Cadw cofnodion TAW
Cofnodion TAW
Mae’r cofnodion y mae’n rhaid i chi eu cadw yn cynnwys:
- copïau o’r holl anfonebau rydych yn eu rhoi
- pob anfoneb a gewch (copïau gwreiddiol neu electronig)
- cytundebau hunan-filio - dyma le mae’r cwsmer yn paratoi’r anfoneb
- enw, cyfeiriad a rhif TAW unrhyw gyflenwyr hunan-filio
- nodiadau debyd neu gredyd
- cofnodion mewnforio ac allforio
- cofnodion o eitemau na allwch adennill TAW arnynt - er enghraifft adloniant y busnes
- cofnodion o unrhyw nwyddau y rhowch i ffwrdd neu’n eu cymryd o stoc ar gyfer eich defnydd preifat
- cofnodion o’r holl eitemau ar gyfradd sero, sydd wedi’u gostwng neu eitemau sydd wedi’u heithrio rhag TAW rydych yn eu prynu neu’n eu gwerthu
- cyfrif TAW
Mae’n rhaid i chi hefyd gadw cofnodion busnes cyffredinol fel datganiadau banc, llyfrau arian parod, bonion sieciau, slipiau talu i mewn a rholiau til.
Os ydych yn defnyddio’r Cynllun Cyfrifyddu Arian Parod, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r cofnodion hyn i’w paru â’ch cofnodion talu a’ch derbynebau.
Os ydych yn cyflenwi gwasanaethau digidol yn yr UE ac yn defnyddio GUC TAW, mae’n rhaid i chi gadw cofnodion ychwanegol.
Efallai y bydd Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn gwirio’ch cofnodion i wneud yn siŵr eich bod yn talu’r swm cywir o dreth.
Cadw cofnodion digidol
Mae’n rhaid i fusnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW sydd â throsiant trethadwy o fwy na £85,000 ddilyn y rheolau ar gyfer ‘Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW’.
Manwerthwyr
Os ydych yn fanwerthwr nid oes rhaid i chi gyflwyno anfonebau TAW oni bai bod cwsmer yn gofyn am un. Cadwch gopi os gwnewch hynny. Gall manwerthwyr gyhoeddi ‘anfonebau syml’ ar gyfer cyflenwadau o dan £250.
Nodiadau credyd a debyd
Pan fyddwch yn dychwelyd nwyddau i gyflenwr neu os bydd cwsmer yn dychwelyd nwyddau i chi, gellir setlo balans y taliad gyda nodyn credyd neu ddebyd.
Nodwch y rhain yn eich cyfrifon a chadwch unrhyw nodiadau gwreiddiol.