Credydau Yswiriant Gwladol

Neidio i gynnwys y canllaw

Cymhwystra

Mae’r canllaw hwn yn dangos a allech fod yn gymwys ar gyfer credydau Yswiriant Gwladol, er enghraifft os ydych yn cael Credyd Treth Gwaith, Credyd Cynhwysol neu Lwfans Gofalwr.

Os ydych yn chwilio am waith

Eich sefyllfa Sut i gael credydau
Rydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith ac nid ydych yn derbyn addysg nac yn gweithio 16 awr neu fwy bob wythnos Byddwch yn cael credydau Dosbarth 1 yn awtomatig
Rydych yn ddi-waith ac yn chwilio am waith, ond nid ydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith Cysylltwch â’ch Canolfan Byd Gwaith leol i hawlio credydau Dosbarth 1

Os ydych yn sâl, yn anabl neu’n cael tâl salwch

Eich sefyllfa Sut i gael credydau
Rydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), neu Lwfans neu Atodiad i’r Anghyflogadwy Byddwch yn cael credydau Dosbarth 1 yn awtomatig
Nid ydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ond rydych yn bodloni’r amodau ar ei gyfer Gwnewch gais am y math newydd o ESA er mwyn cael credydau Dosbarth 1
Rydych yn cael Tâl Salwch Statudol ac nid ydych yn ennill digon i gyflawni blwyddyn gymhwysol Gwnewch gais am gredydau Dosbarth 1. Ysgrifennwch at: Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF, HMRC, BX9 1ST. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol, a rhowch wybod pam yr ydych yn gymwys ar gyfer y credydau a’r dyddiadau perthnasol

Os ydych yn cael tâl mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu

Eich sefyllfa Sut i gael credydau
Rydych yn cael Lwfans Mamolaeth Byddwch yn cael credydau Dosbarth 1 yn awtomatig
Rydych yn cael Tâl Mamolaeth, Tadolaeth neu Fabwysiadu Statudol, neu Dâl Tadolaeth Statudol Ychwanegol, ac nid ydych yn ennill digon i gyflawni blwyddyn gymhwysol Gwnewch gais am gredydau Dosbarth 1. Ysgrifennwch at: Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF, HMRC, BX9 1ST. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol, a rhowch wybod pam yr ydych yn gymwys ar gyfer y credydau a’r dyddiadau perthnasol

Rhieni a gwarcheidwaid

Eich sefyllfa ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010 Sut i gael credydau
Rydych yn rhiant neu’n warcheidwad sydd wedi cofrestru i gael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn o dan 12 oed (hyd yn oed os nad ydych yn ei gael) Byddwch yn cael credydau Dosbarth 3 yn awtomatig
Rydych am drosglwyddo credydau o’ch priod neu’ch partner a gafodd Fudd-dal Plant ar gyfer plentyn o dan 12 oed Gwnewch gais i drosglwyddo credydau Dosbarth 3 rhwng rhieni neu warcheidwad
Rydych yn ofalwr maeth, neu’n ofalwr sy’n berthynas yn yr Alban Gwnewch gais am gredydau Dosbarth 3
Eich sefyllfa cyn 6 Ebrill 2010 Sut i gael credydau
Rydych yn rhiant neu’n warcheidwad a gafodd Fudd-dal Plant ar gyfer plentyn o dan 16 oed rhwng 6 Ebrill 1978 a 5 Ebrill 2010, ond ni chawsoch Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref (HRP) yn awtomatig Hawliwch HRP er mwyn cael credydau Dosbarth 3
Rydych am drosglwyddo credydau o’ch priod neu’ch partner a gafodd Fudd-dal Plant ar gyfer plentyn o dan 16 oed Gwnewch gais i drosglwyddo HRP rhwng rhieni neu warcheidwaid er mwyn cael credydau Dosbarth 3
Roeddech yn ofalwr maeth, neu’n ofalwr sy’n berthynas yn yr Alban, rhwng 6 Ebrill 2003 a 5 Ebrill 2010 Hawliwch HRP er mwyn cael credydau Dosbarth 3

Gofalwyr

Eich sefyllfa Sut i gael credydau
Rydych yn cael taliadau Lwfans Gofalwr neu (yn yr Alban yn unig) Daliad Cymorth Gofalwr Byddwch yn cael credydau Dosbarth 1 yn awtomatig
Rydych yn cael Cymhorthdal Incwm ac yn darparu gofal rheolaidd a sylweddol Byddwch yn cael credydau Dosbarth 3 yn awtomatig
Rydych yn gofalu am un neu fwy o bobl sy’n sâl neu’n anabl am o leiaf 20 awr yr wythnos Gwnewch gais am gredydau gofalwyr Dosbarth 3 os nad ydych yn cael Lwfans Gofalwr, Taliad Cymorth Gofalwr na Chymhorthdal Incwm

