Casgliad

Ap COVID-19 y GIG

Caeodd ap COVID-19 y GIG ar 27 Ebrill 2023. Roedd yn ffordd gyflym o weld a oeddech chi mewn perygl o’r coronafeirws (COVID-19) ac yn ffordd hawdd o rybuddio eraill os gwnaethoch chi brofi'n bositif.

This collection was withdrawn on

Tynnwyd y casgliad hwn yn ôl ar 27 Ebrill 2023.

Mae ap COVID-19 y GIG wedi cau.

Mae’r cynnwys hwn wedi dyddio.

Mae pobl sy’n defnyddio ap COVID-19 y GIG yng Nghymru a Lloegr wedi helpu torri cadwyni trosglwyddo a lleihau heintiau.

Mae gwyddonwyr blaenllaw ym Mhrifysgol Rhydychen a Phrifysgol Warwick wedi amcangyfrif bod yr ap wedi atal tua 1 miliwn o achosion, 44,000 o dderbyniadau i’r ysbyty a 9,600 o bobl rhag marw yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn unig (papur ‘Nature Communications’, Chwefror 2023)

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae llwyddiant y rhaglen frechu, mwy o fynediad at driniaethau ac imiwnedd uchel yn y boblogaeth wedi galluogi’r llywodraeth i dargedu ei gwasanaethau COVID-19. Mae hyn yn cynnwys darparu mynediad parhaus at brofion, brechiadau a thriniaethau a ariennir gan y llywodraeth ar gyfer pobl sydd â’r risg fwyaf o’r firws.

Mae nifer y bobl sy’n defnyddio ap COVID-19 y GIG yn weithredol wedi lleihau’n raddol ers mis Gorffennaf 2021. Ers i fynediad at brofion a ariennir gan y llywodraeth ddod i ben i’r mwyafrif o bobl, mae llai o ganlyniadau profion cadarnhaol wedi’u nodi yn yr ap ac, o ganlyniad, anfonwyd llai o hysbysiadau at gysylltiadau agos.

Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaethau iechyd cyhoeddus mwyaf effeithiol ac wedi penderfynu cau ap COVID-19 y GIG. Bydd yn defnyddio’r wybodaeth, y dechnoleg a’r gwersi a ddysgwyd o’r ap i helpu i ymateb i fygythiadau pandemig yn y dyfodol.

Mae’n bwysig eich bod yn parhau i ddilyn y canllawiau diweddaraf i ddiogelu hun ac eraill:

Mae hyn yn cynnwys adrodd canlyniadau profion llif unffordd y GIG ar GOV.UK. Os ydych yn gymwys ar gyfer triniaeth COVID-19, rhaid i chi adrodd eich canlyniad fel y gall y GIG gysylltu â chi ynglŷn â thriniaeth.

Dysgwch am eich data ap a phreifatrwydd.

Lawrlwythwch ap COVID-19 y GIG

Mae ap COVID-19 y GIG ar gael i’w lawrlwytho am ddim yng Nghymru a Lloegr.

Os ydych chi’n byw yn un o’r ddwy wlad ac yn 16 oed neu’n hŷn, gallwch chi lwytho’r ap i lawr ar eich ffôn.

Mae’r ap yn cynnwys nifer o nodweddion i helpu eich diogelu chi ac eraill, gan gynnwys:

  • cael rhybuddion sy’n rhoi gwybod a ydych o COVID-19
  • gwiriwr symptomau
  • y cyngor diweddaraf yn seiliedig ar eich amgylchiadau
  • gwybodaeth gyffredinol am COVID-19
  • cofnodi canlyniad positif (o brawf y GIG neu y gwnaethoch dalu amdani) i hysbysu eraill os ydynt mewn perygl

Bydd yr ap yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw. Gall y canllawiau fod yn wahanol yng Nghymru a Lloegr.

Caiff yr ap ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd gyda swyddogaethau newydd a gwelliannau. Mae’r fersiwn ddiweddaraf yn cynnwys y nodweddion a’r cyngor diweddaraf felly mae’n bwysig eich bod yn ei diweddaru.

Ar gyfer eich statws brechu, defnyddiwch ap y GIG ar wahân (Lloegr yn unig).

Cael help gyda’r ap

Mae’r ap ar gael mewn 12 iaith wahanol a gallwch ddewis yr iaith yn y gosodiadau.

Rhagor o wybodaeth am bwy sy’n gallu defnyddio ap COVID-19 y GIG.

Mae ap COVID-19 y GIG yn defnyddio Bluetooth Ynni Isel (BLE) i ddeall y pellter, dros amser, rhwng defnyddwyr yr ap. Fel arfer, byddwch yn cael hysbysiad cysylltiad gyda chanllawiau os ydych chi wedi bod o fewn 2 fetr i rywun am 15 munud neu fwy sydd wedi cael canlyniad positif am COVID-19 ers hynny.

Os bydd unigolyn yn cael canlyniad positif am COVID-19, yn rhoi gwybod am y canlyniad yn yr ap, ac yn cytuno i rannu ei ID ar hap, bydd yr ap yn cyfrifo’r risg i ddefnyddwyr yr ap a ddaeth i gysylltiad ag ef/hi yn yr ychydig ddiwrnodau diwethaf – gyda’r wybodaeth hon, bydd yr ap yn penderfynu a ddylid anfon hysbysiad cysylltiad at ddefnyddiwr.

Rhagor o wybodaeth am sut mae’r ap yn gweithio.

Sut mae’r ap yn diogelu eich data

Mae ap COVID-19 y GIG yn diogelu eich preifatrwydd a’ch manylion adnabod rhag defnyddwyr eraill yr ap – ac yn diogelu eu preifatrwydd a’u manylion adnabod hwythau yn yr un modd. Mae’r ap yn defnyddio ID ar hap, ac nid oes modd i’r GIG na’r llywodraeth ei ddefnyddio i ganfod pwy ydych chi, na gyda phwy rydych chi wedi treulio amser. Dyna pam mae eich cofnodion brechu a’ch pàs COVID yn ymddangos ar wahân yn ap y GIG (Lloegr yn unig).

Gwybodaeth ychwanegol

Data am ddefnydd o’r ap a’r nifer sydd wedi’i lwytho i lawr

Ffurflen adborth 119 ddigidol

Ap COVID-19 y GIG: gwybodaeth preifatrwydd

NHS COVID-19 app: accessibility

Cyhoeddwyd ar 26 May 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 March 2023 + show all updates
  1. Added notice explaining that the app will be closing down on 27 April.

  2. Updated to reflect the app version 5.0 changes.

  3. Added link to English version.

  4. First published.