Canllawiau

Trosglwyddo tir neu eiddo elusen i'r Ceidwad Swyddogol

Sut i ofyn i'r Ceidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau i ddal y teitl i dir eich elusen ar eich rhan

Applies to England and Wales

Am y Ceidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau

Mae’n rhaid i eiddo elusennau gael ei gofrestru yn enw rhywun. Os nad yw’ch elusen yn gwmni neu’n SCE, nid yw’n ‘endid cyfreithiol’ ac nid yw’n gallu dal teitl ei hun.

Yn lle cofrestru tir yn enwau eich ymddiriedolwyr, gallwch ei drosglwyddo i’r Ceidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau - gwasanaeth am ddim sy’n dal eich tir yn gyson yn yr un enw waeth pwy yw’ch ymddiriedolwyr. Gelwir hyn yn ‘breinio’ tir hefyd.

Sut i wneud cais i drosglwyddo tir elusen i’r Ceidwad Swyddogol

Bydd rhaid i chi ddarparu:

  • eich rhif elusen gofrestredig
  • tystiolaeth glir bod eich elusen yn berchen ar yr eiddo
  • manylion yr eiddo rydych am i’r Ceidwad Swyddogol ei ddal ar ran eich elusen
  • rhif Gofrestrfa Tir EM os oes un
  • os nad yw wedi’i gofrestru gyda’r Gofrestrfa Tir EM, disgrifiad llawn o’r tir neu’r eiddo gan gynnwys y cyfeiriad post (os yw’n gymwys)

Mae’n drosedd o dan adran 60(1)(b) o Ddeddf Elusennau 2011 i ddarparu’n fwriadol neu’n ddi-hid wybodaeth anghywir neu gamarweiniol

Cyhoeddwyd ar 1 April 2013