Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais i ddod â phartneriaeth sifil i ben ar-lein neu drwy’r post. Mae’n costio £612.

Fel arfer mae’n cymryd o leiaf 6 mis.

Gofynnir ichi am gyfeiriad cyfredol eich partner sifil fel gall y llys anfon copi o’r cais atynt. Darllenwch fwy yma am beth i’w wneud os nad ydych yn gwybod beth yw cyfeiriad eich partner.

Gwneud cais ar-lein

Gallwch wneud cais i ddod â phartneriaeth sifil i ben ar-lein.

Gwneud cais nawr neu barhau â chais

Bydd arnoch angen cerdyn debyd neu gredyd i wneud cais.

Os ydych chi angen help i wneud cais ar-lein

Mae pwy y dylech gysylltu â hwy yn dibynnu ar y math o gymorth rydych ei angen.

Os ydych chi’n cael problemau technegol neu os ydych angen cyfarwyddyd ar sut i wneud cais

Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
Rhif ffôn i siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5171
Sgwrsio dros y we
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am - 5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm
Rhif ffôn i siaradwyr Saesneg: 0300 303 0642
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 6pm
Ar gau ar wyliau banc
Gwybodaeth am gost galwadau

Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, neu os nad ydych yn teimlo’n hyderus yn defnyddio’r we

We Are Group
support@wearegroup.com
Rhif ffôn: 03300 160 051
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Ar gau ar wyliau banc
Tecstiwch FORM i 60777 a bydd rhywun yn eich ffonio’n ôl.
Gwybodaeth am gost galwadau

Gwneud cais drwy’r post

Llenwch ffurflen cais am ddiddymiad.

Gallwch gael cymorth i lenwi’r ffurflen mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth.

Anfonwch gopi o’r ffurflen i:

Gwasanaeth Ysgariadau a Diddymiadau GLlTEF
Blwch Post 13226
Harlow
CM20 9UG

Cadwch gopi o’r ffurflen i chi eich hun.

Sut i dalu

Gallwch dalu un ai gyda:

  • cherdyn debyd neu gredyd - Bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yn eich ffonio neu’n anfon e-bost atoch gyda’r manylion talu
  • siec - yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF’