Cadw cofnodion TAW
Anfonebau TAW
Dim ond busnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW all gyhoeddi anfonebau TAW ac mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- cyhoeddi a chadw anfonebau dilys - gall y rhain fod ar bapur neu’n electronig
- cadw copïau o’r holl anfonebau gwerthiannau yr ydych yn eu cyhoeddi hyd yn oed os byddwch yn eu canslo neu’n cynhyrchu un drwy gamgymeriad
- cadw pob anfoneb pryniannau ar gyfer eitemau rydych yn eu prynu
Anfonebau dilys
Byddwch yn defnyddio anfoneb TAW lawn ar gyfer y rhan fwyaf o drafodion. Gallwch ddefnyddio:
- anfoneb sydd wedi’i haddasu ar gyfer cyflenwadau manwerthu dros £250
- anfoneb syml ar gyfer cyflenwadau manwerthu o dan £250 - ac ar gyfer cyflenwadau eraill o 1 Ionawr 2013 ymlaen
Ni allwch adennill TAW gan ddefnyddio anfoneb annilys, anfoneb pro-forma, datganiad neu nodyn dosbarthu.
Dylech gynnwys y canlynol ar eich anfoneb, yn dibynnu ar ba fath rydych yn ei ddefnyddio.
Gwybodaeth anfoneb | Anfoneb lawn | Anfoneb syml | Anfoneb wedi’i haddasu | |
---|---|---|---|---|
Rhif anfoneb unigryw sy’n dilyn yr anfoneb ddiwethaf | Iawn | Iawn | Iawn | |
Enw a chyfeiriad eich busnes | Iawn | Iawn | Iawn | |
Eich rhif TAW | Iawn | Iawn | Iawn | |
Dyddiad | Iawn | Na | Iawn | |
Y pwynt treth (neu ‘amser y cyflenwad’) | os yw hyn yn wahanol i ddyddiad yr anfoneb | Iawn | Iawn | Iawn |
Enw’r cwsmer neu enw masnachu, a’r cyfeiriad | Iawn | Na | Iawn | |
Disgrifiad o’r nwyddau neu wasanaethau | Iawn | Iawn | Iawn | |
Cyfanswm ac eithrio TAW | Iawn | Na | Iawn | |
Cyfanswm y TAW | Iawn | Na | Iawn | |
Pris pob eitem, ac eithrio TAW | Iawn | Na | Iawn | |
Nifer pob math o eitem | Iawn | Na | Iawn | |
Cyfradd unrhyw ostyngiad fesul eitem | Iawn | Na | Iawn | |
Cyfradd y TAW a godir fesul eitem - os yw eitem wedi’i heithrio neu ar gyfradd sero gwnewch yn glir does dim TAW ar yr eitemau hyn | Iawn | Iawn (1) | Iawn | |
Cyfanswm gan gynnwys TAW | Na | Iawn (1) | Iawn |
(1) Os codir eitemau ar gyfraddau TAW gwahanol, dangoswch hyn ar gyfer pob un.
Cynlluniau cyfrifyddu
Os ydych yn defnyddio’r Cynllun Cyfrifyddu Arian Parod mae’n rhaid i chi stampio anfoneb gyda swm yr arian parod a dalwyd a’r dyddiad.
Mae rheolau gwahanol ar gyfer cadw cofnodion ac anfonebu os ydych yn defnyddio Cynllun Gorswm TAW.
Dyddiadau cau
Fel arfer, mae’n rhaid cyhoeddi anfonebau TAW o fewn 30 diwrnod i’r dyddiad cyflenwi neu ddyddiad y taliad (os cewch eich talu ymlaen llaw).
Masnach ryngwladol
Nid oes rhaid i chi ddangos pob swm ar eich anfonebau mewn sterling. Os byddwch yn cyhoeddi anfonebau TAW mewn arian cyfred tramor neu iaith dramor, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- dangos cyfanswm y TAW sy’n daladwy mewn sterling ar eich anfoneb TAW os bydd y cyflenwad yn digwydd yn y DU
- gallu darparu cyfieithiad Cymraeg neu Saesneg o unrhyw anfoneb o fewn 30 diwrnod os gofynnir i chi wneud hynny gan swyddog TAW sy’n ymweld
Trosi i sterling
I drosi i sterling, gallwch wneud y canlynol:
- defnyddio cyfradd gwerthu’r farchnad ar amser y cyflenwad
- defnyddio cyfradd Banc Canolog Ewrop
- defnyddio cyfraddau cyfnewid cyfnod CThEM - mae’r cyfraddau fel arfer yn aros yr un fath ar gyfer pob mis calendr
- gwneud cais i CThEM i ddefnyddio dull gwahanol i roi cyfrif am y TAW
Mae rheolau gwahanol os ydych yn defnyddio’r Cynllun Gweithredwyr Teithiau.
Eithriadau
Nid oes angen i chi gyhoeddi anfoneb TAW os yw’r canlynol yn wir:
- mae eich anfoneb ond ar gyfer gwerthiannau sydd wedi’u heithrio neu ar gyfradd sero yn y DU
- rydych yn rhoi nwyddau fel rhodd
- rydych yn gwerthu nwyddau o dan gynllun gorswm ail-law TAW
- mae eich cwsmer yn gweithredu trefniant hunan-filio