Canllawiau

Tir ac eiddo elusennau

Sut i ddilyn y gyfraith elusennau pan fyddwch yn prynu, gwerthu, prydlesu, morgeisio neu drosglwyddo tir ac eiddo elusennau.

This guidance was withdrawn on

This guidance is no longer current. Please see our guidance on disposing of charity land.

Applies to England and Wales

Sut i werthu neu brydlesu eiddo elusennau

Fel arfer mae’n fater syml i werthu neu brydlesu tir ac eiddo elusennau - nid oes rhaid i’r rhan fwyaf o elusennau gael cymeradwyaeth y Comisiwn Elusennau. Mae’n rhaid i chi geisio cael y fargen orau i’ch elusen a dilyn unrhyw reolau yn y gyfraith ac yn eich dogfen lywodraethol.

Cyn dechrau arni, mae’n rhaid i chi a’r ymddiriedolwyr eraill wneud yn siŵr bod:

  • caniatâd gennych chi i werthu neu brydlesu’r eiddo - naill ai yn nogfen lywodraethol eich elusen neu o dan y gyfraith
  • nid oes unrhyw beth yn eich dogfen lywodraethol sy’n eich atal chi rhag gwerthu neu brydlesu’r eiddo
  • mae eich elusen yn berchen ar y teitl i’r eiddo
  • mae gwerthu neu brydlesu er lles gorau’r elusen
  • os yw’r eiddo wedi’i ddynodi ar gyfer pwrpas arbennig, megis maes chwarae, nid yw gwerthu neu brydlesu yn groes i hynny

Gwerthu a phrydlesu tir elusennau - gofynion cyfreithiol

Yn ôl y gyfraith mae’n rhaid i chi:

  • geisio cael y fargen orau i’ch elusen
  • ceisio cyngor ysgrifenedig, gan gynnwys prisiad, gan arolygwr cymwysedig cyn i chi gytuno i werthu neu brydlesu (ond nid oes angen un arnoch ar gyfer prydles fer)
  • hysbysebu gwerthu neu brydlesu’r tir oni bai bod y syrfëwr yn dweud fel arall

Er mwyn cwblhau gwerthu neu brydlesu’r tir heb i’r comisiwn gymryd rhan, mae’n rhaid i chi gydymffurfio â’r gofynion cyn llunio cytundeb. Os nad ydych yn gwneud hynny, bydd rhaid i chi wneud cais i’r comisiwn yn ystod y broses a fydd yn creu oedi wrth gwblhau gwerthu neu brydlesu’r tir.

Bydd rhaid i chi ddarparu datganiadau a thystysgrifau hefyd er mwyn sicrhau’r prynwr:

  • sut mae’r tir yn cael ei ddal a chan ba fath o elusen
  • bod y tir yn cael ei waredu’n gyfreithiol.

Nid oes rhaid i rai trafodion gydymffurfio â’r gofynion hyn, er enghraifft, pan fyddwch chi’n gwerthu neu’n prydlesu’r eiddo i elusen arall gyda nodau tebyg.

Pryd i gael cymeradwyaeth y comisiwn i werthu neu brydlesu

Bydd rhaid i chi gael cymeradwyaeth y comisiwn dim ond:

  • os ydych am werthu neu brydlesu unrhyw dir y mae eich dogfen lywodraethol yn dweud y mae’n rhaid ei ddefnyddio at ddiben arbennig (oni bai eich bod yn cael eiddo sydd yr un mor addas yn ei le, ac nid yw hyn yn groes i ddibenion yr elusen)
  • os nad ydych am ddilyn cyngor y syrfëwr, er enghraifft, y pris y mae’n awgrymu neu’r dull gwerthu neu brydlesu
  • os ydych wedi’ch atal yn benodol rhag gwerthu neu brydlesu gan ddogfen lywodraethol eich elusen
  • os ydych yn bwriadu gwerthu am lai na gwerth y farchnad
  • os ydych am werthu neu brydlesu i rywun sy’n gysylltiedig â’r elusen, e.e. ymddiriedolwr neu ei berthynas

Os ydych am werthu neu brydlesu eiddo i rywun sy’n gysylltiedig â’ch elusen, gwnewch gais drwy ddefnyddio ffurflen ar-lein y comisiwn .

