Trosolwg

Mae’n rhaid i fusnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW wneud y canlynol:

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Mae’n rhaid i fusnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW sydd â throsiant trethadwy o fwy na £85,000 ddilyn y rheolau ar gyfer ‘Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW.

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW, mae’r cofnodion y mae angen i chi eu cadw yr un fath ag unrhyw fusnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW ond bydd angen i chi gadw rhai ohonynt yn ddigidol.

Sut i gadw cofnodion TAW

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion TAW am o leiaf 6 blynedd (neu 10 mlynedd os ydych yn defnyddio’r gwasanaeth GUC TAW).

Gallwch gadw cofnodion TAW ar bapur, yn electronig neu fel rhan o raglen feddalwedd (fel meddalwedd cadw cyfrifon). Mae’n rhaid i’r cofnodion fod yn gywir, yn gyflawn ac yn ddarllenadwy.

Os yw’ch trosiant trethadwy yn fwy na £85,000, mae’n rhaid i chi gadw cofnod digidol o unrhyw beth sydd ei angen ar gyfer eich Ffurflen TAW.

Os ydych wedi colli anfoneb TAW neu os yw wedi’i difrodi ac nad yw bellach yn ddarllenadwy, gofynnwch i’r cyflenwr am gopi dyblyg (wedi’i nodi’n ‘ddyblyg’).

Gall CThEM ymweld â’ch busnes i archwilio’ch bod yn cadw cofnodion a chodi cosb arnoch os nad yw’ch cofnodion mewn trefn.

Gallwch gyflogi rhywun proffesiynol (fel cyfrifydd) os oes angen help arnoch gyda’ch TAW.