Cofrestru am y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW

Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer y cynllun ‘Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW’ os yw’ch trosiant trethadwy yn fwy na £85,000, fel y gallwch wneud y canlynol:

  • cadw cofnodion digidol
  • cyflwyno Ffurflen TAW eich busnes gan ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu

Mae ffordd wahanol o gofrestru os ydych yn asiant.

Cyn i chi ddechrau

Mae’n rhaid bod gennych feddalwedd sy’n cydweddu cyn i chi gofrestru.

Yr hyn sydd ei angen arnoch

I gofrestru, bydd angen arnoch:

  • cyfeiriad e-bost eich busnes
  • Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth – os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un wrth i chi ddefnyddio’r gwasanaeth
  • eich rhif cofrestru TAW a’ch Ffurflen TAW ddiweddaraf

Hefyd, bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol os ydych yn unig fasnachwr
  • rhif cofrestru a Chyfeirnod Unigryw y Trethdalwr eich cwmni os ydych yn gwmni cyfyngedig neu’n gymdeithas gofrestredig
  • eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr a’r cod post lle rydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad os ydych yn bartneriaeth gyffredinol
  • eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr, y cod post lle rydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad a rhif cofrestru’ch cwmni os ydych yn bartneriaeth gyfyngedig

Pryd i gofrestru

Os ydych eisoes yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol peidiwch â chofrestru’n rhy agos at y dyddiad y bydd angen i chi gyflwyno’ch Ffurflen TAW arno, neu mae’n bosibl y byddwch yn talu dwywaith.

Er mwyn osgoi hyn, peidiwch â chofrestru llai na:

  • 7 diwrnod cyn dyddiad cau eich Ffurflen TAW
  • 5 diwrnod ar ôl dyddiad cau eich Ffurflen TAW

Os nad ydych yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol, mae’n rhaid i chi gofrestru o leiaf 3 diwrnod cyn bod eich Ffurflen TAW i fod i gael ei chyflwyno.

Os ydych yn ei chael hi’n anodd cael mynediad at y gwasanaeth, gwiriwch os oes problem dechnegol neu broblem adnabyddus arall.

Cofrestru nawr

Ar ôl i chi gofrestru

Dylech gael e-bost cadarnhau gan noreply@tax.service.gov.uk o fewn 3 diwrnod ar ôl i chi gofrestru. Mae’n bosibl y bydd yn mynd i’ch ffolder sbam.

Peidiwch â chyflwyno Ffurflen TAW hyd nes i chi gael e-bost cadarnhau.

Cysylltwch â CThEM os na chewch e-bost.