Canllawiau

[Diddymwyd] Ap COVID-19 y GIG: sut mae’r ap yn gweithio

Diweddarwyd 28 March 2023

This canllawiau was withdrawn on

The NHS COVID-19 app has closed down, so this content is out of date.

It is important that you continue to follow the latest guidance to protect yourself and others:

This includes reporting NHS lateral flow test results on GOV.UK. If you’re eligible for COVID-19 treatment, you must report your result so the NHS can contact you about treatment.

Find out about:


Tynnwyd y canllawiau hyn yn ôl ar 27 Ebrill 2023

Mae ap COVID-19 y GIG wedi cau.

Mae’r cynnwys hwn wedi dyddio.

Mae’n bwysig eich bod yn parhau i ddilyn y canllawiau diweddaraf i ddiogelu hun ac eraill:

Mae hyn yn cynnwys adrodd canlyniadau profion llif unffordd y GIG ar GOV.UK. Os ydych yn gymwys ar gyfer triniaeth COVID-19, rhaid i chi adrodd eich canlyniad fel y gall y GIG gysylltu â chi ynglŷn â thriniaeth.

Dysgwch:

Applies to England and Wales

Tynnwyd y canllawiau hyn yn ôl ar 27 Ebrill 2023

Mae ap COVID-19 y GIG wedi cau.

Mae’r cynnwys hwn wedi dyddio.

Mae’n bwysig eich bod yn parhau i ddilyn y canllawiau diweddaraf i ddiogelu hun ac eraill:

Canllawiau COVID-19 Lloegr ar nhs.uk
Canllawiau COVID-19 Cymru ar LLYW.CYMRU

Mae hyn yn cynnwys adrodd canlyniadau profion llif unffordd y GIG ar GOV.UK. Os ydych yn gymwys ar gyfer triniaeth COVID-19, rhaid i chi adrodd eich canlyniad fel y gall y GIG gysylltu â chi ynglŷn â thriniaeth.

Dysgwch:

pam mae’r ap wedi cau
am eich data ap a phreifatrwydd

Yr algorithm a’r sgôr risg

Mae’r ap yn defnyddio cryfder signal Bluetooth rhwng dyfeisiau i amcangyfrif y pellter rhwng 2 ddyfais agos.

Mae cryfder y signal rhwng 2 ddyfais agos yn cael ei fesur bob 3.6 munud (ar gyfartaledd).

Mae cryfder y signal yn dibynnu ar nifer o ffactorau allanol, fel lleoliad y ffôn ar y corff a’r amgylchedd cyfagos.

Er bod signal Bluetooth yn dal i gael ei ganfod rhwng 2 ddyfais (cyfarfyddiad), mae Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau (API) Modd 2 yn casglu mesuriadau cryfder signal sy’n cael eu trawsyrru gan ddyfais defnyddiwr arall tua 4 eiliad bob 3.6 munud (ar gyfartaledd).

Mae ystod o fesuriadau sampl sy’n ymwneud â chryfder y signal yn cael ei chasglu gan yr API ac yn cael ei defnyddio ynghyd ag amcangyfrif o bellter. Caiff cyfresi o fesuriadau mewn cyfarfyddiad eu hapdrefnu i sicrhau eu bod yn ddienw ac yna cânt eu hasesu gyda’i gilydd i lunio amcangyfrif o’r pellter rhwng y 2 ddyfais yn ystod y cyfnod hwn.

Ar gyfer pob cyfarfyddiad, cyfrifir sgôr fel a ganlyn:

  • amcangyfrifir o fewn 1m i’r ddyfais arall: cyfanswm yr amser a dreulir o fewn 1m
  • amcangyfrifir 1m neu fwy o’r ddyfais arall: cyfanswm [cyfanswm yr amser a dreulir ar bob pellter / pellter wedi’i sgwario]

Mae’r sgoriau hyn yn cael eu crynhoi ar draws y cysylltiad mae rhywun wedi’i gael mewn un diwrnod â’r sawl sydd wedi cael canlyniad positif. Nid yw’r ap yn edrych ar gysylltiadau ar draws sawl diwrnod gan ei fod yn defnyddio ID dienw newydd bob dydd er mwyn diogelu preifatrwydd defnyddwyr.

Yn olaf, mae cyfanswm y sgôr yn cael ei luosi â ffactor sy’n adnabod heintusrwydd (y sawl sydd wedi cael canlyniad prawf positif) ar ddiwrnod y cyfarfyddiad.

Trothwy risg a hysbysiadau

Pan fydd defnyddiwr yr ap yn rhoi canlyniad prawf positif yn yr ap, gofynnir a yw’n caniatáu i’r ap roi gwybod i ddefnyddwyr eraill yr ap y gallai fod wedi trosglwyddo’r firws iddynt.

