Talu treth

Os oes gan eich elusen incwm nad yw’n gymwys ar gyfer rhyddhad treth, mae’n rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth.

Os nad oes gennych dreth i’w thalu, llenwch Ffurflen Dreth dim ond os yw Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn gofyn i chi wneud hynny.

Os yw incwm eich elusen dros £10,000, mae’n rhaid i chi gyflwyno Ffurflen Dreth flynyddol i’r Comisiwn Elusennau (yn Saesneg).

Ffurflenni Treth y Cwmni

Llenwch Ffurflen Dreth y Cwmni (yn Saesneg) os yw’ch elusen yn gwmni cyfyngedig neu’n gymdeithas anghorfforedig (yn Saesneg). Sicrhewch eich bod yn cynnwys y tudalennau atodol ar gyfer elusennau a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol (CChACau).

Mae elusen yn gwmni cyfyngedig os cafodd ei sefydlu drwy’r canlynol:

Mae’n rhaid i gwmnïau cyfyngedig hefyd anfon cyfrifon blynyddol (yn Saesneg) i Dŷ’r Cwmnïau.

Ymddiriedolaethau

Llenwch Ffurflen Dreth Hunanasesiad Ymddiriedolaeth ac Ystâd os yw’ch elusen yn ymddiriedolaeth. Mae elusen yn ymddiriedolaeth os cafodd ei sefydlu drwy weithred ymddiriedolaeth neu ewyllys.

Cosbau a dyddiadau cau

Mae’n rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth pan fydd CThEF yn gofyn i chi wneud hynny, hyd yn oed os nad oes treth yn ddyledus.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os yw’ch Ffurflen Dreth yn hwyr neu os nad ydych yn llenwi un pan ddylech.

Mae’r dyddiad cau yn dibynnu a ydych yn llenwi Ffurflen Dreth y Cwmni (yn Saesneg) neu Ffurflen Dreth Hunanasesiad.