Neiniau a theidiau ac aelodau eraill o’r teulu sy’n gofalu am blentyn

Gallwch wneud cais am gredydau Gofal Plant ar gyfer Oedolion Penodedig Dosbarth 3 (yn agor tudalen Saesneg) os yw pob un o’r canlynol yn wir:

Os ydych yn cael Credyd Treth Gwaith

Eich sefyllfa Sut i gael credydau
Rydych yn cael Credyd Treth Gwaith gyda phremiwm anabledd (yn agor tudalen Saesneg) ac rydych yn enillwr cyflogedig sydd ag enillion o dan y Terfyn Enillion Isaf (£6,396 bob blwyddyn dreth, ar hyn o bryd) neu mae gennych elw sy’n llai na £6,725 os ydych yn hunangyflogedig Efallai y cewch gredydau Dosbarth 1 yn awtomatig. Gwiriwch eich cofnod Yswiriant Gwladol i weld a ydych wedi cael credydau
Rydych yn cael Credyd Treth Gwaith heb bremiwm anabledd ac rydych yn enillwr cyflogedig sydd ag enillion o dan y Terfyn Enillion Isaf (£6,396 bob blwyddyn dreth, ar hyn o bryd) neu mae gennych elw sy’n llai na £6,725 os ydych yn hunangyflogedig Efallai y cewch gredydau Dosbarth 3 yn awtomatig. Gwiriwch eich cofnod Yswiriant Gwladol i weld a ydych wedi cael credydau
Rydych chi a’ch partner yn cael Credyd Treth Gwaith – dim ond un ohonoch fydd yn cael credydau Dosbarth 3 Efallai y cewch gredydau Dosbarth 3 yn awtomatig. Gwiriwch eich cofnod Yswiriant Gwladol i weld a ydych wedi cael credydau

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, byddwch yn cael credydau Dosbarth 3 yn awtomatig.

Os ydych yn dilyn cwrs hyfforddi

Eich sefyllfa Sut i gael credydau
Rydych dros 18 oed ac mae’r Ganolfan Byd Gwaith wedi’ch anfon ar gwrs hyfforddi a gymeradwywyd gan y llywodraeth nad yw’n para mwy na blwyddyn Byddwch yn cael credydau Dosbarth 1 yn awtomatig
Rydych dros 18 oed ac yn dilyn cwrs hyfforddi a gymeradwywyd gan y llywodraeth nad yw’n para mwy na blwyddyn ond ni chawsoch eich anfon ar y cwrs gan y Ganolfan Byd Gwaith Gwnewch gais am gredydau Dosbarth 1. Ysgrifennwch at: Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF, HMRC, BX9 1ST. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol, a rhowch wybod pam yr ydych yn gymwys ar gyfer y credydau a’r dyddiadau perthnasol

Os ydych ar wasanaeth rheithgor

Os ydych wedi mynychu’r llys ac nad ydych yn hunangyflogedig, gallwch ysgrifennu at CThEF i wneud cais am gredydau Dosbarth 1. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol, a rhowch wybod pam yr ydych yn gymwys ar gyfer y credydau a’r dyddiadau perthnasol.

Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Y Deyrnas Unedig

Partneriaid pobl sydd yn y lluoedd arfog

Eich sefyllfa Sut i gael credydau
Rydych yn briod neu’n bartner sifil i aelod o’r lluoedd arfog, aethoch gyda’ch partner ar leoliad milwrol tramor ar ôl 6 Ebrill 2010, ac rydych yn dychwelyd i’r DU Gwnewch gais am gredydau Dosbarth 1 (yn agor tudalen Saesneg)
Rydych yn briod neu’n bartner sifil i aelod o’r lluoedd arfog, aethoch gyda’ch partner ar leoliad milwrol tramor ar ôl 6 Ebrill 1975, byddwch yn cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016, ac nid ydych yn cael credydau Dosbarth 1 Gwnewch gais am gredydau Dosbarth 3 (yn agor tudalen Saesneg)

Os cawsoch eich carcharu ar gam

Os diddymwyd eich euogfarn gan y Llys Apêl (neu’r Llys Apêl Troseddol yn yr Alban), gallwch wneud cais am gredydau Dosbarth 1.

Ysgrifennwch at CThEF gan gynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol, a rhowch wybod pam yr ydych yn gymwys ar gyfer y credydau a’r dyddiadau perthnasol.

Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Y Deyrnas Unedig

Pwy na all gael credydau

Fel arfer, ni allwch gael credydau os ydych yn fenyw briod sy’n talu Yswiriant Gwladol cyfradd is (yn agor tudalen Saesneg).