Elusennau a threth
Cael cydnabyddiaeth at ddibenion treth
I gael rhyddhad treth, mae’n rhaid i’ch elusen fod:
- wedi’i lleoli yn y DU
- wedi’i sefydlu at ddibenion elusennol (yn Saesneg) yn unig
- wedi’i chofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau (yn Saesneg) neu reoleiddiwr arall, os yw hyn yn berthnasol i chi
- wedi’i rhedeg gan ‘bersonau gweddus a phriodol’ (yn Saesneg)
- wedi’i chydnabod gan Gyllid a Thollau EF (CThEF)
Cofrestru manylion eich elusen er mwyn cael cydnabyddiaeth gan CThEF
Cofrestrwch fanylion eich elusen gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein CThEF.