Cyfrif treth personol: mewngofnodi neu sefydlu

Defnyddiwch eich cyfrif treth personol i wirio’ch cofnodion a rheoli’ch manylion gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF).

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Gallwch wneud y canlynol:

  • gwirio’ch amcangyfrif o Dreth Incwm a’ch cod treth
  • llenwi, anfon a bwrw golwg dros Ffurflen Dreth bersonol
  • hawlio ad-daliad treth
  • gwirio’ch Budd-dal Plant
  • gwirio’ch incwm o waith yn ystod y 5 mlynedd flaenorol
  • gwirio faint o Dreth Incwm a dalwyd gennych yn ystod y 5 mlynedd flaenorol
  • gwirio a rheoli’ch credydau treth
  • gwirio’ch Pensiwn y Wladwriaeth
  • gwirio a fyddech yn elwa o dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ac a allwch dalu ar-lein
  • olrhain ffurflenni treth rydych wedi’u cyflwyno ar-lein
  • gwirio neu ddiweddaru’ch Lwfans Priodasol
  • rhoi gwybod i CThEF am newid enw neu gyfeiriad
  • gwirio neu ddiweddaru buddiannau a gewch o’r gwaith, er enghraifft, manylion car cwmni ac yswiriant meddygol
  • dod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol
  • dod o hyd i’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
  • gwirio’ch bil treth Asesiad Syml

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.

Cewch wybod pan rydych yn mewngofnodi a oes angen i chi brofi pwy ydych. Mae hyn er mwyn cadw’ch manylion yn ddiogel ac, fel arfer, bydd angen i chi ddefnyddio ID ffotograffig fel pasbort neu drwydded yrru i wneud hynny.

Mewngofnodi i’ch Cyfrif Treth Personol, neu ei sefydlu

Dechrau nawr