr yn economaidd. Gall cydnabod cam-drin o’r fath yn effeithiol hefyd ddarparu tystiolaeth bwysig i gefnogi ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi neu droseddau eraill.

120.Gall enghreifftiau o gam-drin economaidd gynnwys y canlynol, lle mae ganddynt effaith andwyol sylweddol ar y dioddefwr.

  • Rheoli incwm y teulu;

  • Gwrthod gadael i’r dioddefwr wario unrhyw arian heb ‘ganiatâd’;

  • Gwrthod bwyd i’r dioddefwr neu ond gadael iddynt fwyta math arbennig o fwyd;

  • Cynyddu biliau a dyledion megis cardiau credyd yn enw’r dioddefwr, heb iddynt wybod amdanynt;

  • Gorfodi’r dioddefwr i gymryd contractau (fel ffonau neu declynnau), neu gymryd contractau yn enw’r dioddefwr heb eu caniatâd;

  • Gwrthod cyfrannu i incwm y cartref;

  • Gorfodi’r dioddefwr yn fwriadol i fynd i’r llysoedd teulu fel eu bod yn wynebu ffioedd cyfreithiol ychwanegol;

  • Ymyrryd â neu atal dioddefwr rhag rheoli eu statws mewnfudo fel eu bod yn ddibynnol yn economaidd ar y cyflawnwr;

  • Peidio â chaniatáu i ddioddefwr sefydlu dull adnabod personol (e.e. gwneud cais am rif Yswiriant Gwladol) a allai eu hatal rhag gallu sicrhau annibyniaeth ariannol;

  • Atal dioddefwr rhag hawlio budd-daliadau, neu orfodi rhywun i gyflawni twyll budd-daliadau neu gamddefnyddio budd-daliadau o’r fath;

  • Ymyrryd ag addysg, hyfforddiant, cyflogaeth a gyrfa dioddefwr fel eu bod yn ddibynnol yn economaidd ar y cyflawnwr;

  • Gwrthod mynediad dioddefwr i ffôn symudol/car/cyfleustodau;

  • Difrodi eiddo’r dioddefwr;

  • Peidio â chaniatáu i ddioddefwr brynu bwyd anifeiliaid anwes na chael gofal milfeddygol ar gyfer ei anifail anwes.

  • Gorfodi’r dioddefwr i drosglwyddo eiddo neu asedau

  • Gwrthod gwneud taliadau y cytunwyd arnynt neu sy’n ofynnol, er enghraifft ad-daliadau morgais neu daliadau cynhaliaeth plant; a

Rhwystro bwriadol o ran gwerthu asedau a rennir yn fwriadol, neu gau cyfrifon ar y cyd neu forgeisi.

121.Amlygoddd arolwg ar effaith cam-drin economaidd fod 57% o ddioddefwyr cam-drin economaidd mewn dyled neu wedi bod mewn dyled, bod gan 26% sgôr credyd yr effeithiwyd arni’n negyddol, a bod 25% wedi profi cam-drin yn ymwneud â gwariant a chredyd, megis cael dyled yn eu henw heb eu gwybodaeth, neu oherwydd gorfodaeth.[footnote 53] Gall hyn gyfyngu ar allu rhywun i adael perthynas gamdriniol neu gall greu anawsterau parhaus ar ôl gwahanu.

122.Fel y mae gydag ymddygiad rheoli neu orfodi, gall cam-drin economaidd barhau neu gynyddu ôl-wahanu yn achos partneriaid agos, neu gall cyllid y dioddefwyr gael ei reoli gan aelod arall o’r teulu nad yw’n byw gyda hwy, pan allai absenoldeb agosrwydd corfforol olygu mai dyma’r unig ffordd sydd ar ôl i reoli’r dioddefwr. Gallai enghreifftiau o gam-drin economaidd ar ôl gwahanu gynnwys y canlynol:

  • Peidio â thalu morgais;

  • Atal gwerthu eiddo mewn perchnogaeth ar y cyd;

  • Camddefnyddio neu wagio cyfrifon banc ar y cyd;

  • Peidio â thalu cynhaliaeth plant; a

  • Cheisiadau dro ar ôl dro/diangen mewn achosion llys.

123.Mae’r sefydliad Goroesi Cam-drin Economaidd, mewn partneriaeth â Money Advice Plus, wedi creu canllaw i ddeall cam-drin economaidd i ddioddefwyr.

124.Ym mis Chwefror 2021, cyhoeddodd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) ganllawiau wedi’u diweddaru ar gyfer cwmnïau ar drin cwsmeriaid sy’n fregus, ac mae hyn yn cynnwys cyfeiriad penodol at reoli economaidd o ran deall bod chwalu perthynas a cham-drin domestig yn sbardun i fod yn agored i niwed.

125.Mae’r FCA yn diffinio bregusrwydd fel cwsmeriaid sydd, “oherwydd eu hamgylchiadau personol, yn arbennig o agored i niwed, yn enwedig pan nad yw sefydliad gwasanaethau ariannol yn gweithredu gyda lefelau priodol o ofal”.

Wrth asesu pa mor agored i niwed yw cwsmeriaid, dylid ystyried:

  • Iechyd: cyflyrau iechyd neu afiechydon sy’n effeithio ar y gallu i gyflawni tasgau o ddydd i ddydd;

  • Digwyddiadau bywyd: digwyddiadau bywyd fel profedigaeth, colli swydd neu berthynas yn chwalu;

  • Gwydnwch: llai o allu i wrthsefyll ergydion ariannol neu emosiynol;

  • Gallu: llai o wybodaeth am faterion ariannol neu llai o hyder wrth reol arian (gallu ariannol). Llai o allu mewn meysydd perthnasol eraill megis llythrennedd, neu sgiliau digidol.

126.Mae canllawiau’r FCA yn nodi y dylai cwmnïau gymryd camau i sicrhau bod eu staff yn gallu cydnabod ac ymateb yn briodol i anghenion cwsmeriaid sy’n agored i niwed a’u bod yn “disgwyl i gwmnïau ddarparu lefel o ofal sy’n briodol i’w cwsmeriaid o ystyried nodweddion y cwsmeriaid eu hunain”. Mewn perthynas â cham-drin domestig ac economaidd, mae canllawiau’r FCA yn nodi “dylai staff perthnasol fod yn ymwybodol bod hyn yn gyffredin, gydag effeithiau uniongyrchol a hirdymor ar ddioddefwyr a goroeswyr ar draws yrwyr bregusrwydd. Mae’n bwysig bod staff perthnasol yn ymwybodol o sut y gall cyflawnwyr cam-drin ddefnyddio gwasanaethau ariannol yn eu cam-drin a chydnabod sut i ddarparu’r cymorth sydd ei angen ar ddioddefwyr yn ddiogel”.[footnote 54]

127.Dylai gwasanaethau ariannol hefyd gyfeirio at God Cyllid Cam-drin Ariannol Cyllid y DU, sy’n nodi sut y dylai banciau a chymdeithasau adeiladu sy’n cymryd rhan gefnogi cwsmeriaid sy’n dioddef cam-drin domestig, ariannol neu economaidd. Nod y Cod yw cynnyddu ymwybyddiaeth a gwell dealltwriaeth o’r hyn y mae cam-drin domestig, ariannol ac economaidd yn ei olgyu i gwmnïau, gweithwyr, dioddefwyr, dioddefwyr posibl a’u teuluoedd, a sicrhau mwy o gysondeb yn y cymorth sydd ar gael i’r rhai sydd ei angen.

Astudiaeth achos – Laura

Ar ôl degawd o briodas a chael nifer o blant, gadawodd Darren, partner camdriniol Laura, hi a chawsant ysgariad. Parhaodd Darren i aflonyddu arni ar ôl gwahanu; gwaethygodd hyn fwyfwy felly cafodd hi orchymyn peidio ag ymyrryd. Cafodd Darren ei arestio am dorri’r gorchymyn, a soniodd yr heddlu am y posibilrwydd o gyhoeddi rhybudd aflonyddu yn ei erbyn. Cwynodd Laura hefyd wrth yr heddlu am y cam-drin economaidd a brofodd ar ôl gwahanu ond canfu nad oedd ganddynt ddiddordeb yn hyn a dywedwyd wrthi na allent gymryd unrhyw gamau pellach yn ei gylch gan nad oedd pwerau ganddynt. Profodd Laura y cam-drin economaidd ôl-wahanu canlynol:

  • Credyd treth plant – gwnaeth Darren honiadau ffug yn ei herbyn, felly bu’n rhaid iddi brofi yn rheolaidd ei holl incwm a’i gwariant yn ymwneud â chyflogau, gofal plant ac ati. Roedd Darren wedi cymryd cardiau credyd allan yn eu cyfeiriad ar ôl iddo adael. Ataliwyd ei holl daliadau hi am rai misoedd, cyn iddynt gael eu hadfer a’u hôl-ddyddio.

  • Cyflogaeth - Gwnaeth Darren honiadau ffug o gam-drin plant i’r gwasanaethau cymdeithasol a’r heddlu. Gwnaeth yr heddlu gyfweld â hi dan rybudd ynglŷn â’r troseddau honedig. Gallai hyn gael effaith sylweddol ar ei gyrfa oherwydd ei bod yn gweithio gyda phlant sy’n agored i niwed a bod gofyn am wiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, y gallai ymddangos arno.

  • Eiddo – Gwrthododd Darren dynnu Laura oddi ar y morgeisi ar y cyd ac yna ni thalodd nhw i’r graddau iddyn nhw fynd i ecwiti negyddol. Ni wnaeth Darren gydymffurfio â gorchymyn llys i ganiatáu tynnu ei henw oddi ar y morgeisi, ac mae’r banc wedi dweud nad yw’n gallu dilyn y gorchymyn llys heb ei gydweithrediad. Yna cafodd Laura orchmynion gwerthu ar yr eiddo ond roeddent mewn cyflwr mor wael fel na allai eu gwerthu oherwydd nad oedd y banc yn derbyn y cynigion isel. Cafodd yr eiddo eu hailfeddiannu gan y banc, a ddatgelodd ei chyfeiriad diogel i’r cyflawnwr hefyd drwy waith papur y llys. Aeth y banc ar ei hôl hi am ddyledion o ddegau o filoedd o bunnoedd oherwydd ei bod yn ‘atebol ac yn atebol ar y cyd’ am y morgeisi. Roedd y banc am iddi dalu’r swm llawn neu atodi gorchymyn dyled i’w chartref lle mae’n byw gyda’i phlant.

Mae statws credyd Laura wedi ei ddifetha – ni fydd yn gallu cael morgais na benthyciad eto, neu os bydd hi yn cael un yna fydd ar gyfradd llog uchel iawn. Meddai Laura: ‘Bydd y cam-drin economaidd yn effeithio arnaf am weddill fy mywyd’.

Estynnodd Laura am gymorth Goroesi Camriniaeth Economaidd (GCE/SEA) ac mae’n gweithio ochr yn ochr â’r elusen i godi ymwybyddiaeth fel Arbenigwr drwy Brofiad. Rhannodd SEA hefyd ganllawiau ac adnoddau gyda Laura i eiriol dros ei hun gyda’r banc. Ac fe wnaeth yr elusen gefnogi Laura i godi ymwybyddiaeth am ei phrofiad, gan gynnwys yn y cyfryngau cenedlaethol. Arweiniodd hyn at ddileu’r dyledion morgais ac roedd Laura a’i phlant yn gallu cadw eu cartref. Cefnogwyd Laura hefyd i gwyno yn ddiogel wrth Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol, fel na chysylltwyd â Darren yn ystod y broses gwyno. Cyfarwyddodd yr Ombwdsmon y banc i ddyfarnu iawndal am y toriad data.

Technoleg yn hwyluso cam-drin

128.Gall ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi hefyd ddigwydd gan ddefnyddio technoleg a’r rhyngrwyd, gan alluogi’r cam-drin i gael ei gyflawni yn y cartref ac o bell. Canfu arolwg a gynhaliwyd gan Refuge bod 1 o bob 6 (16%) o’r rhai a oedd yn profi o leiaf un ymddygiad sy’n awgrymu cam-drin neu aflonyddu ar-lein wedi adrodd am hyn gan bartner presennol neu gyn-bartner. Mae’r ffigur hwn yn codi i 1 o bob 5 (22%) ymhlith menywod iau rhwng 18 a 34 oed[footnote 55]. Gall hyn ddigwydd yn ystod perthynas agos ond hefyd ar ôl gwahanu. Dylai gweithwyr proffesiynol fod yn barod i gydnabod cam-drin a hwylusir gan dechnoleg a sut y gall chwarae rhan allweddol mewn cam-drin domestig. Dylid rhoi ystyriaeth arbennig i berthnasoedd agos pobl ifanc, o ystyried bod eu bywydau yn aml yn seiliedig ar lawer ar-lein.

129.Mae rhai enghreifftiau o gam-drin a hwylusir gan dechnoleg yn cynnwys:

  • Rhoi gwybodaeth ffug neu faleisus am ddioddefwr ar ei gyfryngau cymdeithasol neu gyfryngau cymdeithasol eraill;

  • Seiber-stelcian;

  • Trolio, megis gadael negeseuon difrïol ar gyfryngau cymdeithasol;

  • Cam-drin ar sail delwedd – er enghraifft dosbarthu ffotograffau a ffilmiau rhywiol preifat heb gydsyniad gyda’r bwriad o achosi trallod i’r person a ddarlunnir, yn ogystal â bygythiadau i ddosbarthu deunydd o’r fath;

  • Hacio, monitro neu reoli cyfrifon e-bost, proffiliau cyfryngau cymdeithasol a galwadau ffôn;

  • Rhwystro’r dioddefwr rhag defnyddio ei gyfrifon ar-lein, ymateb yn lle’r dioddefwr neu greu cyfrifon ar-lein ffug;

  • Defnyddio ysbïwedd neu leolwyr GPS ar eitemau megis ffonau, cyfrifiaduron, technoleg y gellir ei gwisgo, ceir, beiciau modur ac anifeiliaid anwes;

  • Hacio dyfeisiau sy’n galluogi’r rhyngrwyd fel PlayStation neu iPads i gael mynediad at gyfrifon neu i olrhain gwybodaeth fel lleoliad person;

  • Defnyddio dyfeisiau personol megis watshis clyfar neu ddyfeisiau cartref clyfar (megis Amazon Alexa, Google Home Hubs, ac ati) i fonitro, rheoli neu godi ofn;

  • Defnyddio camerâu cudd;

  • Creu cyfrifon ffug; a

  • Defnyddio pobl eraill i greu cyfrifon ffug ar-lein neu gyfryngau cymdeithasol ffug neu ddefnyddio eu cyfrifon eu hunain i aflonyddu neu fonitro’r dioddefwr trwy ddirprwy. Gall hyn ganiatáu i’r cam-drin barhau hyd yn oed pan allai’r dioddefwr fod wedi rhwystro’r cyflawnwr ar eu cyfryngau cymdeithasol a’u dyfeisiau.

130.Wrth ystyried cam-drin technolegol yng nghyd-destun ymchwilio neu erlyn ymddygiad sy’n rheoli neu orfodi, mae’n bwysig nodi y gall yr ymddygiadau hyn arwain at orfodi’r dioddefwr i ofni trais ar ddau achlysur neu fwy, neu addasu ei ymddygiad bob dydd o ganlyniad i fraw difrifol neu drallod, yn yr un modd ag y gall cam-drin a gyflawnir yn bersonol. Mae camddefnyddio technoleg yn y modd hwn yn caniatáu anhysbysrwydd sylweddol i gyflawnwyr ac ychydig o oruchwyliaeth nac atebolrwydd am eu hymddygiad.

Astudiaeth Achos –Tania

Dywedodd gŵr Tania, Charlie, ei fod yn gwybod mwy am dechnoleg na hi a sefydlodd ei ffôn clyfar hi gan ddefnyddio ei gyfeiriad e-bost. Gwnaeth Charlie hefyd lawrlwytho ap tracio ar y ffôn gan ddweud ei fod wedi gwneud hyn rhag ofn i Tania ei golli, ond pan oedd yr ap yn dangos bod Tania unrhyw le ond gartref, yr archfarchnad neu’r gwaith, byddai’n mynd yn ddig.

Gosododd Charlie deledu cylch cyfyng ym mhob un o’r prif fannau byw yn eu cartref, gan ddweud wrth Tania bod hyn er eu diogelwch. Cyn hir dechreuodd Charlie wirio’r camerâu o bell, gan gwestiynu’r hyn yr oedd hi’n ei wneud, pryd bynnag yr oedd Tania gartref hebddo.

Un diwrnod, gadawodd Tania ei ffôn gartref a mynd i gwrdd â ffrind. Cyrhaeddodd Charlie’n ddirybudd ac roedd yn ddig, gan gyhuddo Tania o adael ei ffôn gartref yn fwriadol. Yn ddiweddarach daeth Tania o hyd i ddyfais olrhain ar ei char. Dechreuodd Tania deimlo ei bod yn cael ei gwylio drwy’r amser ac roedd yn teimlo na allai wneud dim heb gael caniatâd Charlie, gan y byddai bob amser yn darganfod rhywsut.

Dechreuodd Tania hefyd sylwi nad oedd hi bellach yn cael hysbysiadau gan ei hapiau cyfryngau cymdeithasol a bod y rhain wedi’u diffodd. Pan agorodd Tania yr apiau, gwelodd fod Charlie wedi anfon negeseuon difrïol at ei theulu a’i ffrindiau, yn esgus mai hi oedd wedi eu hanfon, gan ddweud wrthynt nad oedd hi bellach eisiau cyswllt â nhw a bod eu rhifau wedi’u blocio.

