Canllawiau

Beth i'w wneud ar ôl i lo gael ei eni

Rhaid i geidwaid gwartheg dagio llo newydd-anedig, ychwanegu ei fanylion at gofrestr eu daliad a chofrestru genedigaeth y llo o fewn terfynau amser cyfreithiol.

Applies to England and Wales

Os ydych chi’n cadw gwartheg, buail neu fyfflos, ar gyfer pob llo sy’n cael ei eni, mae’n rhaid ichi:

  1. Dynodi’r anifail drwy ddefnyddio tagiau clust swyddogol.
  2. Diweddaru cofrestr eich daliad.
  3. Cofrestru’r enedigaeth gyda Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP). Fe gewch chi basbort gwartheg i gofnodi symudiadau’r anifail o’i enedigaeth i’w farwolaeth.

Rhaid ichi gyflawni’r holl weithredoedd hyn er mwyn i’r gwartheg allu cael eu holrhain bob amser. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol er mwyn atal clefydau a chyfyngu clefydau

Os byddwch yn methu gwneud hyn, fe allai’ch cais am basbort gael ei wrthod, gallech weld cyfyngiadau symud yn cael eu gosod ar eich buches, taliadau cymhorthdal llai neu gallech gael eich erlyn.

Terfynau amser ar gyfer gosod tagiau clust

Mae angen un tag clust sylfaenol ac un tag clust eilaidd ar bob llo. Mae’r terfyn amser ar gyfer pob math o lo yn wahanol. Os na allwch osod tagiau clust erbyn y terfyn amser, dylech gysylltu â GSGP.

Llo eidion

Rhaid ichi osod y tagiau sylfaenol ac eilaidd cyn bod y llo yn 21 diwrnod oed.

Llo llaeth

Rhaid ichi osod:

  • y tag sylfaenol cyn bod y llo yn 36 awr oed
  • y tag eilaidd cyn bod y llo yn 21 diwrnod oed

Llo byfflo

Os ydych chi’n magu byfflos ar gyfer cig eidion, rhaid ichi osod y tagiau sylfaenol ac eilaidd cyn bod y llo yn 21 diwrnod oed.

Os ydych chi’n magu byfflos ar gyfer llaeth, rhaid ichi osod:

  • y tag sylfaenol cyn bod y llo yn 36 awr oed
  • y tag eilaidd cyn bod y llo yn 21 diwrnod oed

Llo bual

Rhaid ichi osod y tagiau sylfaenol ac eilaidd pan fydd y lloi yn cael eu gwahanu oddi wrth eu mamau neu cyn bod y llo yn 9 mis oed, p’un bynnag sydd gyntaf.

Pa dagiau clust gwartheg i’w defnyddio

Rhaid ichi brynu tagiau clust swyddogol gan y cyflenwyr tagiau clust hyn, sydd wedi’u cymeradwyo (tudalen gwe yn Saesneg). Bydd angen dau dag i bob llo ac rydyn ni’n cyfeirio at y rhain fel tagiau sylfaenol ac eilaidd.

Dylech chi stocio digon o dagiau clust ar gyfer nifer y lloi rydych chi’n disgwyl iddyn nhw gael eu geni yn ystod y flwyddyn yn unig. Bydd y cyflenwr yn cofrestru’r tagiau rydych chi’n eu prynu yn erbyn eich rhif daliad (CPH) a’ch nod buches.

Sut i osod tagiau clust gwartheg

Rhaid ichi osod tag baner melyn fel y prif dag. Gall fynd yn y naill glust neu’r llall. Dim ond yr wybodaeth adnabod swyddogol a ganlyn a all gael ei dangos ar y tag sylfaenol:

  • logo’r goron
  • cod y wlad (UK)
  • nod y buches
  • rhif tag clust swyddogol 6-digid

Gosodwch y tag eilaidd yn y glust arall. Gall fod yn wahanol i’r tag sylfaenol o ran maint, arddull neu ddeunydd. Rhaid iddo gynnwys yr un wybodaeth adnabod swyddogol â’r prif dag. Gallwch ychwanegu gwybodaeth arall ynghylch rheoli gwartheg ond mae’n rhaid i’r wybodaeth adnabod swyddogol fod yn glir o hyd.

