Canllawiau

[Diddymwyd] Ap COVID-19 y GIG: pwy sy'n gallu defnyddio’r ap

Diweddarwyd 28 March 2023

This canllawiau was withdrawn on

The NHS COVID-19 app has closed down, so this content is out of date.

It is important that you continue to follow the latest guidance to protect yourself and others:

This includes reporting NHS lateral flow test results on GOV.UK. If you’re eligible for COVID-19 treatment, you must report your result so the NHS can contact you about treatment.

Find out about:


Tynnwyd y canllawiau hyn yn ôl ar 27 Ebrill 2023

Mae ap COVID-19 y GIG wedi cau.

Mae’r cynnwys hwn wedi dyddio.

Mae’n bwysig eich bod yn parhau i ddilyn y canllawiau diweddaraf i ddiogelu hun ac eraill:

Mae hyn yn cynnwys adrodd canlyniadau profion llif unffordd y GIG ar GOV.UK. Os ydych yn gymwys ar gyfer triniaeth COVID-19, rhaid i chi adrodd eich canlyniad fel y gall y GIG gysylltu â chi ynglŷn â thriniaeth.

Dysgwch:

Applies to England and Wales

Tynnwyd y canllawiau hyn yn ôl ar 27 Ebrill 2023

Mae ap COVID-19 y GIG wedi cau.

Mae’r cynnwys hwn wedi dyddio.

Mae’n bwysig eich bod yn parhau i ddilyn y canllawiau diweddaraf i ddiogelu hun ac eraill:

Canllawiau COVID-19 Lloegr ar nhs.uk
Canllawiau COVID-19 Cymru ar LLYW.CYMRU

Mae hyn yn cynnwys adrodd canlyniadau profion llif unffordd y GIG ar GOV.UK. Os ydych yn gymwys ar gyfer triniaeth COVID-19, rhaid i chi adrodd eich canlyniad fel y gall y GIG gysylltu â chi ynglŷn â thriniaeth.

Dysgwch:

pam mae’r ap wedi cau
am eich data ap a phreifatrwydd

Os ydych chi’n byw yng Nghymru neu Loegr, ac yn 16 oed neu’n hŷn, gallwch chi lwytho’r ap i lawr ar eich ffôn.

Ffonau a dyfeisiau eraill

Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r ap mewn iaith arall.

Y ffonau y bydd ap COVID-19 y GIG yn gweithio arnynt

Ar hyn o bryd mae’r ap yn gallu delio â fersiynau 13.5 ac uwch Apple iOS a fersiwn 6.0 (Marshmallow) ac uwch Android. Y rheswm am hyn ydy bod yr ap yn defnyddio technolegau sydd ar gael yn y fersiynau hyn yn unig. Mae’r ap yn gweithio ar fersiwn 13.5 iOS, ond rydyn ni’n argymell eich bod chi’n uwchraddio i fersiwn 14 neu uwch.

Ni fydd yr ap yn gweithio ar ffonau nad ydynt yn gallu delio ag Android neu Apple (iOS).

Nid yw’r ap yn gweithio ar y canlynol:

  • ffonau Apple sy’n defnyddio fersiwn is nag iOS 13.5 (yn cynnwys iPhone 6, 6 Plus a modelau cynharach)
  • ffonau Android sy’n defnyddio fersiwn is na 6.0 (Marshmallow)
  • ffonau Windows a lansiwyd cyn mis Mai 2019
  • ffonau Huawei a lansiwyd o fis Mai 2019 ymlaen

Rhaid galluogi Bluetooth ar eich ffôn i olrhain cysylltiadau.

Dyfeisiau eraill

Nid yw’r ap wedi’i ddylunio i gael ei ddefnyddio ar liniaduron, cyfrifiaduron personol, watshis clyfar nac iPads. Mae’r ap wedi’i ddylunio i gael ei ddefnyddio ar ffonau clyfar yn unig; er mwyn i olrhain cysylltiadau fod yn effeithiol rhaid iddo fod ar ddyfais rydych chi’n ei gario gyda chi’r rhan fwyaf o’r amser.

Gallwch chi ddefnyddio’r ap ar ddyfeisiau tabled Android. Rhaid i’r ddyfais tabled gynnwys cerdyn sim fel bod modd iddi ddefnyddio cysylltiad symudol, er enghraifft 4G neu 5G.

Os oes gennych chi ffôn clyfar cydnaws a’ch bod yn methu gosod yr ap, gallwch roi gwybod am broblem dechnegol.

Plant a’r ap

Os ydy eich plentyn yn 16 oed neu’n hŷn, gall lwytho’r ap i lawr a’i ddefnyddio.

Er bod plant 16 oed a hŷn yn gallu defnyddio’r ap mewn lleoliadau addysg, mae’r brif fantais y tu allan i hynny pan fyddant yn cymdeithasu, yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, neu mewn man cyhoeddus.

Os bydd person ifanc 16 neu 17 oed yn cael rhybudd drwy’r ap, fe’i cynghorir i ddangos y neges i oedolyn dibynadwy.

Mae’r terfyn oedran yn cyd-fynd â gwasanaethau ehangach y GIG sydd, at ei gilydd, yn ystyried bod gan y rhai 16 oed a hŷn ddigon o aeddfedrwydd a gallu i wneud penderfyniadau sy’n ymwneud â gofal iechyd.

Gall y canllawiau ar y coronafeirws (COVID-19) fod yn wahanol i blant ac oedolion.

Gweithwyr gofal iechyd a’r ap

Cynghorir gweithwyr gofal iechyd i atal y cyfleuster olrhain cysylltiadau tra byddant yn gweithio mewn adeiladau gofal iechyd, gan gynnwys ysbytai a meddygfeydd meddygon teulu.

Rhagor o wybodaeth am sut a phryd i atal y cyfleuster olrhain cysylltiadau.

Mae’r cyngor hwn yn cael ei roi gan fod gweithwyr gofal iechyd yn gweithio mewn amgylcheddau diogel arbenigol iawn, maen nhw wedi derbyn hyfforddiant mewn prosesau atal a rheoli heintiau, ac maen nhw’n gwisgo cyfarpar diogelu personol graddfa feddygol yn ôl yr angen.

Os bydd gweithiwr gofal iechyd yn credu ei fod wedi datblygu symptomau neu fod mewn cysylltiad â COVID-19, neu os bydd yn cael rhybudd yn dweud ei fod wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif yn ddiweddarach, dylai ddilyn y canllawiau ar gyfer pobl â haint anadlol a chanllawiau ar gyfer rheoli staff gyda haint anabdlol neu ganlyniad COVID-19 positif.