Siaradodd Tania â’i brawd ar y ffôn am eisiau dod â’r berthynas i ben. Pan ddaeth Charlie adref, roedd yn gwybod popeth am y sgwrs ac aeth yn dreisgar. Pan adroddodd Tania yr ymosodiad i’r heddlu a’u bod wedi cyrraedd i gymryd ei datganiad, sylwasant ar y camerâu yn y tŷ. Gofynnodd swyddogion yr heddlu am hyn, gan arwain Tania i ddatgelu elfennau eraill o ymddygiad Charlie. Yn ystod yr ymchwiliad, daeth yr heddlu o hyd i apiau recordio cudd ar ffôn Tania a oedd yn gysylltiedig ag e-bost Charlie. Roedd yr heddlu’n gallu cyhuddo Charlie am ymosod, yn ogystal ag ymddygiad rheoli neu orfodi.

Camdriniaeth yn ymwneud â ffydd

131.Er y gall ffydd fod yn ffynhonnell cymorth a chysur i ddioddefwyr, gall cam-drin domestig ddigwydd mewn perthynas â, a thrwy ddefnyddio, system ffydd a chred unigolyn. Gall defnyddio systemau crefydd a ffydd i reoli a darostwng dioddefwr fod yn fath o gam-drin emosiynol a seicolegol.[footnote 56] Fe’i nodweddir yn aml gan batrwm systematig o ymddygiad gorfodol neu reoli o fewn cyd-destun crefyddol.

132.Gall y cam-drin hwn gael effaith niweidiol iawn ar ddioddefwyr. Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i’r enghreifftiau canlynol:

  • Trin a chamfanteisio drwy ddylanwad crefydd;

  • Gofynion cyfrinachedd a distawrwydd;

  • Trais rhywiol priodasol a’r defnydd o ysgrythurau crefyddol i’w gyfiawnhau;

  • Gorfodaeth i gydymffurfio neu reoli drwy ddefnyddio testunau/dysgeidiaeth sanctaidd neu grefyddol e.e.cyfiawnhad diwynddol dros orfodi neu gam-drin rhywiol;

  • Achosi niwed, ynysu a/neu esgeulustod i gael gwared ar ‘rym drwg’ neu ‘ysbryd’, y credir ei fod wedi meddu ar y dioddefwr;a

  • Gofyniad ufudd-dod i’r sawl sy’n cyflawni cam-drin domestig, oherwydd crefydd neu ffydd, neu eu safbwynt ‘ddwyfol’.

133.Gall cam-drin domestig hefyd gynnwys defnyddio, neu atal, dioddefwr rhag ymarfer eu ffydd neu eu gofynion crefyddol.

Cam-drin ‘ar sail anrhydedd’

134.Mae’r hyn a elwir yn gam-drin ‘ar sail anrhydedd’ (HBA) yn drosedd neu’n ddigwyddiad sydd wedi neu allai fod wedi ei chyflawni i ddiogelu’r hyn a ganfyddir fel anhrydedd y teulu a/neu’r gymuned, neu mewn ymateb i unigolion yn ceisio rhyddhau eu hun rhag cyfyngiadau ‘safonau’ ymddygiad y mae eu teulu a/neu’r gymuned yn ceisio eu gosod. Gall HBA gynnwys camdriniaeth emosiynol neu seicolegol ac ystod o amgylchiadau eraill, ond nid yw pob un yn golygu cam-drin domestig dan Ddeddf 2021, er enghraifft os nad yw’r dioddefwr a’r cyflawnwr wedi eu cysylltu’n bersonol. Fodd bynnag, bydd HBA fel arfer yn cael ei gyflawni gan aelod neu aelodau o’r teulu ac mae’n debygol o gynnwys ymddygiadau a bennir yn y diffiniad statudol o gam-drin domestig yn Neddf 2021.

135.Mae tystiolaeth wedi dangos[footnote 57]bod dioddefwyr perygl o gael HBA a oedd yn defnyddio gwasanaethau cam-drin domestig wyth gwaith yn fwy tebygol o gael eu cam-drin gan nifer o gyflawnwyr, a’u bod wedi profi cam-drin am ddwy flynedd ar gyfartaledd yn hirach cyn cael cymorth na’r rhai na nodwyd eu bod mewn perygl o gael HBA.

136.Mae’r math hwn o gam-drin yn cael ei brofi’n fwyaf cyffredin gan ddioddefwyr o gymunedau clos neu gaeedig sydd â diwylliant cryf o ‘anrhydedd’ a ‘chywilydd’, megis rhai cymunedau teithiol, cymunedau ethnig/crefyddol caeedig ac eraill sy’n arbennig o ynysig[footnote 58].

Fodd bynnag, gall dioddefwyr fod yn fenywod neu’n ddynion a gall y rhai sydd mewn perygl gynnwys unigolion sy’n LHDT. Mae priodas dan orfod ac Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM) yn fathau o HBA (mae rhagor o fanylion wedi’u cynnwys ym Mhennod 2 o’r Canllawiau Statudol ar Gam-drin Domestig). Gall therapïau trosi fod yn fath o HBA a threisio cywirol fel y’i gelwir gan ddioddefwyr LHDT.

Adran 7 – Ystyriaethau cysylltiedig

137.Gall unigolion ddioddef ymddygiadau camdriniol lluosog oherwydd y ffordd y gall gwahanol nodweddion , megis rhyw, hil, ethnigrwydd, anabledd, hunaniaeth drawsryweddol, cyfeiriadedd rhywiol, oedran, crefydd neu gredgroestorri a gorgyffwrdd, ynghyd â ffactorau eraill megis sefyllfa economaidd-gymdeithasol neu statws mewnfudo. Gall y ffactorau hyn greu rhwystrau ychwanegol o ran cael gafael ar wasanaethau a chymorth, os nad ydynt wedi’u cynllunio’n ddigonol i ddiwallu anghenion dioddefwr.

138.Mae rhestr o ffactorau eraill a all hefyd ei gwneud yn anoddach i ddioddefwr gyrchu cymorthwedi’u rhestru isod:

  • Risg o gam-drin, bygythiadau a thraisyn gwaethygu – mae’r cyfnod ar ôl gwahanu yn peri risg uchel o drais i ddioddefwyr, gan gynnwys plant, gyda’r risg fwyaf o niwed difrifol a dynladdiad. Gall y dioddefwr ofni beth fydd y cyflawnwr yn ei wneud iddyn nhw neu eu plant, gan gynnwys os byddant yn gadael y sefyllfa, neu ofni colli gwarchodaeth eu plant neu gysylltiad gofal cymdeithasol plant ar sail bygythiadau gan y cyflawnwr;

  • Effaithrheolaeth drwy orfodaeth a thrawma – gall y cam-drin wneud i’r dioddefwr deimlo’n ynysig, yn ddiwerth, i deimlo mai ef sydd ar fai am y cam-drin a/neu gael ei argyhoedi na all ofalu amdano’i hun;

  • Cywilydd a stigma – gan gynnwys ofn peiodio â chael eich credu, teimlo cywilydd ynghylch datgelu cam-drin a/neu allu cyrchu cymorth;

  • Dibyniaeth economaidd/ansefydlogrwydd – efallai na fydd gan y dioddefwr fynediad i’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i gefnogi eu hunain neu eu plant yn annibynnol neu efallai na fedrant fforddio cynrychiolaeth gyfreithiol oherwydd diffyg mynediad i gymorth cyfreithiol;

  • Byw mewn cymuned wledig neu ynysig – gall dioddefwr wynebu mwy o ynysu oddi wrth rwydweithiau cymorth a diffyg mynediad at wasanaethau os yw’n byw mewn cymuned wledig o gymharu â lleoliad trefol neu os nad yw wedi cael cymysgu’n rhydd â chymdeithas ehangach;

  • Priod neu bartner gweithiwr a bostiwyd – gall dioddefwr fod yn byw mewn llety a ddarperir gan gyflogwr y cyflawnwr a gallai hyn fod i ffwrdd o’u rhwydweithiau cymorth, megis mewn llety milwrol;

  • Iaith a chyfathrebu – gall y dioddefwr wynebu heriau penodol o ran cyfleu’r cam-drin a all ei rwystro rhag cyrchu neu geisio cymorth;

  • Cysylltiadau â’r ardal leol – gall y dioddefwr ofni gadael ei ardal leol lle mae ganddo rwydwaith o gefnogaeth (ffrindiau/teulu) a lle mae ei blant wedi setlo yn yr ysgol, yn ogystal â phryder am y cynnwrf i fywydau ei blant;

  • Pwysau crefyddol/cymunedol/teuluol– gall y dioeddfwr fod dan bwysau gan ffigwr crefyddol neu gymunedol, neu aelodau o’i deulu estynedig i beidio â gadael, neu i ddychwelyd os yw wedi gadael;

  • Statws mewnfudo – os oes gan y dioddefwr statws mewnfudo ansicr, efallai y bydd yn ofni ceisio cymorth gan asiantaethau statudol oherwydd pryder ynghylch camau mewnfudo yn cael eu cymryd yn ei erbyn/ neu fod ei blant eu plant yn cael eu tynnu o’i ofal;

  • Effaith camddefnyddio alcohol, cyffuriau neu sylweddau – efallai bod y dioddefwr wedi datblygu dibyniaeth ar sylweddau i geisio ymdopi â’r cam-drin neu fod mewn sefyllfa lle mae’r cyflawnwr yn cefnogi a/neu’n hwyluso’r caethiwed i gynnal rheolaeth drosto;

  • Iechyd meddwl – gall cam-drin domestig arwain at nifer o faterion sy’n ymwneud ag iechyd i’r dioddefwr, gan gynnwys datblygu cyflwr neu gyflyrau iechyd meddwl penodol;

  • Galluedd meddyliol – gall rhywun â nam ar ei alluedd meddyliol (oherwydd anabledd, salwch neu anaf i’r ymennydd) fod yn arbennig o agored i niwed, o ran y tebygolrwydd y bydd yn ddioddefwr, a’i gallu i gyrchu cymorth. Nod Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yw grymuso pobl i wneud eu penderfyniadau eu hunain lle bynnag y bo modd a sicrhau bod unrhyw benderfyniad a wneir, neu gamau a gymerir, ar ran rhywun nad oes ganddynt y gallu i wneud y penderfyniad neu weithredu drostynt eu hunain yn cael ei wneud er eu lles gorau. Dylid tybio bod gan berson alluedd i wneud penderfyniad drosto’i hun (yr hawl i ymreolaeth) oni bai y sefydlir nad oes ganddo alluedd.

139.Gall nodweddion gwarchodedig, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, megis oedran, anabledd, hil,statws mudol neu fewnfudo, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol ac ailbennu rhywedd, hefyd greu rhwystrau penodol rhag gadael perthynas gamdriniol neu gael mynediad at gymorth.

Oedran

140.Mae’n bwysig bod yn ymwybodol y gall pobl o bob oed ddioddef ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi, gyda rhai’n wynebu rhwystrau ychwanegol wrth geisio cael gymorth. Dangosodd Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (CSEW) a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 fod menywod 16 i 19 oed yn sylweddol fwy tebygol o fod yn ddioddefwyr unrhyw gam-drin domestig na menywod 25 oed a hŷn. Ar gyfer dynion, ychydig o wahaniaethau arwyddocaol oedd yn ôl oedran, fodd bynnag, roedd y rhai rhwng 55 a 74 oed yn llai tebygol o fod yn ddioddefwyr cam-drin domestig na’r rhai yn y rhan fwyaf o grwpiau oedran eraill.[footnote 59]

Plant a phobl ifanc

141.Gall ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi gael effaith ar blant a phobl ifanc mewn perthynas â pherthnasoedd rhieni neu aelodau eraill o’r teulu. Mae Adran 3 Deddf 2021 yn cydnabod y gall cam-drin domestig effeithio ar blentyn sy’n gweld, yn clywed neu’n profi effeithiau’r cam-drin a bod plant yn dioddefwyr cam-drin domestig yn eu rhinwedd eu hunain. Mae’n bwysig cydnabod y bydd byw gyda cham-drin domestig yn cael effaith uniongyrchol ar iechyd corfforol a meddyliol plentyn. Dengys ymchwil ar gyfer plant sy’n profi ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi, fod yr effaith yn debygol o fod yn debyg i ddioddefwyr sy’n oedolion.[footnote 60]

“Rhaid i ymarferwyr, llunwyr polisi ac arweinwyr sefydliadau ddechrau cydnabod sut y bydd plant sydd wedi byw gyda thrais domestig ar sail rheolaeth orfodol yn debygol o fod wedi profi bywydau teuluol hynod gyfyngol a di-rydd, gyda chyfleoedd cyfyngedig i ddatblygu hyder personol, ymdeimlad o annibyniaeth a chymhwysedd, a sgiliau cymdeithasol.”[footnote 61]

Dr Emma Katz (2016)

142.P’un a ydynt yn bresennol yn y tŷ yn ystod achosion penodol o gam-drin domestig ai peidio, bydd plant a phobl ifanc yn profi effeithiau patrymau bob dydd y cyflawnwr o ymddygiad sy’n rheoli a gorfodi. Bydd yr ynysu oddi wrth deulu a ffrindiau, y tyndra a’r ofn yn y cartref a diffyg mynediad i annibyniaeth ariannol a mathau eraill o annibyniaeth i’r rhiant nad yw’n cam-drin i gyd yn effeithio’n uniongyrchol ar ddatblygiad ac ansawdd bywyd y plentyn.

143.Gall pobl ifanc brofi cam-drin domestig yn eu perthynas, gan bartner neu gyn-bartner. Gall llywio eu perthynas gyntaf, neu berthynas agos gynnar, ei gwneud yn fwy anodd iddynt adnabod ymddygiadau camdriniol, neu efallai na fyddant yn teimlo bod eu perthynas yn ddigon aeddfed i fod yn gamdriniol, ynghyd â’r ffaith nad yw’r rhai sydd mewn perthnasoedd camdriniol bob amser yn gweld eu hunain fel ddioddefwyr oherwydd y rheolaeth neu orfodaeth y mae’r cyflawnwr yn ei roi drostynt.[footnote 62] At hynny, gall ofn awdurdod neu gael partner, cyn bartner neu aelod o’r teulu i drafferthion gyda’r heddlu hefyd fod yn rhwystr i adrodd am gam-drin..

144.Gall pobl ifanc hefyd gael eu cam-drin drwy dechnolegau a chyfryngau cymdeithasol newydd, y gellir eu defnyddio fel offeryn monitro neu aflonyddu gan y cyflawnwr.[footnote 63] Dangosodd set ddata SafeLives Children’s Insights fod 53% o’r bobl ifanc 13-17 oed a gefnogwyd wedi profi ymddygiad cenfigennus a rheolaethol.[footnote 64]

145.Mae’r diffiniad o gam-drin domestig yn Neddf 2021 yn cynnwys isafswm oedran i’r dioddefwr a’r cyflawnwr o 16 oed. Fodd bynnag, mae canllaw Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn berthnasol i bob achos o gam-drin domestig, waeth beth fo oedran y cyflawnwr neu’r dioddefwr (gan gynnwys y rhai dan 16 oed). Gellir ymchwilio i unrhyw un dros oed cyfrifoldeb troseddol am droseddau sy’n ymwneud â cham-drin domestig, gan gynnwys y drosedd benodol o ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi a’u cyhuddo o droseddau o’r fath. Os yw dioddefwr yn 18 oed neu’n iau, dylid dilyn gweithdrefnau diogelu plant, ni waeth a oes unrhyw gamau gan yr heddlu (am ragor o wybodaeth am ddiogelu plant, cyfeiriwch at bennod 4 yn yCanllawiau Statudol ar Gam-drin Domestig.

146.Mae angen cefnogi ac ymgysylltu â phobl ifanc sy’n profi neu’n parhau cam-drin yn eu perthnasoedd eu hunain mewn ffordd sydd wedi’i theilwra’n benodol i’w hanghenion. Yng Nghymru, nodir hyn yng Nghanllaw Ymarfer Cymru Gyfan - diogelu plant y mae cam-drin domestig yn effeitho arnynt, a gyhoeddwyd, ac i’w ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.[footnote 65] Yn aml, bydd yn rhaid i blant a phobl ifanc, oherwydd eu hoedran, ddibynnu ar wasanaethau arbenigol sydd wedi’u cynllunio ar gyfer oedolion sy’n dioddefwyr nad ydynt bob amser yn briodol.

Astudiaeth Achos – Kerry

Cyfarfu Kerry â’i chariad cyntaf, Lewis, yn yr ysgol. Dywedodd Lewis wrthi fod y lleill yn eu grŵp cyfeillgarwch yn eiddigeddus ohono felly dylai roi’r gorau i siarad â nhw. Gofynnodd hefyd i Kerry adael iddo gael mynediad i’w gosodiadau lleoliad ar ei ffôn, i rannu ei chyfrineiriau cyfryngau cymdeithasol a’i chod ffôn. Pan holodd Kerry am hyn, dywedodd Lewis mai dyma’r norm i gyplau ac roedd yn profi nad oedd ganddi ddim i’w guddio.

Pan fyddai Kerry yn mynd allan gyda’i ffrindiau, byddai Lewis yn ei ffonio yn gyson ac yn mynd yn ddig pe na bai’n ateb ar unwaith. Pan fyddai Kerry yn ateb, byddai Lewis yn dweud wrthi y dylai ddod adref. Er mwyn osgoi gwrthdaro, yn y pen draw stopiodd Kerry weld ei ffrindiau a mynd allan, ac yn hytrach treuliodd y rhan fwyaf o’i hamser gyda Lewis.