Gwnewch yn siŵr bod y person sy’n gosod y tagiau wedi’i hyfforddi’n iawn.

Fe ddylech chi:

  • dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr bob amser
  • gosod y tag mewn tywydd oer (lle bo modd) i leihau heintiau
  • sicrhau pen yr anifail i’w atal rhag taflu ei ben wrth gael ei dagio
  • gwneud yn siŵr eich bod yn defnyddio’r teclyn gosod cywir ar gyfer y model o dag rydych chi’n ei osod
  • gwneud yn siŵr fod y glust, y tag a’r teclyn yn lân a’u diheintio yn ôl yr angen
  • gwirio’r glust ar ôl rhyw 10 diwrnod i chwilio am arwyddion niwed neu haint - ymgynghorwch â’ch milfeddyg os oes angen
  • storio tagiau sydd heb eu defnyddio mewn cynhwysydd glân, sych

Wrth ddefnyddio tagiau plastig, dylech chi hefyd:

  • gwirio bod y tagiau wedi’u gosod yn gywir yn y teclyn fel eu bod yn cloi gyda’i gilydd wrth gael eu gosod
  • gwneud yn siŵr bod gan y ddwy ran o’r tag yr un rhif
  • gwneud yn siŵr bod rhan wryw y tag (y rhan sy’n mynd trwy’r glust) yn mynd i mewn o gefn y glust
  • gwneud yn siŵr bod rhan fenyw y tag (y rhan sydd â phant neu sydd wedi’i mowldio i dderbyn y rhan wryw gyfatebol) ar du mewn y glust er mwyn lleihau’r perygl y bydd yn dal ar bethau fel ffensys, gatiau a chafnau bwydo

Dylech chi hefyd ddilyn cyngor Awdurdod Gweithredol Diogelwch Prydain ar drin a thrafod anifeiliaid yn ddiogel (tudalen gwe yn Saesneg).

Terfynau amser cofrestru genedigaeth (a chael pasbort gwartheg)

Rhaid ichi gofrestru genedigaeth pob llo sy’n cael ei eni ar eich daliad gyda GSGP. Cewch basbort gwartheg am ddim i gofnodi symudiadau’r llo o’i enedigaeth i’w farwolaeth.

Yn achos buchod neu fyfflos, rhaid ichi gofrestru’r enedigaeth erbyn y diwrnod y mae’r llo yn 27 diwrnod oed er mwyn cael pasbort.

Yn achos buail, rhaid ichi gofrestru’r enedigaeth erbyn y diwrnod y mae’r llo yn 7 diwrnod oed.

Cysylltwch â GSGP os ydych chi’n poeni nad oes gennych ddigon o amser i gofrestru’r enedigaeth. Heb basport gwartheg, chewch chi ddim symud eich llo na’i roi yn y gadwyn fwyd.

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Gwybodaeth am gostau galwadau
Ebost: bcmsenquiries@rpa.gov.uk

Sut i gofrestru’r enedigaeth (a chael pasbort gwartheg)

Gallwch gofrestru genedigaeth ar-lein, dros y ffôn neu drwy’r post.

Dilynwch y canllawiau ar sut i gofrestru genedigaeth i gael pasbort gwartheg, pa wybodaeth y mae angen ei darparu a beth i’w wneud os oes problem.

Cyhoeddwyd ar 6 May 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 November 2022 + show all updates
  1. Clarified the information on ear tags. Put the deadlines in text rather than in a table to make it more accessible. Added information about the deadline for fitting ear tags for a buffalo calf. Included deadlines for recording information in your holding register. Clarified why these rules are in place.

  2. This guidance has been updated to show it no longer applies to Scotland.

  3. First published.