Eithrio allan o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth

Neidio i gynnwys y canllaw

Sut mae eithrio allan yn effeithio eich swm

Mae sut mae eich swm Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei effeithio yn dibynnu ar bryd rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016

Efallai na chewch unrhyw Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth, neu gael swm bach, o’r adeg y roeddech wedi eithrio allan.

Rydych yn cael Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol o hyd os oeddech wedi eithrio allan.

Os ydych ar incwm isel, gallwch wneud cais am Gredyd Pensiwn.

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016

Os oeddech wedi eich eithrio allan cyn 6 Ebrill 2016, efallai na chewch y gyfradd lawn o Bensiwn newydd y Wladwriaeth o £221.20 yr wythnos.

Caiff swm ei dynnu i ffwrdd o’ch Pensiwn newydd y Wladwriaeth os oeddech wedi eithrio allan. Mae hyn oherwydd naill ai:

  • eich bod wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfradd is
  • defnyddiwyd rhai o’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol a dalwyd gennych i gyfrannu at bensiwn gweithle neu breifat

Mae faint o arian sy’n cael ei dynnu i ffwrdd yn dibynnu ar ba mor hir roeddech wedi eithrio allan a’ch enillion ar y pryd. Tra roeddech wedi eithrio allan, roeddech yn talu i mewn i’ch pensiwn gweithle neu bensiwn personol yn lle hynny.

Cynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth

Efallai y byddwch yn gallu cynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth drwy ychwanegu blynyddoedd cymhwyso ar eich cofnod Yswiriant Gwladol.

Bydd pob blwyddyn gymhwyso lawn o 5 Ebrill 2016 hyd nes i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn ychwanegu tua £6.32 yr wythnos at eich Pensiwn Newydd y Wladwriaeth. Gallwch ddarllen gwybodaeth fanylach am sut y cyfrifir hyn yn ‘Eich Pensiwn Newydd y Wladwriaeth’.

Enghreifftiau o sut y gallai eithrio allan effeithio arnoch chi

Bydd y swm o Bensiwn y Wladwriaeth a gewch yn amrywio yn dibynnu ar faint o flynyddoedd y cawsoch eich eithrio allan.

Enghraifft 1

Mae disgwyl i oedran Pensiwn y Wladwriaeth Sam fod yn 67. Cawsant eu heithrio allan sydd wedi lleihau eu hamcangyfrif Pensiwn y Wladwriaeth i £180 yr wythnos. Mae hyn yn llai na’r gyfradd lawn o Bensiwn y Wladwriaeth.

Mae Sam yn dal i weithio a thalu Yswiriant Gwladol sy’n ychwanegu mwy o flynyddoedd cymhwyso i’w cofnod. Mae pob blwyddyn gymhwyso y maent yn ei hychwanegu’n werth £6.32 yr wythnos. Mae hyn yn golygu y bydd y didyniad o £20 yn cael ei ganslo drwy ychwanegu 4 blynedd gymhwyso arall cyn iddynt gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Enghraifft 2

Mae Jo yn 60 oed ac maent newydd roi’r gorau i weithio. Cawsant eu heithrio allan a oedd yn lleihau eu Pensiwn y Wladwriaeth a ragwelir i £150 yr wythnos. Byddant yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn 67 oed.

Gallai Jo ddewis talu 7 mlynedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol, i gael blynyddoedd cymhwyso pan nad ydynt yn gweithio. Bydd pob blwyddyn gymhwyso ychwanegol yn cynyddu eu swm o £6.32 yr wythnos, ond ni fydd Jo yn cyrraedd cyfradd lawn Pensiwn Newydd y Wladwriaeth.