Pwysodd Lewis ar Kerry i anfon lluniau ohoni’n noeth ato, a thua’r adeg hon dechreuodd hefyd ymddwyn yn ymosodol tuag at Kerry: yn gweiddi a galw enwau arni. Pryd bynnag y ceisiodd Kerry ddod â’r berthynas i ben a gadael, byddai Lewis yn dechrau dadl ac yn bygwth anfon y lluniau ohoni’n noeth o amgylch yr ysgol. Roedd Kerry yn teimlo’n fwyfwy ynysig ac nid oedd yn teimlo ei bod yn gallu siarad â’i rhieni, gan ofni bod mewn trwbl dros y lluniau.

Yn y pen draw, cyfaddefodd Kerry wrth ei hathrawes a anogodd hi i siarad â’i rhieni a’r heddlu. Pan gymerodd swyddogion ddatganiad Kerry, dywedodd wrthynt am yr effaith a gafodd y berthynas ar ei bywyd cymdeithasol a’i hunanhyder. Dangosodd Kerry y negeseuon bygythiol iddynt gan Lewis, sut y bu iddo olrhain ei lleoliad drwy ei ffôn a mewngofnodi’n rheolaidd i’w chyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Siaradodd ffrindiau Kerry â’r heddlu hefyd am sut y byddai Lewis yn ei cham-drin dros y ffôn. Roedd hyn yn galluogi’r heddlu i adeiladu achos a chyhuddo Lewis o ymddygiad rheoli neu orfodi.

I gael arweiniad pellach ar effaith cam-drin domestig ar blant a phobl ifanc ac ymateb gweithwyr proffesiynol wrth gefnogi plant a phobl ifanc, cyfeiriwch at Benodau 3 a 4 o’r Canllawiau Statudol ar Gam-drin Domestig.

Pobl hŷn

147.Gall pobl hŷn ddioddef ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi gan bartneriaid, cyn-bartneriaid neu aelodau o’r teulu. Gall y cam-drin hwn gynnwys cam-drin neu esgeulustod economaidd, emosiynol, seicolegol, rhywiol neu gorfforol, a gall effeithio ar ddynion a menywod. Efallai na fydd y dioddefwr ychwaith yn gweld ei hun yn dioddefwr cam-drin o’r fath.

148.Er bod tystiolaeth i awgrymu bod menywod a dynion hŷn yn profi cam-drin domestig ar gyfraddau is na menywod a dynion iau [footnote 66], gan nad yw Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (CSEW) yn casglu data ar oedolion dros 74 oed ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod beth yw’r nifer wirioneddol o achosion cam-drin domestig ymhlith y grŵp oedran hwn[footnote 67]. Mae data o’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 CSEW yn dangos bod 4.4% o fenywod 60-74 oed yn ddioddefwyr cam-drin domestig. O ran dynion, mae’r data hwn yn dangos bod 1.9% o ddynion 60-74 oed yn ddioddefwyr cam-drin domestig.[footnote 68]

149.Dangosodd set ddata SafeLives’ Insights , a gasglwyd o ddata a ddarparwyd gan wasanaethau sy’n gweithio gyda dioddefwyr cam-drin domestig, fod dioddefwyr 61 oed a throsodd yn fwy tebygol o brofi cam-drin domestig gan aelod o’r teulu o gymharu â’r rhai o dan 61 oed (44% o gymharu â 6%) ac roeddent yn fwy tebygol o gael eu cam-drin gan bartner agos presennol na’r rhai o dan 61 oed (40% o gymharu â 28%)[footnote 69]. Roedd yr un set ddata hefyd yn dangos bod pobl hŷn, fel grŵp, yn fwy tebygol o gael eu cam-drin gan aelod o’r teulu na phartner agos.[footnote 70]

150.Gall rhagdybiaethau ynghylch oedran a cham-drin domestig arwain at broblemau wrth geisio cael cymorth. Er enghraifft, gellir ystyried anafiadau neu broblemau iechyd meddwl o ganlyniad i anghenion iechyd a gofal cymdeithasol dioddefwr, heb wneud ymholiadau ynghylch cam-drin domestig. Nid yw dioddefwyr hŷn yn cael eu gweld gan wasanaethau cymorth arbengol yn y niferoeddd y byddem yn eu disgwyl a gallant wynebu rhwystrau sylweddol wrth ofyn am gymorth neu wrth geisio dod â pherthynas gamdriniol gyda phartner, cyn-bartner neu aelod o’r teulu i ben. Gall rhwystrau i bobl hŷn rhag cael cymorth gynnwys diffyg mynediad neu wybodaeth am y rhyngrwyd, teimlo mai ar gyfer pobl iau yn unig y mae gwasanaethau a bod ag ymwybyddiaeth gyfyngedig o’r gwasanaethau a’r opsiynau sydd ar gael iddynt.[footnote 71]

151.Gall agweddau a normau cenedlaeth hefyd fod yn rhwystr i bobl hŷn wrth adrodd am gamdriniaeth neu mynediad at gymorth. Mae dioddefwyr hŷn yn fwy tebygol o fod wedi tyfu i fyny ar adeg pan oedd yr hyn a ddigwyddodd gartref yn cael ei ystyried yn breifat ac na fyddai wedi cael ei ystyried yn gymdeithasol dderbyniol i drafod materion a ddigwyddodd y tu ôl i ddrysau caeedig.[footnote 72] Mae data SafeLives Insights yn dangos bod 25% o ddioddefwyr hŷn wedi byw gyda’r cam-drin ers 20 mlynedd+.[footnote 73]
O ystyried yr amser y mae dioddefwyr hŷn yn debygol o fod wedi profi cam-drin, gall fod agwedd ‘dyna fel y bu erioed’ sy’n atal datgelu.[footnote 74]

152.Gall y rhwystrau hyn fod yn ddifrifol i ddioddefwyr sydd wedi bod yn destun blynyddoedd o gamdriniaeth hirfaith, sydd wedi’u hynysu o fewn cymuned benodol oherwydd iaith neu ddiwylliant, sy’n profi effeithiau iechyd hirdymor neu anableddau, a all fod yn berchen ar y cyd neu’n unigol ar gartref y maent yn ei rannu gyda’r cyflawnwr neu’n ddibynnol ar y cyflawnwr am ei ofal neu arian.

153.Mae’n hanfodol bod cam-drin yn erbyn dioddefwyr hŷn yn cael ei adrodd a’u bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Wrth ddarparu gwybodaeth ac adnoddau ar gymorth i ddioddefwyr cam-drin hŷn, dylid ystyried targedu mannau lle maent yn weladwy i ddioddefwyr hŷn, er enghraifft meddygfeydd neu fannau cyhoeddus eraill.[footnote 75]

Astudiaeth Achos – John

Pan fu farw gwraig John, awgrymodd ei ferch Jenny ei bod hi’n symud i mewn i helpu gofalu amdano. Cynigiodd Jenny gymryd cyfrifoldeb am y siopa a biliau eraill y cartref, gan ddefnyddio cerdyn banc ei thad. Pan ofynnodd John a allai fynd i siopa gyda Jenny, dywedodd y byddai hyn yn ormod o ymdrech ac yn y pen draw rhoddodd y gorau i adael iddo fynd gyda hi ar unrhyw dripiau neu ddefnyddio ei gerdyn banc ei hun. Roedd yr oergell yn aml yn wag a dechreuodd John gael llythyrau gan y cwmni cyfleustodau yn dweud nad oedd y biliau’n cael eu talu. Pan ofynnodd John i Jenny am hyn, aeth yn ddig a dywedodd ei fod yn debygol o fynd yn dryslyd oherwydd henaint.

Cafodd y llinell ffôn ei diffodd yn y pen draw oherwydd nad oedd y bil wedi’i dalu. Awgrymodd John ei fod yn cael ffôn symudol ond dywedodd Jenny nad oedd ganddo unrhyw un i siarad ag ef ac na fyddai’n gwybod sut i’w ddefnyddio beth bynnag. Yn fuan dechreuodd John golli cysylltiad â’i ffrindiau.

Roedd John hefyd yn ei chael hi’n anodd cadw ar ben y golch ac awgrymodd eu bod yn cyflogi glanhawr. Gwrthododd Jenny, gan ddweud bod hyn yn wastraff arian ac yn ei gyhuddo o ddweud nad oedd hi’n gwneud gwaith da wrth ofalu amdano. Byddai Jenny yn aml yn gwahodd ffrindiau draw ac yn dweud wrth ei thad bod angen iddo aros yn ei ystafell. Pe bai John yn dod allan, byddai Jenny yn mynd yn ddig, yn ei fychanu ac yn gweiddi arno o flaen ei ffrindiau. Yn y diwedd arhosodd John yn ei ystafell pryd bynnag yr oedd ffrindiau Jenny yn galw draw.

Roedd John yn isel iawn, daeth yn anniben, yn colli pwysau ac yn teimlo’n ynysig. Roedd meddyg teulu John yn pryderu am ei olwg a gofynnodd iddo a oedd popeth yn iawn gartref. Esboniodd John y sefyllfa a gyda’i gilydd cysylltodd y ddau â’r heddlu a nododd gam-drin ariannol oherwydd bod Jenny yn cyfyngu ar fynediad John i’w gyllid, yn ogystal â chaniatáu i ddyledion gronni yn enw ei thad. Dywedodd John wrth yr heddlu am y siopa bwyd a nododd swyddogion fod hyn yn cyfyngu ar ei annibyniaeth a’i fynediad at fwyd.

Roedd hyn yn caniatáu i’r heddlu gychwyn achos o ymddygiad rheoli neu orfodi. Rhoddwyd amodau mechnïaeth ar waith i atal Jenny rhag dychwelyd i’r cartref a chyfeiriodd y meddyg teulu John at y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion i drefnu trefniadau gofal amgen i’w gefnogi gartref.

I gael arweiniad pellach ar ddioddefwyr hŷn a diogelu oedolion agored i niwed, cyfeiriwch at Benodau 2 a 4 Canllawiau Statudol Cam-drin Domestig.

Beichiogrwydd

154.Gall bod yn feichiog roi menywod a merched mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin, er bod y data sydd ar gael ar nifer yr achosion o gam-drin domestig ymhlith unigolion beichiog yn gyfyngedig. Maepeth ymchwil yn awgrymu bod 40–60% o fenywod sy’n profi cam-drin domestig yn cael eu cam-drin yn ystodbeichiogrwydd, tra bod eraill yn awgrymu ei fod yn llawer is, yn amrywio rhwng 1% ac 20% (yn dibynnu ar wlad a sut mae nifer yr achosion yn cael eu cyfrifo).[footnote 76] Er bod data yn gymysg, canfuwyd bod beichiogrwyddyn ffactor risg penodol a all wneud dioddefwyr yn fwy agored i niwed.[footnote 77]

155.Mae cam-drin domestig a brofir yn ystod beichiogrwydd ac yn y blynyddoedd cynnar yn niweidiol i ganlyniadau geni a datblygiad cynnarybabi. Gall cyflwr emosiynol mam gael dylanwad uniongyrchol ar ddatblygiad y ffetws a gall straen parhaus fel cam-drin domestig amharu ar niwroddatblygiadybabi. Gall hyn effeithio ar weithrediad gwybyddol a rheolaeth emosiynol plentyn , gan siapio canlyniadau ymddygiadol ac emosiynol.[footnote 78]

156.Er y gall beichiogrwydd gynyddu’r risg o gam-drin, gall rhyngweithio â gweithwyr iechyd proffesiynol roi cyfle i fenywod a merched geisio cymorth, yn ogystal ag i weithwyr proffesiynol estyn allan at fenywod a merched a allai fod yn profi cam-drin domestig.

Ceir rhagor o wybodaeth am y berthynas rhwng cam-drin domestig a beichiogrwydd, y risgiau cysylltiedig a sut i ymateb ym Mhenodau 3 a 4 o’r Canllawiau Statudol ar Gam-drin Domestig.

Anabledd

157.I ddioddefwyr anabl, mae’r cam-drin y maent yn ei brofi yn aml yn gysylltiedig yn uniongyrchol â’u hanabledd ac yn cael ei gyflawni gan yr unigolion y maent yn fwayf dibynnol arnynt am ofal, megis partneriaid agos, cyn-bartneriaid neu aelodau o’r teulu a all fod yn gweithredu fel gofalwr. Mae ymchwil yn awgrymu bod dioddefwyr anabl yn fwy tebygol o wynebu cam-drin gan oedolyn sy’n aedol o’r teulu o gymharu â dioddefwyr nad ydynt yn anabl ac yn fwy tebygol o fod yn dal i fyw gyda’r cyflawnwr. [footnote 79]

158.Mae data o Arolwg Troseddu Cymryu a Lleogr (CSEW) yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020, yn dangos bod y rhai ag anabledd yn fwy tebygol o fod wedi dioddef cam-drin domestig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf na’r rhai heb anabledd; mae hyn yn wir am ddynion (7.5% o gymharu â 3.2%) a menywod (14.7% o gymharu â 6.0%).[footnote 80]

159.Gall dioddefwyr byddar ac anabl (mae hyn yn cynnwys dioddefwyr â namau corfforol neu synhwyraidd, materion iechyd meddwl, anableddau dysgu, namau gwybyddol, cyflyrau iechyd hirdymor a dioddefwyr niwro amrywiol) wynebu mathau ychwanegol o gam-drin lle mae’r cyflawnwr yn defnyddio nam y dioddefwr i’w cam-drin.

160.Gall dioddefwyr anabl fod mewn mwy o berygl mewn perthynas ag enghreifftiau penodol o ymddygiad camdriniol, naill ai gan bartner agos, cyn bartner, aelod o’r teulu, neu ofalwr (sydd â chysylltiad personol â nhw),[footnote 81] neu’n wynebu risgiau penodol sy’n gysylltiedig â’u sefyllfa fel pobl anabl. Gall anghydbwysedd rhwng y gofalwr sy’n cyflawni cam-drin domestig a’r dioddefwr, oherwydd ei ddibyniaeth ar y cyflawnwr, ac arwahrwydd y dioddefwr wedyn, arwain at ddulliau hyd yn oed mwy eang a threiddiol o reolaeth a gorfodaeth. Gall ymddygiad o’r fath gan y cyflawnwr yn y cyd-destun hwn gynnwys:

  • Dal, dinistrio neu drin offer meddygol;

  • Atal mynediad i feddyginiaeth, gofal personol, prydau bwyd a chludiant;

  • Cymryd rheolaeth dros gyllid a gwrthod arian i’r dioddefwr am eu presgripsiynau a’u hanghenion hanfodol sy’n gysylltiedig â’u nam;

  • Fear of institutionalisation; and

  • Gwneud galwadau yn gyfnewid am roi gofal.[footnote 82]

Astudiaeth Achos –Ewa

Roedd Ewa mewn damwain car a arweiniodd ati yn gorfod defnyddio cadair olwyn yn aml a dioddef gyda phoen cronig. Er gwaethaf hyn, roedd ei phartner Piotr yn dal i ddisgwyl i Ewa gadw’r tŷ’n lân, coginio prydau bwyd, gwneud y siopa bwyd a gofalu am eu plant yn llawn amser. Pe na bai Ewa yn gallu cwblhau’r tasgau hyn i safon Piotr, byddai’n gwrthod casglu ei phresgripsiwn neu’n cuddio ei meddyginiaeth, gan ei gadael mewn poen gwaeth. Weithiau pan fyddai Poitr yn mynd i’r gwaith, byddai’n mynd â chadair olwyn Ewa gydag ef fel “cosb” a olygai na allai adael y tŷ yn gorfforol.

Roedd methu â chael gafael ar ei meddyginiaeth a’i chadair olwyn yn gwaethygu cyflwr Ewa, ac ar adegau byddai’n ei chael hi’n anodd gwisgo ei hun neu ymolchi. Byddai Piotr yn gwrthod helpu gyda’r tasgau dyddiol hyn, gan ddweud “nad ei swydd ef” oeddynt. Byddai’n aml yn rhoi pryd o dafod i Ewa am ei hymddangosiad a byddai’n dweud na allai adael y tŷ yn edrych mewn ffordd benodol. Dywedodd Piotr yn y pen draw y byddai’n helpu Ewa gyda’i gofal ond y byddai’n disgwyl rhyw yn gyfnewid. Teimlai Ewa nad oedd ganddi ddewis gan ei bod yn dod yn fwyfwy dibynnol ar Piotr. Effeithiodd y cam-drin hwn ar hunan-barch Ewa a’i gadael yn teimlo’n gaeth ac wedi’i hynysu yn llwyr.

Daeth y Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant yn bryderus am olwg y plant ac ymwelwyd ag Ewa tra roedd Piotr yn y gwaith. Datgelodd Ewa beth oedd wedi bod yn digwydd a galwyd yr heddlu. Roedd awdurdod lleol Ewa wedi gallu cefnogi cyrchu llety hygyrch i Ewa a’r plant, yn ogystal â chynorthwyo Ewa gyda’i hanghenion gofal parhaus. Cafodd Piotr ei gyhuddo’n ddiweddarach o ymddygiad rheoli neu orfodi.

Am ganllawiau pellach ar anabledd a diogelu oedolion sy’n agored i niwed, cyfeiriwch at Benodau 2 a 4 o’r Canllawiau Statudol ar Gam-drin Domestig.