Mae’r algorithm yn defnyddio dyddiad dechrau’r symptomau i gyfrifo pwy mae’n fwyaf tebygol o fod wedi’i heintio. Os bydd wedi dweud na all gofio pryd y dechreuodd ei symptomau, bydd yr ap yn ei gofnodi fel yr un diwrnod â dyddiad eu brawf. Mae’r algorithm yn edrych ar y risg ddyddiol i bob un o ddefnyddwyr yr ap a ddaeth i gysylltiad ag ef o 2 ddiwrnod cyn i’r symptomau ymddangos am y tro cyntaf, hyd at 10 diwrnod ar ôl i’r symptomau ymddangos am y tro cyntaf.

Os bydd sgôr risg defnyddiwr yr ap yn croesi’r trothwy risg ar unrhyw un o’r diwrnodau hyn, fe’i nodir fel risg uchel a bydd yn cael ei hysbysu a’i gyfeirio at ganllawiau pellach.

At ddibenion olrhain cysylltiadau, mae cyfarfyddiad risg uchel yn cael ei ystyried yn un lle mae unigolyn wedi bod o fewn 2 fetr i rywun sydd wedi cael canlyniad prawf positif ar gyfer y coronafeirws (COVID-19) am o leiaf 15 munud. Mae’r trothwy risg ar gyfer yr ap wedi cael ei osod i adnabod cyfarfyddiadau risg uchel sy’n seiliedig ar yr egwyddor hon ynghyd â heintusrwydd (y sawl sy’n cael canlyniad prawf positif) ar ddiwrnod y cyfarfyddiad; gan gydbwyso’r angen i arafu’r gyfradd heintio drwy nodi cyfarfyddiadau risg uchel a lliniaru’r risg y gallai’r rheini sydd â risg is gael hysbysiad i hunanynysu.

Mae modd newid y trothwy hwn wrth i’r ap gael ei ddiweddaru, wrth i fwy o ddata fod ar gael ynghylch cyfradd drosglwyddo’r feirws, neu oherwydd ffactorau ymddygiad.

Mae’r algorithm wedi’i optimeiddio gan arbenigwyr gwyddonol, ar sail y swyddogaethau a ddarperir gan V1.6 o API Google a V2.0 o API Apple.

Data symudol neu wifi

Mae’n rhaid i’r ap gysylltu â’r rhyngrwyd yn rheolaidd drwy gydol y dydd. Pwrpas hynny yw lawrlwytho rhestr o IDs dienw ar gyfer y bobl sydd wedi cael canlyniad positif am COVID-19 yn ddiweddar.

Bydd faint o ddata sy’n cael ei ddefnyddio yn amrywio o ddydd i ddydd, yn dibynnu ar nifer yr achosion o COVID-19. Bydd tîm yr ap yn monitro’r defnydd o ddata yn ofalus i wneud yn siŵr ei fod yn aros ar lefel resymol.

Mae cwmnïau ffôn mawr yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys Vodafone, Three, EE, O2 (gan gynnwys giffgaff a Tesco Mobile), Sky, a Virgin, yn cefnogi defnyddwyr ap COVID-19 y GIG drwy roi ‘cyfradd sero’ i’r ffioedd data ar gyfer pob gweithgaredd yn yr ap. Mae hyn yn golygu na fydd cwsmeriaid yn gorfod talu am ddata wrth ddefnyddio’r swyddogaethau yn yr ap.

Peidiwch â phoeni os ydy eich cysylltiad â’r rhyngrwyd yn annibynadwy. Bydd rhybuddion a hysbysiadau o’r ap yn cael eu rhoi mewn ciw ac yn cael eu hanfon atoch cyn gynted ag y byddwch chi’n ôl ar-lein.

Sut y gwyddom fod yr ap yn gweithio

Dangoswyd bod ap COVID-19 y GIG yn helpu i leihau lledaeniad COVID-19.

Mae gwyddonwyr blaenllaw ym Mhrifysgol Rhydychen a Phrifysgol Warwick wedi amcangyfrif mewn papur ‘Nature Communications’ (Chwefror 2023) fod ymarferoldeb olrhain cyswllt yr ap wedi atal tua 1 miliwn o achosion, 44,000 o dderbyniadau i’r ysbyty a 9,600 o farwolaethau yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn unig.

Mae hyn yn adeiladu ar ddadansoddiad blaenorol gan Sefydliad Alan Turing, Prifysgol Warwick a Phrifysgol Rhydychen ynghylch effaith yr ap o’i lansiad ym mis Medi 2020 hyd at ddiwedd Rhagfyr 2020. Dangosodd yr ymchwil hwn, a gyhoeddwyd yn ‘Nature’ ym mis Mai 2021, ar gyfer pob cynnydd o 1% yn nifer y defnyddwyr apiau, lleihawyd nifer yr achosion COVID-19 yn y boblogaeth hyd at 2.3%.