Trosolwg

Fel elusen, gallwch gael gostyngiadau treth penodol. Er mwyn elwa ar y rhain, mae’n rhaid i chi gael eich cydnabod gan Gyllid a Thollau EF (CThEF).

Nid yw elusennau yn talu treth ar y rhan fwyaf o fathau o incwm cyhyd â’u bod yn defnyddio’r arian at ddibenion elusennol (yn Saesneg).

Gallwch hawlio treth yn ôl sydd wedi’i didynnu, er enghraifft ar log banc a rhoddion (yr enw ar hyn yw Rhodd Cymorth (yn Saesneg)).

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Pryd y mae’n rhaid i chi dalu treth

Efallai y bydd yn rhaid i’ch elusen dalu treth os ydych wedi:

  • cael incwm nad yw’n gymwys ar gyfer rhyddhad treth
  • gwario unrhyw ran o’ch incwm at ddibenion nad ydynt yn elusennol

Mae’n rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth os oes gan eich elusen dreth i’w thalu.

Mae clybiau chwaraeon amatur cymunedol (CChACau) yn cael gwahanol ostyngiadau treth (yn Saesneg).