Dioddefwyr byddar

161.Mae’n bwysig tynnu sylw at brofiadau dioddefwyr Byddar, nad yw llawer ohonynt ynystyried eu hunain yn rhan o grŵp anabledd. Mae’r gymuned Fyddar yn lleiafrif ieithyddol sy’n seiliedig ar eu hiaith ac mae llawer o bobl Fyddar yn profi rhwystrau personol a strwythurol wrth geisio cael cymorth ac adrodd am gamdriniaeth. Gall pobl Fyddar ddod ar draws rhwystrau penodol i gael mynediad at gymorth wrth brofi ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodioherwydd efallai nad ydynt yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael, a/neu efallai na fydd gweithwyr proffesiynol yn gwybo sut i ddefnyddio dulliau cyfathrebu priodol.

162.Gall y gymuned Fyddar wynebu rhwystrau systemig sy’n eu hatal rhag cael mynediad hawdd at wasanaethau cymorth priodol ar adegau o angen. Gallant wynebu rhwystrau ychwanegol gan gynnwys iaith a chyfathrebu, diffyg ymddiriedaeth yn yr heddlu ac ofn cael eu gwrthod gan y gymuned ehangach. Mae hefyd yn debygol o dan adrodd cam-drin gan ddioddefwyr Byddar oherwydd y rhwystrau i gyfathrebu a gwybodaeth. Dylai gweithwyr proffesiynol a darparwyr gwasanaethau fod yn ymwybodol bod angen gwasanaethau cymorth arbenigol ar ddioddefwyr Byddar ac Anabl a all ddeall eu hanghenion diwylliannol ac ieithyddol. Lle bo’n bosibl, dylid disgwyl i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda dioddefwyr Byddar ac Anabl gael rhywfaint o brofiad o’r gymuned Fyddar, oerwydd gall fod gorfod ail-fyw eu trawma dro ar ôl tro gyda phobl newydd (e.e. dehonglwyr iaith arwyddion) darfu ar eu gwellhad a gall olygu eu bod yn ymddieithrio oddi wrth gymorth y mae mawr ei angen. Gall hyn hefyd fod yn berthnasol i’r rhai ag anabledd dysgu a all ddefnyddio eiriolwr neu ofalwr i gefnogi eu proses o am eu profiad.

163.Yn aml mae pobl Fyddar yn cael eu tangynrychioli mewn rolau proffesiynol, sy’n eu gwneud yn adnodd gwerthfawr wrth chwilio am lwybrau atgyfeirio priodol - mae’r gallu i rannu iaith a diwylliant cyffredin yn sicrhau bod pobl Fyddar yn gallu rheoli eu naratif eu hunain a bod eu safbwyntiau a’u profiadau yn cael eu deall yn llawn gan y rhai sy’n eu cefnogi. Gan ddilyn arfer gorau, dylai unigolion Byddar bob amser gael eu cyfeirio at wasanaeth cam-drin domestig Byddar (gweler Atodiad F) neu wasanaeth arbenigol dan arweiniad rhywun Byddar yn y lle cyntaf. Er mwyn cyflawni’r canlyniadau gorau posibl, dylai gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda dioddefwyr Byddar allu cyfathrebu’n rhugl gan ddefnyddio iaith arwyddion, heb fod angen cymorth cyfathrebu trydydd parti. Dylai sefydliadau ac asiantaethau hefyd ystyried cydberthnasau gwaith cydweithredol â gwasanaethau arbenigol eraill, fel eu bod yn gallu diwallu anghenion eu cleientiaid ar y cyd trwy rannu adnoddau, gwybodaeth a setiau sgiliau cyflenwol.

Lleferydd, iaith a chyfathrebu

164.Gall pobl ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu wynebu risgiau cynyddol mewn perthynas â cham-drin domestig. Gallant gael eu targedu’n weithredol gan gyflawnwyr neu brofi cam-drin am gyfnodau hiwo o amser oherwydd yr anawsterau y maent yn eu hwynebu wrth egluro beth sydd wedi digwydd iddynt, gofyn am help a chael mynediad at y cymorth sydd ar gael. Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod arfer da yn cynnwys nodi anghenion cyfathrebu a chymorth priodol ar eu cyfer, gan gynnwys:

  • y cysylltiadau rhwng cam-drin domestig ac anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu;

  • effaith tystio cam-drin domestig gael ar leferydd, iaith a chyfathrebu plant, a’r;

  • gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi pobl â’r anghenion hynny, gan gynnwys plant (gall hyn gynnwys sicrhau bod cyfieithwyr annibynnol ar gael).

165.Mae llawer o anawsterau lleferydd ac iaith heb eu nodi a heb gael diagnosis. Dylai gwasanaethau geisio deall anghenion pobl sydd â’r anawsterau hyn, gan gynnwys y risg nad fyddant, o bosibl, yn cael eu cymryd, neu wedi cael, eu cymryd o ddifrif yn eu hadroddiadau oherwydd y ffordd y maent wedi eu cyfleu.

166.Gall angehnion lleferydd, iaith a chyfathrebu fod yn ffactor risg ac maent yn aml yn gudd ac yn anhysbys. Gallant ddeillio o gyflyrau gydol oes neu gyflyrau caffaeledig ac i blant a phobl ifanc gallant fod yn rhan o angen addysgol arbennig neu anabledd.

167.Mae gwasanaethau lleferydd, iaith a chyfathrebu i blant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau yn cael eu cwmpasu gan drefniadau comisiynu ar y cyd a nodir yn y Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig ac Anableddau , sy’n dod ag awdurdodau addysg, iechyd a lleol, a Thimau Troseddau Ieuenctid at ei gilydd i asesu anghenion a chytuno ar gynnig lleol. Mae comisiynu ar y cyd yn rhoi cyfle i asiantaethau ystyried y ffactorau ehangach a’r rhyngddibyniaethau, megis cam-drin domestig, a dylunio gwasanaethau yn unol â hynny.

I gael arweiniad pellach, cyfeiriwch at Bennod 2 o’r Canllawiau Statudol ar Gam-drin Domestig.

Hil ac ethnigrwydd

168.Gall y rhai o gefndiroedd ethnig lleiafrifol wynebu rhwystrau ychwanegol rhag adnabod, datgelu, ceisio cymorth neu adrodd am gamdriniaeth. Gall hyn gynnwys:

  • Diffyg ymddiriedaeth yn yr heddlu ac asiantaethau statudol eraill;

  • Amheuaeth tuag at yr heddlu oherwydd diffyg cefnogaeth ganfyddedig neu wirioneddol i’w cymuned yn hanesyddol a/neu ar hyn o bryd;

  • Pryderon am hiliaeth ac ofn stereoteipio hiliol;

  • Ofnau ynghylch mewnfudo a/neu statws lloches a’r risg o alltudiaeth;

  • Rhwystrau ieithyddol a diwylliannol;

  • Cael ech effeithio’n anghymesur gan rai mathau o VAWG, gan gynnwys priodas dan orfod, aros mewn priodas â chyflawnwr, cam-drin ar sail “anrhydedd” ac anffurfio organau cenhedlu menywod (FGM);

  • Teimlo cywilydd a/neu bryderon am y teulu’n dod i wybod; ac

  • Ofn cael eich gwrthod gan y gymuned ehangach.

169.Yn aml mae yna dangofnodi o gam-drin domestig gan gymunedau lleiafrifol, gyda llawer o ddioddefwyr yn adrodd bod stereoteipiau a thybiaethau wedi’u gwneud amdanynt yn dod o ‘diwylliannau lle cafodd VAWG ei normaleiddio a’i dderbyn’ neu eu profiadau o gam-drin domestig yn cael eu trin fel achosion tai a neu/fewnfudo gan awdurdodau cyhoeddus. [footnote 83] Gall profiadau o wahaniaethu a hiliaeth hefyd wneud person yn agored i sefyllfa o gam-drin.[footnote 84]

170.Dylai gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda chymunedau lleiafrifol fod yn ymwybodol o rwystrau a cheisio sicrhau bod y cymorth cywir ar gael i’w goresgyn, gan gynnwys cymorth dehongli a chyfieithu priodol lle y gallai fod angen hynny. Mae yna rwystrau strwythurol amlwg y mae cymunedau lleiafrifol yn eu hwynebu wrth geisio cael cymorth. Mae cynnwys gwasanaethau ‘wrth-ac-am’ arbenigol (gwasanaethau arbenigol sy’n cael eu dylunio a’u darparu gan ac ar gyfer y defnyddwyr a’r cymunedau y maent yn anelu at eu gwasanaethu[footnote 85]) yn allweddol i sicrhau y gall ardal leol ddiwallu anghenion dioddefwyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.

171.Mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 yn awgrymu bod y rhai o gefndir ethnig Cymysg yn fwy tebygol o fod wedi profi cam-drin domestig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (7.6%) na’r rhai o gefndiroedd ethnig gwyn (5.7%), du (3.7%), neu ethnig Asiaidd (3.6%). Fodd bynnag, gall presenoldeb ac effaith rhwystrau ychwanegol ar draws pob grŵp, ac yn enwedig o fewn cymunedau ethnig, arwain at dangofnodi cam-drin. Mae Mynegai Dynladdiadau’r Swyddfa Gartref yn nodi bod grwpiau lleiafrifoedd ethnig wedi’u gorgynrychioli yn y ffigurau dynladdiad domestig rhwng mis Mawrth 2018 a 2020, lle cofnodwyd 19% o ddioddefwyr lle’r oedd ethnigrwydd yn hysbys fel lleiafrifoedd ethnig [footnote 86]o gymharu â 14% o’r boblogaeth lleiafrifoedd ethnig gyffredinol a gofnodwyd yng nghyfrifiad 2011.[footnote 87]

172.Mae dealltwriaeth gynyddol am gam-drin domestig o fewn cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr a rhwystrau i gael mynediad at gymorth. Dylai gwasanaethau ystyried eu hanghenion cymorth penodol, a all gynnwys cymorth iaith neu lythrennedd sy’n deillio o anfanteision mewn perthynas ag addysg, mynediad i loches, a helpu dioddefwyr i adeiladu rhwydweithiau cymorth eraill y tu allan i’r gymuned.

Statws mewnfudo a dioddefwyr mudol

173.Gall dioddefwyr sydd wedi dod i mewn i’r DU o dramor wynebu rhwystrau wrth geisio dianc rhag cam-drin domestig oherwydd eu statws mewnfudo. Efallai na fydd gan rai dioddefwyr unrhyw hawl i arian cyhoeddus (NRPF) a all arwain at fwy o ddibyniaeth ar y partner, cyn-bartner neu deulu. Gallant hefyd wynebu mwy o effaith economaidd o adael camdriniwr os na allant hawlio budd-daliadau neu gael mynediad at dai, neu os byddant yn colli eu statws mewnfudo trwy adael eu partner, gan gynnwys amddifadedd a digartrefedd. Gall partneriaid neu aelodau o’r teulu fanteisio ar hyn i reoli dioddefwyr. Mae enghreifftiau o sut y gall cyflawnwyr reoli dioddefwyr mudol yn cynnwys:

  • Bygwth peidio â pharhau i ddarparu cymorth ar gyfer eu harhosiad yn y DU.

  • Ffugio statws mewnfudo dioddefwr a/neu ddod â dioddefwr i’r DU yn bwrpasol gyda fisa anghywir i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn agored i orfodaeth mewnfudo, a heb opsiynau ar gyfer rheoleiddio.

  • Atal dogfennau mewnfudo allweddol rhag dioddefwr, gan gynnwys ei basbort, fel na all ganfod pa hawliau sydd ganddo.

  • Dal gwybodaeth gywir yn ôl rhag y dibynnydd, er enghraifft, pan fydd ei fisa yn dod i ben.

  • Camreoli statws mewnfudo a/neu gais dioddefwr yn bwrpasol, fel ei fod yn dod yn or-aroswr a/neu heb statws dilys. Gallai hyn olygu colli dyddiad cau yn bwrpasol i adnewyddu fisa’r dibynnydd.

  • Defnyddio’r system fewnfudo yn fwriadol i reoli a bygwth dioddefwr. Er enghraifft, yn adrodd a/neu’n bygwth adrodd eu statws anniogel i’r Swyddfa Gartref.

  • Darparu gwybodaeth anghywir neu gelwyddau i ddioddefwr am ei hawliau neu i weithwyr proffesiynol aml-asiantaeth sy’n ymwneud â gweithio gyda’r dioddefwr. Er enghraifft, dweud ar gam fod gan y dioddefwr NRPF pan nad yw hyn yn wir.

  • Darostwng dioddefwr i drais neu gamdriniaeth ar sail “anrhydedd” o fewn cyd-destun trawswladol. Er enghraifft, sicrhau bod dioddefwr yn wnebu risg uchel o drais neu gamdriniaeth ar sail “anrhydedd” yn ei wlad wreiddiol, ac wedyn defnyddio’r bygythiad o gael ei alltudio a’r tebygolrwydd o niwed ychwanegol fel arf i reoli.

174.Gall cyflawnwyr ddefnyddiostatwsmewnfudodioddefwr i fygwth, manteisio, gorfodi a/neu ei reoli. Gall statws mewnfudo ansicr gael ei drin fel arf ar gyfer rheolaeth orfodol.[footnote 88] Gall dioddefwyr o dramor fod yn fwy amharod i ddod ymlaen ac adrodd am gamdriniaeth,yn enwedig os nad ydynt yn ymwybodol o’u statws mewnfudo neu os ydynt wedi cael eu camarwain gan y cyflawnwr.

175.Mae dioddefwyr mudol ar rai fisas partner yn gymwys ar gyfer y DDVC (Consesiwn Trais Amddifad Domestig). Mae’r consesiwn hwn yn galluogi’r dioddefwyr hyn i wneud cais am ganiatâd i aros heb amod yr NRPF pan fydd eu perthynas wedi chwalu oherwydd cam-drin domestig, eu bod yn amddifad, a, lle maent yn gymwys i’w gael, yn bwriadu gwneud cais wedyn am ganiatâd amhenodol i aros fel dioddefwr cam-drin domestig. O dan y consesiwn hwn, caniateir hawl i aros am dri mis. Yna gall y dioddefwyr hyn wneud cais i hawlio arian cyhoeddus (budd-daliadau) am hyd at dri mis tra byddant yn gwneud cais i setlo yn y DU. Mae hyn yn helpu dioddefwyr mudol ar fisâu partner penodol i ariannu gofod lloches gyda’r elfen tai o’r budd-daliadau y gallant eu hawlio oherwydd ni fydd eu haros yn destunamod NRPF. Yna gall y dioddefwyr hyn wneud cais am setliad (Caniatâd Amhenodol i Aros) o dan y Rheolau Caniatâd Amhenodol i Aros Trais Domestig.

176.Dylai gweithwyr proffesiynol fod yn ymwybodol y gallant gyfeirio dioddefwyr mudol at sefydliadau lleiafrifoedd ethnig a mudol arbenigol ‘gan-ac-ar-gyfer’ fel arfer gorau. Gall y sefydliadau hyn ddarparu cymorth cofleidiol cyfannol a diogelu i ddioddefwyr mudol.

I gael arweiniad pellach ar ddioddefwyr mudol, statws mewnfudo ac ystyriaethau cysylltiedig, cyfeiriwch at Bennod 2 yn y Canllawiau Statudol ar Gam-drin Domestig.

Rhywedd a rhyw

177.Mae cam-drin domestig a gyflawnir gan ddynion yn erbyn menywod yn fath o drais yn erbyn menywod a merched (VAWG) ac mae’n aml yn gysylltiedig mewn ymchwil ag anghydraddoldeb ehangach rhwng y rhywiau, casineb at wragedd, a chanfyddiadau ynghylch normau rhyw niweidiol.[footnote 89] Er y cydnabyddir y gall unrhyw un ddioddef cam-drin domestig, mae ystadegau’n dangos yn gyson bod menywod yn cael eu heffeithio’n anghymesur. Mae data yn dangos bod y dioddefwr yn fenywaidd mewn 74% o droseddau yn ymwneud â cham-drin domestig a gofnodwyd gan yr Heddlu yn 2020/2021[footnote 90] Dangosodd data CPS ar gyfer 2020/202i fod 76% o ddioddefwyr mewn erlyniadau yn ymwneud â cham-drin domestig yn fenywod.[footnote 91] Amcangyfrifodd Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr 2019/20 (CSEW) fod tua dwy ran o dair (67%) o oedolion 16 i 74 oed a oedd wedi profi cam-drin domestig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn fenywod.[footnote 92]

178.Ers i’r drosedd ymddygiad sy’n rheolineu orfodi ddod irym ar 29 Rhagfyr 2015, mae nifer y troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu wedi cynydduyn gyson.[footnote 93] Roedd mwyafrif y diffynyddion a erlynwyd, yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2020, am ymddygiad rheoli neu orfodi yn ddynion (98%, lle’r oedd y rhyw yn hysbys).’[footnote 94]

Gall dynion hefyd fod yn ddioddefwyr cam-drin domestig a gallant brofi llawer o fathau tebyg o gam-drin â menywod, yn ogystal â wynebu rhwystrau tebyg o ran cydnabod eu bod yn cael eu cam-drin a cheisio cymorth, gan gynnwys cywilydd, embaras, gwadu, ofn stigmateiddio, pryderon ynghylch cael eu credu a pheidio â chydnabod eu bod yn dioddef cam-drin domestig. Gall y canfyddiad bod gwasanaethau cam-drin domestig yn cael eu targedu at fenywod a diffyg hyrwyddo gwasanaethau i gefnogi dynion hefyd greu rhwystrau ychwanegol i gael mynediad at gymorth.

