Cyn ichi wneud cais

Rhaid i chi benderfynu p’un a ydych eisiau gwneud cais ar y cyd gyda’ch partner ynteu gwneud cais ar eich pen eich hun.

Fel arfer mae’n cymryd o leiaf 6 mis i ddod â phartneriaeth sifil i ben. Mae hyn yr un peth ar gyfer ceisiadau ar y cyd a cheisiadau unigol.

Gwneud cais ar y cyd gyda’ch partner

Gallwch wneud cais ar y cyd os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • mae’r ddau ohonoch yn cytuno y dylech ddod â’ch partneriaeth sifil i ben
  • nid ydych mewn perygl o gam-drin domestig

Bydd arnoch angen penderfynu os ydych eisiau gwneud cais ar-lein neu drwy’r post. Bydd eich partner angen defnyddio’r un dull i wneud cais.

Bydd rhaid i’r ddau ohonoch gadarnhau ar wahân eich bod eisiau parhau gyda’r cais ym mhob cam o’r broses.

Os yw eich partner yn rhoi’r gorau i ymateb, byddwch yn gallu parhau gyda’r cais fel yr unig geisydd.

Os ydych eisiau gwneud cais am help i dalu’r ffi, rhaid i’r ddau ohonoch fod yn gymwys.

Gwneud cais i ddod â phartneriaeth sifil i ben ar eich pen eich hun

Gallwch wneud cais unigol os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • nid yw eich partner yn cytuno i ddod â’r bartneriaeth sifil i ben
  • nid ydych yn meddwl y bydd eich partner yn cydweithredu neu’n ymateb i hysbysiadau gan y llys

Bydd rhaid ichi gadarnhau eich bod eisiau parhau gyda’r cais ym mhob cam o’r broses.