Beth i’w wneud os yw eich cerbyd wedi cael ei ddwyn

Neidio i gynnwys y canllaw

Os oedd gennych rif cofrestru preifat (personol)

Gwnewch gais i gadw eich rhif cofrestru preifat (personol) cyn gynted ag y caiff eich cerbyd ei ddwyn.

Mae hyn yn golygu y bydd y rhif yn aros yn eich enw fel y gallwch ei aseinio i gerbyd arall yn ddiweddarach.

Mae’n rhaid ichi wneud cais o fewn 2 flynedd a 6 mis o roi gwybod i DVLA bod eich cerbyd wedi’i ddwyn.

Gallwch gael eich rhif cofrestru preifat yn ôl dim ond os:

  • dwedoch wrth yr heddlu am y lladrad
  • oedd gan y cerbyd dystysgrif MOT dilys pan gafodd ei ddwyn
  • oedd gan y cerbyd dreth cerbyd gyfredol pan gafodd ei ddwyn

Gwnewch gais i gadw eich rhif cofrestru

Dim ond drwy’r post y gallwch chi wneud cais. Mae’n costio £80.

Mae angen ichi anfon pob un o’r canlynol i DVLA:

Os byddwch yn cael eich cerbyd sydd wedi cael ei ddwyn yn ôl

Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais i gadw’ch rhif cofrestru preifat, gallwch wneud cais i’w roi ar gerbyd arall ar unwaith.

Rhaid ichi wneud cais cyn i’ch cerbyd gael ei werthu neu ei sgrapio.

Os na fyddwch yn cael eich cerbyd sydd wedi cael ei ddwyn yn ôl

Rhaid ichi aros 6 mis cyn y gallwch drosglwyddo eich rhif cofrestru preifat i gerbyd arall. Dim ond drwy’r post y gallwch wneud hyn.

Dywedwch wrth DVLA nad ydych bellach yn berchen ar eich cerbyd

Ar ôl ichi gael eich rhif cofrestru preifat yn ôl, gallwch ddweud wrth DVLA nad ydych bellach yn berchen ar eich cerbyd.

Gallwch ddweud wrth DVLA ar-lein neu lenwi’r adran felen ‘gwerthu, trosglwyddo neu gyfnewid eich cerbyd yn rhannol i’r fasnach foduro’ yn llyfr log eich cerbyd ac anfon yr adran dyllog i DVLA.

DVLA
Abertawe
SA99 1BA

Gwnewch gais am ad-daliad treth cerbyd

Ni fyddwch yn cael ad-daliad treth cerbyd yn awtomatig - bydd angen ichi wneud cais am un.

Cysylltwch â DVLA i gael ffurflen V33W. Cwblhewch eich ffurflen a’i hanfon i DVLA. Rhaid ichi gynnwys eich rhif cyfeirnod trosedd.

Gwiriwch fod eich enw a’ch cyfeiriad yn gywir ar eich llyfr log - fel arall ni fyddwch yn derbyn yr ad-daliad.

Adran Ad-daliad
DVLA
Abertawe
SA99 1AL

Byddwch fel arfer yn derbyn eich ad-daliad o fewn 4 i 6 wythnos.