179.Yn ogystal, yn yr un modd â menywod, gall anghydraddoldebau strwythurol hefyd wahaniaethu neu eithrio, yn benodol neu’n ymhlyg, grwpiau o ddioddefwyr, megis dynion a bechgyn hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.

Cyfeiriadedd Rhywiol a hunaniaeth drawsryweddol

180.Mae data Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (CSEW) hyd at fis Mawrth 2020 yn awgrymu bod 8.4% o ddynion hoyw a menywod lesbiaidd wedi dioddef cam-drin domestig yn y flwyddyn flaenorol, yn ogystal â 15.2% o bobl ddeurywiol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020, roedd menywod lesbiaidd bron ddwywaith yn fwy tebygol o ddioddef cam-drin domestig yn y flwyddyn flaenorol, (12.2%) na menywod heterorywiol (6.9%). Roedd menywod deurywiol dair gwaith yn fwy tebygol o fod yn ddioddefwr cam-drin domestig na menywod heterorywiol (19.6%). Ar gyfer dynion mae’r duedd yn debyg ond yn llai amlwg, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020; roedd 3.5% o ddynion heterorywiol, 6.0% o ddynion hoyw a 7.3% o ddynion deurywiol yn ddioddefwyr cam-drin domestig yn y flwyddyn flaenorol.[footnote 95]

181.Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddata cenedlaethol ar nifer yr achosion o gam-drin domestig ar gyfer dioddefwyr traws. Yn yr Arolwg LHDT Cenedlaethol 2017, roedd 48% o ymatebwyr trawsryweddol wedi profi digwyddiad negyddol [footnote 96]yn ymwneud â rhywun yr oeddent yn byw gyda nhw oherwydd eu bod yn LHDT, neu y credir eu bod yn LHDT, yn y 12 mis yn arwain at yr arolwg. [footnote 97]

182.Mae llawer o debygrwydd rhwng profiadau pobl heterorywiol a LHDT o gam-drin domestig. Fodd bynnag, gall dioddefwyr LHDT hefyd brofi camddefnydd o bŵer a rheolaeth sydd â chysylltiad agos â chael eu rhywioldeb, eu hunaniaeth rhywedd neu ailbennu rhywedd wedi’i ddefnyddio yn eu herbyn. Gall hyn gynnwys yr ymddygiadau camdriniol a ganlyn:

  • Bygythiadau o ddatgelu cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd ac ailbennu rhywedd i deulu, ffrindiau, cydweithwyr, y gymuned ac eraill;

  • Datgelu hanes hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol neu statws HIV heb ganiatâd;

  • Cyfyngu neu reoli mynediad i fannau neu adnoddau LHDT;

  • Defnyddio cyfraith mewnfudo i fygwth alltudio i’r wlad wreiddiol, a allai fod yn anniogel oherwydd e.e. deddfwriaeth gwrth-hoyw; a

  • Yr hyn a elwir yn ymarferion ‘therapi trosi’, o arferion ffug-seicolegol i, mewn amgylchiadau eithafol, weithredoedd corfforol neu rywiol treisgar, wedi eu hysgogi gan gred bod yna gyfeiriadedd rhywiol ‘cywir’ ac y gall person o gael ei ‘gwella/wella’ gael cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rywiol wahanol.

183.Mae’n bwysig nodi nad yw pobl LHDT yn cael eu hystyried yn grŵp homogenaidd. Gall cam-drin a ddatgelir gan fenywod lesbiaidd fod yn wahanol i fenywod deurywiol a thrawsrywiol. Yn yr un modd, gall profiadau dynion hoyw fod yn wahanol i brofiadau dynion deurywiol neu draws. Gall cam-drin traws-benodol gynnwys gorfodi person i beidio â mynd ar drywydd trawsnewid rhyw gan gynnwys gwrthod neu atal mynediad at driniaeth feddygol neu hormonau, gwawdio, neu ddihysbyddu eu corff neu ymosod ar rannau o’r corff a newidiwyd yn feddygol neu orfodi amlygiad.

184.Mae pobl LHDT yn profi rhwystrau personol a strwythurol amlwg wrth geisio cael cymorth ac adrodd am gamdriniaeth. Gall hyn gynnwys gwasanaethau heb lwybrau atgyfeirio o ansawdd gyda sector arbenigol LHDT a diffyg gwelededd a chynrychiolaeth o faterion LHDT o fewn gwasanaethau. Gall hefyd gynnwys diffyg dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth gan weithwyr proffesiynol ynghylch mathau unigryw o reolaeth drwy orfodaeth wedi’i thargedu at gyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu ailbennu rhywedd, a gweithwyr proffesiynol yn lleihau’r risg a brofir gan bobl LHDT.

Astudiaeth Achos – David

Roedd David, a oedd mewn perthynas â Harry, wedi dechrau swydd newydd yn ddiweddar a thrwy hyn, gwnaeth grŵp newydd o ffrindiau. Dechreuodd David dreulio mwy o amser gyda’r grŵp newydd hwn o ffrindiau ac aeth allan i glybiau yn aml gyda nhw. Dechreuodd Harry holi David pam ei fod yn treulio cymaint o amser gyda’r ffrindiau hyn, pan oedd ganddo gariad eisoes a’i gyhuddo o dwyllo. Pan wadodd David hyn, tarodd Harry ef ar draws yr wyneb. Roedd Harry yn cyfiawnhau ei ymddygiad gan honni, pan fydd partneriaid o’r un rhyw, nad yw’n anghyffredin i ddadlau droi’n gorfforol ond na fyddai byth yn brifo David yn fwriadol.

Meddyliodd David am hyn a sylweddolodd fod popeth yr oedd wedi’i weld am gam-drin yn canolbwyntio ar gyplau heterorywiol. Roedd David yn teimlo’n llai hyderus i herio Harry gan deimlo bod Harry yn gwybod mwy am berthnasoedd LHDT (Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol)nag ef.

Pan geisiodd David herio Harry, roedd Harry yn bygwth y byddai’n dweud wrth ffrindiau David sut un oedd e “go iawn” pe bai’n ceisio dod â’u perthynas i ben. Dywedodd Harry hefyd y byddai’n dweud wrth deulu David am y twyllo honedig hwn. Roedd David yn teimlo ei fod yn cael ei reoli’n llwyr gan Harry a phan oedd yn anghytuno ag ef, byddai Harry yn mynd yn dreisgar ac yn bygwth ymhellach ei berthynas â ffrindiau a theulu.

Defnyddiodd David wasanaeth sgwrsio ar-lein i siarad â chynghorydd cam-drin domestig a ddywedodd wrtho fod yr ymddygiad hwn yn annerbyniol mewn perthynas LHDT yn yr un modd ag y mae’n annerbyniol mewn perthynas heterorywiol. Dywedasant hefyd wrth David am ei opsiynau ar gyfer ceisio cymorth pellach, a chyngor ymarferol ar sut y gallai roi terfyn ar y berthynas yn y ffordd fwyaf diogel posibl pe bai’n dymuno, yn ogystal â sut i roi gwybod i’r heddlu am yr ymddygiad hwn.

I gael manylion am nodweddion gwarchodedig ac ystyriaethau cysylltiedig, cyfeiriwch at Bennod 2 yn y Canllawiau Statudol ar Gam-drin Domestig a Strategaeth VAWDASV Llywodraeth Cymru (a gyhoeddir yn gynnar yn 2022).

Mae rhestr lawn o sefydliadau a gwasanaethau cymorth arbenigol i’w gweld yn Atodiad F y canllawiau hyn.

Atodiad A - Y drosedd o ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi

Mae adran 76 Deddf Troseddau Difrifol 2015 yn darparu:

(1) Mae person (A) yn cyflawni trosedd os—

(a) yw A yn ymddwyn dro ar ôl tro neu’n barhaus tuag at berson arall (B) mewn dull sy’n rheoli neu’n gorfodi

(b) ar adeg yr ymddygiad, bod gan A a B gysylltiad personol,

(c) mae’r ymddygiad yn cael effaith ddifrifol ar B, ac

(d) os yw A yn gwybod neu y dylai wybod y bydd yr ymddygiad yn cael effaith ddifrifol ar B.

(2)Mae A a B “yn gysylltiedig yn bersonol” os—

(a) yw A mewn perthynas bersonol agos â B, neu

(b) mae A a B yn byw gyda’i gilydd ac —

(i)maent yn aelodau o’r un teulu, neu

(ii) os ydynt wedi bod mewn perthynas bersonol agos â’i gilydd o’r blaen.

(3) Ond nid yw A yn cyflawni trosedd o dan yr adran hon os ar adeg yr ymddygiad o dan sylw—

(a) Mae gan A gyfrifoldeb dros B, at ddibenion Rhan 1 Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (gweler adran 17 o’r Ddeddf honno), ac

(b) yw B yn iau na 16 oed.

(4) Mae ymddygiad A yn cael “effaith ddifrifol” ar B os—

(a) yw’n achosi i B ofni, ar ddau achlysur o leiaf, y bydd trais yn cael ei ddefnyddio yn erbyn B, neu

(b) yw’n achosi braw neu ofid difrifol i B sy’n cael effaith andwyol sylweddol ar weithgareddau bob dydd B.

(5) At ddibenion is-adran (1)(d) “dylai A wybod” yr hyn byddai person rhesymol sy’n meddu ar yr un wybodaeth ei wybod.

(6) At ddibenion is-adran (2)(b)(i) mae A a B yn aelodau o’r un teulu—

(a) os ydynt, neu wedi bod, yn briod â’i gilydd;

(b) os ydynt, neu wedi bod, yn bartneriaid sifil i’w gilydd;

(c) os ydynt yn perthyn i’w gilydd;

(d) os ydynt wedi cytuno i briodi ei gilydd (p’un a yw’r cytundeb wedi dod i ben ai peidio);

(e) os ydynt wedi ymrwymo i gytundeb partneriaeth sifil (p’un a yw’r cytundeb wedi dod i ben ai peidio);

(f) os ydynt ill dau yn rhieni i’r un plentyn;

(g) os oed ganddynt, neu bu ganddynt, gyfrifoldeb rhiant am yr un plentyn.

(7) Yn is-adran (6)—

mae gan “cytundeb partneriaieth sifil” yr ystyr a roddwyd gan adran 73 Deddf Partneriaeth Sifil 2004;

ystyr “plentyn” yw person dan 18 oed;

mae gan “cyfrifoldeb rhiant” yr un ystyr ag sydd yn Neddf Plant 1989;

mae i “perthynas” yr ystyr a roddir gan adran 63(1) Deddf Cyfraith Teulu 1996

(8) Mewn achos cyfreithiol am drosedd o dan yr adran hon mae’n amddiffyniad i A ddangos—

(a) wrth gymryd rhan yn yr ymddygiad dan sylw, credai A ei fodef neu ei bod hi yn gweithredu

er lles gorau B, ac

(b) roedd yr ymddygiad o dan yr holl amgylchiadau yn rhesymol.

(9) Mae’n cymryd bod A wedi gweld y ffeithiau a grybwyllir yn is-adran (8) os—

(a) oes bod tystiolaeth ddigonol o’r ffeithiau i godi mater ynglyn a hwy, ac

(b) os yw’r gwrthwyneb heb gael ei brofi y tu hwnt i amheuaeth resymol.

(10) Nid yw’r amddiffyniad yn is-adran (8) ar gael i A mewn perthynas ag ymddygiad sy’n peri i B ofni y bydd trais yn cael ei ddefnyddio yn erbyn B.

(11) Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn atebol —

(a) ar gollfarn ar dditiad, i garchar am gyfnod nad yw’n fwy na phum

mlynedd, neu ddirwy, neu’r ddau;

(b) ar gollfarn ddiannod, i garchar am gyfnod nad yw’n hwy na 12

mis, neu ddirwy, neu’r ddau.

Pŵer cyfreithiol ar gyfer canllawiau statudol

Mae adran 77 Deddf Troseddau Difrifol 2015 yn darparu:

Canllawiau ar ymchwilio i droseddau o dan adran 76

(1) Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddyroddi canllawiau ynghylch ymchwilio i droseddau o dan adran 76 i ba bynnag bersonau y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn barnu eu bod yn briodol.

(2) Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddiwygio unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon.

(3) Rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol drefnu i unrhyw ganllawiau a ddyroddir neu a ddiwygir o dan yr adran hon gael eu cyhoeddi.”

Diwygiodd Deddf Cam-drin Domestig 2021 y drosedd ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi i ddileu’r gofyniad “byw gyda’n gilydd” sy’n golygu y gallai bellach fod yn berthnasol i bartneriaid, cyn-bartneriaid, neu aelodau o’r teulu p’un a yw’r dioddefwr a’r cyflawnwr yn byw gyda’i gilydd.. Gweler isod:

“Ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi mewn perthynas agos neu deuluol’’

(1) Mae adran 76 Deddf Troseddau Difrifol 2015 (trosedd o ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi mewn perthynas agos neu deuluol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn is-adran (1)(b), ar ôl “cysylltiad personol” mewnosoder “(gweler is-adran (6)) “.

(3) Hepgorer is-adran (2).

(4) Yn lle is-adran (6) rhodder—

“(6) Mae A a B wedi’u “cysylltu’n bersonol” os yw unrhyw un o’r canlynol yn gymwys—

(a) maent, neu wedi bod, yn briod â’i gilydd;

(b) maent, neu wedi bod, yn bartneriaid sifil i’w gilydd;

(c) maent wedi cytuno i briodi ei gilydd (p’un a yw’r cytundeb wedi dod i ben ai peidio);

(d) maent wedi ymrwymo i gytundeb partneriaeth sifil (p’un a yw’r cytundeb wedi dod i ben ai peidio);

(e) maent, neu wedi bod, mewn perthynas bersonol agos â’i gilydd;

(f) mae pob un ohonynt wedi, neu bu adeg pan fydd pob un ohonynt wedi, cael perthynas rhiant ar gyfer yr un plentyn (gweler is-adran (6A));

(g) maent yn perthyn i’w gilydd.

(6A) At ddibenion is-adran (6)(f) mae gan berson berthynas rhiant

ar gyfer y plentyn os—

(a) yw’r person yn rhiant i’r plentyn, neu

(b) os oes gan y person gyfrifoldeb rhiant am y plentyn.”

(5) Yn is-adran (7), ar gyfer “isadran (6)” dylid dileu “is-adran (6) a

(6A)”.

Atodiad B - Darpariaethau yn Neddf Cam-drin Domestig 2021 sy’n berthnasol i’r canllawiau hyn

Adran 1: Diffiniad o “gam-drin domestig”

(1) Mae’r adran hon yn diffinio “cam-drin domestig” at ddibenion y Ddeddf hon.

(2) Mae ymddygiad person (“A”) tuag at berson arall (“B”) yn “gam-drin domestig” os—

(a) yw A a B ill dau yn 16 oed neu’ n hŷn ac wedi’u cysylltu’n bersonol â’i gilydd, ac

(b) yw’r ymddygiad yn gamdriniol.

(3) Mae ymddygiad yn “gamdriniol” os yw’n cynnwys unrhyw un o’r canlynol—

(a) cam-drin corfforol neu rywiol;

(b) ymddygiad treisgar neu fygythiol;

(c) ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi;

(d) cam-drin economaidd (gweler is-adran (4));

(e)cam-drin seiolegol, psychological, emosiynol enu gam-drin arall;

ac nid oes gwahaniaeth a yw’r ymddygiad yn cynnwys un digwyddiad neu gwrs o ymddygiad.

(4) Ysytyr “cam-drin economaidd” yw unrhyw ymddygiad sydd ag effaith niweidiol sylweddol ar allu B —

(a) i gaffael, defnyddio neu gynnal arian neu eiddo arall, neu

(b) i gael nwyddau neu wasanaethau.

(5) At ddibenion y Ddeddf hon gall ymddygiad A fod yn ymddygiad “tuag at” B er gwaetha’r faith ei fod yn cynnwys ymddygiad wedi ei anelu at berson arall (er enghraifft, plentyn B).

(6) Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at fod yn gamdriniol tuag at berson arall i’w darllen yn unol â’r adran hon.

(7) Am ystyr “wedi’u cysylltu’n bersonol”, gweler adran 2.

Adran 2: Diffiniad o “wedi’u gysylltu’n bersonol”

(1) Mae dau berson wedi’u “cysylltu’n bersonol” â’i gilydd os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol—

(a) maent, neu wedi bod, yn briod â’i gilydd;

(b) maent, neu wedi bod, yn bartneriaid sifil i’w gilydd;

(c) maent wedi cytuno i briodi ei gilydd (pa un a yw’r cytundeb

wedi dod i ben ai peidio);

(d) maent wedi ymrwymo i gytundeb partneriaeth sifil (pa un a yw’r cytundeb wedi dod i ben ai peidio);

(e) maent, neu wedi bod, mewn perthynas bersonol agos â’i gilydd;

(f) mae gan y ddau ohonynt, neu bu adeg pan oedd gan y ddau ohonynt, berthynas rhiant ar gyfer yr un plentyn (gweler is-adran (2));

(g) maent yn perthyn i’w gilydd.

(2) At ddibenion isadran (1)(f) mae gan berson berthynas rhiant ar gyfer y plentyn os—

(a) yw’r person yn rhiant i’r plentyn, neu

(b) os oes gan y person gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn. .

(3) Yn yr adran hon—

ystyr “plentyn” yw person dan 18 oed;

mae i “cytundeb partneriaieth sifil” yr ystyr a roddir gan adran 73 Deddf Partneriaeth Sifil 2004;

mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr un ystyr ag sydd yn Neddf Plant 1989;

mae i “perthynas” yr ysytr a roddir gan adran 63(1) Deddf Cyfraith Teulu 1996.

