Cadw cofnodion TAW
Cofnodion TAW ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol
Mae’n rhaid i fusnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW sydd â throsiant trethadwy o fwy na £85,000 ddilyn y rheolau ar gyfer ‘Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW’ drwy gadw rhai cofnodion yn ddigidol, oni bai bod y canlynol yn wir:
- mae’ch busnes yn defnyddio’r gwasanaeth GIANT TAW, er enghraifft os ydych yn un o adrannau’r llywodraeth neu’n Ymddiriedolaeth y GIG
- rydych yn gwneud cais am eithriad
Gallwch ddewis cofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW os yw’ch busnes yn ennill llai na £85,000.
O 1 Ebrill 2022 ymlaen, mae’n rhaid i bob busnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW gofrestru, beth bynnag y maent yn ei ennill.
Cofnodion y mae’n rhaid i chi eu cadw’n ddigidol
Mae’n rhaid i chi gadw’r cofnodion canlynol yn ddigidol:
- enw’ch busnes, eich cyfeiriad a’ch rhif cofrestru TAW
- unrhyw gynlluniau cyfrifyddu TAW a ddefnyddiwch
- y TAW ar nwyddau a gwasanaethau yr ydych yn eu cyflenwi, er enghraifft popeth rydych yn ei werthu, ei brydlesu, ei drosglwyddo neu ei roi ar log (nwyddau a wneir)
- y TAW ar nwyddau a gwasanaethau yr ydych yn eu cael, er enghraifft popeth rydych yn ei brynu, ei brydlesu, ei rentu neu ei roi ar log (nwyddau a ddaeth i law)
- unrhyw addasiadau a wnewch i Ffurflen TAW
- ‘amser y cyflenwad’ a ‘gwerth y cyflenwad’ (gwerth ac eithrio TAW) ar gyfer popeth rydych yn ei brynu a’i werthu
- cyfradd y TAW a godir ar nwyddau a gwasanaethau yr ydych yn eu cyflenwi
- trafodion tâl gwrthdro - lle rydych yn cofnodi’r TAW ar bris gwerthu a phris prynu nwyddau a gwasanaethau rydych yn eu prynu
- cyfanswm eich derbyniadau gros dyddiol os ydych yn defnyddio cynllun manwerthu
- eitemau y gallwch adennill TAW arnynt os ydych yn defnyddio’r Cynllun Cyfradd Unffurf
- cyfanswm eich gwerthiannau, a’r TAW ar y gwerthiannau hynny, os ydych yn masnachu aur ac yn defnyddio’r Cynllun Cyfrifyddu Aur
Mae’n rhaid i chi hefyd gadw copïau digidol o ddogfennau sy’n ymdrin â nifer o drafodion a wnaed ar ran eich busnes drwy’r canlynol:
- gwirfoddolwyr ar gyfer codi arian elusennol
- busnes trydydd parti
- cyflogeion ar gyfer treuliau mewn arian mân
Mae’n rhaid i chi ychwanegu’ch holl drafodion at eich cofnodion digidol, ond nid oes angen i chi sganio cofnodion papur fel anfonebau neu dderbynebau.
Sut i gadw cofnodion digidol
Mae’n rhaid i chi ddefnyddio pecyn meddalwedd sy’n cydweddu neu feddalwedd arall (fel taenlenni) sy’n cysylltu â systemau CThEM.
Os ydych yn defnyddio mwy nag un pecyn meddalwedd ar gyfer cadw cofnodion a chyflwyno Ffurflenni TAW, mae angen i chi eu cysylltu.
Gallwch gysylltu’ch meddalwedd mewn sawl ffordd, gan gynnwys:
- defnyddio fformiwlâu i gysylltu celloedd o fewn taenlenni
- e-bostio cofnodion
- rhoi cofnodion ar ddyfais gludadwy i’w rhoi i’ch asiant
- mewnforio ac allforio ffeiliau XML a CSV
- lawrlwytho ac uwchlwytho ffeiliau
Mae’n rhaid i chi gael cysylltiadau rhwng y feddalwedd a ddefnyddiwch erbyn eich cyfnod TAW cyntaf ar ôl 1 Ebrill 2021.
Pryd i anfon eich ffurflen TAW
Ni fydd y terfynau amser ar gyfer anfon eich Ffurflenni TAW yn newid ar ôl i chi gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW.
I weld pryd y mae’ch Ffurflen TAW nesaf i fod i gael ei chyflwyno, mewngofnodwch i’ch cyfrif TAW ar-lein.
Sut i gofrestru am y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW
Mae sut yr ydych yn cofrestru yn dibynnu ar y canlynol: