Os nad oes gan eich partner alluedd meddyliol

Gallwch wneud cais i ddod â’ch partneriaeth sifil i ben os nad oes gan eich partner ‘alluedd meddyliol’ ac ni all gytuno i ddod â’r bartneriaeth sifil i ben na chymryd rhan yn y broses.

Bydd eich partner angen rhywun i wneud penderfyniadau iddynt yn ystod y broses. Gelwir yr unigolyn sy’n gweithredu ar eu rhan yn ‘gyfaill cyfreitha’. Gall fod yn aelod o’r teulu, yn ffrind agos neu’n rhywun arall sy’n gallu eu cynrychioli.

Nid oes gan eich partner gyfaill cyfreitha

Os nad oes rhywun addas sy’n fodlon bod yn gyfaill cyfreitha iddynt, gallwch wneud cais i’r llys benodi cyfaill cyfreitha ar eu cyfer.

Gall y Cyfreithiwr Swyddogol gytuno i weithredu fel cyfaill cyfreitha eich partner pan nad oes rhywun arall i wneud hyn (‘cyfaill cyfreitha fel dewis olaf’).

Sut i wneud cais

  1. Gwiriwch nad oes rhywun arall sy’n addas neu sy’n fodlon gweithredu fel cyfaill cyfreitha eich partner.

  2. Gwiriwch fod arian ar gael ar gyfer unrhyw gostau bydd rhaid i’r Cyfreithiwr Swyddogol eu talu. Efallai bydd eich partner yn gallu cael cymorth cyfreithiol.

  3. Rhowch fanylion meddyg/gweithiwr proffesiynol meddygol arall eich partner sifil i’r llys, fel y gellir gofyn am dystysgrif galluedd.

Ar ôl ichi wneud cais

Os bydd y Cyfreithiwr Swyddogol yn cytuno i weithredu fel cyfaill cyfreitha eich partner sifil, byddwch yn gallu diweddu eich partneriaeth sifil.

Cysylltu â staff y Cyfreithiwr Swyddogol

Anfonwch e-bost neu ffoniwch y tîm cyfraith breifat os oes gennych ymholiad.

Y Cyfreithiwr Swyddogol - tîm cyfraith breifat
ospt.dsm@offsol.gsi.gov.uk
Rhif ffôn: 020 3681 2754
Gwybodaeth am brisiau galwadau