Adran 3: Plant yn ddioddefwyr cam-drin domestig

(1) Mae’r adran hon yn gymwys pan fo ymddygiad person (“A”) tuag at berson arall (“B”) yn gam-drin domestig.

(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Ddeddf hon at ddioddefwr cam-drin domestig yn cynnwys cyfeiriad at blentyn sydd –

(a) yn gweld neu’n clywed, neu’n profi effaith, y cam-drin, ac

(b) sy’n perthyn i A neu B. Canllawiau Fframwaith Statudol Cam-drin Domestig 16

(3) Mae plentyn yn perthyn i berson at ddibenion is-adran (2) os –

(a) yw’r person yn rhiant i’r plentyn, neu os oes ganddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu

(b) os yw’r plentyn a’r person yn perthyn i’w gilydd.

(4) Yn yr adran hon –

ystyr “plentyn” yw person dan 18 oed;

mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr un ystyr ag sydd yn Neddf Plant 1989 (gweler adran 3 y Ddeddf honno);

mae gan “perthyn i’w gilydd” yr ystyr a roddir yn adran 63(1) Deddf Cyfraith Teulu 1996.

Adran 68: Ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi mewn perthynas agos neu deuluol

(1) Mae adran 76 Deddf Troseddau Difrifol 2015 (trosedd o ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi mewn perthynas agos neu deuluol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn is-adran (1)(b), ar ôl “wedi cysylltu yn bersonol” mewnosoder “(gweler is-adran (6))”.

(3) Hepgorer is-adran (2).

(4) Yn lle is-adran (6) rhodder—

“(6) Mae gan A a B “gysylltiad personol” os yw unrhyw o’r canlynol yn gymwys—

(a) maent, neu wedi bod, yn briod â’i gilydd;

(b) maent, neu wedi bod, yn bartneriaid sifil i’w gilydd;

(c) maent wedi cytuno i briodi ei gilydd (p’un a yw’r cytundeb wedi dod i ben ai peidio);

(d) maent wedi ymrwymo i gytundeb partneriaeth sifil (pa un a yw’r cytundeb wedi dod i ben ai peidio);

(e) maent, neu maent wedi bod, mewn perthynas bersonol agos â’i gilydd;

(f) mae gan bob un ohonynt, neu bu adeg pan fu gan bob un ohonynt, berthynas rhieni ar gyfer yr un plentyn (gweler is-adran (6A));

(g) maent yn perthyn i’w gilydd.

At ddibenion is-adran 6)(f) mae gan berson berthynas rhiant mewn perthynas â phlentyn os—

(a) yw’r person yn rhiant y plentyn, neu

(b) os oes gan y person gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.”

(5A) Yn is-adran (7), yn lle “is-adran (6)” rhodder “is-adrannau (6) a

(6A) “.

Atodiad C - Diffiniadau perthnasol yn Neddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) (Cymru) 2015

(1) Yn y Ddeddf hon—

ystyr “camdriniaeth” (“cam-drin”) yw cam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol;

ystyr “cam-drin domestig” (“cam-drin domestig”) yw cam-drin pan fo’r dioddefwr yn gysylltiedig â’r camdriniwr neu wedi bod yn gysylltiedig ag ef;

ystyr “blwyddyn ariannol” (“blwyddyn ariannol”) yw cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;

ystyr “trais ar sail rhywedd” (“trais ar sail rhywedd”) yw—

(a) trais, bygythiadau o drais neu aflonyddu sy’n deillio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o werthoedd, credoau neu arferion sy’n ymwneud â rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol;

(b) anffurfio organau cenhedlu benywod;

(c) gorfodi person (boed drwy rym corfforol neu orfodaeth drwy fygythiadau neu ddulliau seicolegol eraill) i ymrwymo i seremoni grefyddol neu sifil o briodas (p’un a yw’n gyfreithiol rwymol ai peidio);

ystyr “awdurdod lleol” (“awdurdod lleol”) yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;

“Bwrdd Iechyd Lleol” (“Bwrdd Iechyd Lleol”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42);

ystyr “diben y Ddeddf hon” (“diben y Ddeddf hon”) yw’r diben yn adran 1;

ystyr “awdurdod perthnasol” (“awdurdod perthnasol”) yw’r ystyr a roddir gan adran 14;

ystyr “trais rhywiol” (“trais rhywiol”) yw camfanteisio rhywiol, aflonyddu rhywiol, neu fygythiadau o drais o natur rywiol;

ystyr “canllawiau statudol” (“canllawiau statudol”) yw canllawiau o dan adran 15.

(2) Mae person yn gysylltiedig â pherson arall at ddibenion y diffiniad o “gam-drin domestig” yn is-adran (1) —

(a) os ydynt neu wedi bod yn briod â’i gilydd;

(b) os ydynt, neu wedi bod, yn bartneriaid sifil i’w gilydd;

(c) os ydynt yn byw, neu wedi cyd-fyw mewn perthynas deuluol barhaus (boed o wahanol ryw neu’r un rhyw);

(d) os ydynt yn byw, neu wedi byw, yn yr un cartref; ac at y diben hwn mae person yn aelod o gartref person arall——

(i) os yw’r person fel arfer yn byw gyda’r person arall fel aelod o’i deulu ef neu ei theulu hi, neu

(ii)y gellid disgwyl yn rhesymol i’r person fyw gyda’r person arall hwnnw;

(e) os ydynt yn perthyn i’w gilydd;

(f) os ydynt wedi cytuno i briodi ei gilydd (p’un a yw’r cytundeb hwnnw wedi’i derfynu ai peidio);

(g) os ydynt wedi ymrwymo i gytundeb partneriaeth sifil rhyngddynt (p’un a yw’r cytundeb hwnnw wedi ei derfynu ai peidio);

(h) eu bod neu wedi cael perthynas bersonol agos â’i gilydd;

(i) (i) mewn perthynas â phlentyn, mae pob un ohonynt yn rhiant i’r plentyn, neu’m neddu ar, neu wedi bod â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

(3) Os yw plentyn wedi’i fabwysiadu neu’n dod o fewn is-adran (4), mae dau berson hefyd yn

gysylltiedig â’i gilydd at ddibenion y diffiniad o “gam-drin domestig” yn is-adran (1) —

(a) mae un yn rhiant naturiol i’r plentyn neu’n rhiant i riant mor naturiol, a’r

(b) llall yw’r—

(i) plentyn, neu

(ii) berson sydd wedi dod yn rhiant i’r plentyn yn rhinwedd gorchymyn mabwysiadu, sydd wedi gwneud cais am orchymyn mabwysiadu neu y mae’r plentyn wedi’i leoli gydag ef neu hi ar unrhyw adeg i’w fabwysiadu.

(4) Mae plentyn yn dod o fewn yr is-adran hon—

(a) os oes gan asiantaeth fabwysiadu, o fewn ystyr adran 2 o Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (t.38) awdurdod i leoli’r plentyn i’w fabwysiadu o dan adran 19 o’r Ddeddf honno (rhoi plant â chaniatâd rhiant) neu os yw’r plentyn wedi dod yn destun gorchymyn o dan adran 21 o’r Ddeddf honno (gorchmynion lleoli), neu

(b) os yw’r plentyn yn cael ei ryddhau i’w fabwysiadu yn rhinwedd gorchymyn a wnaed—

(i) yng Nghymru a Lloegr, o dan adran 18 o Ddeddf Mabwysiadu1976 (c.36), neu

(ii) yng Ngogledd Iwerddon, o dan Erthygl 17(1) neu 18(1) Gorchymyn Mabwysiadu (Gogledd Iwerddon) 1987 (S.I. 1987/2203), neu

(c) mae’r plentyn yn destun gorchymyn sefydlogrwydd yn yr Alban sy’n cynnwys rhoi awdurdod i fabwysiadu.

(5) Yn yr adran hon—

ystyr “gorchymyn mabwysiadu” (“gorchymyn mabwysiadu”) yw gorchymyn mabwysiadu o fewn ystyr adran 72(1) o Ddeddf Mabwysiadu 1976 neu adran 46(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002;

ystyr “plentyn” (“plentyn”) yw person o dan 18 oed;

ystyr “cytundeb partneriaeth sifil” (“cytundeb partneriaeth sifil”) yw’r ystyr a roddir gan adran 73 o’rDdeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p.33);

ystyr “anffurfio organau cenhedlu benywod” (“anffurfio organau cenhedlu benywod”) yw gweithred sy’n drosedd o dan adrannau 1, 2 neu 3 o’rDdeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003 (p.31);

ystyr “cam-drin ariannol” (“cam-drin ariannol”) yw—

(a) cael arian neu eiddo arall wedi’i ddwyn,

(b) cael eich twyllo,

(c) cael eich rhoi o dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall, a

(d) chael arian neu eiddo arall wedi’i gamddefnyddio;

ystyr “aflonyddu” (“aflonyddu”) yw cwrs ymddygiad gan berson y mae’n gwybod neu y dylai wybod ei fod yn gyfystyr ag aflonyddu ar y llall; ac at ddibenion y diffiniad hwn—

(a) dylai person wybod bod ei ymddygiad yn gyfystyr ag aflonyddu neu’n golygu aflonyddu os byddai person rhesymol sy’n meddu ar yr un wybodaeth yn meddwl bod yr ymddygiad yn gyfystyr ag aflonyddu ar berson arall neu’n ymwneud ag aflonyddu arno, ac

(b) mae “ymddygiad” yn cynnwys lleferydd;

ystyr “camfanteisio rhywiol” (“camfanteisio rhywiol”) yw rhywbeth a wneir i berson neu mewn perthynas ag—

(a) ymwneud â chyflawni trosedd o dan Ran 1 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (p.42) ), fel y mae iddo effaith yng Nghymru a Lloegr, neu

(b) yn golygu cyflawni trosedd o’r fath pa bai’n cael ei wneud yng Nghymru a Lloegr;

ystyr “cyfrifoldeb rhiant” (“cyfrifoldeb rhiant”) yw’r ystyr a roddir gan adran 3 oDdeddf Plant 1989 (p.41);

ystyr “perthynas” (“perthynas”), mewn perthynas â pherson, mae’n golygu rhiant y person hwnnw, taid neu nain, plentyn, wyr neu wyres, brawd, hanner brawd, chwaer, hanner chwaer, ewythr, modryb, nai, nith (gan gynnwys unrhyw berson sydd neu sydd wedi bod yn y berthynas honno yn rhinwedd priodas neu bartneriaeth sifil neu berthynas deuluol barhaus).

Atodiad D - Enghreifftiau o resymau dros dynnu’n ôl a gwrthdyniad gan achwynwyr

  • Ofn cyflawni troseddau eraill, neu risg o niwed pellach (yn bersonol, ond hefyd trwy dechnolegau ar-lein);

  • Ofn dod wyneb yn wyneb â’r camdriniwr yn y llys;

  • Pwysau gan y cyflawnwr, teulu neu gymdeithion y cyflawnwr;

  • ofn ôl-effeithiau a all ddilyn gan gyfoedion y cyflawnwr, neu aelodau gang lle mae’r achwynydd, y cyflawnwr neu’r ddau yn ymwneud â gang;

  • Pwysau gan aelodau eraill o’r teulu, aelodau eraill o’r gymuned neu ‘bobl hŷn’ cymunedol, gan gynnwys cael pwysau i ddatrys ‘gwahaniaethau’ rhwng partïon drwy gyfryngu, neu dribiwnlysoedd cyflafareddu a gynhelir yn y gymuned;

  • Ofn cael eu cywilyddio’n gyhoeddus, eu diarddel neu eu gadael allan o’r gymuned;

  • Dymuniad i gael ei gysoni â’r cyflawnwr, os nad yw eisoes wedi’i gysoni, neu ddymuniad i ddychwelyd i’r teulu, os yw wedi ymddieithrio;

  • Nid yw’r achwynydd bellach mewn perthynas â’r cyflawnwr neu nid yw am ail-fyw’r digwyddiad;

  • Ofn y bydd plant yn cael eu symud a’u rhoi mewn gofal, neu ddim am gael eu hystyried yn ‘anodd’ os yw plant neu ddibynyddion eraill gysylltiedig

  • Ofn yr effaith ar blant, neu ddibynyddion eraill, neu ôl-effeithiau ariannol (megis derbyn rhai cynhaliaeth plant, lwfansau treth neu gymorth ariannol drwy fudd-daliadau) pe bai’r cyflawnwr yn cael dedfryd o garchar;

  • Gall parhau ag erlyniad achosi i’r achwynydd deimlo ei fod yn gyfrifol am y cyflawnwr yn derbyn cofnod troseddol a’r effaith ar ei swydd a chyllid ei deulu

  • Gall y cyflawnwr gytuno i ollwng achosion eraill fel ceisiadau cadw plant yn y ddalfa, os bydd yr achwynydd yn tynnu’r gŵyn yn ôl;

  • Embaras wrth adrodd am y gŵyn (o ganlyniad i gefndir cymdeithasol yr achwynydd neu’r cyflawnwr, neu er enghraifft, mewn achosion ogam-drin plant i rieni);

  • Ofn efallai na ellir eu credu ac ofnau bod y system cyfiawnder troseddol yn rhagfarnllyd tuag at y trsoeddwr;

  • Teimladau o unigedd neu fregusrwydd, ac ofnau efallai na fyddent yn cael eu credu o ganlyniad i’r gwendidau hynny;

  • Ofnau y gallai dangos cefnogaeth i erlyniad eu rhoi mewn perygl pellach o niwed;

  • Ofn y bydd statws mewnfudo yn cael ei hysbysu i awdurdodau gorfodi’r gyfraith, neu ofn y gallai cwyn ddatgelu statws mewnfudo’r cyflawnwr nad yw o bosibl yn diogel;

  • Ofn bod ‘allan’ am eu cyfeiriadedd rhywiol, neu hunaniaeth drawsryweddol os nad yw’n hysbys eisoes;

  • Ofn datgelu statws HIV neu wybodaeth bersonol sensitif iawn arall os nad yw’n hysbys eisoes;

  • Lle mae achwynwyr yn ymwneud â phuteindra, yn ofni y bydd unrhyw gysylltiad blaenorol â’r heddlu yn arwain at beidio â chymryd eu cwyn o ddifrif;

  • Diffyg ymgysylltu neu gyfathrebu gan asiantaethau cyfiawnder troseddol, neu ofn o beidio â gwybod beth fydd yn digwydd pan fyddant yn cefnogi erlyniad; neu,,

  • pryderon nad yw’r asiantaethau cyfiawnder troseddol yn ymwybodol o’r materion y maent yn eu hwynebu neu efallai nad ydynt yn sensitif i’w sefyllfa benodol (megis dealltwriaeth o pam mae angen mesurau arbennig penodol).

Atodiad E - Troseddau presennol a allai fod yn berthnasol mewn achosion o gam-drin domestig

