Canllaw drafft: defnydd elusennau o'r cyfryngau cymdeithasol
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Llwytho'r canlyniad llawn i lawr
Manylion am y canlyniad
Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar elusennau a chyfryngau cymdeithasol
Manylion o’r adborth a gawsom
Fe gawsom 396 o ymatebion i’r ymgynghoriad hwn ac rydym yn falch o gyhoeddi crynodeb o’r adborth yn y ddogfen uchod. Rydym wedi defnyddio’r adborth eang a manwl a gawsom i wneud y canllawiau yn gliriach. Diolch i bawb a ddarparodd adborth i ni.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Gwelwch yr ymgynghoriad hwn yn Saesneg.
Rydym yn ymgynghori ar ganllawiau drafft i elusennau ar eu defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi dod yn arf bwerus i lawer o elusennau hyrwyddo eu gwaith, ymgysylltu â’u cefnogwyr ac ymgyrchu dros newid. Mae’r cyhoedd hefyd yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu ag elusennau neu i drafod gwaith elusennau.
Mae ein hymchwil yn awgrymu mai goruchwyliaeth gyfyngedig sydd gan rai ymddiriedolwyr o ddefnydd eu helusennau o’r cyfryngau cymdeithasol o gymharu ag agweddau eraill o’u strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu. Gallai hyn fod oherwydd diffyg hyder neu ddealltwriaeth, neu oherwydd bod staff neu wirfoddolwyr wedi datblygu’r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol.
Er ei bod yn rhesymol i ymddiriedolwyr ddirprwyo gweithrediadau cyfryngau cymdeithasol o ddydd i ddydd, mae’n bwysig bod cyd-ddealltwriaeth briodol o ddefnydd yr elusen o gyfryngau cymdeithasol a’r risgiau a all ddod yn sgîl y defnydd hwn.
Nod y canllaw hwn yw helpu ymddiriedolwyr i wella’r ddealltwriaeth hon, ac annog elusennau i fabwysiadu polisi ar gyfryngau cymdeithasol sy’n cyd-fynd â’u helusen. Bwriadwn i’r canllaw hwn alluogi a chefnogi ymddiriedolwyr, nad ydym yn disgwyl iddynt fod yn arbenigwyr yn y maes hwn. Nid yw’r canllaw yn cyflwyno dyletswyddau ymddiriedolwyr newydd ond mae’n ceisio egluro sut mae dyletswyddau presennol yn berthnasol i ddefnydd elusen o gyfryngau cymdeithasol.
Mae’r canllaw yn nodi y gall defnyddio cyfryngau cymdeithasol godi materion a risgiau i elusennau, yn ymwneud â chynnwys problemus fel:
- postio neu rannu cynnwys ar sianeli cyfryngau cymdeithasol
- postiadau gan y cyhoedd neu drydydd partïon ar sianel cyfryngau cymdeithasol elusen
- postio ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol personol y gellir ei gysylltu â’r elusen
Mae’r canllaw hefyd yn pwysleisio bod y rhai sy’n cael eu cyflogi gan elusennau, neu’n gweithio gyda nhw, yn rhydd i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol ond weithiau bod yna perygl bod postiadau personol yn cael eu dehongli fel rhai sy’n adlewyrchu barn yr elusen. Felly, mae’r canllawiau drafft yn dweud y dylai ymddiriedolwyr ystyried nodi beth yw eu rheolau a sut y byddent yn ymateb os yw gweithgaredd o’r fath yn dod â sylw negyddol i’r elusen.
Nid yw hyn wedi’i fwriadu i atal defnydd personol o gyfryngau cymdeithasol ond i helpu i egluro’r meysydd hynny lle gallai fod gan yr elusen bryder cyfreithlon, er enghraifft, fel y cyflogwr.
Hoffem gael adborth yn ystod y cyfnod ymgynghori ar sut y mae’r canllawiau’n sefyll ar hyn o bryd a sut y gallwn eu gwella. Byddem yn croesawu eich barn ar gwestiynau’r ymgynghoriad.
Cwmpas
Mae’r canllaw yn berthnasol i elusennau yng Nghymru a Lloegr, p’un a ydynt wedi’u cofrestru gyda Chomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr ai peidio.
Gan bwy rydyn ni eisiau clywed?
Byddem yn croesawu ymatebion gan; elusennau, eu hymddiriedolwyr a chyrff cynrychioliadol a’r cyhpedd.
Sut i ymateb
Ymatebwch ar e-bost at gandpsurveys@charitycommission.gov.uk
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion a gawn yn ystod y cyfnod ymgynghori, a bydd y rhain yn ein helpu i ddatblygu’r canllawiau i’w cyhoeddi. Byddwn yn cyhoeddi dadansoddiad o’r ymatebion a’r canllawiau terfynol yn yr Haf.