Beth i’w wneud os yw eich cerbyd wedi cael ei ddwyn

Printable version

1. Riportio bod eich cerbyd wedi cael ei ddwyn

Dywedwch wrth yr heddlu a’ch cwmni yswiriant ar unwaith os yw eich cerbyd wedi cael ei ddwyn.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Ffonio eich gorsaf heddlu leol

Ffoniwch 101 a gofynnwch i gael eich trosglwyddo i’ch heddlu lleol.

Gwnewch yn siŵr bod gennych y canlynol:

  • rhif cofrestru eich cerbyd
  • gwneuthuriad a model eich cerbyd
  • lliw eich cerbyd

Byddwch yn derbyn cyfeirnod trosedd. Bydd angen hwn arnoch pan fyddwch yn ffonio’ch cwmni yswiriant.

Bydd yr heddlu yn dweud wrth DVLA am y lladrad ac os bydd y cerbyd yn cael ei ddarganfod.

Ffonio eich cwmni yswiriant

Bydd eich cwmni yswiriant yn dweud wrthych sut i wneud hawliad yswiriant.

Dweud wrth DVLA os yw eich cwmni yswiriant yn talu hawliad

Os yw eich cwmni yswiriant yn talu hawliad am eich cerbyd sydd wedi cael ei ddwyn, rhaid ichi ddweud wrth DVLA ei fod wedi cael ei werthu i’r cwmni yswiriant.

Os oedd gan eich cerbyd rif cofrestru personol rydych eisiau cadw, mae angen ichi ei gael yn ôl cyn ichi ddweud wrth DVLA nad ydych bellach yn berchen ar eich cerbyd.

Gallwch ddweud wrth DVLA ar-lein neu lenwi’r adran felen ‘gwerthu, trosglwyddo neu gyfnewid eich cerbyd yn rhannol i’r fasnach foduro’ yn llyfr log eich cerbyd. Anfonwch yr adran dyllog i DVLA, gyda llythyr yn nodi pryd y derbyniwyd y taliad a manylion eich cwmni yswiriant.

Bydd angen ichi roi gweddill eich llyfr log i’ch cwmni yswiriant.

Os bydd eich cwmni yswiriant yn gofyn am y llyfr log cyfan yna bydd angen ichi anfon llythyr i DVLA gan gynnwys:

  • manylion eich cwmni yswiriant
  • dyddiad y cais
  • eich rhif cofrestru
  • gwneuthuriad, model a lliw eich cerbyd
  • eich llofnod

Anfonwch eich llythyr i:

DVLA
Abertawe
SA99 1BD

2. Cael ad-daliad treth cerbyd

Bydd eich treth cerbyd yn cael ei ganslo gan DVLA unwaith y byddwch yn dweud wrthynt nad ydych bellach yn berchen ar eich cerbyd. Os ydych yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol, bydd y Debyd Uniongyrchol yn cael ei ganslo’n awtomatig.

Rhaid ichi wneud cais am ad-daliad yn lle hynny os oedd gan eich cerbyd rif cofrestru personol rydych am ei gadw.

Byddwch yn derbyn siec ad-daliad yn awtomatig am unrhyw fisoedd llawn sydd ar ôl ar eich treth cerbyd. Mae’r ad-daliad yn cael ei gyfrifo o’r dyddiad y mae DVLA yn derbyn eich gwybodaeth. Anfonir y siec i’r enw a’r cyfeiriad sydd ar lyfr log y cerbyd.

Ni fyddwch yn cael ad-daliad am:

3. Os oedd gennych rif cofrestru preifat (personol)

Gwnewch gais i gadw eich rhif cofrestru preifat (personol) cyn gynted ag y caiff eich cerbyd ei ddwyn.

Mae hyn yn golygu y bydd y rhif yn aros yn eich enw fel y gallwch ei aseinio i gerbyd arall yn ddiweddarach.

Mae’n rhaid ichi wneud cais o fewn 2 flynedd a 6 mis o roi gwybod i DVLA bod eich cerbyd wedi’i ddwyn.

Gallwch gael eich rhif cofrestru preifat yn ôl dim ond os:

  • dwedoch wrth yr heddlu am y lladrad
  • oedd gan y cerbyd dystysgrif MOT dilys pan gafodd ei ddwyn
  • oedd gan y cerbyd dreth cerbyd gyfredol pan gafodd ei ddwyn

Gwnewch gais i gadw eich rhif cofrestru

Dim ond drwy’r post y gallwch chi wneud cais. Mae’n costio £80.

Mae angen ichi anfon pob un o’r canlynol i DVLA:

Os byddwch yn cael eich cerbyd sydd wedi cael ei ddwyn yn ôl

Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais i gadw’ch rhif cofrestru preifat, gallwch wneud cais i’w roi ar gerbyd arall ar unwaith.

Rhaid ichi wneud cais cyn i’ch cerbyd gael ei werthu neu ei sgrapio.

Os na fyddwch yn cael eich cerbyd sydd wedi cael ei ddwyn yn ôl

Rhaid ichi aros 6 mis cyn y gallwch drosglwyddo eich rhif cofrestru preifat i gerbyd arall. Dim ond drwy’r post y gallwch wneud hyn.

Dywedwch wrth DVLA nad ydych bellach yn berchen ar eich cerbyd

Ar ôl ichi gael eich rhif cofrestru preifat yn ôl, gallwch ddweud wrth DVLA nad ydych bellach yn berchen ar eich cerbyd.

Gallwch ddweud wrth DVLA ar-lein neu lenwi’r adran felen ‘gwerthu, trosglwyddo neu gyfnewid eich cerbyd yn rhannol i’r fasnach foduro’ yn llyfr log eich cerbyd ac anfon yr adran dyllog i DVLA.

DVLA
Abertawe
SA99 1BA

Gwnewch gais am ad-daliad treth cerbyd

Ni fyddwch yn cael ad-daliad treth cerbyd yn awtomatig - bydd angen ichi wneud cais am un.

Cysylltwch â DVLA i gael ffurflen V33W. Cwblhewch eich ffurflen a’i hanfon i DVLA. Rhaid ichi gynnwys eich rhif cyfeirnod trosedd.

Gwiriwch fod eich enw a’ch cyfeiriad yn gywir ar eich llyfr log - fel arall ni fyddwch yn derbyn yr ad-daliad.

Adran Ad-daliad
DVLA
Abertawe
SA99 1AL

Byddwch fel arfer yn derbyn eich ad-daliad o fewn 4 i 6 wythnos.