Trosedd trais domestig
(Cymru a Lloegr)
Darpariaeth statudol neu gyfraith gyffredin (Cymru a Lloegr)
Bygythiadau i ladd Deddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861 a16
Saethu neu geisio saethu, neu glwyfo, gyda’r bwriad o wneud niwed corfforol difrifol Deddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861 a18
Achosi anaf corfforol gydag arf neu hebddo Deddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861 a20
Ceisio tagu, ac ati er mwyn cyflawni unrhyw drosedd dditiadwy Deddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861 a21
Gweinyddu gwenwyn yn faleisus, ac ati er mwyn peryglu bywyd neu achosi niwed corfforol difrifol Deddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861 a23
Gweinyddu gwenwyn yn faleisus, ac ati gyda’r bwriad o anafu, trallodi, neu gythruddo unrhyw un arall Deddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861 a24
Achosi i bowdwr gwn ffrwydro, neu anfon sylwedd ffrwydrol at unrhyw berson, neu
taflu hylif cyrydol ar berson, gyda’r bwriad o wneud niwed corfforol difrifol
Deddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861 a29
Ymosodiad yn achosi niwed corfforol Deddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861 a47
Cydsyniad i niwed difrifol er boddhad rhywiol ddim yn amddiffyniad Deddf Cam-drin Domestig 2021
a71
Dinistrio plant Deddf Bywyd Babanod (Diogelu) 1929 a1
Creulondeb i bobl o dan un ar bymtheg oed Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 a1
Trosedd torri gorchymyn atal Deddf Dedfrydu 2000 a636
Treisio Deddf Troseddau Rhywiol 1956 a1
Deddf Troseddau Rhywiol 2003 s1
Caffael menyw drwy fygythiadau Deddf Troseddau Rhywiol 1956 a2
Gweinyddu cyffuriau i gael neu hwyluso cyfathrach rywiol Deddf Troseddau Rhywiol 1956 a4
Ymosodiad anweddus ar fenyw Deddf Troseddau Rhywiol 1956 a14
Ymosodiad anweddus ar ddyn Deddf Troseddau Rhywiol 1956 a15
Caffael camesgoriad Deddf Erthylu 1967 a5(2)
Dwyn Deddf Dwyn 1968 a7
Blacmel Deddf Dwyn 1968 a21
Dinistrio neu ddifrodi eiddo Deddf Difrod Troseddol 1971 a1
Bygythiadau i ddinistrio neu ddifrodi eiddo Deddf Difrod Troseddol 1971 a2
Trais ar gyfer sicrhau mynediad Deddf Cyfraith Droseddol 1977 a6
Herwgydio plentyn gan riant Deddf Herwgydio Plant 1984 a1
Herwgydio plentyn gan bersonau eraill (nid rhiant) Deddf Herwgydio Plant 1984 a2
Affráe Deddf Trefn Gyhoeddus 1986 a3
Ofn neu gythruddo trais Deddf Trefn Gyhoeddus 1986 a4
Aflonyddu, braw neu drallod bwriadol Deddf Trefn Gyhoeddus 1986 a4A
Aflonyddu, braw neu drallod Deddf Trefn Gyhoeddus 1986 a5
Y drosedd o anfon llythyrau ac ati gyda’r bwriad o achosi trallod neu bryder Deddf Cyfathrebu Maleisus 1988 a1
Ymosodiad cyffredin a churo Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988 a39
Bygwth ac ati tystion, rheithgorau ac eraill Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 a51
Torri gorchymyn amddiffyn priodas dan orfod Deddf Cyfraith Teulu 1996 a63CA
Aflonyddu - Codi ofn trais ar bobl Deddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997 a4
Stelcian sy’n cynnwys ofn trais neu ddychryn neu drallod difrifol Deddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997 a4A
Ymosodiad a waethygwyd gan hiliaeth neu grefydd Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 a29
Difrod troseddol a waethygir gan hiliaeth neu grefydd Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 a30
Troseddau trefn gyhoeddus a waethygir gan hiliaeth neu grefydd Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 a31
Aflonyddu ac ati a waethygir gan hiliaeth neu grefydd ac ati Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 a32
Ymosodiad drwy dreiddio Deddf Troseddau Rhywiol 2003 a2
Ymosodiad rhywiol Deddf Troseddau Rhywiol 2003 a3
Achosi i berson gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol heb ganiatâd Deddf Troseddau Rhywiol 2003 a4
Achosi neu annog puteindra er mwyn elw Deddf Troseddau Rhywiol 2003 a52
Rheoli puteindra er mwyn elw Deddf Troseddau Rhywiol 2003 a53
Masnachu pobl i’r DU ar gyfer camfanteisio rhywiol Deddf Troseddau Rhywiol 2003 a57
Masnachu pobl yn y DU ar gyfer camfanteisio rhywiol Deddf Troseddau Rhywiol 2003 a58
Masnachu pobl allan o’r DU ar gyfer camfanteisio rhywiol Deddf Troseddau Rhywiol 2003 a59
Gweinyddu sylwedd gyda’r bwriad o gyflawni trosedd rywiol Deddf Troseddau Rhywiol 2003 a61
Cyflawni trosedd gyda’r bwriad o gyflawni trosedd rywiol Deddf Troseddau Rhywiol 2003 a62
Tresmasu gyda’r bwriad o gyflawni trosedd rywiol Deddf Troseddau Rhywiol 2003 a63
Defnydd amhriodol o rwydwaith cyfathrebu electronig cyhoeddus Deddf Cyfathrebu 2003 a127
Torri gorchymyn peidio ag ymyrryd Deddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004 a1
Masnachu pobl i’w hecsbloetio Mae Deddf Lloches a Mewnfudo (Trin Hawlwyr, ac ati) Deddf 2004 a4 bellach wedi’i disodli gan y drosedd yn adran 2 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015.
Herwgipio Cyfraith gyffredin
Carcharu ffug Cyfraith gyffredin
Gwyrdroi cwrs cyfiawnder cyhoeddus Cyfraith gyffredin
Cynorthwyo, annog, cwnsela, neu gaffael y comisiwn o:
(a) drosedd dditiadwy a restrir yn y tabl hwn; neu
(b) y drosedd o geisio llofruddio
Deddf Affeithwyr ac Anogwyr 1861 a8
Y drosedd o gynllwynio mewn perthynas â:
(a) throsedd dditiadwy a restrir yn y tabl hwn; a
(b) y drosedd o lofruddiaeth
Deddf Cyfraith Droseddol 1977 a1
Ceisio cyflawni trosedd mewn perthynas â:
(a) throsedd dditiadwy a restrir yn y tabl hwn a
(b) y drosedd o lofruddiaeth
Deddf Ymdrechion Troseddol 1981 a1
Annog neu gynorthwyo trosedd (troseddau cychwynnol) mewn perthynas â:
(a) throsedd dditiadwy a restrir yn y tabl hwn; a
(b) y drosedd o lofruddiaeth
Deddf Troseddau Difrifol 2007 au44-46
Cymell (cyn 1 Hydref 2008) mewn perthynas â:
(a) throsedd dditiadwy a restrir yn y tabl hwn; a
(b) y drosedd o lofruddiaeth
Cyfraith gyffredin
Datgelu ffotograffau a ffilmiau rhywiol preifat gyda’r bwriad o achosi trallod (pornograffi sy’n dial). Deddf Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd 2015, a33
Priodas dan Orfod Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, a10.
Troseddau’n ymwneud ag anffurfio organau cenhedlu benywod Deddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003

Atodiad F - Cymorth ar gael i ddioddefwyr

Llinell Gymorth Radffôn Cam-drin Domestig Cenedlaethol 24 awr – 0808 2000 247, ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn

Age UK – sefydliad sy’n cefnogi pobl hŷn a dioddefwyr cam-drin pobl hŷn. Rhif ffôn Llinell GyngorAge UKyw 0800 678 1602 ac mae ar agor rhwng 8am a 7pm, 365 diwrnod y flwyddyn.

Gofynwch am ANI – cynllun gair allweddol i ddioddefwyr gyrchu cefnogaeth o ddiogelwch eu fferyllfa leol.

Broken Rites – grŵp sy’n cynnig cefnogaeth a gwybodaeth i wŷr a gwragedd clerigwyr, gweinidogion, a Swyddogion Byddin yr Eglwys sydd wedi gwahanu neu ysgaru

Childline – sefydliad sy’n cynnig cymorth a chefnogaeth i blant a phobl ifanc. Rhif ffôn y llinell gymorth yw 0800 1111, ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn

Clinks – sefydliad sy’n cefnogi’r sector gwirfoddol sy’n gweithio gyda phobl yn y system cyfiawnder troseddol a’u teuluoedd. Mae gan Clinks gyfarwyddiadur o wasanaethau, er nad yw’n hollgynhwyso ac maent yn brofiadol o gefnogi menywod sydd wedi dioddef cam-drin domestig.

Prosiect Dogs Trust Freedom – gwasanaeth maethu cŵn arbenigol i ddioddefwyr sy’n ffoi rhag cam-drin domestig.

Llinell Gymorth Hestia Ymateb i Gamdriniaeth – llinell gymorth arbenigol sy’n cefnogi cyflogwyr i helpu staff sy’n profi cam-drin domestig ar 0203 879 3695 neu drwy e-bost Adviceline.EB@hestia.org, ar agor 9am-5pm dydd Llun i ddydd Gwener.

Hourglass – sefydliad arbenigol sy’n ceisio rhoi terfyn ar niwed, cam-drin a chamfanteisio ar bobl hŷn yn y DU. Gellir cael mynediad i’w llinell gymorth dros y ffôn ar 0808 808 8141, testun ar 07860 052906 neu e-bostiwch helpline@wearehourglass.org.

Galop – elusen sefydliad arbenigol ac LHDT+ gwrth-drais sy’n cynnig cymorth i ddioddefwyr LHDT+.

Imkaan - sefydliad menywod sy’n darparu cymorth penodol ar gyfer menywod du a lleiafrifoedd ethnig.

Cymorth i Fenywod Iddewig – sefydliad arbenigol sy’n cefnogi menywod Iddewig a phlant y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt. Eu llinell gymorth yw 0808 801 0500 ac mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 9.30am a 9.30pm (ac eithrio gwyliau Iddewig a gwyliau banc).

Llinell gymorth cam-drin ar sail anrhydedd Karma Nirvana – sefydliad arbenigol sy’n cefnogi dioddefwyr cam-drin ar sail ‘anrhydedd’ a phriodi dan orfod. Eu llinell gymorth yw 0800 599 9247 ac mae ar agor 9am i 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.

Menter ManKind – sefydliad arbenigol sy’n cefnogi dioddefwyr gwrywaidd cam-drin domestig a’u plant.

Llinell Gymorth Dynion – 0808 801 0327 ar agor dydd Llun i ddydd Gwener neu e-bostiwch info@mensadviceline.org.uk.

Rhwydwaith Menywod Mwslimaidd - sefydliad arbenigol sy’n cefnogi menywod a merched Mwslimaidd.

Llinell Gymorth Genedlaethol Cam-drin Domestig LHDT+ – 0800 999 5428 dydd Llun i ddydd Gwener 10am i 5pm.

Llinell Gymorth Stelcio Genedlaethol – 0808 802 0300 Dydd Llun, Dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener rhwng 9:30am a 4pm ac o 9:30am i 8pm ar ddydd Mercher

NSPCC – prif elusen blant y DU sy’n gweithio i atal cam-drin, i ailadeiladu bywydau plant a chefnogi teuluoedd.

Llinell gymorth anffurfio organau cenhedlu benywod yr NSPCC (FGM) – 0800 028 3550 neu e-bost fgm.help@nspcc.org.uk.

Paladin – sefydliad sy’n rhoi cymorth i ddioddefwyr stelcian.

Refuge – sefydliad sy’n rhoi cymorth i bawb sy’n dioddef cam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod a merched.

Respect – sefydliad sy’n gweithio gyda dynion sy’n dioddef cam-drin domestig a throseddwyr cam-drin domestig.

Restored – sefydliad arbenigol sy’n gweithio i fynd i’r afael â cham-drin domestig drwy bartneru gydag eglwysi a sefydliadau Cristnogol.

Llinell Gymorth Porn Dial – ar agor 10am i 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener. 0345 600 0459 neu help@revengepornhelpline.org.uk.

SignHealth Domestic Abuse Service – gwasanaeth arbenigol ar gam-drin domestig sy’n cefnogi iechyd a lles pobl Fyddar.

Solace Women’s Aid – sefydliad sy’n cefnogi pob dioddefwr trais yn erbyn menywod a merched.

Southall Black Sisters – sefydliad sy’n rhoi cymorth i ddioddefwyr o leiafrifoedd ethnig a menywod mudol.

Stay Safe East – sefydliad arbenigol sy’n darparu cymorth cam-drin domestig i ddioddefwyr anabl a Byddar.

Goroesi Cam-drin Economaidd – sefydliad arbenigol sy’n ymroi i godi ymwybyddiaeth o gam-drin economaidd a thrawsnewid ymateb iddo, gan weithio mewn partneriaeth â Money Advice Plus i ddarparu cyngor ariannol/dyled i ddioddefwyr cam-drin domestig sy’n profi anawsterau ariannol.

Uned Priodas dan Orfod y DU – 020 7008 0151.

Cymorth i Ddioddefwyr – gwasanaeth arbenigol sy’n helpu unrhyw un yr effeithir arno gan unrhyw fathau o drosedd, nid yn unig y rhai sy’n ei brofi’n uniongyrchol, ond hefyd eu ffrindiau, eu teulu ac unrhyw bobl eraill sy’n gysylltiedig.

Cymorth i Fenywod – sefydliad sy’n cefnogi menywod y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt.

Sefydliadau Penodol i Gymru

Llinell gymorth Live Fear Free – Live Fear Free . Mae eu llinell gymorth Live Fear Free yn wasanaeth am ddim, 24/7 i holl ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol a’r rhai sy’n agos atynt, gan gynnwys teulu, ffrindiau a chydweithwyr ac eraill pryderus. Gellir cysylltu â Live Fear Free yn y ffyrdd canlynol;

Llinell gymorth Dyn Wales – sefydliad sy’n cefnogi dioddefwyr gwrywaidd cam-drin domestig. Mae’r llinell gymorth ar 0808 801 0321 neu e-bostiwch support@dynwales.org

Cymorth i Fenywod Cymru – sefydliad sy’n cefnogi menywod o Gymru y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt.

BAWSO – sefydliad arbenigol sydd yn cefnogi cymunedau lleiafrifoedd ethnig

Canolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol (RASASC) - sefydliad sy’n darparu gwybodaeth, cymorth arbenigol a therapi i unrhyw un sydd wedi profi unrhyw fath o gam-drin rhywiol a thrais; gellir cysylltu â nhw ar 01248 670 628 neuinfo@rasacymru.org.uk

Stepping Stones - sefydliad sy’n darparu gwasanaethau therapiwtig i oedolion sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol fel plant; gellir cysylltu â nhw ar 01978 352 717 neuinfo@steppingstonesnorthwales.co.uk

New Pathways -y prif ddarparwr gwasanaeth cymorth trais rhywiol ar gyfer Canolbarth, Gorllewin, Dwyrain a De Cymru; gellir cysylltu â nhw ar 01685 379 310 neuenquiries@newpathways.org.uk

Atodiad G – Rhestr o Acronymau

  • ABH – Niwed Corfforol Gwirioneddol

  • APP – Ymarfer Proffesiynol Awdurdodedig

  • CAFCASS – Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd

  • CJS – System Cyfiawnder Troseddol

  • CPA – Cam-drin Plant i Rieni

  • CPS – Gwasanaeth Erlyn y Goron

  • CSEW – Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr

  • DAPNs – Hysbysiadau Diogelu Cam-drin Domestig

  • DAPOs – Gorchmynion Amddiffyn Cam-drin Domestig

  • DASH – Cam-drin Domestig, Stelcian, Aflonyddu a Thrais ar Sail ‘Anrhydedd’

  • DDVC – Consesiwn Trais Domestig Anghenus

  • DVPNs – Hysbysiadau Amddiffyn Trais yn y Cartref

  • DVPOs – Gorchmynion Amddiffyn Trais yn y Cartref

  • FCA – Awdurdod Ymddygiad Ariannol

  • HBA –Cam-drin ar sail ‘Anrhydedd’

  • HMCTS – Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi

  • HMICFRS – Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi

  • HMPPS – Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi

  • IDVA – Cynghorydd Annibynnol ar Drais yn y Cartref

  • ICO – Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

  • LHDT+ – Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol+

  • MARAC – Cynhadledd Asesu Risg Amlasiantaeth

  • NPCC – Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu

  • GIG – Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol

  • NRPF – Dim Hawl i Arian Cyhoeddus

  • ONS – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

  • SPO –Gorchymyn Diogelu rhag Stelcio

  • VAWDASV –Trais yn Erbyn Menwyod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

  • VAWG – Trais yn Erbyn Menywod a Merched

(a) tad, mam, llystad, llysfam, mab, merch, llysfab, llysferch, taid, nain, neu ŵyr neu wyres y person hwnnw F5priod, cyn briod, partner sifil neu gyn bartner sifil], neu (b) y brawd, chwaer, ewythr, modryb, nithF6, nai neu gefnder cyntaf](boed o’r gwaed llawn neu o’r hanner gwaed neuF7drwy briodas neu bartneriaeth sifil)]o’r person hwnnw neu oF5priod, cyn briod, partner sifil neu gyn bartner sifil],ac mae’n cynnwys, mewn perthynas â pherson sy’nF8cyd-fyw neu wedi cyd-fyw â pherson arall], unrhyw berson a fyddai’n dod o fewn paragraff (a) neu (b) pe bai’r partïon yn briod â’i gilyddF9neu’n bartneriaid sifil i’w gilydd]

Johnson. H et al (2019) Intimate Femicide: The Role of Coercive Control, Feminist Criminology, Cyfrol 14, Rhifyn 1 t.3-23

Monckton Smith. J (2019) Intimate Partner Femicide: Using Foucauldian Analysis to Track an Eight Stage Progression to Homicide, Violence Against Women, Cyfrol 26, Rhifyn 11 t.1267-1285

Katz. E (2016) ‘Cam-drin domestig ar sail rheolaeth orfodol: Effeithiau ar famau a phlant’. Llundain: Cyflwyniad seminar hyfforddi AVA (Yn Erbyn Trais a Cham-drin)

Donovan, B et al (2016) Intimate partner violence during pregnancy and the risk for adverse infant outcomes: a systematic review and meta-analysis. BJOG: Cyfnodolyn Rhyngwladol o Obstetreg a Gynaecoleg: 123(8), 1289-1299.

  1. Refuge (2021) Barriers to Leaving 

  2. Myhill A, Hohl K (2019) The “Golden Thread”: Coercive Control and Risk Assessment for Domestic Violence., Journal of Interpersonal Violence. Cyfrol 34, Rhifyn 21-22, tt.4477-4497

  3. Mae Adran 63 o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 yn nodi mai ystyr “ relative”, mewn perthynas â pherson, yw— 

  4. Stark, E (2007) Coercive Control: The Entrapment of Women in Personal Life, Oxford: Oxford University Press, p.5. 

  5. Barlow, C, Johnson. K, Walklate. S, Humphreys. L (2020) Putting Coercive Control into Practice: Problems and Possibilities, The British Journal of Criminology, Volume 60, Issue 1, pp.160–179

  6. Canllawiau Dedfrydu (2018) Egwyddorion trosfwaol: cam-drin domestig 

  7. SafeLives (2015) Gweithwyr proffesiynol yn colli pum cyfle i roi terfyn ar drais domestig violence, medd SafeLives 

  8. Barlow. C, Johnson. K, Walklate. S, Humphreys. L (2020) Putting Coercive Control into Practice: Problems and Possibilities, The British Journal of Criminology, Volume 60, Issue 1, pp. 160-179. 

