Cadw cofnodion TAW
Amser cyflenwi neu bwynt treth
Y pwynt treth (neu ‘amser cyflenwi’) ar gyfer trafodyn yw’r dyddiad y mae’r trafodyn yn digwydd at ddibenion TAW.
Mae’n rhaid i chi wybod hyn oherwydd, er enghraifft:
- mae wedi’i gynnwys ar anfonebau TAW
- mae’n rhoi gwybod i chi ba gyfnod TAW y mae’r trafodyn yn perthyn iddo
- mae’n rhoi gwybod i chi ba Ffurflen TAW i roi’r trafodyn arni
Gall y pwynt treth amrywio, ond mae fel hyn fel arfer.
Sefyllfa | Pwynt treth |
---|---|
Nid oes angen anfoneb | Dyddiad y cyflenwad |
Anfoneb TAW wedi’i chyhoeddi | Dyddiad yr anfoneb |
Anfoneb TAW wedi’i chyhoeddi 15 diwrnod neu fwy ar ôl dyddiad y cyflenwad | Dyddiad y digwyddodd y cyflenwad |
Taliad neu anfoneb a gyhoeddir cyn y cyflenwad | Dyddiad talu neu anfoneb (pa un bynnag sydd gynharach) |
Taliad cyn y cyflenwad a dim anfoneb TAW wedi’i chyhoeddi eto | Dyddiad daeth y taliad i law |
Dyddiad y cyflenwad yw:
- ar gyfer nwyddau - y dyddiad y caiff eu hanfon, eu casglu neu eu darparu (er enghraifft wedi’u gosod yn nhŷ’r cwsmer)
- ar gyfer gwasanaethau - y dyddiad y mae’r gwaith wedi’i orffen
Eithriadau
Os ydych yn defnyddio’r Cynllun Cyfrifyddu Arian Parod TAW, y pwynt treth yw’r dyddiad y daw’r taliad i law bob amser.
Mae rheolau pwyntiau treth gwahanol ar gyfer:
- rhai masnachau - fel bargyfreithwyr, adeiladu
- lle nad yw’r cyflenwad yn ‘werthiant’ – er enghraifft eitemau busnes ac sydd wedi’u cymryd ar gyfer defnydd personol
Weithiau, gall un gwerthiant arwain at 2 bwynt treth neu fwy - er enghraifft lle mae’r cwsmer yn talu blaendal ymlaen llaw, ac yna daliad terfynol.