Cyfrif TAW

Mae’n rhaid i chi gadw cofnod ar wahân o’r TAW rydych yn ei chodi a’r TAW rydych yn ei thalu ar eich pryniannau. Gelwir y cofnod hwn yn ‘cyfrif TAW’.

Rydych yn defnyddio’r ffigurau o’ch cyfrif TAW i lenwi’ch Ffurflen TAW.

Nid oes unrhyw reolau ar beth ddylai cyfrif TAW edrych fel, ond mae’n rhaid iddo ddangos y canlynol:

  • cyfanswm eich gwerthiannau TAW
  • cyfanswm eich pryniannau TAW
  • y TAW sydd arnoch gan Gyllid a Thollau EM (CThEM)
  • y TAW y gallwch ei hadennill gan CThEM
  • os yw’ch busnes yn defnyddio’r Cynllun Cyfradd Unffurf TAW - y ganran gyfradd unffurf a’r trosiant y mae’n berthnasol iddo
  • y TAW ar unrhyw gaffaeliadau’r UE (pryniannau) neu anfoniadau (gwerthiannau)

Gwallau

Os ydych wedi gwneud gwall yn eich Ffurflen TAW, mae’n rhaid i’r cyfrif TAW ddangos y canlynol:

  • y dyddiad y gwnaethoch ddarganfod y gwall
  • manylion am y gwall - er enghraifft sut y digwyddodd, sut y gwnaethoch ei gywiro

Mae’n bosibl y bydd angen i chi hefyd roi gwybod i CThEM am y camgymeriad.

Drwgddyledion

Os byddwch yn dileu anfoneb fel drwgddyled, mae’n rhaid i chi gadw ‘cyfrif drwgddyledion TAW’ ar wahân. Mae’n rhaid i’r ddyled fod yn hŷn na 6 mis ac am bob drwgddyled mae’n rhaid i chi ddangos y canlynol:

  • cyfanswm y TAW dan sylw
  • swm wedi’i ddileu ac unrhyw daliadau rydych wedi’u cael
  • y TAW rydych yn ei hadennill ar y ddyled
  • y cyfnodau TAW y gwnaethoch dalu’r TAW ac rydych yn adennill y rhyddhad ar eu cyfer
  • manylion anfonebau fel dyddiad, enw’r cwsmer

Mae’n rhaid i chi gadw’r wybodaeth hon am 4 blynedd.