  9. Barlow. C, Johnson. K, Walklate. S, Humphreys. L (2020) Putting Coercive Control into Practice: Problems and Possibilities, The British Journal of Criminology, Volume 60, Issue 1, tt.160–179

  10. CPS (2017) Ymddygiad sy’n RheolI neu’n Gorfodi mewn Perthynas Agos neu Deuluol 

  11. Lle y bo’n briodol, dylai Gwasanaeth yr Heddlu a Phrif Swyddogion gyfeirio at yr Awdurdod Gwasanaeth Erlyn (SPA) yn hytrach na’r CPS. 

  12. Coleg Plismona - Cam-drin Domestig: Ymateb Cyntaf 

  13. Kelly. L (1999) Materion Trais yn y Cartref: gwerthusiad o brosiect datblygu, tt.35-37. 

  14. Coleg yr Heddlu – Ymchwiliad: Gweithio gyda dioddefwyr a thystion 

  15. Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (HMIC) (2014) Busnes pawb: Gwella ymateb yr heddlu i gam-drin domestig, t.76

  16. Sgiliau Rheoli Gwrthdaro y Coleg Plismona (2020) 

  17. Barlow. C (2019) Adroddiad Prosiect Rheoli Gorfodol Plismona, Yr Academi Brydeinig ac Ysgol y Gyfraith Prifysgol Caerhirfryn, t.2. 

  18. Canllawiau Cyfreithiol: Cam-drin domestig CPS 

  19. Drive Project datblygwyd, drwy Respect, SafeLives a Chyllid Cymdeithasol, o’r angen i fynd i’r afael â throseddwyr sy’n troseddu dro ar ôl tro gyda naill ai’r un dioddefwyr neu ddioddefwyr newydd. 

  20. Hester, M. et al 2020. Gwerthusiad o’rDrive Project – Cynllun Peilot Tair Blynedd i Fynd i’r Afael â Chyflawnwyr Risg Uchel Niweidiol Iawn Cam-drin Domestig. Prifysgol Bryste. Crynodeb -Gweithredol_Terfynol2020.pdf 

  21. Dylai’r heddlu wneud defnydd priodol o’r Cynllun Datgelu Trais Domestig (DVDS), gan gynnwys ar yr “hawl i wybnod”, lle bo angen er mwyn amddiffyn dioddefwr rhag niwed. Bydd canllawiau DVDS wedi’u diweddaru yn cael eu rhyddhau yn nes ymlaen yn 2022. 

  22. Home Office, Vulnerability and Knowledge Programme, NPCC, College of Policing (2021) Vulnerability Knowledge and Practice Programme (VKPP): Domestic Homicides and Suspected Victim Suicides During the Covid-19 Pandemic 2020-2021, t,55 

  23. Home Office, Vulnerability and Knowledge Programme, NPCC, College of Policing (2021) Vulnerability Knowledge and Practice Programme (VKPP): Domestic Homicides and Suspected Victim Suicides During the Covid-19 Pandemic 2020-2021, t.6 

  24. Canllawiau Cyfreithiol: Cam-drin domestig CPS 

  25. Dylai Gwasanaeth yr Heddlu a Phrif Swyddogion gyfeirio at y Gwasanaeth Awdurdod Erlyn (SPA) yn hytrach na’r CPS. 

  26. CPS (2020) Cyhuddo (Canllawiau’r Cyfarwyddwr) Chweched Argraffiad 

  27. Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch – Cyfnod Llys: Trosolwg 

  28. Bydd Bil PCSC yn newid sut mae’r terfyn amser o chwe mis yn cael ei gymhwyso ar gyfer troseddau ymosodiad cyffredin neu guro sy’n ymwneud â cham-drin domestig yng Nghymru a Lloegr. Mae’r newid yn golygu y bydd y terfyn amser o chwe mis yn rhedeg o’r dyddiad y caiff ei adrodd i’r heddlu yn ffurfiol, yn hytrach na dyddiad y drosedd. Byddai hyn yn rhoi mwy o amser i ddioddefwyr geisio cyfiawnder o gofio bod cam-drin domestig yn aml yn cael ei adrodd yn hwyr o’i gymharu â throseddau eraill. Mae’r diwygiad yn creu ‘backstop’ dwy flynedd ac ni ellir cychwyn achos ar ôl i ddwy flynedd fynd heibio ers cyflawni’r drosedd 

  29. Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch – Cyfnod Llys: Trosolwg 

  30. Dylai Swyddogion Heddlu a Phenaethiaid y Gwasanaeth gyfeirio at Awdurdod Erlyn y Gwasanaeth (SPA) yn hytrach na’r CPS. 

  31. Bydd person sydd, heb esgus cyfreithlon, yn bygwth rhywun arall, gan fwriadu y byddai’r llall yn ofni y byddai’n cael ei gyflawni, i ladd y perosn arall hwnnw neu’r trydydd person yn euog o drosedd ac yn agored o’i gollfarnu ar dditiad i garchariad am gyfnod nad yw’n hwy na deng mlynedd. 

  32. CPS (2020) Troseddau yn erbyn y Person, gan gynnwys y Safon Cyhuddo 

  33. Fel y’i diwygiwyd gan adran 66, Deddf Troseddau Difrifol 2015 

  34. Overstreet, N. M., & Quinn, D. M. (2013). The Intimate Partner Violence Stigmatization Model and Barriers to Help-Seeking, Basic and applied social psychology, Cyfrol 35, Rhifyn, tt.109–122

  35. Canllawiau’r CPS (2020) Cam-drin Domestig 

  36. Kelly. L (1999) Materion Trais yn y Cartref: gwerthusiad o brosiect datblygu, tt.35-37. 

  37. Cymorth i Fenywod (2018) Mae Cymorth i Fenywod yn ymateb i ymrwymiad y Prif Weinidog i ddeddfu llymach ar ‘gaslighting’. 

  38. Kelly. L (1999) Materion Trais yn y Cartref: gwerthusiad o brosiect datblygu, tt.35-37. 35-37. 

  39. Rhaid rhoi sylw dyledus i unrhyw ofynion diogelu data, gan gynnwysDeddf Diogelu Data 2018, wrth rannu gwybodaeth, (gan nodi’ ar yr un pryd y darpariaethau yn Neddf 2018 sy’n berthnasol at ddiben atal a chanfod trosedd, ac ar gyfer dal ac erlyn troseddwyr). . Ceir canllawiau pellach yn Nghanllaw Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ar Brosesu Gorfodi’r Gyfraith - ICO

  40. Gweithdrefnau Diogelu Cymru (safeguarding.wales) 

  41. Y Swyddfa Gartref (2021) Gorchmynion Amddiffyn rhag Stelcio: Canllawiau Statudol i’r Heddlu, t.26 

  42. Y Swyddfa Gartref (2021) Adolygiad o’r Drosedd o Ymddygiad sy’n Rheoli neu’n Gorfodi, t,59 

  43. Wolford-Clevenger. C et al (2017) Associations of Emotional Abuse Types with Suicide Ideation among Dating Couples, Journal of Aggression, Maltreatment & Trauma, Cyfrol 26, Rhifyn 9, t.1042-1054 

  44. Canllawiau Cyfreithiol CPS (2019) Dynladdiad: Llofruddiaeth a Dynladdiad 

  45. Yn 2020 sefydlwyd y Prosiect Dynladdiadau Domestig gan yr heddlu a’r llywodraeth yng Nghymru a Lloegr i gasglu, adolygu a rhannu dysgu amser cyflym o’r holl laddiadau domestig a gofnodwyd gan yr heddlu a hefyd o hunanladdiadau a amheuir gan unigolion sydd â hanes o erledigaeth cam-drin domestig yn sgil pandemig a chyfyngiadau Covid-19. Cyhoeddodd y prosiec ti ganfyddiadau yn Home Office, Vulnerability and Knowledge Programme, NPCC, College of Policing (2021) Vulnerability Knowledge and Practice Programme (VKPP): Domestic Homicides and Suspected Victim Suicides During the Covid-19 Pandemic 2020-2021. Mae’r adroddiad yn defnyddio’r setiau data canlynol a gasglwyd ar gyfer y prosiect: cyflwyniadau achos gan yr heddlu yn ymwneud â 208 o ddigwyddiadau, data Mynegai Dynladdiad y Swyddfa Gartref ar gyfer y cyfnod 2005/06 a 2019/20, arolwg ysgrifenedig o bob un o’r 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr a chyfweliadau un-i-un manwl gydag wyth arweinydd cam-drin domestig yr heddlu o bob rhan o ranbarthau Cymru a Lloegr. 

  46. Y Swyddfa Gartref, Rhaglen Agored i Niwed a Gwybodaeth (VKPP), NPCC, Coleg Plismona (2021) Dynladdiadau Domestig a Hunanladdiadau Dioddefwyr a Amheuir yn ystod Pandemig Covid-19 2020-2021, t.14. 

  47. Y Swyddfa Gartref, Rhaglen Agored i Niwed a Gwybodaeth (VKPP), NPCC, Coleg Plismona (2021) Dynladdiadau Domestig a Hunanladdiadau Dioddefwyr a Amheuir yn ystod Pandemig Covid-19 2020-2021, t.52. 

  48. Y Swyddfa Gartref, Rhaglen Agored i Niwed a Gwybodaeth (VKPP), NPCC, Coleg Plismona (2021) Dynladdiadau Domestig a Hunanladdiadau Dioddefwyr a Amheuir yn ystod Pandemig Covid-19 2020-2021, t.12. 

  49. Y Swyddfa Gartref, Rhaglen Agored i Niwed a Gwybodaeth (VKPP), NPCC, Coleg Plismona (2021) Dynladdiadau Domestig a Hunanladdiadau Dioddefwyr a Amheuir yn ystod Pandemig Covid-19 2020-2021, t.74. 

  50. Monckton-Smith, J. et al. (2017) Exploring the Relationship between Stalking and Homicide, t.3

  51. Sharp. N (2008) ‘What’s yours is mine’ Y gwahanol fathau o gam-drin economaidd a’i effaith ar fenywod a phlant sy’n profi trais yn y cartref, Refuge, t.37

  52. Earlywine. M.and Stohl. I (2015) In Our Shoes: The Next Steps – An Advocate’s Guide, Washington State Coalition Against Domestic Violence, tt.1-117

  53. Butt, E. Know economic abuse: Adroddiad 2020: Refuge: 2020. 

  54. Awdurdod Ymddygiad Ariannol (2021) Canllawiau i gwmnïau ar drin cwsmeriaid agored i niwed yn deg, t.18. . 

  55. Refuge (2021) Unsocial Spaces: Make online spaces safer for women and girls 

  56. Oakley, L. R., Kinmond, K. S., & Humphreys, J. 2018. Cam-drin ysbrydol mewn lleoliadau ffydd Cristnogol: Diffiniad, polisi a chanllawiau ymarfer. Cyfnodolyn Amddiffyn Oedolion, 20(3/4), 144-154. 

  57. SaveLives, 2017. Your Choice: trais ar sail ‘anrhydedd’, priodas dan orfod a thrais domestig. Spotlight Report #HiddenVictims. 

  58. SaveLives, 2017. Your Choice: trais ar sail ‘anrhydedd’, priodas dan orfod a thrais domestig. Spotlight Report #HiddenVictims. 

  59. ONS (2020) Nodweddion dioddefwyr cam-drin domestig, Cymru a Lloegr: blwyddyn yn diweddu Mawrth 2020 

  60. McLeod. D (2018) Ymchwil mewn Ymarfer: Rheolaeth drwy orfodaeth: Effeithiau ar blant a phobl ifanc yn amgylchedd y teulu, t.29 

  61. Katz. E (2016) Rheolaeth Gorfodol: Sut mae’n Effeithio ar Blant mewn Sawl Ffordd Wahanol. Adroddiad Trais yn y Cartref, Cyfrol 22, Rhifyn 1, tt. 1-16

  62. Safe Lives (2017) Safe Young Lives: Pobl Ifanc a cham-drin domestig, tt. 22 & 38. 

  63. SafeLives (2017) Safe Young Lives: Pobl Ifanc a cham-drin domestig, t.8. 

  64. SafeLives (2017) Safe Young Lives: Pobl Ifanc a cham-drin domestig, t.19

  65. Gofal Cymdeithasol Cymru (diogelu.cymru) 

  66. Data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020. 

  67. Unwaith y bydd yn bosibl dychwelyd i’r dull cyflwyno wyneb yn wyneb ar gyfer y CSEW, bydd SYG yn dileu’r terfyn oedran uchaf presennol ar unwaith ar gyfer ymatebwyr i’r modiwlau hunan-gwblhau. Yna bydd yn cymryd 12 mis o gasglu data i’n galluogi i gynhyrchu amcangyfrifon cywir. 

  68. ONS, 2020. Nodweddion dioddefwyr cam-drin domestig, Cymru a Lloegr - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) 

  69. Safe Lives (2016) Pobl Hŷn a Cham-drin Domestig, t.6

  70. SafeLives (2016) Safe Later Lives: Pobl Hŷn a Cham-drin Domestig , t.6. 

  71. SafeLives (2016) Safe Later Lives: Pobl Hŷn a Cham-drin Domestig , t.16

  72. SafeLives (2016) Safe Later Lives: Pobl Hŷn a Cham-drin Domestig , t15

  73. SafeLives (2016) Safe Later Lives: Pobl Hŷn a Cham-drin Domestig , t15

  74. SafeLives (2016) Safe Later Lives:Pobl Hŷn a Cham-drin Domestig , t.15 

  75. Mcgarry. J and Simpson. C (2011) Cam-drin domestig a menywod hŷn: Archwilio’r cyfleoedd ar gyfer datblygu gwasanaethau a darparu gofal. Cyfnodolyn Amddiffyn Oedolion, Cyfrol 13, Rhifyn 6, tt.294-301

  76. Safe Lives (2016) A Cry for Health, t.36

  77. Yakubovich, A, et al (2018) Risk and protective factors for intimate partner violence against women: Systematic review and meta-analyses of prospective-longitudinal studies. Cymdeithas Iechyd Cyhoeddus America: 108(7): 1-11 

  78. Huth-Bocks. A, Levendosky. A & Bogat. G (2002) Effeithiau trais yn y cartref yn ystod beichiogrwydd ar iechyd mamau a babanod, Trais a dioddefwyr, Cyfrol 17, Rhifyn 12, tt. 169-185

  79. Safe Lives (2017) Disabled Survivors Too: Pobl anabl a cham-drin domestig, t.9

  80. ONS (2020) Nodweddion dioddefwyr cam-drin domestig, Cymru a Lloegr: blwyddyn yn diweddu Mawrth 2020 

  81. Nid yw’r berthynas rhwng y gofalwr a’r sawl sy’n derbyn gofal yn dod o dan y diffiniad o gam-drin domestig yn Neddf 2021 oni bai bod cysylltiad personol rhyngddynt hefyd. 

  82. SafeLives (2017) Disabled Survivors Too: Pobl anabl a cham-drin domestig, t.18

  83. Thiara. R, Roy. S a Ng. P (2015) Briff ymchwil rhwng y llinellau: ymatebion gwasanaeth i Fenywod a Merched Duon a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n profi Trais Rhywiol, Prifysgol Warwick, Swell, Sefydliad Isla ac Imkaan, tt.1-31

  84. SafeLives (2021) Ymateb SafeLives i Adroddiad Hil y Comisiwn ar Wahaniaethau Hiliol ac Ethnig 

  85. Briffio ar y Cyd gan Imkaan a’r Glymblaid Rhoi Teryn ar Drais yn Erbyn Menywod (EVAW) (2020) Dadl Gohirio: Menywod a Cham-drin Domestig, t.5

  86. ONS. Nifer yr achosion o gam-drin domestig a nodweddion dioddefwyr - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) :Data o’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020. 

  87. ONS. Poblogaeth Cymru a Lloegr - GOV.UK Ffeithiau a ffigurau ethnigrwydd (ethnicity-facts-figures.service.gov.uk) :2011. 

  88. Comisiynydd Cam-drin Domestig. Diogelwch Cyn Statws: Gwella llwybrau i gefnogi dioddefwyr mudol cam-drin domestig:2021. 

  89. Guedes. A, Bott. S, Garcia-Moreno. C,, Colombini. M.(2016) Pontio’r bylchau: adolygiad byd-eang o groestoriadau trais yn erbyn menywod a thrais yn erbyn plant 

  90. ONS (2020) Domestic abuse prevalence and trends, England and Wales - Office for National Statistics (ons.gov.uk) 

  91. ONS (2021) Domestic abuse and the criminal justice system - Office for National Statistics (ons.gov.uk) 

  92. ONS (2020) Domestic abuse prevalence and trends, England and Wales - Office for National Statistics (ons.gov.uk) 

  93. ONS (2020) Domestic Abuse in England and Wales overview: November 2020 

  94. ONS (2021) Domestic abuse and the criminal justice system, England and Wales - Office for National Statistics (ons.gov.uk) 

  95. ONS. Domestic abuse victim characteristics, England and Wales - Office for National Statistics (ons.gov.uk) :Data o’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020. 

  96. Dosbarthwyd digwyddiadau gan ddefnyddio’r flaenoriaeth ganlynol: aflonyddu corfforol neu drais; Trais neu aflonyddu rhywiol; Bygythiad o aflonyddu neu drais corfforol neu rywiol; Aflonyddu geiriol; sarhad neu sylwadau niweidiol eraill; Rhywun yn datgelu bod yr ymatebydd yn LHDT heb ei ganiatâd; Eithrio o ddigwyddiadau neu weithgareddau; Unrhyw sylwadau neu ymddygiad amhriodol eraill nad ydynt wedi’u rhestru uchod. 

  97. Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth. Adroddiad Ymchwil Arolwg Cenedlaethol LHDT:2018