Collection

Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Dysgwch am ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, gan gynnwys dewisiadau meddalwedd ac arweiniad cam wrth gam ar gyfer unig fasnachwyr, landlordiaid a’u hasiantau.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Mae’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn ffordd newydd i unig fasnachwyr a landlordiaid adrodd am eu hincwm a’u treuliau i CThEF.  

O 6 Ebrill 2026 ymlaen, mae’n rhaid i unig fasnachwyr a landlordiaid ei ddefnyddio, os yw eu hincwm blynyddol o hunangyflogaeth ac eiddo dros £50,000.  

Bydd angen i chi, neu’ch asiant os oes gennych un, ddefnyddio meddalwedd sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm er mwyn:  

  • creu, cadw, a chywiro cofnodion digidol o’ch incwm o hunangyflogaeth ac eiddo a’ch treuliau   

  • anfon eich diweddariadau chwarterol at CThEF   

  • cyflwyno’ch Ffurflen Dreth a thalu’r dreth sy’n ddyledus erbyn 31 Ionawr y flwyddyn ganlynol 

Pwy fydd angen cofrestru 

Bydd angen i chi neu eich cleient ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o 6 Ebrill 2026 ymlaen, os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol. Rydych chi neu eich cleient: 

Arweiniad cam wrth gam ar gyfer unig fasnachwyr, landlordiaid a’u hasiantau

Dysgwch am y camau y mae angen i chi eu cymryd ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os ydych yn un o’r canlynol:  

Ar ôl i chi neu’ch cleient gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Dysgwch am y camau y mae angen i chi eu cymryd ar ôl i chi gofrestru neu, os mai asiant ydych chi, ar ôl i’ch cleient gofrestru. 

Mae hyn yn cynnwys:

  • creu cofnodion digidol
  • anfon diweddariadau chwarterol
  • cyflwyno’ch Ffurflen Dreth gan ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu
  • yr hyn y mae angen i chi ei wneud os bydd eich amgylchiadau’n newid

Dewis asiantau ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Dysgwch sut y gall prif asiantau ac asiantau ategol eich helpu chi i reoli Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Os mai asiant ydych chi, dysgwch ragor am eich rôl a sut i gael eich awdurdodi gan eich cleient.

Esemptiadau rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Dysgwch pwy sy’n esempt rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Help a chymorth

Os ydych am ddysgu mwy am y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, gwyliwch fideos CThEF neu cofrestrwch ar gyfer weminarau.

Papurau polisi, deddfwriaeth, ac adroddiadau ymchwil a gwerthuso

Darllenwch bapurau polisi, deddfwriaeth, ac adroddiadau ymchwil a gwerthuso ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Updates to this page

Published 19 December 2025