Darllenwch ganllawiau ar:

Sut i brynu neu rentu tir ac eiddo elusennau

Gall y rhan fwyaf o elusennau brynu neu rentu eiddo heb gymeradwyaeth y comisiwn - ond mae’n rhaid i chi sicrhau ei fod er lles gorau eich elusen. Gallwch brynu tir neu eiddo i’ch elusen ei ddefnyddio neu i gynhyrchu incwm y gall ei ddefnyddio i fodloni ei ddibenion.

Rydych chi a’r ymddiriedolwyr eraill yn gyfrifol am ddiogelu arian ac asedau eich elusen. Mae hyn yn golygu y dylech chi sicrhau:

  • bod yr eiddo yn addas ar gyfer eich anghenion
  • mae’r pris yn deg, neu hyd yn oed yn rhatach, o’i gymharu ag eiddo tebyg ar y farchnad
  • rydych chi’n deall unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol sy’n gysylltiedig â’r tir, megis cyfyngiadau cynllunio
  • mae unrhyw delerau benthyciad neu forgais yn rhesymol ac yn gystadleuol

Pryd i gael cymeradwyaeth y comisiwn i brynu neu rentu

Mae angen cymeradwyaeth y comisiwn arnoch os ydych chi am:

  • brynu neu rentu tir o un o’r ymddiriedolwyr neu rywun sydd â chysylltiad agos â’r elusen, fel perthynas ymddiriedolwr
  • prynu tir pan fydd eich dogfen lywodraethol yn gwahardd hynny’n benodol
  • defnyddio gwaddol parhaol (arian y gallwch wario ei incwm yn unig) i brynu tir ac eiddo prydlesol

Mae canllaw manwl y comisiwn ar gaffael tir yn esbonio pryd y mae angen ei gymeradwyaeth arnoch i brynu neu rentu eiddo elusen.

Morgeisiau a benthyciadau wedi’u gwarantu yn erbyn eiddo eich elusen.

Gallwch gael morgais neu fenthyciad wedi’i warantu yn erbyn tir eich elusen heb gymeradwyaeth y comisiwn ar yr amod eich bod yn cael cyngor cyfreithiol ysgrifenedig ac yn sicrhau bod y benthyciad:

  • yn angenrheidiol ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgaredd sy’n cydweddu â dibenion eich elusen
  • yn cynnig telerau ac ad-daliadau rhesymol a fforddiadwy

Tir elusennau: pwy ddylai ddal y teitl

Mae’n rhaid i dir elusennau gael ei gofrestru yn enw rhywun gyda’r Gofrestrfa Tir EM.

Os yw’ch elusen yn gwmni neu’n sefydliad corfforedig elusennol (SCE), gallwch gofrestru’r teitl i’r tir yn enw eich elusen.

Os nad yw’ch elusen yn gwmni neu’n SCE, gallwch chi benodi unigolion i ddal y tir ar ran eich elusen (fel arfer rhai neu bob un o’r ymddiriedolwyr). Gall hyn arwain at waith a chost ychwanegol pan fydd yr ymddiriedolwyr yn newid, oherwydd mae’n rhaid i chi ailgofrestru’r tir yn enwau’r ymddiriedolwyr newydd.

Er mwyn osgoi hyn, gallech chi drosglwyddo tir eich elusen i’r Ceidwad Swyddogol - gwasanaeth rhad ac am ddim yw hwn y mae’r comisiwn yn ei ddarparu sy’n dal eich tir yn gyson yn yr un enw waeth pwy yw’r ymddiriedolwyr.

I wybod rhagor a gwneud cais drwy ddefnyddio ffurflen ar-lein y comisiwn.

Cyhoeddwyd ar 23 May 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 September 2014 + show all updates
  1. Clarified disposing of property designated for a particular purpose

  2. First published.